Accéder au contenu principal

Articles

Affichage des articles du mai, 2011

Rhywbeth yn dechrau efo... "T"

Cân y foment i mi ydi “Mi wela i efo fy llygad bach i” gan gantores o Fôn sydd bellach yn Llydawes anrhydeddus. A llythyren gyntaf gair y foment - os nad y flwyddyn - ydi “T”, ys canodd Lleuwen. Yr hen air ailadroddus sy’n bla dros benawdau newyddion yn ddyddiol bron. Na, nid ‘t’ am y ‘twit’ Giggs yn twitter, ond ‘toriadau’. O’n hunig Swyddfa Basport cenedlaethol i’r gwasanaeth iechyd gwladol a’n hysgolion gwledig, mae’r fwyell yn taro’n galed. Mae toriadau S4C yn hysbys i bawb bellach. Ond yn union wedi’r llygedyn o obaith ym mhenodiad Huw Jones fel Cadeirydd Awdurdod y Sianel, daeth swadan arall i’r byd cyfryngau Cymreig. Ydy, mae’n ymddangos fod meistri Broadcasting House yn gofyn i BBC Cymru Wales arbed 20% o’i choffrau. A’r hyn sydd wedi dychryn a digio cymaint yw’r awgrym y gallai darllediadau byw o Sioe Llanelwedd a’r Brifwyl ddiflannu’n raddol o Radio Cymru, ac y bydd Week in Week Out a’r Politics Show Wales yn dod i ben yn llwyr. Mae’r sgrifen ar y mur ers sbel. Eisoes, dango…

Coctel Comiwnyddol

Wythnos arall, cyfres arall hefo enwogion ar grwydr ar S4C. Ond diolch byth, nid cyfres arwynebol o sgleiniog fel Piers Morgan yn ymweld â biliwnyddion y byd ar ITV mohoni. Mae Yr Ynys (Green Bay) ganmil gwell na hynny ac yn perthyn i bedigrî Yr Afon.

Mae’n rhaid bod Cerys Matthews wedi plesio’r cynhyrchwyr wrth ddilyn trywydd y Mississippi bryd hynny, gan ei bod wedi cael tocyn awyren arall. Ac fel y Manic Street Preachers o’i blaen, mae’n ffan mawr o’r ynys sofietaidd yng nghanol môr y Caribî. Rydyn ni’n hen gyfarwydd â’r cliché Ciwbaidd - Castro, Cadillacs, a Sigârs - ond a fyddai’r rhaglen hon yn dweud rhywbeth newydd wrthym am yr hen rebel comiwnyddol sydd wedi codi dau fys ar Yncl Sam ers bron i hanner canrif, ac sydd â gwasanaeth iechyd a disgwyliad oes gwell nag America fawr?

Do, mi gychwynnodd Cerys trwy gofleidio rhai o’r cliché uchod, wrth deithio drwy brifddinas liwgar, adfeiliog, Havana mewn hen dacsi o’r 1950au. Cawsom daith i hen bentref pysgota Varadero yng ngogledd yr y…

Tipyn o sioe

Mae tymor y sioeau amaethyddol wedi cychwyn, a Dai, Shân Cothi a Russell Jones eisoes wedi cyflwyno uchafbwyntiau Tyddyn a Gardd/11 o Lanelwedd. Alla’ i fentro fod y rhaglen wedi denu’r gwylwyr wrth eu miloedd, gan gynnwys canran fawr o’r di-Gymraeg yma a thros glawdd offa sy’n dilyn Cefn Gwlad a Ffermio yn rheolaidd – ac sydd wedi ’laru ar bwyslais Countryfile ar dwristiaeth wledig. Gwn am sawl ffermwr yn y de-ddwyrain sy’n wylwyr ffyddlon trwy’r botwm 888. Yr un fath ydi hi efo Pobol y Cwm. Piciwch i dudalen sylwadau’r wefan, ac fe welwch chi ymateb gan selogion sebon o Lundain, Swydd Efrog a Cumbria. Maen nhw’n gyfranwyr gwell o lawer na’r Cymry cynhenid.

