Hen wlad fy mamau




Mi fuaswn i wedi leicio cwrdd â Jennie EirianDavies, fel cyd-golofnydd teledu prin yn y Gymraeg. Y Cymro yn ei hachos hi, rhwng 1976 a ’78, lle byddai’n “mynegi ei phryderon am y diffyg oriau darlledu Cymraeg a'i siom o weld mai yr hyn a alwai'n ‘gawl eildwym’ oedd y rhan fwyaf o'r rhaglenni a gaed yn y Gymraeg”. Mi fyddai wedi cael haint efo Ffasiwn Bildar heddiw. Beth fyddai ei hymateb i S4C ffwl sdop, a hithau’n un o’r cenedlaetholwyr prin iawn iawn hynny oedd yn dadlau yn erbyn sefydlu un sianel benodol Gymraeg, fel yr Athro Jac Lewis Williams a honnai “y byddai Cymry di-Gymraeg yn colli cysylltiad â’r diwylliant Cymraeg”? Mae’r hysteria diweddar am isdeitlau wedi’u sodro ar y sgrin adeg wythnos Gŵyl Ddewi yn profi’r pwynt (arbrawf da, amseru gwael drybeilig fel IDS i Cameron) - ymgyrch hysbysebu ar S4C yn unig, lle dylai trêls ‘Bob’ fod wedi ymddangos ar BBC ac ITV Cymru Wales neu hyd yn oed Sky1. Yr un fath â chyfresi’r dysgwyr fel Cariad@Iaith a ddylai gael cartref ar y naill sianel Saesneg neu’r llall. Ond dw i’n mynd ar wasgar rŵan...
Ond yn ôl at Jennie Eirian - golygydd styfnig Y Faner (1979-82) fu’n “fforwm golau i wyntoedd croesion y 1970au” (Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru). Fforwm fu hefyd yn sail i domen o lythyrau cas gan nashis amlwg y cyfnod. Cymru fach, Cymru filain, fel yr ategodd Gwilym Owen. Mae’n bosib mai hynny, a’i hymrwymiad i berffeithrwydd bob amser yn ei gwaith, arweiniodd at ei marwolaeth annhymig ym mis Mai ’82. Dyna oedd canolbwynt drama-ddogfen Jennie gyda Rhian Morgan a ddarlledwyd 7 mlynedd yn ôl (lle ddiawl aeth yr holl amser?). Fel y dywed Branwen Jarvis yn y rhaglen honno, “Roedd Jennie yn byw mewn cyflwr o densiwn - y tannau oedd wedi eu tynnu mor dynn - ac mae tannau tynn yn torri.”
 
Elfennau eraill o’i bywyd gafodd sylw Mamwlad gan Ffion Hague yr wythnos hon. Atgofion ohoni fel plentyn yn Llanpumsaint, fel gwleidydd (ymgeisydd Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru a gipiodd 7.8% o'r bleidlais yn Etholiad Cyffredinol 1955, ac 11.5% yn isetholiad ’57) fel golygydd Y Faner ac fel ffrind. Diolch i’w mab, Siôn Eirian am ei gyfraniad dewr a thorcalonnus, wrth gofio’r adeg pan giciodd ddrws y bathrwm i weld ei fam wedi cael gorddos, a chau’r drws er mwyn sbario’i dad.
Dyma gyfres berffaith ar gyfer nos Sul, cyfres sy’n codi cwr y llen ar ferched/menywod amlyca’ ein gwlad fach angof sy’n gwybod mwy am Florence Nightingale na Betsi Cadwaladr, Emmeline Pankhurst ar draul Margaret Haig. Oce, mae’r “actoresau” sy’n ail-greu’r cymeriadau hynny yng ngwisg yr oes yn boenus o brennaidd a diangen ar adegau. Ond pa mor ddeheuig ydi Mrs Hague fel hanesydd-gyflwynydd, yn mynd o le i le yn ei BMW-heb-do a holi myrdd o arbenigwyr (benywaidd yn bennaf, wrth reswm) difyr newydd yn lle’r un hen rai o fyd academia Bangor/Aber? Nid bod pob cyfranwraig yn plesio’r gwylwyr-gweld-bai chwaith, pan gyfeiriodd un at y ffaith fod ’rhen Betsi (yr honnwyd ei bod yn hoyw) yn edrych yn debyg i ddyn. Wps a deis.
Berig ’mod i’n disgwyl gormod gan ein cwricwlwm Eingl-ganolog, ond dw i’n wir obeithio bod Mamwlad yn rhan o adnoddau Hanes ein hysgolion.
 
