Showing posts with label Nadolig. Show all posts
Showing posts with label Nadolig. Show all posts

Gwylio dros y Gwyliau


 

“A dyna hynna drosodd am flwyddyn arall”.

Anghofiwch am lith y Cwîn. Mantra mam am tua pum munud wedi tri bnawn Dolig. Ac roedd yr wythnos od honno rhwng y Diwrnod Mawr a’r Calan yn teimlo fel cyfnod clo, gyda phawb ofn mynd i gymysgu yn nhai ein gilydd, y tywydd yn ddiawledig a’r arlwy deledu yn ofnadwy. Diolch i’r drefn am rodd o lyfrau da gan deulu clên.

Ond ai fi sy’n heneiddio ac yn cofio Nadoligau gwyn dedwydd, pedair sianel y gorffennol, ta oedd y teli bocs yn sobor o wael eleni? Wel, roedd sawl perthynas yn meddwl hynny yn ogystal â Tudur Owen ar ei raglen radio ola’r flwyddyn. Myrdd o gwisiau teledu, oriau o sebon, The Sound of Music, penodau coll o Morecambe & Wise wedi’u hadfer a’u lliwio ar gyfer y Great Brexit Public heddiw.


 

Diolch i’r drefn am S4C. Dyna’r sianel ddiofyn oedd mlaen yn tŷ ni dros yr ŵyl, nid o ran dyletswydd, ond oherwydd llond sled o raglenni gwerth chweil. Iawn ocê, doedd ’na ddim ffilm na drama gwerth sôn amdani fel Dolig ddoe – ac mi gawson ni’n sbwylio ers talwm do (Tân ar y Comin 1995; Y Mynydd Grug 1997; Martha Jac a Sianco, 2009)  – ond roedd digon i’n cadw’n ddiddig ar noson lawog arall. Falla' mai rhifynnau arbennig o gyfresi cyfredol a gafwyd, ond diawcs, roedden nhw’n dda. Canu gyda fy Arwr emosiynol gyda Robat Arwyn, Côr Meibion Cwm-bach ac yna Caryl yn rhifyn y flwyddyn newydd, ac Am Dro difyr gyda’r sl’ebs yn cyd-dynnu a glana chwerthin o Radur i Laneurgain. Pwy feddylia fod Alex Tywydd yn giamstar ar ganu clychau eglwysi? A Gareth Ffarmwr yn hoff o frolio amdano'i hun? Ac fel arfer, sylwadau sardonig Aled Sam oedd yr eisin ar y gacen. 

Daeth Trystan ac Emma i daflu conffeti a hudlath yr ŵyl mewn Priodas Pum Mil o Dregaron, lle gafodd pâr o weithwyr iechyd ddiwrnod i’w gofio diolch i haelioni ffrindiau a theulu, rheolwyr Plas Nanteos, y gantores Bronwen Lewis a hen ambiwlans o’r 1950au.

Dylai fod yn gawslyd, ond...

 

Cawsom gyfweliadau dadlennol iawn gyda dau o’n halltudion mwyaf ni, y naill yn Llundain a’r llall yn Efrog Newydd. Siaradodd prif ddarlledwr newyddion a llais Digwyddiadau Mawr Prydeinig y Bîb o’r galon yn Huw Edwards yn 60, o’i berthynas danllyd â’i dad enwog, y pyliau o iselder, chwithigrwydd ei blant di-Gymraeg, a’i apêl arnom i weithredu ar argyfwng tai haf – a’r cipolwg ar ei fam hyfryd o ddiflewyn ar dafod. Fe gafodd Elin Fflur wibdaith a hanner i ddinas yr Afal Mawr er mwyn holi’r actor Matthew Rhys yn Sgwrs dan y Lloer – seren cynnar House of America Ed Thomas a Marc Evans (1997) sydd bellach wedi ennill ei blwyf fel enillydd gwobr Emmy am ei ran yng nghyfres ysbïwyr yr 1980au The Americans (2013-18) a phrif seren ailwampiad Perry Mason a arweiniodd at enwebiad Golden Globe y llynedd. O! am weld y gŵr hynaws hwn o’r Eglwysnewydd, sy’n siarad Cymraeg a’i fab Sam yn NYC, yn troedio llwyfannau neu set ddrama Gymraeg yn fuan iawn. Siawns fyddai cynhyrchwyr Tinopolis wedi gallu ffeindio mwy o gysgod a chynhesrwydd iddyn nhw ymhlith nendyrau’r ddinas sy byth yn cysgu na stopio chwythu.

