Danmark am byth!



Mae’r hydref tamp a thywyll yn dechrau cau amdanom. Sy’n golygu mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol ac ymarferion corau mewn festris moel a neuaddau pentref llaith gyda’r hwyr, pan mae’n llawer haws gorwedd ar wely o glustogau, troi’r gwres 'mlaen a chynnau dwsin o ganhwyllau i gyflwyno mymryn o hygge i’n byd. Ond hyd yma, symol ar y diawl ydi’r arlwy dramatig. Mae BBC Four, cartref gwreiddiol popeth Ewro-noir yn siomedig iawn ar y funud, sy’n golygu bod *rhaid mynd i’r Fox & Hounds bob nos Sadwrn rŵan. A ’sdim byd o werth wedi’i recordio i leddfu’r penmaenmawr ar bnawniau Sul wedyn. 

Tak i’r drefn felly am Walter Presents, gwefan bocsets Channel 4, gyda chyfresi gwych (a ddim mor wych) o Sweden i’r Iseldiroedd a Brasil. Arferiad diweddar ydi darlledu’r bennod gyntaf ar Channel 4 cyn gorfodi’r gwyliwr i fynd ar-lein i wylio’r gweddill. Arferiad yr oes am wn i, gyda mwy o mwy yn gwylio ar gyfrifiaduron llechi neu ffonau poced â sgrin bys bawd, ond dw i’n foi reit ffasiwn ac yn dal i ffafrio’r hen Doshiba draddodiadol yng nghornel y lolfa. Mae S4C yn ein prysur hannog i wneud yr un peth hefyd, gyda Hansh a’u tebyg ar youtube. Dw i ddim balchach.

Ond yn ôl at Norskov. Sdim dau ddarn o gorff ar ganol pont na ditectifs siwmperog mewn warysau bol buwch fel y cyfyrdryd eraill o Ddenmarc, ond hanes plismon o’r enw Tom Noack (Thomas Levin, gohebydd newyddion Borgen gynt) sy’n  dychwelyd i’w dref borthladd enedigol lle mae cyffuriau’n rhemp - ac sy’n taro’n nes adref wedi i’w gyn-gariad farw o orddos o gocên pur. Ond fel y gyfres Daneg eraill, mae ’na bolitics ynghlwm wrth y cyfan a tharo bargeinion amheus iawn tu ôl i’r wên deg a’r sbin cysylltiadau cyhoeddus. Mae’n llifo’n dda, yn cynnwys cymeriadau crwn dy’ch chi’n malio amdanynt, ac wedi’i gosod ganol gaeaf noethlwm fel pob cyfres noir gwerth ei halen. O, ac mae’r gwaith ffilmio’n dilyn yr arddull Scandi lle mae awyrluniau’n dangos goleuadau ceir yn nadreddu yn y nos. Heb sôn am ambell dŷ go chwaethus yr olwg. Mae Nordisk Film & TV Fond wedi cyhoeddi bod cyfres arall i ddod.  

Super!

5 peth



Erthygl ysbeidiol am raglenni sy'n hoelio sylw, ac sy'n dal ar gael ar Clic ac Iplayer

Russia with Simon Reeve, BBC2
Cyfres dywysedig lle mae'r cyflwynydd hawddgar yn teithio miloedd o filltiroedd ar draws gwlad fwya’r byd, mewn hofrennydd, jetsgi eira a’r Trans-Siberian eiconig (tipyn mwy atyniadol a dibynadwy na Non-Arriva Wales). O ‘glampio’ mewn iwrt gyda ffermwyr ceirw lle mae tymheredd o -30 gradd yn gyffredin, ymweld â ‘Vegas’ Vladivostok llawn casinos i ddenu’r biliwnyddion Asiaidd, gweld effeithiau erchyll alcohol ar werin bobl, chwilio am deigrod Siberia, picied i gaffi sy’n eilunaddoli Putin, i dreulio diwrnod cyfan yn y ddalfa gyda’i griw camera gan yr FSB hynod amheus (KGB yr 21ain ganrif) - go brin fuodd Judith Chalmers ar wibdaith o'r fath. Mae’n awr diddorol dros ben (hyd yn oed os nad yw’r cyflwynydd felly), yn weledol wych ac yn agoriad llygad i wlad gyfareddol dan law haearnaidd yr Arlywydd. Jest peidiwch â sôn am Gwpan y Byd 2018.