Wythnos diwethaf, cynhaliwyd sioe Cwmderi ar fuarth fferm Penrhewl. Wedi blwyddyn gythryblus a thywyll yn hanes (unig) fferm y pentref, rhwng iselder, colli arian a’r fuches gyfan i TB, roedd hi’n hen bryd i’r haul wenu ar y Reesiaid. Do, fe enillodd Eifion gwpan am y ddafad orau - er na chafwyd bŵ na bref mohoni, ac enillodd Eilee…

Gair i gall

Dyma gri o’r galon i un o gyflwynwyr ifanc gorau S4C. Mae’n hen, hen, bryd i Mari Lovgreen roi’r sac i’w hasiant. Ar ôl dysgu’i chrefft ar Uned 5 cyn dod yn wyneb cyfarwydd a phoblogaidd ar faes yr Eisteddfod a Noson Lawen, mae pethau wedi mynd yn giami ar y naw i’r gochen o Gaernarfon. Dwi wedi dweud fy nweud digon eisoes am Cyfnewid. A bellach, mae wedi canfod ei hun Ar Gamera gyda Rhodri Ogwen Williams, sbloets nos Sadwrn y Sianel sy’n codi hiraeth am ddyddiau’r Brodyr Bach. “Cyfres adloniant ddireidus” ydi broliant y wefan, gyda chymysgedd o gamerâu cudd yn tynnu coes y cyhoedd, gwesteion arbennig fel Colin Jackson, Tara Bethan a Ryland Teifi, a gemau amrywiol i’r gynulleidfa. Swnio’n dda – ar bapur efallai. Neu ar gefn mat cwrw yn y Conway neu’r Cameo ar noson fawr i staff cwmni Alfresco, yn ôl yr hyn a welais hyd yma.

Mae’r stiwdio’n wirioneddol od, gyda llong ofod yn hongian uwchben y gynulleidfa sy’n eistedd mewn dwsin o geir Saab-heb-do a beiciau modur – cyfuniad anesboniadwy…

Pwy sy'n perthyn?

“Un o le 'dach chi?”

“Da chi’n perthyn i hwn a hwn?”

Ie, y cwestiynau nodweddiadol ar faes y Steddfod, y Sioe Fawr neu’n Seland Newydd, fel y profodd cyfaill o Rydaman yn ddiweddar wrth gwrdd â dyn o’r Tymbl ar fin gwneud naid bynji. Ac yn achos y cyfryngau Cymraeg, pwy sy’n fab/merch i bwy ym myd clique-aidd CF5. Fel cenedl fusneslyd, mae’n syndod nad oes rhaglen hel achau wedi bod ar S4C cyn hyn. Maen nhw’n wirion o boblogaidd ar y sianeli Saesneg ers oes pys, o Who do you think you are? y BBC i’r marathon dagreuol Long Lost Family ar ITV. Ac mae BBC Wales wedi cynhyrchu pum cyfres o Coming Home, sy’n helpu enwogion i ddysgu mwy am ei gwreiddiau Cymreig, fel yr actores Hollywood Susan Sarandon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Christopher All Creatures Greatand Small Timothy yn y Bala, a’r colofnydd Janet Street-Porter yn Llanfairfechan. Efallai fod yna rhyw elfen sadistaidd ynom yn ysu am weld ymateb rhyw celeb i’r ffaith fod chwaer-yng-nghyfraith cefnder ei nain yn butain ers talwm, neu…

Lawr ar lan y môr

Fuoch chi erioed mewn parti ble mae rhywun yn tawelu’r disgo ac yn mynnu sylw pawb gyda rhyw gyhoeddiad neu araith fach emosiynol. Na fi chwaith. Hawlio’r bar neu’r ciw vol-au-vent fydd hi yma. Ond mae pethau’n wahanol mewn dathliadau dramâu teledu. Mae Garry Monk o bawb yn dipyn o areithiwr/bôr partïon bellach, fel yn nathliad dyweddïad ei chwaer Britt a Siôn White yn Newcastle bell - sy’n swnio tipyn Cymreiciach na’n Newcastle Emlyn ni, yn ôl penodau diweddar ‘Geordies y Cwm’. Ac yn nrama newydd nos Sul, roedd sylw partïwyr Porthpenwaig wedi’i hoelio ar Ynyr ap Hedd a’i dri - ia, TRI - llwnc destun i’w sgolor o fab, Huw Ynyr, a’i ddarpar wraig ifanc. Mab sydd, gyda llaw, yn simsanu rhwng dwy ferch a dau Fae - rhwng Gwenan ei gariad bore oes a dyletswyddau teuluol ym mae Aberdaron (sori, Bae Porthpenwaig) a’i flonden ar y slei a gyrfa newydd ym mae Caerdydd.

Croeso i westy’r Angor mewn pentref glan môr ym Mhen Llŷn, gyda llond lle o Gymry glân a checrus, ‘fusutors’ trafferthus, Ficer …