 



Sesiwn ola



Mae Radio Cymru yn gymar anhepgor ar ein ffordd drol genedlaethol rhwng y De a’r Gogledd. Ar bnawniau-nos Sul yn bennaf. Y Radio Cymru draddodiadol hefyd, llawn sgyrsiau, cerddoriaeth werin, byd y Pethe Dei Tom, a Dai Jôs â’i hen ganiadau a chyfarchion pen-blwydd Meri Pen Doman i Wil Tŷ Clawdd. Ond fydd yr elfen werin ddim yn gyfeiliant i droadau chwil Caersws mwyach. Diolch i ailwampiad Betsan Powys o ddechrau Ebrill mlaen, fydd dim mwy o Sesiwn Fach ar y radio gyfaill. Yn hytrach, bydd nostalgiafest John Cofio Hardy a rhaglen hys-bys, caneuon a chyfarchion Hywel Gwynfryn yn rhoi cic owt i Idris Morris Jones a’i gyfoeth gwerin Cymru a’r byd. Pan nad oedd rhyw gêm rygbi/bêl-droed bwygilydd wedi tewi IMJ yn barod. Diolch i’r Sesiwn Fach, dw i wedi clywed am Jamie Smith’s Mabon am y tro cyntaf, a mopio arnyn nhw ac eraill fel 9Bach am roi cot o baent ffres i’n tiwns traddodiadol ni. Roedd Gwlad y Gân, cyngerdd agoriadol gŵyl Womex ar S4C gyda’r pethau gorau a welais erioed, yn gymysg o Cerys, Cass Meurig, Patrick Rimes a’r bytholwyrdd Sian James i enwi dim ond rhai. Mae Calan yn mynd â cherddoriaeth Gymraeg i’r Unol Daleithiau, ein hartistiaid yn ennill gwobrau gwerin Radio2, a chynlluniau diweddar megis 10 mewn Bws a Thŷ Gwerin ar faes y Brifwyl yn arwydd o gyffro newydd yn ein sin angof o gymharu â’r Gwyddelod a’r Albanwyr.


Dyna sy’n gwneud clec Betsan Powys yn odiach ar y naw. Yn rhoi’r fwyell i’r rhaglen pan mae pethau gwirioneddol ar i fyny, yn hytrach na'n sdyc yn nyddiau Ar Log. Dw i’n siŵr ei bod hi’n barod i amddiffyn y ffaith fod Georgia Ruth yn dal i genhadu yn “slot newydd bob nos Fawrth... fydd yn cynnwys cerddoriaeth byd a gwerin”.  Yn union fel ei hen slot nos Iau, felly. Peidiwch â chamgymryd. Dw i’n ffan o Georgia Ruth (“pwy yw’r George a Ruth hyn?” holodd cydnabod un tro, fel petai o’r un stabal â John ag Alun) ond pam na chawn ni DDWY raglen werin benodol ar yr unig orsaf Gymraeg sydd ganddon ni? Mi glywn ni ormodedd o recordiau Saesneg yng nghanol rai Cymraeg gan Marci Jî, Ifan Jones-Evans, Wil Morgan a’r pigyn clust ’na bob pnawn o ddau tan bump. Ond mwy o werin gwlad? No way.