Deuawdau Rhys Meirion, S4C
Cyfaddefiad - welais i mo’r gyfres gyntaf, ar ôl ’laru braidd efo’r hollbresennol Mr ‘Anfonaf Angel’ ar y pryd. Ac yn niffyg adloniant nos Wener, a chryn ganmoliaeth gan eraill, fe rois i gynnig ar hon. A mwynhau. Yn arw. Oce, doedd un Elin Fflur ddim cweit at fy nant, ond mi fwynheais i raglenni Daniel Lloyd (heb Mr Pinc) ac Al Lewis yn arw, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at yr unigryw Lleuwen Steffan o Lydaw. Cyfuniad o sioe siarad, canu a theithio - a syniad hollol wreiddiol i S4C am unwaith. Siŵr braidd y gwelwn ni CD arall erbyn Dolig?

The Deuce, Sky Atlantic
Gwylio hollol hanfodol i ffans The Wire, cyfres ddrama am fasnach gyffuriau Baltimore y 1990au. Diwydiant pornograffi Efrog Newydd y 1970au ydi’r gefnlen y tro hwn, a llond Times Square o gymeriadau brith - y pimps, y puteiniaid a’r perchnogion busnes - wedi’u gwau’n gelfydd mewn stori sy’n datgelu dow-dow a chyfres sy’n diferu o naws fanwl-gywir y cyfnod, o’r Cadillacs i’r fflêrs, y smociwrs a’r strydoedd llawn tomenni sbwriel. Dychmygwch gymeriadau Daniel Owen neu Dickens wedi’u plannu’n NYC. Gyda Maggie Gyllenhaal a James Franco yn serennu fel actorion a chynhyrchwyr. Ac na, nid pyrfyn mohonof er gwaetha’r testun coch.

Dylan ar Daith, S4C
Mae Mr Golwg wedi codi pac unwaith eto, ac ar ôl ymweld â Gwlad Yncl Sam ddwy flynedd yn ôl, y Wlad Sanctaidd oedd y gyrchfan ddiweddaraf. Hanes Lily Tobias a gawsom yn ‘O Ystalyfera i Israel’, awdur ac ymgyrchydd fu’n dyheu am diriogaeth i'w chenedl Iddewig. Ond hanes trist hefyd, gyda sawl clec personol ar y ffordd, gan gynnwys llofruddiaeth ei gwr dan law’r Arabiaid yn Hebron wrth iddi ’sgwennu golygfa debyg mewn nofel ar y pryd. Tipyn o sylwedd nos Sul, ganol X Factor a saga sebonllyd am frenhines Loegr.

Bang, S4C
Dw i’n dal i wylio, er ddim mor awchus â thrydedd cyfres 35 Diwrnod. Gweler y blogbost flaenorol am ddiffyg amynedd.

Golwg I - Hydref dramatig

Dyma'r gyntaf o ddwy golofn wadd 'sgrifenais i gylchgrawn Golwg dros yr haf. A'r olaf am sbel go lew eto. 