Sythu dan y lloer

 

Am unwaith, wnaeth arlwy gerddorol eraill y Sianel ddim plesio gymaint. Aled Jones a Sêr y Nadolig er enghraifft, oedd yn od o fflat a digyswllt braidd – dim diolch i’r pandemig parhaus sy’n atal pobl rhag ymgynnull rownd y tân neu’r piano. Does gan y cyn-foi soprano o Fôn fawr o lais mwyach, a Classic FM nid Cymru ydi'i betha fo erbyn hyn, ac eto mae’n dal yn dipyn o ffefryn gan S4C. Un arall wnaeth ddioddef o ddiffyg sŵn a bwrlwm cynulleidfaol y gorffennol ydi Noson Lawen – Dathlu’r 40 serch gwenau llachar Ifan Jones Evans ac Elin Fflur, ac ymdrechion glew band y tŷ i glapio am y gora. Mae angen binio Ffarmwr Ffowc am byth, roedd cyflwyniad rhen Idwal yn rhy hir a phoenus o annigrif (‘sa ffasiwn air?), bu gormod o ganu gwlad, a tydi’r arfer o jazz-eiddio hen ffefrynnau byth yn tycio. 

Yn wir, ripît funud ola o’r llynedd i gymryd lle Sgorio blesiodd fwyaf acw. Roedd Plygain go wahanol yn gwbl hudolus, wrth i Angharad ‘Calan’ Jenkins gyflwyno’r hen, hen draddodiad dan gyfyngiadau covid flwyddyn ddiwethaf. Gresyn na fyddai’r Sianel wedi comisiynu un arall eleni, wrth i ofn yr Omicron gadw drysau plwyfi Maldwyn a'r cyffiniau ar gau eto. Byddwn i’n bendant wedi croesawu rhaglen o garolau byrfyfyr, digyfeiliant, dan olau cannwyll mewn eglwysi godidog fel Mallwyd, yn hytrach na chantorion gorfrwdfrydig o’r West End yn y Galeri eto.

 

Calan

 

Mae dychan ar S4C cyn brinned ag empathi gan Priti Patel y dyddiau hyn, ond diolch am adolygiad blynyddol Sian Harries a Tudur Owen yn O’r Diwedd 2022. Roedd elfennau ardderchog ynddi, fel y ffarmwr pro-Brexit gwrth-Gaerdydd o Fôn (ac mae gormod ohonyn nhw ar y Tir Mawr hefyd), ‘Mark Drakeford – y Ffilm’ yn brwydro dros enaid Cymru rhag Alun Carneddau a’i deips, gêm deledu ‘Siopio neu Stopio’ am silffoedd gwag-ond-peidiwch-meiddio-â beio-Brexit. Ar y llaw arall, braidd yn flinderus oedd darnau eraill fel ‘jôc’ parhaus y sgaffaldiau ac Eisteddfod Tŷ. Beiwch fforti wincs a wisgis nos Galan wrth wylio’n fyw. Rhaid dal i fyny eto ar wasanaeth Clic. Go brin wnai drafferthu efo Gareth! am yr eildro. Roedd yr eisteddiad cyntaf yn ddigon poenus. Enghraifft glasurol o'r gwesteion a'r criw cynhyrchu yn cael mwy o hwyl na ninna adra. 

