Dan glo

"The Mire", Netflix Gwlad Pwyl



Â’r genedl gyfan dan glo, mae’r cyfyngiadau’n pentyrru. Dim Sioe na Steddfod, tenis na 'Lympics leni. Ac ar ben pob dim, mae toriadau’r teli yn dechrau brathu. Mrs Brown's Boys yn lle Match of the Day. Ein hactorion sebon yn rhoi’r gorau i ffilmio, sy’n golygu dim ond dwy bennod yr wythnos o Gwmderi am sbel, fel cwota sebon y Gogledd. Dim penawdau newyddion o’r cyrion Celtaidd ar sioe frecwast y BBC oherwydd diffyg staff ac adnoddau. Y canlyniad, felly, ydi gogwydd Eingl-ganolog gyda chyhoeddiadau a chynghorion dyddiol gan Brif Swyddog Meddygol yr Iw-cê (Lloegr) yn ychwanegu at ddryswch polisïau amrywiol San Steffan a’r llywodraethau datganoledig. O ddifri calon, faint ohonom sy’n gwybod mai’r Lancastriad Dr Frank Atherton ydi CMO Cymru? A dim ond ar y Post Cyntaf Radio Cymru bore 'ma y clywais Ann Beynon yn dweud fod cyllid Ewropeaidd yn cael ei ddargyfeirio yma yng Nghymru i helpu'r maes iechyd i frwydro yn erbyn Covid-19. Llawer o'r arian hwnnw'n helpu Brexitiaid sy'n erfyn am gymorth offer anadlu, siwr braidd...

Dadl pen bandits y British Corprêshyn yng Nghymru yw ein bod hi’n rheitiach canolbwyntio popeth ar fwletinau mwy poblogaidd y pnawn a’r nos gan fod 700,000 yn troi at stabl Wales Today am hann’di chwech yr hwyr a chriw Newyddion hann’di saith hefyd yn derbyn cynulleidfaoedd uwch na’r arfer yn ôl pob son. Gyda llaw, dwi fymryn yn siomedig nad ydi penawdau S4C wedi cael ailwampiad i gyd-fynd â’r amserlen newydd.



Gyda phob rhaglen fwy neu lai wedi’i noddi gan skype y dyddiau hyn (diolch i’r Estoniaid dyfeisgar, poblogaeth 1.3 miliwn, sylwer Gymry gaeth), mae pob cyfweliad yn ymddangos yr un fath a phawb fel petaen nhw'n darlledu o eco'r bathrwm. Ar Heno nos Lun gwelsom Celyn Llwyd o Ddinbych yn wreiddiol yn skype-ganu o Gaerdydd i skype-gyfeiliant Adam Wachter o Pittsburg, tra bod Rhodri Owen yn ista ym mhen Porth Tywyn o’r soffa goch a Llinos Lee ar erchwyn Llangennech, ac Elin Fflur yn mentro i Lanuwchllyn. Dwi’n ofni y bydd mwy o glipiau fideos cartref o gŵn rhech ‘ciwt’ a phobl yn torri gwalltiau’i gilydd i’n cadw’n, ym, ddiddig tan fis Mehefin o leiaf. Mae'n hawdd chwerthin, ond dw i YN edmygu dyfalbarhad criw Tinopolis i ddarlledu'n ddi-dor yn y dyddia-aros-adra sydd ohoni, a gweithredu fel rhyw fath o wasanaeth darlledu cyhoeddus a phapur bro cenedlaethol trwy wenau Colgate.

Gyda’r byd a’i frawd yn gaeth i’r tŷ, mi fydda i’n postio ambell argymhelliad o bethau i’w binjwylio/gorwylio mewn pyliau/awchwylio. Os oes gan rywun awgrymiadau gwell am y gair bingewatching, anfonwch nhw draw hyd braich 2 fetr.

Mae ’na doreth o gyfresi newydd ar netflix, rhai lot gwell na’i gilydd, a gormod o bethau symol. Fe wnes i lowcio The Stranger (8 pennod) o nofel ias a chyffro Americanaidd Harlan Coben wedi’i thrawsblannu i Fanceinion fodern, mewn tair noson – am giang o hacwyr y we sy’n canfod cyfrinachau duaf pobl a’u blacmelio wedyn am arian mawr – gan gynnwys Adam Price (Richard Armitage) sy’n canfod mai twyll oedd beichiogrwydd ei wraig (Dervla Kirwain ddieithr) flynyddoedd yn ôl. Cyfres lol botas o gyffrous, gyda sawl tro annisgwyl. Ond pwy ddiawl gath y brenwêf amheus o gastio Jennifer Saunders mewn rôl ‘strêt’, wn i ddim.

"Y Dieithryn"


Os dy’ch chi’n ffansio ffilm dramor, yna trowch i The Invisible Guest (2016) o Sbaen neu Contratiempo yn yr iaith wreiddiol. Chwip o ffilm annisgwyl am ddyn busnes ifanc llwyddiannus sy’n deffro mewn stafell gwesty anghysbell ger ei gariad celain – ac sy’n cyflogi un o dwrneiod gorau’r wlad i’w gael yn ddieuog. Gyda thomen o ôl-fflachiadau a stori o safbwyntiau gwahanol, megis Hitchcock Catalaneg. Jesd gadewch eich hygrededd adra.