Waeth i S4C roi’r gorau iddi ganol Awst ddim. Cau siop wedi bwrlwm y Sioe Fawr a’r Brifwyl, ac ailagor swyddfa Parc Tŷ Glas gyda thymor newydd yr ysgolion a’r Cynulliad Cenedlaethol. Achos pwy mewn difri’ calon sydd eisiau gwylio Noson Lawen ugain mlwydd oed adeg oriau brig nos Sadwrn neu uchafbwyntiau Dechrau Canu 2009 ar nos Sul, heblaw cydnabod ‘Cwlwm’ neu berthnasau Bertie’r ail denor sy’n ei fedd ers ache.
Sgileffeithiau amlwg “torri’r got yn ôl y brethyn” oedd 63% o ailddarllediadau ar S4C y llynedd yn ôl Adroddiad Blynyddol 2016-17 Awdurdod y Sianel, ac “…anallu i ddarparu drama wreiddiol, safonol drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig gan fod hyn yn nodwedd gynyddol o’r hyn a geir ar y prif sianelau eraill”. Diolch i’r drefn am ddramâu tramor BBC Four yn y cyfamser, megis Sé quién eres boncyrs o Barcelona ac eraill fel cyfres ysbïo Hebraeg False Flag ar sianel Fox yng nghrombil fy mocs Sky.

 Serch hynny, mae’r hen stejar Pobol y Cwm yn dal i gynnig chwip o straeon yr adeg hon o’r flwyddyn yn enwedig triongl serch Sioned-Gary-Dani a ddenodd y gorau o’r actorion profiadol hyn. Tydi stori gancr mam DJ, ar y llaw arall, heb gydio gymaint er gwaethaf perfformiadau dirdynnol Sara Harris-Davies a Carwyn Glyn. Y drwg ydi mai wyneb cymharol newydd ydi hi, a ninnau’r gwylwyr yn gorfod malio amdani heb ddod i’w nabod yn iawn. Does gen i fawr o fynedd efo’r Doc chwaith (na, nid rant gwrth-Bryn Fôn mohono) na Liv y chwaer golledig y cofiodd Tyler a Dani amdani’n sydyn reit.

Mae pethau’n gwella o fis Medi ymlaen, wrth i gyfresi newydd gwreiddiol ymddangos. Cydgynyrchiadau bei-ling wedi’u gosod mewn ardaloedd cymharol ddieithr o ran dramâu Cymraeg, yw’r themâu amlwg.

Y gyntaf yw Bang! (10/9/17), cyfres wyth rhan gyda Jacob Ifan a Catrin Stewart yn actio’r brawd a chwaer, dihiryn a phlismones â’u byd ben i waered ar ôl i ddryll ddod i’w meddiant. Wedi’i sgwennu gan Roger Williams, awdur â phrofiad helaeth o bortreadu’r Gymru gyfoes yn Caerdydd a Tir Sir Gâr, cafodd hon ei ffilmio’n Port Talbot a Chwmafan ac felly’n adlewyrchu’r ardal honno trwy bendilio rhwng Gymraeg a’r Saesneg fel Gwaith Cartref. Nid un i’r puryddion, beryg.

I ddilyn ym mis Hydref fydd Un bore Mercher, cynhyrchiad cefn-wrth-gefn diweddaraf S4C a’r Bîb wedi’i gosod yn Nhalacharn, lle mae byd twrna (Eve Myles) yn chwalu gyda diflaniad disymwth ei gŵr – ac sy’n datgelu cyfrinachau go anghynnes am y gymuned leol wrth iddi ymchwilio i’r dirgelwch. Mae’n swnio’n ddifyr, a diddorol fydd gweld faint o grap ar y Gymraeg sydd gan Ms Myles mewn gwirionedd. Rhaid bod y disgwyliadau’n aruchel, gan fod y fersiwn Saesneg Keeping the Faith eisoes wedi’i gwerthu i’r Unol Daleithiau.

Dw i’n awchu am y tymor newydd yn barod.



Golwg II - Bybl Bendigedig

Mae’n nosi’n gynt. Y siopau’n frith o ddillad a geriach dychwelyd i’r ysgol. A darllenwyr Golwg yn dioddef o’r IAS – iselder adra o’r Steddfod. Trwy lwc, mae tomen o raglenni yn dal ar wasanaethau Clic ac Iplayer i’r rhai sydd am ddrachtio mwy o ddiwylliant. Yr uchafbwynt oedd Cyngerdd Hedd Wyn: A Oes Heddwch? gyda chorws caboledig y fam ynys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ac mae deuawd lesmeiriol Casi Wyn a Lleuwen Steffan i gyfeiliant ‘Deio Bach’ yn dal i godi lwmp yn y gwddw.

