Showing posts with label Trysorau Cymru. Show all posts
Showing posts with label Trysorau Cymru. Show all posts

Am dro

Yr Oerfa - murddyn ger Nebo, Llanrwst

Dw i’n dipyn o grwydryn. Mae yna gyfandir mawr amlieithog, eangfrydig, tu draw i’r Sianel, a bydda i’n bachu ar bob cyfle i godi pac a mynd yno. Dw i’n trio trefnu dau benwythnos hir, y naill ym mis Mai a’r llall ddechrau Rhagfyr. Dinas heulog hyfryd Lisboa, Portiwgal aeth â hi gwanwyn diwethaf; yna Vilnius, Lithwania yn pefrio o hanes a goleuadau Dolig, a Steddfod Llanrwst yn y canol. Mae’n stori dra gwahanol eleni. Y pasbort yn hel llwch a’r bunt wantan heb ei chyfnewid am yr ewros cyfarwydd. Fues i ddim dan glo’n llwyr chwaith. Diolch i bentwr o lyfrau, rhai go iawn a’r kindle, es i Groatia (Perl gan Bet Jones), Iowa, UDA (Ynys Fadog, Jerry Hunter), fferm anghysbell yng ngogledd crasboeth Awstralia (The Lost Man, Jane Harper) ac arfordir Dyfnaint (The Long Call, Ann Cleeves). Dywedodd un neu ddau eu bod nhw wedi methu’n lân a darllen ffuglen dros y cyfnod clo. Dw i ddim yn deall hynny. Yn bersonol, roedd llyfrau’n ddihangfa hanfodol rhag Huw a’i wep gw’nidog yr Hen Gorff ar Niws at Ten, yn sôn am ffigurau a pholisïau Lloegr yn bennaf.

Mae cyfresi diweddar S4C wedi ysgogi diddordeb rhywun yn ei wlad ei hun hefyd. Fues i erioed yng nghestyll Powis na’r Waun, ond mae Elinor Grey-Williams a Tudur Owen wedi codi’r awydd yn Trysorau Cymru: Tir, Tai a Chyfrinachau. Felly hefyd Am Dro, cyfres hamddenol nos Sul lle mae pedwar tywysydd yn ceisio llunio’r daith gerdded a’r picnic gorau am wobr o £1,000 gyda stori ddifyr ac ambell gŵyn ar y ffordd. Come Dine with Me efo cagŵl os leiciwch chi. Doedd adolygydd coeglyd Golwg ddim balchach, ond mae Chwarel Rhosydd ac arfordir Bro Morgannwg ar fy rhestr fer i.

Yr Wyddfa a'i chriw

 

Yn nes adre, ardal Nant Conwy oedd uchafbwynt yr haf i mi. Nant Conwy heb fusutors, hynny yw. Yn anterth y clo mawr, roedd hi’n saffach cerdded a beicio na’r arfer ar hyd lonydd y fro. Rhyw bnawn Sul braf ym Mehefin, felly, dyma fenthyg beic mynydd fy nai hynaf (diolch, Siôn) a dilyn fy nhrwyn. O Garmel, pedlo i fyny ffordd Rhos am dopiau Nebo, a diawlio’r ail bwdin cwstard a gefais awr ynghynt. Hynod falch i mi ddal ati wedyn, gyda dim ond ambell dractor a byrnwr yn torri’r tawelwch llethol, ac Eryri yn teyrnasu o bell. Troi wedyn am lonydd diarth Nant y Rhiw, meddwi ar gloddiau llawn gwyddfid, a hedfan am Garneddau a Ffin y Parc at yr A470. Y briffordd fel y bedd, ac eithrio ambell gar â sticer ‘Yes Cymru’ a ‘Cofiwch Dryweryn’ yn piciad i wneud neges hanfodol yn Llanrwst. Heibio Zip World, y giât wedi’i chadwyno, a dim ond adar yn cadw reiat yn y coed. Gan aralleirio’r gân boblogaidd, dyw Betws ddim yn nefoedd, ’nenwedig yn yr haf, ond wir i chi, mi roedd hi’r pnawn hwnnw. Bron na fedrech glywed pin yn disgyn yn lle pobl yn trampio ar y pafin. Cefais bwl o banig am dorri’r rheol pum milltir fymryn, pan aeth car heddlu heibio. Ymlacio, a phwyso ar Bont y Pair i wylio afon Llugwy yn llifo’n ddiog heb sgowsars na mancs swnllyd yn plymio iddi. Roledd hi’n dywydd hufen iâ, a nunlle ar agor. Penderfynu troi am adref ar hyd y B5106, ac igam ogamu trwy gynefin chwedlonol Dafydd ap Siencyn gyda thro sydyn i Gapel Gwydir Uchaf (1673) am y tro cyntaf yn fy mywyd. Dim ond y tu allan wrth gwrs. Roedd hwnnw dan glo hefyd. Serch bustachu i fyny elltydd Town Hill a Tai Candryll yn ôl i Henblas Carmel wedyn, dw i’n wirioneddol falch i mi wneud y daith. Mi gofiai a sawru’r diwrnod llonydd hwnnw am byth.

Do, fe ddychwelodd yr ymwelwyr i Betws a’r cyffiniau ddiwedd haf, gan lenwi coffrau busnesau lleol a phechu llawer o’r brodorion. Bellach, maen nhw’n ôl adra a dim ond trigolion Bwrdeistref Conwy sydd â’r hawl i ymweld. Does wybod lle'r awn ni nesa efo’r pandemig.