Unig uchafbwynt y sianeli eraill i mi oedd addasiad blynyddol Mark Gatiss o stori ysbryd MR James (1862-1936), The Mezzotint ar BBC Two. Cwta hanner awr oedd hi, ond mi wasgodd beth gythgam i mewn o ran awyrgylch, arswyd, cerddoriaeth a champ a rhemp oes Fictoria. Hanes Edward Williams, bonheddwr a golffiwr hamdden sy’n byw’r bywyd tawel fel curadur rhan-amser mewn amgueddfa prifysgol, sy’n taro ar draws paentiad o blasty yn Essex dan leuad oruwchnaturiol. Ac ai’r llygaid sy’n twyllo, neu oes ’na ryw greadur sinistr yn llercian y tu ôl i’r gwrych neu’n nghornel ffenestr y plasty yn yr engrafiad? I’r dim ar gyfer noson swatio ar y soffa efo canhwyllau bach a chlamp o win coch (ar wahân i chi nytars Ionawr Sych).

The Mezzotint - arswydus o dda

 

 

Gwylio dan gyfyngiadau

 



Beth arall sydd i ddeud am ’leni? Fe gafodd un gair arbennig ei orddefnyddio. Na, nid hwnnw sy’n cychwyn efo ‘Ec’, ond ‘Dî’. Digynsail. Rhowch gorau iddi plîs, newyddiadurwyr prin y Gymraeg, a thriwch rywbeth arall fel 'blwyddyn heb ei thebyg', 'dyddiau di-ail'. Unrhyw beth 'blaw digynsail. Thenciw fowr.

Bu’n flwyddyn heb ei hail i wylio teledu beth bynnag, â phawb yn sownd adra wrth i'n byd cymdeithasol ddod i stop. Os na aiff ffigurau S4C drwy’r to yn Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol y flwyddyn nesa, wedi un go symol y llynedd, mae wir yn A-men ar y Sianel. Ond dowch inni drïo croniclo’r flwyddyn swreal hon o wylio. 

Swatio dan y lloer

Ailddarganfod natur efo Morgan Jones a'i westeion 

Uchafbwynt y gwanwyn boncyrs o gynnes i mi oedd treulio awran bob nos Sul yn gwylio 5 pâr o Loegr yn bacpacio 25,000km dros ddeufis yn erbyn y cloc o Ddinas Mecsico i Ushuaia, yr Ariannin, yn Race across the World. Gydag antur adra yn golygu twrio am bapur lle chewch neu dun o domatos yn Co-op Llanrwst, roedd rhywbeth uffernol o braf mewn weld pobl yn brasgamu hyd strydoedd dan ei sang, yn cysgu boch wrth foch ar fysiau 12 awr, yn rhannu hosteli ceiniog a dimau a chlecian peints mewn bariau byrlymus wrth geisio osgoi sawl terfysg yn erbyn llywodraethau ledled De America. Wrth gwrs, tydi cyllideb S4C ddim yn caniatáu’r fath sbloets (er meddyliwch pa mor dda fuasai hel cystadleuwyr ar draws Patagonia, serch ffrae’r twitteratis am wladychiad neu goncwest y Cymry cynnar) ond fe ganiatawyd i Elin Fflur dorri’r rheol bum milltir er mwyn cael llymaid hamddenol yng ngerddi rhai o s’lebs y Gogledd yn Sgwrs dan y Lloer (Tinopolis). O Nic Parri i Lisa Jên, Mici Plwm i Angharad Tomos, Tudur Owen i Robat Arwyn, roedd rhai’n llawer difyrrach na’r lleill – ond pwy bynnag oedd y gwestai, roedd agosatrwydd a gwên fawr gynnes y ferch o Fôn yn cynnal y cyfan. Grêt bod yna gyfres arall ar y gweill. Ond fe wnes i osgoi’r ddogfen unigol Galar yn y Cwm fel y pla, sgiwsiwch y mwysair di-chwaeth. Gyda’r bwletinau dyddiol yn pwyso’n drwm arnom, nifer y marwolaethau yn cynyddu ar lefel ddychrynllyd a gwleidyddion di-glem wrth y llyw, y peth ola’ o’n i eisiau ei wylio min nos oedd dogfen am deulu o drefnwyr angladdau yng Nghwm Tawe. 