Fel arfer, bu darllediadau di-fai gan y Gorfforaeth Ddarlledu ar S4C o ddeg y bore tan ddeg yr hwyr. Yn ddelfrydol, byddai llai o hysbysebion a mân siarad rhwng y cyflwynwyr a’r beirniaid soffa, a mwy o amrywiaeth ac arbrofi i gyd-fynd â phrifwyl fentrus y Bae flwyddyn nesa. Dw i wedi hen dderbyn na ddaw oes aur sgetshis a cherddoriaeth Swigs fyth yn ôl, ond mae gwir angen trosglwyddo Tocyn Wythnos y radio i’r teli (gyda Beti a Karen os oes modd), yn gyfuniad o sioe sgwrsio, adolygiadau a chlecs difyrrach na chopi o Lol. Wedi’r cwbl, mae enwogion mawr a mân a set secsi’r Babell Lên ar blât iddyn nhw.

Os cafodd y gynulleidfa gynhenid wledd a hanner, briwsionyn gafodd y di-Gymraeg yn Eisteddfod 2017 with Josie d'Arby. Pigion hanner awr ar BBC2 Wales ac ailddarllediad i weddill Prydain anwybodus ar BBC Four. Hanner awr o blith oriau dirifedi o ddarllediad allanol mwyaf ond dau y BBC yr haf hwn (ar ôl Wimbledon a Glastonbury). Dyma ymweliad cynta’r ferch o Gasnewydd â’r Genedlaethol ac agoriad llygad i fyd cyfan gwbl Gymraeg. Iawn, anghofiwch y ffaith i Josie “I don’t speak Welsh” ddod yn ail yng nghystadleuaeth Cariad@Iaith 2011 am eiliad. Roedd ei gwên ddiffuant yn donic, wrth iddi bicied o’r llwyfan i’r Lle Celf, clywed hanes Hedd Wyn gan yr actor Huw Garmon (yn naturiol), cael blas o’r Orsedd dros frechdanau efo’r bwrlwm byw Mair Penri a throi’n llanast emosiynol wrth wrando ar gerdd dantwyr ifanc Dyffryn Clwyd. Er bod cryn bwyslais ar y to iau, gyda chriw Calan yn rhoi cic yn dîn ein sîn werin, collwyd cyfle euraidd i ddangos peth o gyffro Maes B fel rhan r’un mor annatod o’r “wonderful bubble” chwadal Josie.

Pigion difyr, anhepgor ac agoriad llygad i bob Tom, Dick ac Evan Davis (a’i ymchwilwyr). Beth am hanner awr nosweithiol ’flwyddyn nesa BBC Prydain?



Mae'r Seirennau'n galw...

 
“Pen bach”.  Dyna’r peth cyntaf  ddaeth i’r meddwl ar ôl gweld yr hys-bys ar S4C. Yr ail beth oedd, “apêl amlwg at fois hoyw a’r genod” wrth i’r cyn-fewnwr bronnoeth fynd drwy’i bethau yn y gampfa.