Mae Guto Rhun ar fin diflannu o slot nos Lun a nos Wener oherwydd “...bod nifer y bobol ifanc rhwng 15 - 24 oed sy'n gwrando, cynulleidfa darged wreiddiol C2 - yn isel.” Does dim sôn mai ffigurau gwrando siomedig sy’n gyfrifol am dranc Sesiwn Fach. Byddai’n anodd iawn iawn gen i gredu hynny beth bynnag.

Felly, diolch o galon i Idris Morris Jones a’i westeion, ei adolygwyr a’i sesiynwyr byw am leddfu rhywfaint ar deithiau’r A470 ar hyd y blynyddoedd. A rhag eich cywilydd chi ben bandits Radio Cymru.















Tewach na dwr

 
Thicker than Water is the archetype of a Swedish drama series. It is a well acted family drama about secrets and lies, filmed in a beautiful archipelago where time seems to have stood still
- Johanna Hagström, Göteborgsposten

Thicker than water is this Winter’s big Swedish drama series on SVT. It immediately found its audience, over a million viewers for each of the first two episodes
- Anders Björkman, Expressen

 
Barn dau o bapurau newydd Sweden ar un o lwyddiannau diweddara’r wlad, a ffefryn personol newydd bob nos Iau ar More4. Saga deuluol am ddau frawd a chwaer (cecrus wrth gwrs) sy’n uno am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, wedi’i i’w mam wneud amdani’i hun i ddianc rhag poen ei chanser terfynol. Wedi’r angladd a’r gobaith am bres etifeddol handi i ddychwelyd i’w bywydau unigol blaenorol, mae’r fam yn gollwng un daranfollt olaf - trwy fynnu bod Oskar (rheolwr llety gwyliau), Anna-Lisa (mân actores) a Lasse (perchennog bwyty mewn llanast ariannol) yn cydweithio i greu llwyddiant o’r busnes gwely a brecwast teuluol dros yr haf, neu golli’r cyfan. Ond wrth geisio uno’r teulu eto, mae’r diweddar fam mewn perig o godi cythraul o nyth cacwn a chyfrinachau gwaedlyd ar y naw. Mae’r tad treisgar ar goll ers oes pys gyda llaw. Ac mae Oskar yn gynddeiriog o gyndyn i adael i’w frawd a’i chwaer garthu ac adfer yr hen bwll nofio er budd y busnes...
Sdim angen Einstein i feddwl beth ddigwyddith nesaf. Brookside o wlad Björn Borg unrhyw un? Mae hefyd yn eitha tebyg i’w chwaer gyfres Danaidd mwy arty The Legacy a welwyd ar Sky Arts (yn naturiol ddigon) y llynedd.
Hapus dyrfa? Arvingerne / The Legacy (DR)
 
Ond mae Tjockare ân vatten wedi’i hactio’n wych a’r golygfeydd bendigedig o ynysoedd Åland ganol hirddydd haf yn bleser pur, gydag arlliwiau melyn y camera yn ategu hynny.
Llwyddiant arall o stabl Walter Presents Channel 4 sy’n cynnig detholiad o oreuon tramor benben â dramâu isdeitlog BBC Four. Arlwy arall o Sweden sydd gan Walter nesa hefyd, drama wleidyddol waedlyd Blue Eyes i gymryd lle’r un Ffrengig ddaeth i ben yn ddiweddar. Mae’n edrych yn dda latsh. Ac wrth gwrs, does dim pwysau i wylio cyn amser penodol na thalu tanysgrifiad arbennig, gan fod bocset cyfan ar wefan Walter Presents. Am ddim, cofiwch. Tak!
 