Roedd rhaglen bry ar y wal arall a gomisiynwyd yn arbennig yn ystod y cyfnod clo, yn berl. Llywio cyfres realiti newydd am wibdaith bws i Ewrop oedd bwriad y cyn-brifathro o Eifionydd, Ken Hughes, cyn i 2020 roi stop arno. Yn lle hynny, fe’i gwelsom yn defnyddio’r cyfrwng zoom hollbresennol i wneud cacen, sgwrsio â ffrindiau pell ac agos, cynnal cwis ar-lein, a chadw’n heini yn yr ardd gerflunaidd. Ken Hughes yn cadw ni fynd (Darlun TV) oedd un o uchafbwyntiau hapusa’r flwyddyn, a phob clod hefyd i Elis am reoli’r camerâu niferus o stiwdio’r garej. 

Fel rhan o gomisiynau eiliad ola’r Sianel i lenwi’r gwagle chwaraeon byw, fe gawson ni ddrama tair rhan Cyswllt (mewn Covid) (Vox Pictures) gyda’r actorion yn serennu ar eu ffôngamerâu neu liniaduron eu hunain – fel nyrsys lluddedig, nain a wyres, tad colledig, a phâr priod sy’n gorfod hunanynysu ar wahân gan fod un yn taclo cancr. Llwyddodd y cyfan i gyfleu blinder, ofnau, tyndra a gwerthfawrogiad y cyfnod od hwn, ac ennill y blaen ar ddrama covidaidd arall gan ITV. Drama hôm mêd arall wnaeth apelio oedd Staged, gyda Michael Sheen o Bort Talbot a David Tennant a’u gwragedd go iawn, fel dau actor llwyfan sy’n bytheirio drwy ymarferion ar-lein dan law cyfarwyddwr anobeithiol o'r West End, yn poeni am gymdogion oedrannus, a chael ram-dam gan y Fonesig Judi Dench. Mae’r ail gyfres ar ei ffordd, a gwych o beth am hynny. 

Michael Sheen a David Tennant - "Staged"

 

Y pâr priod Dewi (Aneurin Hughes) a Sian (Cath Ayres) yn gorfod cysgodi rhag covid â'i gilydd




 

O’r holl gyfres noir eleni – a doedd dim llawer ohonyn nhw - un iaith Saesneg o Ganada sy’n aros fwyaf yn y cof, a finnau fel arfer am sgut am isdeitlau a porn cynllunio tai Nordic. Ond o leiaf cantores o Ddenmarc sy’n gyfrifol am arwyddgan iasol Cardinal, ac roedd digonedd o eira mawr i blesio’r scandiphile mwyaf. Y bedwaredd gyfres, Until the Night, oedd yr olaf meddan nhw, a bydd hiraeth mawr ar ôl gwep fythol drist y Ditectif John Cardinal (Billy Campbell) a’i gydymchwilydd ffyddlon o Quebéc, Lise Delorme (Karine Vanasse) sy’n ei flysu o bell, heb anghofio ardal y llynnoedd a fforestydd gwyn maith gogledd Ontario, a straeon am wir frodorion y rhan enfawr honno o'r byd.