Ond cefais fy synnu ar yr ochr orau gan Mike Phillips a’r Senghenydd Sirens cyfres bry ar y wal lle mae cyn-chwaraewyr rhyngwladol yn helpu carfan o amaturiaid ar hyd y tymor - nid yn annhebyg i Clwb Pêl-droed Malcolm Allen yn Llanberis bedair blynedd yn ôl. Syndod braf arall oedd gweld cymaint o siaradwyr Cymraeg yn y ryc, diolch yn bennaf i ysgolion cynradd Cymraeg ardal Caerffili ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Pluen yn eu het, heb os. Fe wnes i gyfri’ chwe chwaraewraig Cymraeg eu hiaith, o Elaine Wood i Kayleigh Mason ac Ann-Marie Griffiths. Ac os ydi camerâu Cynhyrchiad Orchard wedi llwyddo i’w cael nhw i hyfforddi, gwlychu, rhegi a chymdeithasu yn y Gymraeg, gorau oll.
Aeth y rhaglen gyntaf o chwech a ni o ddechrau tymor heb hyfforddwr, i gyflwyno’r mab fferm a’r model rhan-amser o Sale Sharks, cwrs rhwystrau lleidiog iawn i’r genod a gornest hynod gorfforol yn erbyn nytars Croesyceiliog (29-24 yn diwedd).
Gyda chynnydd aruthrol yng ngêm y merched, o ychydig gannoedd dair blynedd i dros 10,000 erbyn heddiw yn ôl BBC Cymru Fyw, a’r garfan genedlaethol yn denu mwy o sylw teledu a thyrfa fawr (roeddwn i’n un o’r 4,000 a mwy yng ngêm Lloegr ym Mharc yr Arfau adeg 6 Gwlad eleni), fe ddylai hon fod yn gyfres boblogaidd.

A boi digon gwylaidd ydi Mr Phillips yn y bôn. Sori, Meic.
Un pwynt bach i gloi, gyfryngis Cymraeg. Mae gynnon ni air hollol dderbyniol, dealladwy a chanmil gwell na “sialens”. Her. Hwnna ydi o. Her.
 
 

S4Wales


Wnes i ’rioed feddwl bod Port Talbot yn gymaint o bictiwr. O’r tyrrau dur sy’n gefnlen i draeth melyn epig Aberafan i’r cymoedd gleision uwchlaw’r mwg a’r M4, a hyd yn oed colofnau concrid y draffordd fawr brysur - mae gwaith camera Bang yn hynod drawiadol. Cyfres newydd nos Sul yn slot sanctaidd y ddrama Gymraeg am naw. Nid saga sgleiniog fel Teulu mohoni na chyfres noir-aidd arall waeth beth ddywed Llais y Sais - ond cyfres drosedd-deuluol. Sam a Gina, brawd a chwaer ar begynau gwahanol mewn bywyd - y naill (Jacob Ifan) yn weithiwr warws anfoddog sy’n ysu am bach o rym a chyffro yn ei fywyd pan ddaw gwn anghyfreithlon i’w feddiant, a’r llall (Catrin Stewart) yn blismones uchelgeisiol sy’n ymchwilio i lofruddiaeth a achoswyd gan y cyfryw wn. Ac yn y cefndir, cysgod marwolaeth eu tad a saethwyd yn farw ar y traeth o flaen Sam y bychan, a’r gwrthdaro cyson â’r Sgotyn a bwli o lysdad er gwaetha ymgais y fam lywaeth (Nia Roberts) i gadw heddwch. Bu Gillian Elisa yn serennu fel mam-gu neu “Nani” ddi-lol y teulu i ddechrau cyn marw’n ddisymwth - bechod, achos yn bersonol, hi oedd un o’r prif resymau dros wylio yn y lle cyntaf. Ac mae staff yr heddlu (o Gareth Jewell i Suzanne Packer) yn ategiad dwyieithog difyr i’r cyfan. Cyfres ddwyieithog, felly, nid fersiwn gefn-wrth-gefn fel y ditectif nid anenwog hwnnw o’r Borth. Gyda llaw, ai fi ydio, neu oes angen i swyddfa heddlu Cwm Afan fuddsoddi’n sylweddol mewn bylbiau golau? Mae llawer o’r golygfeydd hynny fel bol buwch.

