Alba gu bràth






Annwyl yr Alban,

Weithiau, jyst weithiau, buasai bywyd yn brafiach acw. Dim iaith leiafrifol gref i’w hamddiffyn bob gafael. Dim 20% o’r boblogaeth yn Sassenach dŵad. Dim UKIP mewn Senedd sy’n wirioneddol dorri’i chwys ei hun ac sy’n rhoi annibyniaeth ar frig yr agenda. 

Dim Alun Cairns.

Mi fuaswn i’n ymffrostio yn y ffaith i ’nghydwladwyr bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn ymfalchïo mewn ffilmiau gwerth $25 miliwn fel Mary Queen of Scots sy’n hyrwyddo’n hanes i bedwar ban. Byddwn yn llawer mwy hyddysg mewn materion cyfoes fy ngwlad fy hun trwy bapurau cenedlaethol o weisg Aberdeen, Glasgow a Chaeredin yn hytrach na Llundain. Ac yn tanio’r teledu i wylio awr o newyddion o’r Alban a’r byd bob nos. Mae The Nine yn rhan o sianel newydd Saesneg unswydd i’r gogledd pell - BBC Scotland – a aned fis diwethaf, mewn ymateb i gyfaddefiad Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol BBC Prydain yn 2016, fod darlledwyr Llundeinig yn esgeuluso cenhedloedd a rhanbarthau eraill y deyrnas g’neud hon. Sianel newydd sbon â chyllideb o £30 miliwn (tebyg i BBC Four) gydag oriau brig o saith yr hwyr tan hanner nos. Sianel sy’n addo cymysgedd o raglenni dogfen megis Children of the Devolution, comedïau fel Scot Squad, sioe bêl-droed wythnosol A View From a Terrace yn seiliedig ar bodlediad poblogaidd, a dramâu newydd fel Guilt gyda Mark Bonnar (Catastrophe, Shetland) a Jamie Stives (Game of Thrones) fel dau frawd ar chwâl wedi iddyn nhw ladd hen ŵr yn ddamweiniol wrth yrru adref o briodas.

Rebecca Curran a Martin Gleisser - cyflwynwyr rhaglen newyddion nosweithiol 'The Nine'


Mae’r cyfan yn deillio o’r hen hen ddadl dros y “Scottish Six”, mewn ymateb i’r troi trwyn parhaus ar newyddion o’r gwledydd datganoledig – sefyllfa sydd wedi gwaethygu mewn gwirionedd, gyda’r ymadroddion cyffredin “…in England” i ddiweddu adroddiadau o fyd addysg neu iechyd fel petai datblygiadau neu ffaeleddau’r systemau hynny ddim yn bod ar y cyrion Celtaidd. Heb sôn am becyn chwaraeon Lloegr yn Gyntaf. A tydi jyst sodro Huw Edwards a Kirsty Wark tu ôl i ddesg rhai o brif raglenni newyddion y Gorfforaeth ddim yn tycio mwyach, fwy na phloncio Alex Jones ym merddwr The One Show. Alla i fyth gymryd y sioe gylchgrawn nosweithiol honno o ddifri mwyach heb feddwl am This Time with Alan Partridge.
Nid bod arlwy’r noson agoriadol o Theatre Royale Glasgow wedi plesio pawb chwaith, gyda’r ymatebion yn amrywio o “what a load of patronizing crap” i “thinking that new #BBCScotland channel has been designed to show us that we are too wee, too poor and too stupid to have grown up TV”. Roedd llawer yn cwyno am yr orbwyslais ar Glasgow a choridor yr M8 (swnio’n debyg i BBC Wales M4-ganolog?), a’r ffaith mai rhaglenni BBC2 Lloegr sydd arni o amser cinio tan 7 yr hwyr beth bynnag.  I Alice Rowat, adolygydd teledu The Herald, roedd megis gwylio teledu Hogmanay ar nos Sul o Chwefror tra bod Aidan Smith o'r Scotsman fymryn cleniach gan obeithio am sianel gyfoes ac nid un or-giltiog ei naws. 

Ac mae rhywun yn arswydo braidd o feddwl sut siâp fyddai ar noson agoriadol sianel benodol BBC Wales. Dechrau gyda chyngerdd Max Boyceaidd o’r Grand Porthcawl, yna Derek Tywydd yn crwydro rhan o lwybr arfordir y Mwmbwls efo Bonnie Tyler, penawdau rhyngwladol gan Jennifer Jones (falle o stiwdio Brynmeirion i blesio’r North Walians), cyn aduniad “arbennig” o High Hopes a dangosiad eto fyth o Grand Slam i gloi. 