 
 


Y llwybr lawr i'r Dyffryn





Iesu, mae hon yn dda. Dim ond un bennod i fynd, a does gen i ddim ewinedd ar ôl i’w cnoi. Mae llofrudd puteiniaid y cylch wedi’i ddal (am wn i), y Ditectif Sarjant laddodd ei feistres ar fin cael ei ddal (tybed?) a’r cynorthwyydd dysgu arswydus am dalu’r pwyth yn ôl i’r Sarjant Catherine Cawood druan am garcharu ei heilun Tommy Lee Royce o gyfres 1. Welais i mo’r gyfres gyntaf chwaith, gan fod mwy na digon o ffraeo a gwrthdaro yn fy mywyd go iawn ar y pryd (cymdogion y fall) i ddioddef mwy o’r un peth ar deli bocs yr aelwyd anghynnes. Heddiw, dw i’n llawer hapusach fy myd, ac wedi ’machu gan abwyd dramatig Sally Wainwright (enillydd BAFTA Last Tango in Paris).
 
Happy Valley ydi un o’r ychydig bethau dw i’n eu gwylio’n ‘fyw’ y dyddiau hyn, yn hytrach na dal i fyny’n hwyr ar ôl pawb arall. Ydi, mae’r testun yn dduach na du, a chymeriadau da yn mynd drwy’r felin mewn cymuned fechan yng ngorllewin Swydd Efrog. Mae’n debyg bod problem gyffuriau Calder Valley wedi peri i heddlu go iawn yr ardal ei hailfedyddio’n “Happy Valley”.

Mae deialog Ms Wainwright yn llifo fel mêl, a Sarah Lancashire yn giamstar ar bortreadu’r Sarjant Cawood â phwysau’r byd ar ei sgwyddau mamol. Mae’r golygfeydd niferus ohoni’n rhannu panad (Yorkshire Gold, siawns!) smoc a sgwrs efo'i chwaer Clare (Siobhan Finneran), a gododd o bydew alcohol a heroin, a hyd yn oed yr actorion ieuengaf fel Rhys Conna (Ryan, ŵyr Catherine), yn gwbl gredadwy a naturiol braf. Ac i goroni’r cyfan, mae’n Euros Lyn ni yn rhan o’r criw cyfarwyddo.




A dw i dal i amau'n gryf ai’r hogyn farm syml ’na oedd y llofrudd go iawn hefyd...

Con i Gymru




Cân am slebog o ferch, angst am “fwg a cholur, pocedi gwag a dillad budr”, David Gray Cymraeg yn mwydro am ganhwyllau, molawd i Bale a’r bêl, y bêl a Bale, doli o Fethel yn sibrwdganu allan o diwn, Samariaid Sir Fôn a phibydd druan yn gorfod cystadlu yn erbyn hogan sy’n camgymryd y meic fel megaffon.

Blwyddyn arall, Celtvision arall. Wnes i ddim sbio’n fyw eleni, dim ond braswylio drwy iplayer (sori, oedd safon llun S4C/Clic yn uffernol). A gwingo. Oes, ma ’na dîm proffesiynol wrth y llyw erbyn hyn, diolch i Elin Fflur a Trystan Twitter Ellis-Morris, a lot lot mwy o bwyslais ar negeseuon trydar y gynulleidfa (feddwol?) adra. Yn wir, mi awn mor bell a dweud mai twitter sy’n cynnal Cân i Gymru heddiw, a’r canu ei hun megis hen grwndi sy’n mynd ar eich nerfa chi mewn tŷ bwyta. Does ryfedd i’r cerddor Ynyr Llwyd ffonio Taro’r Post ddydd Llun i alarnadu bod y syrcas bellach yn destun sbort a Ddim Fel y Buodd Hi. Ategwyd hyn i’r dim gan bol piniwn y gwylwyr o gân orau’r gystadleuaeth ers geni S4C. Dim ond ers 1982 cofiwch, er bod CiG wedi merwino’r glust ers i Margret Wilias ennill efo’r ‘Cwilt Cymreig’ ym 1969. Ond chwarae teg, bu ambell berl yng nghanol y moch. Gan gynnwys tiwns Arfon Wig, sori Wyn. Beth bynnag ddeudwch chi am y boi, mae o YN gallu sgwennu tiwns bachog. O’r 8,500 o bleidleisiau ar-lein ddaeth i law, dyma’r deg ucha:


