8 mlynedd o wylio

Dau etholiad a dau Gwpan Rygbi’r Byd. Dyna sy’n pontio fy nghyfnod i fel sgwennwr Ar y Bocs am wyth mlynedd. Llywodraeth Glymblaid Llafur-Plaid a De Affrica ddaeth i’r brig yn 2007, a Cameron a Seland Newydd a orfu yn 2015. A diolch i fodryb o Fôn, mae gen i lond ffeil goch o’r colofnau hynny. Gyda chanlyniadau cymysg, ambell gam gwag, pechu dau neu dri, ac ambell lythyr diolch i’w trysori am byth. Gan gynnwys un gan y diweddar annwyl Merêd. Ond wrth bori a hel atgofion dros y Dolig, synnais o weld cymaint yn gyffredin ac ychydig iawn o newid mewn gwirionedd. A ninnau newydd brofi un o’r gwyliau gwlypaf ers cyn cof, difyr nodi mai “dilyw Llanelwedd” gafodd y sylw yn y golofn gynta wrth adolygu arlwy Y Sioe 07ar S4C. Dywedais fod Rownd a Rownd yn “gymar anhepgor” i amser swper a phenmaenmawr y Sul, fel heddiw, a bûm yn diawlio arferiad y Sianel ar y pryd o gomisiynu awduron di-Gymraeg cyn cyfieithu Y Pris a Cowbois ac Injans. Mi barodd y traddodiad anffodus hwnnw gydag Y Gwyll yn 2013 …