Bu cryn heip am iaith Bang, yn enwedig y golygfeydd helaeth o Saesneg fel sy’n fwy naturiol i’r De diwydiannol. Yn y blyrb cyhoeddusrwydd, roedd llawer o’r cast a’r criw fel y cynhyrchydd Catrin Lewis Defis yn brolio mai fel hyn ’dyn ni’n siarad yn y Gymru fodern. Cymysgedd o frawddegau Cymraeg a Saesneg, Wenglish hyd yn oed. Hmm. Llansawel falle, bendant ddim Llanrwst na Llanllwni. Meddai’r Fonesig Lewis-Defis:

“I think we switch really naturally between both languages and it shows the way that Wales and the Welsh language is today.

“It’s brilliant because we can take the Welsh language further, rather than making an excuse for it and dubbing it in English, we’re going to take the Welsh out there with the English and that makes this project really fresh and innovative.”

Dadl yr awdur Roger Williams (Caerdydd, Pobol y Cwm, Tales from Pleasure Beach ac enillydd gwobr BAFTA Cymru am Tir) oedd mai portreadu iaith Cymry’r De ôl-ddiwydiannol – a chyda bron i hanner dwsin o ysgolion cynradd Cymraeg yn ardal Castell-nedd Port Talbot a bwriad i agor ysgol gyfun Gymraeg gynta tre’r dur, does dim amau’r diddordeb a’r brwdfrydedd lleol.  ’Sdim dwywaith am frwdfrydedd y di-Gymraeg dros y gyfres hefyd, a barnu oddi wrth ymateb y twitteratis.  Ond – ac mae hwn yn glamp o ‘ond’ – os mai ceisio efelychu iaith y stryd mae Bang, yna mae’r sinig ynof yn dweud mai’r iaith fain fyddai cyfrwng cyfathrebu’r stad gownsil a swyddfa’r heddlu. Dyna sefyllfa drist ein hiaith yn yr unfed ganrif ar hugain.  Ond byddai rhywun yn dweud bod Pobol y Cwm yn afrealistig hefyd, wrth i’r iaith edwino fwyfwy yng Nghwm Gwendraeth sy’n sail i’r gyfres sebon hirhoedlog.  A fyddai cymeriadau fel Mark Jones a Debbie, a’r to iau fel Sioned, Dani, Tyler, Chester a Hanna yn siarad Cymraeg â’i gilydd?  Yn sicr, mae iaith y thesbians ar wefannau cymdeithasol yn ategu fy amheuon.

Hawdd cytuno felly ag ofnau  Sioned Williams yn Barn fis Hydref  “... mae S4C yn agor y drws i fyd dwyieithog a fydd – os yw’r gyfres yn llwyddiannus – yn anodd ei gau. Ai ‘adlewychu realiti holl gymunedau Cymru yw pwrpas S4C, fel yr awgrymwyd yn y noson lansio, neu ai creu arlwy yn y Gymraeg ar eu cyfer?”

Efallai mai lle BBC Wales ydi darlledu Bang - cyfle i normaleiddio’r Gymraeg mewn cyfres fwyafrifol Saesneg. Lol botes oedd creu sawl fersiwn o Hinterland i blesio cynulleidfaoedd S4C, BBC Wales Seisnig ac yna BBC Four fwy eangfrydig sydd wedi hen arfer â darlledu dramâu Ewropeaidd ag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Ar y llaw arall, diolch i dduw am S4C fel yr unig sianel o Gymru sy’n portreadu bywyd y genedl gyfoes ar ffurf drama. Pryd mewn difri calon oedd y tro diwethaf i BBC Wales wneud hynny?  Belonging wyth mlynedd yn ôl? A na, tydi The Indian Doctor llawn stereoteipiau blinderus o Gymru’r pyllau glo ddim yn cyfri...

A pheidiwch â dechrau gydag adran ddrama ITV Cymru Wales.

Mae Bang eisoes wedi denu diddordeb gan Wlad y Basg, Lloegr ac ambell AS, ac wedi’i gwerthu i orsaf SVT Sweden. Dw i’n mwynhau’r cyfuniad o’r cyffro a’r elfennau teuluol, mae’r ddeialog yn tipyn mwy credadwy na fuodd Y Gwyll erioed, a’r ddau brif actor ifanc yn llywio’r cyfan yn llwyddiannus fel cymeriadau ’da ni’n wir falio amdanyn nhw. 