O ran diddordeb, fe drois i wylio rhywfaint o The Nine ar nos Lun gynta’r criw newydd(ion) a mwynhau ar y cyfan fel y rhelyw o’r twitteratis. Stiwdio palet piws fel ein Newyddion 9 ni, a chyfres o luniau montage o wynebau Sgotiaid o bob lliw a llun yn hytrach na golygfeydd dinesig generig dros gerddorfa agoriadol. Penderfyniad hwyrfrydig y cadach llestri Corbyn i glosio at ail Refferendwm (Ewrop, nid annibyniaeth i’r Alban) oedd y prif bennawd, cyn eitemau ar greisus cyffuriau’r Alban (tewch a deud!), ymchwiliad i farwolaeth merch o Livingston yn Benidorm, treialon moddion HIV, a thro i Reykjavik i gasglu barn yr Islandwyr am y bali busnes “B” ’ma. Yn y pecyn chwaraeon, daeth Alex McLeish a Gregor Townsend ynghyd ar y soffa i drafod pwysau rheoli’r timau cenedlaethol a chloi gydag eitem ysgafn am ferch 14 oed o Livingston (lle poblogaidd heddiw) a enillodd ornest ddawnsio nos Sadwrn y BBC. O ran yr elfen ‘ryngwladol’, roeddwn wedi disgwyl mwy o straeon tramor mawr y dydd o safbwynt gohebwyr Albanaidd yn lle’r bydolwg Seisnig ar bopeth gan y brif Gorfforaeth.
Fel y cloriannodd Alison Rowat, eto o’r Herald:
Come 10pm it had been a busy hour but a long one. This was a competent but underwhelming debut. It didn’t feel fast moving and agenda setting or whatever the hype had promised. Nor, the Cook report aside, was it very Scottish. The Nine will have to live a little more dangerously if it is to score more marks out of ten than this.


Cildwrn i'r Cymry


Yr un pryd, fe wnaeth Tony Hall addo £8.5 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i BBC Wales dlawd tan 2020 ac y byddai “...sianel newydd iPlayer BBC Cymru yn cael ei lansio gan gynyddu amlygrwydd rhaglenni i gynulleidfaoedd yng Nghymru”. £3.6 miliwn ydi ffigur cyfatebol Gogledd Iwerddon. Ond y gwir amdani yw mai dychwelyd i lefelau gwariant ddegawd yn ôl mae’r buddsoddiad “ychwanegol” hwn, fel yr ategodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad.

Does dim sôn am ‘sianel newydd’ eto, ond mae ambell gyfres Saesneg wedi ymddangos. Dydy’r arwyddion ddim yn dda. O. Gwbl. Ydych chi’n cofio Eldorado (1992-93), smonach sebon wedi’i gosod yn y Costa del Brits? Croeso i fersiwn BBC Wales. Mae Pitching In yn portreadu Lloegr Fach ar arfordir Môn, gyda Mancunians a ‘locals’ smala o’r Cymoedd yn cymysgu dros beint yn y Dragon cyn dychwelyd i noswylio ym maes carafanau Daffodil Dunes. Fe lwyddon nhw i wasgu golygfa o olwyn pen pwll (Mynydd Parys, Amlwch) hyd yn oed.


Wn i ddim a lyncodd LA Productions o Lerpwl gopi o “Welsh Stereotypes for Dummies” cyn ffilmio hon, ac a oedd Ben Irving, Golygydd Comisiynu BBC Cymru a’r pen bandit Rhodri Talfan Davies wedi cymryd rhywbeth wrth roi sêl bendith iddi. O leia bydd Bert a Maude o Preston wrth eu boddau pan gaiff ei dangos i weddill Prydain ar BBC One Daytime.






Mae’n hawdd anghofio bod gynnon ni sianel ddigidol benodol i Gymry di-Gymraeg ar un adeg. Daeth BBC 2W i’r fei yn 2001 cyn i ddiffyg arian ac uchelgais o'r top gladdu’r cyfan yn 2009. Mae’r archifau’n datgelu i’r sianel fyrhoedlog ddarlledu bwletinau newyddion am naw bob nos o Gymru a’r byd a documentaries and factual programmes geographically reflecting the whole of Wales… including lifestyle programmes tailored to an audience living within Welsh borders”. Mae honno, a llwyddiant ysgubol Belonging (1999-2009) am hwyl a helbulon Lewisiaid Bryncoed megis breuddwyd bellach. Byddai amddiffynwyr BBC Wales yn pwysleisio’r ffaith fod ail gyfres o Hidden wrthi’n cael ei ffilmio yn ardal ’Stiniog, ond dw i’n amau a fyddai’r ddrama dditectif du-bitsh honno wedi gweld golau dydd heb bartneriaeth Craith S4C.


Yakee Darr from Anglesea butt!



BBC Scotland i weddill Prydain:
Sky 457
Freesat 108
Virgin 162