10. Cae o Yd, Arfon Wyn (2000)

9. Nid Llwynog oedd yr Haul, Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd (1982)

8. Gloria Tyrd Adra, Llion ac Euros Jones (1987)

7. Cerrig yr Afon, Iwcs a Doyle (1996)

6. Dagrau Tawel, Meinir Richards a Tudur Dylan (2004)

5. Galw amdanat ti, Mirain a Barry Evans (2014)

4. Harbwr Diogel, Arfon Wyn a Richard Synnot (2002)

3. Y Cwm, Huw Chiswell (1984)

2. Gofidiau, Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts (2009)

1.  Torri’n rhydd, Steffan Rhys Williams (1999)




Roedd sawl peth yn boenus o amlwg o wylio’r archif. Y ffaith fod mwy o wmff i raglenni’r gorffennol, gyda chynulleidfa glapiog swnllyd mewn hen siediau ym Mona, Corwen neu Bontrhydfendigaid. Dw i wedi gweld mwy yng nghynulleidfa Pawb a’i Farn na’r hyn fentrodd i stiwdio’r BBC yn Llandaf nos Sadwrn. Cyfaddefiad. Bues i’n rhan o dyrfa fawr Corwen ganol y nawdegau, a do, mi oedd yna ryw FWRLWM yno. Peidiwch â gofyn pwy enillodd chwaith, ond roedd Melys ymhlith y dewrion wedi'u dallu gan siec o ddeg mil a'r cyfle i gynrychioli'u gwlad mewn steddfod dafarn yn Killarney. Cof arall o’r noson oedd gweld Caryl yn meimio o’r cyrion fel un o famau gorawyddus rhagbrofion yr Urdd wrth i genod Eden fynd drwy’u pethau ar y llwyfan.

Efallai bod ffasiwn yr 80au yn erchyll, ond roedd y caneuon yn blydi dda a chofiadwy. Heddiw, mae’r ffasiwn wedi gwella ond y caneuon yn ddifrifol ac yn hollol angof erbyn y credits clo. Prifeirdd oedd awduron ddoe. Tydi rhai heddiw’n methu treiglo nac odli i achub eu bywydau.

A sut gythgam doedd hon ddim yn y deg ucha? Ffans Sobin a Bryn Fon, dw i wedi siomi ynoch chi.

Sownd!




Pwy ydi seren newydd y bloc Nordic? Ísland, gwlad fu’n enwocach cyn hyn am y gantores honco Bjork, seiniau breuddwydiol Sigur Rós, ei chymylau folcanig trafferthus, ei ffynhonnau poeth, brwydr y banciau a’i seigiau pen dafad. Dwi’n ffan mawr o nofelau ditectif Arnaldur Indriðason ers sbel, ac wedi llwyddo i weld addasiad ffilm o un gyfrol yn arbennig. A rŵan, mae’n rhan o chwedloniaeth Sadyrnol BBC Four gyda Trapped – cyfres dditectif a dirgelwch y llofruddiaeth wrth i storm a chwymp eira gaethiwo’r trigolion lleol theithwyr llong bleser o Ddenmarc yn nociau’r hen dre ’sgota sy’n swatio dan fynyddoedd sy’n gwneud i’r Wyddfa ymddangos fel twmpath twrch daear. Tydi hi ddim yn yr un cae (fjord?) â The Bridge, ond mae Andri a Hinrika yn ddiawl o dîm da os digri’r olwg. Nid bod hynny wedi rhwystro’r Guardian rhag bedyddio Ólafur Darri Ólafsson yn bishyn mawr blewog chwaith.
 




Dyma gyfres deledu ddrutaf erioed Gwlad yr Ia meddan nhw, a gostiodd tua 1 biliwn krónur (dros 6.5 miliwn ewro) i’r cwmni cynhyrchu RVK Studios - buddsoddiad sy’n siŵr o dalu’i ffordd wrth i fwy a fwy o wledydd y byd brynu’r tapiau darlledu.