 

"Cardinal" - y gorau o Ganada

 

Erbyn yr hydref, daeth hen ffefrynnau yn ôl ar ein sgriniau, a phawb – o’r cogydd Hywel Griffith a’i Sioe Fwyd i Nia Parry a thrigolion Adre – yn cadw pellter go barchus. Felly hefyd Morgan Jones a’i westeion wnaeth borthi ein diddordeb o’r newydd ym mywyd gwyllt y filltir sgwâr yn Natur a Ni (Rondo) o stad Garreglwyd. Dychwelodd cymeriadau Rownd a Rownd a Pobol y Cwm i fyd annaturiol, gyda’r naill yn anwybyddu’r pandemig yn llwyr a’r llall yn dangos masgiau a sebon diheintio a’r enfys hollbresennol ’na. Tipyn o gamp ar ran yr actorion a’r criw cynhyrchu a’r awduron wnaeth orfod daflu sgriptiau parod i’r bin, a sgwennu rhai newydd heb na chwtsio na charu, dal dwylo na phaffio. Er hynny, dw i’n dal i fethu mwynhau i’r un graddau ag o’r blaen.

Prosiect Pum Mil a Dau Fetr

 

Wrth i elfennau o'r gymdeithas (Etonaidd) dorri rheolau C19 yn rhemp, twristiaid yn heidio i baffio a bawa yn Eryri, a Davina McBlydi Call yn cwyno am reola Cymru, llwyddodd fformat ... Pum Mil (Boom) i ddangos bod yna rywfaint o ddaioni yn yr hen fyd honco ’ma o hyd. O’r briodas dan glo ym Môn, i brosiectau cymunedol yn Ysgol Glantaf a Sbyty Ifan, Ponty a Llandysul, bu Emma a Trystan yn bwrw gwên, peintio, cyflenwi coffis a chwerthin heintus hyd a lled y wlad ar ôl ennill gwobrau BAFTA Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni. Un arall gafodd sawl enwebiad eleni oedd drama’r we 2019, Merched Parchus (yn y categorïau ‘Torri Trwodd’ ac ‘Awdur Gorau’) ac sydd wedi’i gwerthu i’r Almaen, Swistir ac Awstria via gwasanaeth ffrydio Ewropeaidd SOONER. Cyn (diffyg) cytundeb Brexit, gobeithio. Mae S4C yn dal i frolio amdani hyd yn oed ar ôl rhoi’r fwyell iddi wedi diweddglo reit benagored. Yn y cyfamser, daeth y felodrama Saesneg Un Bore Mercher i ben ar ôl tair cyfres. Dw i’n gwybod p’un fyddai wedi cael comisiwn arall gen i. Efallai y dylai mwy ohonom ganu clodydd cywaith gwreiddiol, dinesig a deifiol Mari Beard a Hannah Jarman ar y cyfryngau cymdeithasol, fel ffans bocsets Tipyn o Stad (2002-2008) sy’n cael ei hatgyfodi’r flwyddyn nesa. Syniad tsiampion ta diffyg gwreiddioldeb?

Barnwch chi.


 

A dyna ni. Sut siâp fydd ar deli’r ŵyl? Mae BBC One yn cynnig y Cwîn, Blankety Blank a Mrs Brown’s Boys fel tasan ni heb ddiodda’n barod eleni. Yn bersonol, dw i’n edrych mlaen at rywfaint o chwerthin gyda sbeshals comedi Motherland (9 o'r gloch nos Fercher 23 Rhagfyr, BBC Two) a King Gary (10 o’r gloch nos Fercher 23 Rhagfyr, BBC One) a drama Chekov, Uncle Vanya (10 o’r gloch nos Fercher 30 Rhagfyr, BBC Four). Mae dyddiau ffilm fawr y Nadolig ar S4C wedi hen ddiflannu, ysywaeth, ond o leiaf bydd na ffilm fer wedi’i hanimeiddio o’r enw Sol – ffrwyth cydgynhyrchiad rhwng sianeli teledu Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban ac S4C – am fachgen sy’n dysgu o brofiad galarus ar ôl colli ei nain (6.30 o’r gloch nos Lun 21 Rhagfyr). Uchafbwynt hapusach dydd Dolig ei hun fydd Ken Hughes yn cadw Dolig i fynd, ond ar amser chwithig braidd o 7 yr hwyr pan fydd llawer ohonom naill ai’n llowcio brechdana twrci oer, yn ffraeo dros gemau bwrdd neu’n rhochian o flaen tân. Ac wrth gwrs, mi fydd yna benodau cadw-pellter arbennig o’n sioeau sebon ni.