Ond mae angen i S4C feddwl hefyd am gynulleidfa graidd nos Sul hefyd, a darparu drama mwy draddodiadol ar eu cyfer sy’n sicrhau ffigurau gwylio uwch na chaiff Bang, 35 Diwrnod et al fyth.

 

Dyna ddigon, Doc


*SBOILAR


A dyna ni. Mae’r antur fawr ar ben. Y ddrama ddomestig dros ben llestri am sgileffeithiau hyll tor-priodas - wrth i Dr Foster (Suranne Jones) yfed a smocio a fflangellu’i ffordd drwy ysgariad chwerw â’r Simon (Bertie Carvel fel chwip o ddihiryn pantomeim) a thynnu holl drigolion dosbarth canol uwch Parminster i’w pennau. Er gwaetha’r amheuon y byddai’r naill gymar neu’r llall yn gelain erbyn y diwedd, naill ai dan deiars yr Hyundai neu trwy nodwydd angheuol y doc, maen nhw mewn galar parhaus bellach - am eu mab Tom, a gafodd hen lond bol o ddramatics Shakespearaidd ei fam a’i dad, cyn diflannu o’u bywydau. Ac wele bosteri “Missing” o’r cr’adur ar hyd a lled y syrjeri a’r dre, a diweddglo marc cwestiwn.

 Yr antur fawr ar ben meddwn i. Ond efallai bod gan yr awdur Mike Bartlett syniadau gwahanol. Y farn gyffredinol nad oedd hon yn yr un cae â’r gyfres gyntaf hynod boblogaidd. Ond cofier Broadchurch, a gafodd ail gyfres symol uffernol cyn achubiaeth y drydedd a’r olaf un. 

Suranne Jones bia’r gair ola, debyg. 

Rhowch gyfres ddrama wahanol iddi wir dduw.

Celwyddgi


Gyrfa gymysg fu un Ioan Gruffudd hyd yma. Efallai bod y c’radur yn ei chael hi’n anodd cael gwared ar stigma’r actor sebon fel Gareth Wyn Cwmderi rhwng 1987 ac 1994. 

I’r gwylwyr Prydeinig, mae’n enwog fel y morwr Horatio yng nghyfres Hornblower ITV (1998-2003) ac ar lwyfannau ehangach fel capten llong anffodus yn y ffilm Titanic (1997), fel cymar camp i Mathew Rhys yn Very Annie Mary (2001) a’r gwyddonydd â phwerau goruwchnaturiol yn ffilmiau Fantastic Four (2005 a 2007). Un o’i ffilmiau diweddaraf y gwyliais ar daith i’r Baltig oedd San Andreas (2015) llawn effeithiau arbennig ond prin ei sylwedd, fel basdad o ddyn busnes. A hen gythraul ydi o yn ei ran ddiweddaraf ar deledu hefyd, Liar, drama hynod ddadleuol ITV am lawfeddyg sy’n mynd benben ag athrawes (Joanne Froggatt gynt o Coronation Street) a’i cyhuddodd o’i threisio ar ôl dêt. Am y ddwy bennod gynta, doedden ni wylwyr ddim yn siŵr iawn p’un o’r ddau i’w gredu, gyda’r naill gymeriad anghynnes â’r llall yn actio’n ddiniwed - er y buasai angen sgwennwr dewr IAWN i roi’r bai ar y ferch mewn gwirionedd. Erbyn y drydedd bennod, fodd bynnag, daeth i’r amlwg mewn ôl-fflachiau mai’r Dr Andrew Earlham â dannedd-a-lliw-haul Hollywood wnaeth sleifio’r cyffur GHB i win Laura Nielsen - hyn oll â thair pennod i fynd. A ninnau felly’n gwybod pwy oedd y drwg yn y caws hanner ffordd drwy’r gyfres, pa ddiben parhau i wylio? Mae’r ddrama bellach yn mynd i dir thriller, gyda Laura yn prysur wneud gwaith allgyrsiol yn ymchwilio i gefndir niwlog y Doc a hunanladdiad (honedig?) ei wraig gyntaf yng Nghaeredin.  A neithiwr, cawsom olygfa iasol o Andrew Earlham yn llithro gefn liw nos i gartre’r DI Vanessa Harmon feichiog, a awgrymodd yn gryf bod gynnon ni serial rapist yma.  Pennod a adawodd hen flas cas go iawn. Dw i wir  heb deimlo mor sâl wrth wylio drama deledu ers tro byd.