Swatiwch, goleuwch ganhwyllau, trowch y botwm gwres canolog i fyny a mwynhewch.


Seyðisfjörður - lleoliad hudolus, iasol, y gyfres

Byw Cecru















A dyna ni. Bythefnos-dair ar ôl pawb arall, dyma benderfynu gwylio pennod ola Byw Celwydd neithiwr. Borgen y Bae, bach o secs a sglein ar nos Sul, llwyddiant lle methodd James Bond, a gobaith mawr y ganrif (wel, ddechrau 2016 o leiaf) i’r ddrama deledu Gymraeg yn wyneb och a gwae am ansicrwydd ariannol y sianel. 


Roedd ’na gryn edrych mlaen at hon, noson lansio swanc yn y Senedd, cyffro mawr ymhlith y twitteratis – llawer yn ddi-Gymraeg – a sylw gan bapurau’r Independent, y Guardian a’r Daily Mail. Nid bod hynny’n dda i gyd wrth gwrs. Ond roedd yr hysbysebion yn addawol, pobl ddel mewn swyddfeydd gwydr (“tryloyw” ydi jargon yr ACau) a chartrefi o dudalennau Home and Garden, a'r haul wastad yn tywynnu’n syth o Teulu. Sy’n addas iawn, gan mai Meic Povey a Branwen Cennard ydi tad a mam opera sebon y Cynulliad hefyd.


Roedd 'na gystadleuaeth ffyrnig yr un pryd, gydag addasiad Andrew Davies a BBC Wales o’r epig Rwsiaidd War & Peace mlaen ar BBC1, y ditectif tebol Vera ar ITV, a Channel 4 yn darlledu'r anturiaethau ias a chyffro o boptu wal Berlin yn Deutschland 83. Ond be ‘di’r ots am hynny mewn gwirionedd, yn oes y dal i fyny ar bob dyfais sy’n bod? Wrth i nosweithiau Sul stormus y gaeaf fynd yn eu blaenau, Leo Tolstoy gydag acenion Oxbridge gafodd y flaenoriaeth ‘fyw’ yn Chez Dyl. Dyma chi pam.


Y lliw di’r cliw Penderfynodd y cynhyrchwyr y byddai holl gymeriadau newydd y bennod gyntaf yn drysu’r gwylwyr yn rhacs, felly dyma ddefnyddio cod lliwiau i ddangos pwy di pwy, ac i ba blaid maen nhw’n perthyn. Ac wele swyddfeydd gyda chadeiriau, geriach Ikea, ffeiliau, potiau beiros gwyrdd/oren/glas, a hyd yn oed ambell ddilledyn pleidiol. Nawddoglyd? Welsh Assembly for Dummies? Barnwch chi.

Ar garlam Fel un sydd wedi hen arfer a dramâu dow-dow, Mad Men y byd â’u golygfeydd hirion, llawn seibiau, a fawr ddim yn digwydd nac yn cael ei ddweud ar yr olwg gynta - ond yn gyfoethog o ddarllen rhwng y llinellau - roeddwn i’n gweiddi “newidiwch i gêr is” wrth wylio BC.  Unwaith eto, rhyw ddiffyg parch at y gwyliwr o feddwl y byddai’n prysur golli diddordeb wrth ymhél â gormod o bolitics. Do, fe gawsom ambell i gynllwynio mewn meysydd parcio tanddaearol (ai felly ma pethau go iawn?) a sawl cyfyng-gyngor am driniaeth GIG neu sbytu preifat, a throi darn o fynydd Epynt yn gae chwarae i filwyr Israel, ond bitsio a boncio oedd prif fyrdwn y gyfres.  Sy’n dod â ni’n dwt at...