Am y tro, dw i’n gobeithio am gwrw da, siocledi arbennig a llyfrau blasus yn fy hosan i ’nghadw’n ddiddig drwy ba bynnag ffycrwydd sydd o’n blaenau ddechrau 2021.

Dolig dedwydd diogel i bawb. 

'Dolig Epic Chris


 

 

 

Llanast!





Hen fasdad ydi mis Ionawr. 

Diffoddwyd goleuadau’r ŵyl gan adael ein strydoedd fel y fagddu a’r ysbryd yn dduach. Mae cloc y corff wedi rhewi ar 26 Rhagfyr, ac mae’r “Bs” yn fygythiad parhaus - biliau a Brecshit.

Does ryfedd mod i’n crefu am rywfaint o hiwmor, a go brin ydi hwnnw ar y teledu. Sdim llawer o chwerthin cyfredol ar S4C, ond mae ôl rifynnau’r Dolig yn dal yno i rai a’u methodd y tro cyntaf – Run Sbit Dolig (2017!), Stand yp Cymru ac O’r Diwedd 2018. Er nad oedd pob sgetsh o'r olaf yn taro tant (sbwff Top Gear am ffyrdd a system drafnidiaeth sobor Walia Wen), roedd dychan Un Bore Mercher yn berffaith ac yn llwyddo i ategu pa mor sili oedd y gyfres mewn gwirionedd gyda Sian Harries yn gwisgo’r got felen dragwyddol wrth i’w gwallt droi’n gorwynt bleriach fesul golygfa.

Diolch i dduw bod bocset Nyth Cacwn wedi diflannu beth bynnag. Wnâi fyth ddeall hiwmor y Tregaroniaid.

Ond y tonic i mi, heb os, ydi Catastrophe (Channel 4). ‘Lle ti di bod Dylan bach, achos ma hon allan ers tair blynedd a dim ond ar y bedwaredd gyfres – a’r olaf – ti’n dechrau arni?!’  Digon gwir, a diolch byth mae’r rhai blaenorol i gyd ar gael ar wasanaeth dal i fyny All4. Cyfres a enwyd o ddyfyniad o ffilm Zorba the Greek: "I'm a man, so I married. Wife, children, house, everything. The full catastrophe. Y cwpl dan sylw ydi Sharon, athrawes o Iwerddon sy’n beichiogi ar ôl bachu Rob, Americanwr sy’n dadebru o alcoholiaeth, mewn bar yn Llundain. Er iddyn nhw wahanu, mae Rob yn dychwelyd i Lundain o Boston gan awgrymu eu bod nhw’n callio a chydfyw er lles y bychan. Erbyn y bedwaredd gyfres, maen nhw wedi setlo yn swbwrbia serch yr holl feddwi a checru, bygwth ysgaru, cymodi a magu mwy o blant. Mae Sharon Horgan (chwaer cyn asgellwr Leinster ac Iwerddon Shane Horgan) yn wych o sardonig a Rob Delaney i’r dim fel yr Ianc lloeaidd, a chast atodol cryf fel y Sgotiaid Ashley Jenner a Mark Bonnar sy’n caru-gasáu ei gilydd.

Hanner awr o’ch amser wythnosol gymrith hi, ond diawcs, mi fyddwch yn chwerthin yn uchel ar ôl ebychu mewn anghrediniaeth (hiwmor tystysgrif ‘18’ ydio wedi’r cwbl) wrth yfed eich ffordd drwy weddill fis Ionawr. Nid yn annhebyg i Rob druan...

Dw i’n methu’n lân a deall pam na allwn ni greu comedi sefyllfa debyg ar S4C, wedi’i seilio ar ddosbarth canol amherffaith Pontcanna, Llandeilo neu'r Felinheli. 

Gyda Tudur Owen a Sian Harries yn y prif rannau wrth gwrs.