Alla i ddim dweud fy mod i’n mwynhau hon. Nac eisiau gwylio go iawn. Mae’n llawn cymeriadau annifyr ac isblotiau deud celwyddau a rhoi cyllyll yng nghefnau’i gilydd. Mae’r gwaith camera trawiadol o arfordir Caint a thyrau gothig Caeredin, a’r holl porno cartrefi godidog yn cyd-daro’n chwithig â’r awgrym cryf o drais rhywiol.  


Ond damia, mae ’na rywbeth sy’n dal i’m denu i wylio am naw bob nos Lun. Ac o leiaf wnaiff neb anghofio’r actor Ioan Gruffudd am sbelan eto...


Mynadd



Wn i ddim beth ydio. Henaint falle. Un digon difynadd fues i erioed (holwch fy nghydnabods), ond yn ddiweddar, dw i’n teimlo fy hun yn fwyfwy Victor Meldrewaidd hefo cyfresi teledu. Yn dewis a dethol fwy, yn gwylio hyd at ddwy bennod cyn penderfynu ‘cachu rwtsh’ waeth beth ddywed y mwyafrif, a dileu’r cyfan o’r cyswllt-cyfresi am byth. 

Hyn a hyn o amser sydd gan rywun fin nos, er gwaetha’r ffaith mai dyma’r adeg dduaf o’r flwyddyn pan rydan ni fwy tebygol o swatio ar y soffa a mynd yn sombis i’r sgrîn fach. Ac mae popeth newydd fel petai’n ailbobiad diawledig o rywbeth gwell. Safe House, Rellick, Trust Me - wnes i ddim llyncu’r abwyd na’r heip. Mae pennod ola Fortitude Sky Atlantic yn dal i hel llwch yn fy mocs Sky, er i mi fuddsoddi 11 awr yn trio gwneud pen a chynffon o’r smonach Arctig blaenorol. Dechreuodd fy niddordeb bylu ar ôl iddyn nhw SBOILERS! SBOILERS! gael gwared ar fy hoff actores Sofie Gråbøl.  Mae hyd yn oed aduniad Twin Peaks yn apelio llai a llai, er cymaint wnes i fopio ar odrwydd Agent Cooper a’r eiconig Audrey Horne ddechrau’r 1990au. ’Sdim byd gwaeth na gweld eich eilunod wedi heneiddio neu dwchu’n ddifrifol. Na, rhyw  nostaljia ieuenctid ffôl a’m denodd i’w dapio, yn union fel Cold Feet 2017. 



Yn ddiweddar, fe geisiodd Cymru Fyw apelio at ein hochr hiraethus drwy holi pa gyfresi yr hoffen ni eu gweld yn dychwelyd ar S4C. Yn eu plith, Brodyr Bach (na), Bacha Hi O’Ma (NA!) a Jabas (prynwch DVD Sain yn lle). Dechreuais fwynhau Pengelli unwaith eto pan gafodd ei hailddangos yn slot ‘Aur’ S4C, a Minafon cyn hynny, ond diawcs roedden nhw wedi dyddio (yr ail yn fwy o nain na’r gyntaf) ac felly ni pharodd y gwylio am hir. 

Weithiau mae’n well eu gadael nhw, fel hen gariadon, i fod.