Cicio a brathu Fel ei rhagflaenwyr Iechyd Da a Teulu, roedd ’na gryn wrthdaro fama. Iawn, tsiampion. Wedi’r cwbl, “heb wrthdaro nid oes drama” meddai’r Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth. Ond oes rhaid cael cyfres gyfan o bobl mor annifyr â’i gilydd? Angharad v Rapsgaliwn, sori Owain ei gwr; Angharad v Harri (Stephen Kinnock aka Math Gravelle); Angharad v Ei Mam (Eirlys Britton gyda gwep Happy Valley - croeso mawr iddi gyda llaw, mwy plîs!) Angharad v Angharad. Da chi’n gweld be’ sgin i. Heb son am ménage à trois Lowri-Tom-Aled. Rhyw dindroi o ffraeo a chymodi cyn ffraeo eto oedd hi braidd. Ar y llaw arall, roedd y golygfeydd prin hynny gawson ni rhwng y Prif Weinidog a’i wraig (Siân James) yn hyfryd, y ddau’n deall ei gilydd i’r dim er gwaetha’r bwlch a’r oerni ymddangosiadol. Felly hefyd y cwpl Democrataidd. Gyda llaw, onid oedd hi’n od braidd na ŵyr neb am farwolaeth eu mab ar faes y gad Afghanistan? Y Gymru Gymraeg ydi fama wedi’r cwbl, lle mae cyfrinachau cyn brinned ag ewyllys da rhwng Seimon Brookes a Sbrec.

Bai Borgen “You’ve got a lot to answer fo...” crawciodd Cerys Catatonia un tro. Y drwg ydi mod i’n gymaint o ffan o’r gyfres Ddanaidd a ddangosodd i’r byd bod mwy i ddramâu Sgandinafia na ditectifs trwblus yn crwydro warysau tywyll mewn siwmperi gwlanog. Roedd y disgwyliadau’n aruchel felly. Oedd, roedd yna gryn wrthdaro rhwng gohebwraig sianel DR a chyngor arbennig (‘SPAD’) y Statsministre, boed rhannu cyfrinachau’r senedd neu fwriad i ddechrau teulu, ond roedden ni’n malio am Katrine a Kasper. Roeddech chi’n wir gredu yn eu perthynas chwit-chwat, ac yn bwysicach oll, roedd yna sbarc, chemistry arbennig rhwng y ddau actor ifanc. Dim ond atgasedd a drwgdybiaeth lwyr oedd rhwng Harri ag Angharad tua’r diwedd. Fe welson ni’r Statsministre Birgitte Nyborg yn areithio yn senedd-dy Copenhagen hefyd, a bwysleisiodd wendid y chwaer gyfres Gymraeg o fethu â chael caniatâd i ffilmio yn Siambr ein Cynulliad ni. Dewch ’laen, Lywydd Butler...


Ond be wn i. Mae yna ail gyfres ar y gweill, y twitteratis wedi dotio, a’r gwaith ffilmio’n dechrau fis Mai yn ôl Ffion Dafis ar Dewi Llwyd ar Fore Sul. Hwyrach y down i nabod ei chymeriad, Rhiannon Roberts, yn well na’r portread un dimensiwn o arweinydd diflas a Miss Perffaith y Cenedlaetholwyr. Wnes i golli rhywbeth, ’ta hi yw’r unig un heb stori gefndir o gwbl hyd yma? Roeddwn i wedi gobeithio am rywfaint o hanes rhyngddi hi â’r cyn-nashi a’r Annibynnwr Matthew Desmond (Ryland Teifi) a enillodd isetholiad De a Dwyrain Ceredigion, ond na. Siawns y bydd yna ddatblygiad i’r cymeriad yng nghyfres 2, neu waeth i Ffion Dafis ddychwelyd i sefyll tu ôl  cownter Rownd a Rownd ddim. A tybed welwn ni aelod o blaid hiliol Prydain Annibynnol yn ymuno â’r cast, yn unol â’r polau piniwn digalon diweddar? Amser a ddengys.

 


Yn y cyfamser, dyma esgus perffaith i hel atgofion. Hej! Hej!