Dw i ofn breuddwydio gormod am llefydd fel Malta, Tregaron a Kraków neu Prâg yn 2021. Ond yn dal i gynllunio, darllen a gadael i’r meddwl grwydro.


 

Pont y Pair, heb y plymwyr anghyfreithlon arferol

 

Afon Llugwy

 

Tydi bywyd yn boen?



Does ’na fawr ddim yn cydio ar hyn o bryd. Efallai ei bod ni’n dal mewn rhyw dir neb rhwng diwedd haf-dechrau’r hydref, tra bod Strictly, BGT a Bake Offs y byd adloniant yn llenwi’r amserlenni Saesneg. Yn y Gymraeg, mae Am Dro yn plesio llawer iawn mwy nag Antur Adre a Ffilmiau Ddoe, ond yn dibynnu'n fawr iawn ar safon a straeon y cystadleuwyr lawn cystal â'r daith gerdded ei hun. O ran y ddwy enghraifft olaf, tydi mwynhad, hwyl a chwerthin y cyfranwyr ddim cweit yn trosi'n llwyddiannus i fwynhad y gwyliwr. Dw i'n eu gweld nhw'n reit ddiflas. 

Ym myd rhaglenni ffeithiol, mae'r gyfres ag un o'r teitlau mwyaf hirwyntog erioed, Trysorau Cymru: Tir Tai a Chyfrinachau yn ddifyr dros ben, wrth i'r pensaer cadwraethol Elinor Gray-Williams a'r gwamalwr Tudur Owen grwydro rhai o berlau'r National Trust (heb ei ddatganoli yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban, felly dw i am ddal i arddel y teitl Saesneg tan hynny) o gestyll Penrhyn i Powis, Erddig i Dŷ Tredegar. Fformat nid mor annhebyg â hynny â'r Waliau'n Siarad mwy swmpus. Dw i'n dal i ddisgwyl am awgrym o ail gyfres, gyda llaw.

Ond yn ôl at fyd y ddrama. Does dim byd ar netflix/amazon prime yn hoelio’r sylw wedi’r bennod gyntaf symol, ond ar y BBC, mae’r ddrama wleidyddol Roadkill am wleidydd cynhennus (a chwaraeir gan Hugh Laurie) sy’n llwyddo i gyrraedd Nymbar Ten (swnio’n gyfarwydd?) yn edrych yn addawol. Byw Celwydd â mymryn mwy o gyllideb, ella.

Ond ffefryn clir ar BBC One yn diweddar ydi Life, cyfres wedi’i gosod mewn hongliad o dŷ brics Fictoraidd a drowyd yn fflatiau mewn ardal go swanc o Fanceinion. Cyfres sebon efo sglein, os leiciwch chi, o ysgrifbin Mike Bartlett (Dr Foster) gyda straeon personol y trigolion unigol yn cwmpasu rhai o benbleth mawr bywyd – beichiogrwydd, galar, ofn cyfrifoldeb, dadrithiad oes o briodas, alcoholiaeth, cariad o bell, diffyg hyder, hunanoldeb ac unigrwydd y ddinas. Mae unrhyw beth gydag Alison Steadman yn siŵr o fod yn werth chweil, a tydi hon ddim eithriad wrth iddi chwarae rhan Gail, gwraig briod 70 oed sydd wedi ’laru ar ŵr sy’n ei thrin fel tipyn o jôc o flaen ffrindiau a pherthnasau. Mae’r straeon a’r cysylltiadau drws nesa wedi’u plethu’n gelfydd, a’r defnydd o hiwmor a pathos mor ddidrafferth. Ydy, mae’n newid braf cael drama heb ’run ditectif na chorff ar ei gyfyl. Ddim eto beth bynnag – dw i ar bennod 5 o 6 ar hyn o bryd.


 

Dyma’r union math o beth sydd ei angen arnom ni’n Gymraeg y dyddiau hyn. Drama ddomestig, gyda chast a chartrefi del, nid rhywbeth Noir-aidd arall wedi’i chyfieithu o’r Saesneg gyda phlismyn ag acenion chwit chwat. Dim cyffuriau na phedoffelia, trais na thrybestod, iaith aflan na golygfeydd OTT o afiach. Dim ond pethau da yn digwydd i bobl dda. Pobl sy'n malio. Caru. Maen nhw yn bodoli.

Byddai'n ddigon hawdd trawsblannu Life i floc o fflatiau yn y Felinheli, Aberystwyth neu Gaerfyrddin er enghraifft, gyda chriw o Gymry proffesiynol – meddyg teulu, darlithydd, cyfryngi, llyfrgellydd, dewin TG, instagramiwr, cyfieithydd, gweithiwr cwango’r llywodraeth (â' n helpo) – yn byw a bod, caru a checru, meddwi a difaru rhannu ambell gyfrinach. A hynny'n gredadwy o Gymraeg, mewn ardal naturiol Gymraeg, heb hualau na chyfyngiadau cynhyrchiad cefn-gefn BBC Wales. 

Rhyw Teulu arall, dihangfa lwyr o’r dyddiau covidus diddiwedd sydd ohoni. Mae sawl aelod o ’nheulu yn dal i hiraethu am giamocs Dr John a Morganiaid Aberaeron haf o hyd.

Beth amdani, S4C?