Accéder au contenu principal

Articles

Affichage des articles du octobre, 2011

Ci tawel...

Mae slot naw nos Sul yn sanctaidd i bawb sy’n sgit am ddrama dda y dyddiau hyn. Rhwng Spooks ar BBC1, Downton Abbey ar ITV, a Gwaith/Cartref ar S4C, mae peiriannau recordio yn boeth ar sawl aelwyd y dyddiau hyn, dybwn i. Daeth anturiaethau ysbiwyr y Bîb i ben wythnos diwethaf, ar ôl deg cyfres o anturiaethau James Bond-aidd yn achub Llundain Fawr rhag ymosodiadau terfysgol wythnosol o du Iran, Rwsia neu hyd yn oed eu staff eu hunain. Lol botes ond lot o sbort a dihangfa lwyr cyn wythnos waith arall. Er nad oes gen i daten o ddiddordeb mewn drama gyfnod am drigolion a gweithwyr tŷ bonedd yn Lloegr adeg y Rhyfel Mawr, mae ITV wedi synnu’r byd a’r betws gyda chyfres sebon sy’n diferu o safon a’r Fonesig Maggie Smith. Ac yn drewi o bres. Gyda chyllideb o bron i filiwn o bunnoedd y bennod, all cynhyrchwyr dramâu Cymraeg ond ochneidio a breuddwydio am y fath bres. ’Sgwn i a wnaiff Prif Weithredwr newydd y Sianel ddenu ei gysylltiadau Americanaidd i wario’u doleri mewn drama Gymraeg?

Roedd dr…

Dim trasiedi

Wel, dyna ni. Mae’r freuddwyd ar ben. Y gobaith a’r garwriaeth fawr wedi chwythu’i phlwc, a’r holl groesi bysedd am wythnosau yn ofer. Ond dyna ddigon am briodas Meic ac Anita Pobol y Cwm. Mae’r Gêm Fawr anenwog honno fore Sadwrn diwethaf yn dal i frifo a hawlio sylw’r wasg a’r cyfryngau, gweplyfr a’r trydarfyd. Tra’r oedd Francois Pienaar, cyn gapten y Springboks ac un o gyfranwyr Rugby World Cup 2011 ITV yn gandryll gyda’r cerdyn coch, roedd Robert Jones, ein cyn-gapten ni yn cytuno â chosb y dacl gwaywffon mewn cyfweliad â Radio 5 Live. Ond mae un peth yn bendant. Dwi’n falch fod y dwli drosodd. Na, nid ymdrech lew gŵyr Gatland, rhag ofn i mi gael negeseuon bygythiol gan yr FWA – Free Warburton Army – ond ffug-gefnogaeth y Saeson. O David Cameron yn chwifio’r ddraig goch uwchben 10 Downing Street i olygyddion yr Independent a’r Guardian a benderfynodd fod Cymru’n cŵl unwaith eto, roedd yr ymateb yn chwerthinllyd a nawddoglyd ar y naw. Ddyddiau’n ddiweddarach, rydyn ni’n gollwrs sâl…

Aiya Aber Napa

“RHYW! RHEGI! NOETHNI! reit o’r cychwyn cyntaf ar S4C!!” - brawddeg sy’n siwr o wneud i lafnau smotiog yn eu harddegau sgrialu i wylio’r teledu 42 modfedd ym mhreifatrwydd eu llofftydd, ac i Mrs Jones Llanrug stelcio Taro’r Post drennydd. Chwerthin wnes i, gan fod ebychiadau cyhoeddwr y Sianel yn atgoffa rhywun o hysbysebion b-movies echrydus o America’r 1950au (“See Barbaric Beauties!!” “Female Love Slaves!!”).

Nid bod Zanzibar, cyfres ddrama newydd sbon sydd wedi’i gosod mewn bar myfyrwyr y Coleg ger y Lli mor erchyll â hynny. Ddim o bell ffordd. Ond roedd rhywun yn teimlo fel petai’r sgriptwraig yn trio’n rhy galed i godi gwrychyn. Agorodd y sgript gyda’r gair “ff”, a chafwyd sawl golygfa o glecian diodydd a llyncu pils i gyfeiliant tecno ailadroddus - rhag ofn nad oedden ni’n deall bod “bywyd yn barti” i’r criw, chwadal y cyhoeddwr rhaglenni byr ei wynt. A do, fe gawsom ni olygfa o’r dywededig hanci panci yn y pum munud agoriadol, wrth i ddau gariad ifanc ladd amser rhwng dau drên.…

Merch o'r Sblot

Breninhes y secwins a pherfformwyr drag, primadona sy’n peltio caneuon James Bond - mae’r Fonesig Bassey o Tiger Bay yn enwog amdanyn nhw i gyd. Ac roedd yr elfennau hynny’n rhan o’r ddrama unigol Shirley gan BBC Cymru-Wales ar gyfer rhwydwaith BBC Two nos Fercher diwethaf, fel teyrngedau tebyg y sianel i Kenneth Williams, Hattie Jacques, Enid Blyton a Margaret Thatcher yn y gorffennol. Heblaw am y busnes Tiger Bay ’ma. Prin dwy flynedd dreuliodd Shirley fach yno mewn gwirionedd, fel y dangosodd y golygfeydd agoriadol ohoni hi a’i theulu’n llusgo’u bagiau ac ambell ddodrefnyn i ran arall o’r brifddinas dan gwmwl. Ond mae’r lleoliad chwedlonol gwreiddiol yn swnio’n tipyn gwell a mwy rhamantus na Sblot tydi? Dros 70 munud wedyn, fe’i gwelsom yn ennill swlltyn neu dda yn canu Stormy Weather yn nhafarndai’r gweithwyr lleol cyn bwrw’i swildod mewn clyweliadau yn Llundain fawr, troi’n hen jadan ifanc i’w rheolwr Michael Sullivan gan fynnu côt minc a brecwast siampên, cefnu ar ei baban adref…

Hitler yn Ffair Llanllyfni

Peth rhyfedd a phersonol iawn ydi hiwmor. Bythefnos yn ôl, roedd Nia Roberts a’i gwesteion ar y radio yn dathlu 30 mlynedd ers cychwyn un o binaclau comedi Prydain. Meddan nhw. Yn bersonol, roedd giamocs Del Boy a Rodney Only Fools and Horses mor ddoniol â chlwy’r marchogion (peils i chi a fi). Roedd Teulu’r Mans ddechrau’r nawdegau hefyd yn wrthun i mi, er bod fy ffrind ysgol ar y pryd, un o hogia’ Dre Llanrwst a oedd fel rheol yn troi’i drwyn ar bopeth Cymraeg, wedi mopio ar berfformiadau gwallgof Emyr Wyn a’r criw. Rhyw dair wythnos yn ôl, anwybyddais raglen gomedi newydd sbon yn slot marwaidd 6.30pm sydd fel arfer wedi’i neilltuo i Catrin, Lyn a Gwyn o’r 80au pell. Er gwaetha’ cyfres o hysbysebion byrion, doedd DimByd ddim yn apelio. Roeddwn wedi cymryd mai rhaglen rad-a-chas oedd hi, yn llenwi’r bwlch cyn i Angharad, Siân neu John ddechrau’r noson go iawn am saith. Ond yn ara’ deg a bob yn dipyn, dechreuais amau ’mod i’n colli clasur diolch i ymatebion canmoliaethus ar dafod lefe…