Dw i ar fin gorffen gwylio (ar ôl sgwennu’r hyn o lith) cyfres bum rhan o Wlad Pwyl - newid yn chenj o’r holl gyfres o orllewin Ewrop ar netflix. Mae The Mire yn ein cludo’n ôl i Polska’r wythdegau cynnar, lle mae pawb yn smocio fel stemars, yn clecio fodca i frecwast (rhywbeth tebyg i’n dyddiau cwarantîn ninnau?!) ac yn byw mewn bloc o fflatiau digon llwm cyn ymuno â’r ciwiau siopau prin eu bwyd (rhywbeth tebyg i’n etc etc). Llofruddiaeth ddwbl putain a rhyw wleidydd comiwnyddol sy’n sbarduno’r stori, a dau ohebydd y Courier yn dal i fynnu ymchwilio er bod yr awdurdodau wedi dal a charcharu’r “drwgweithredwr” yn amheus o sydyn. Ond a fydd yr hen hac Witold (Andrzej Seweryn) yn bradychu Piotr (Dawid Ogrodnik) gydweithiwr ifanc delfrydyddol, wedi i'r awdurdodau ei 'gynghori' i gau pen y mwdwl ar y stori neu golli ei docyn unffordd i Orllewin Berlin.

Mae’r awyrgylch Llen Haearnaidd, yr actio gafaelgar a’r naws sinistr reit at fy nant i.


Piotr a Witold










Mae'r iaith Bwyleg wedi atseinio cryn dipyn acw'n ddiweddar - o ffilm ddu a gwyn arbennig Cold War (Amazon Prime) am garwriaeth dymhestlog yng nghanol cythrwfl comiwnyddol y 1950au, i ail gyfres thriller The Border (Walter Presents) am y Capten Wiktor Rebrow sy'n gwarchod y ffin anghysbell rhwng Gwlad Pwyl a'r Wcrain gyfoes, ac ar ffo ers cael ei gyhuddo ar gam o ladd ei gariad ac eraill mewn ymosodiad terfysgol.

Da chi, rhowch gynnig arnyn nhw. 

Zimna wojna (Cold War, 2018)


Wataha (The Border, 2014-)

Dianc i Oz



Sut ydych chi’n ymdopi dan gyfyngiadau symud? Dyna’r gair Cymraeg swyddogol am y ‘lockdown’ bondibethma ond hanfodol, yn ôl rhestr eirfa swyddogol y Llywodraeth. Holais am gynigion llawer mwy slic gan y twitteratis, a chael perlau mawr a mân fel ‘gwarchae’, ‘caethiwo’, ‘dim whare’ i ambell un eithafol fel ‘alcoholiaeth’. Rhaid chwerthin weithiau.

A rhaid cael dihangfa i fyd ffuglen hefyd, boed nofel neu’r sgrîn fach. Siawns aiff y ffigurau gwylio drwy’r to wrth inni gyd orfod ymneilltuo i'r lolfa dywyll serch haul llachar y gwanwyn yn y byd mawr Llyfr Glas Nebo. 

I fi, swbwbria fythol braf Melbourne sy'n denu, lle mae drysau tai wastad ar agor led y pen i ffrindiau a defaid colledig, a phawb yn canlyn yr un drws nesa. Ydy, mae Neighbours newydd ddathlu’r 35 gyda siampên a set o stampiau arbennig. 

Stopiwch droi’ch trwynau.


Dros wythnos eithaf boncyrs, cawsom benodau arferol am 5.30 (ar Channel 5 bellach, “sianel y flwyddyn” Broadcast Awards 2020 iff iw plîs) pan ddaeth llu o hen wynebau nôl adra i Erinsborough – Des Clarke, Plain Jane Superbrain, Sky Mangle ymhlith eraill - ar gyfer ffair briodas â thro yn y cynffon. Sef bod bom wedi’i blannu yn un o’r cacennau priodas. Ac am 10 yr hwyr wedyn, penodau arbennig wedi’u gosod ar ynys wyliau, gyda llu o drigolion Ramsay Street yn galifantio-glampio wrth i gymeriad hanner call a dwl gynllwynio i’w lladd fesul tipyn.  Sawl seremoni glân briodas sgi-wiff ar y naill law, a ffrwydradau, nadroedd gwenwynig, storm drofannol, llofrudd bwa saeth a gwystl efo gwn ar y llaw arall – fuodd erioed y fath gyffro ers pennod breuddwyd Bownsar y ci labrador aur ym 1991, neu’n 1996 pan ddychwelodd Harold Bishop yn sydyn reit fel aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth â phwl o amnesia er iddo “foddi” yn y môr rhyw bum mlynedd ynghynt.

Y Ramsay-Bishops, yn oes y Gwalltiau Mawr


Honco? Siŵr iawn. Efallai’n wir fod oes aur y ffigurau gwylio drosodd – o uchelfannau 21.16 miliwn am un bennod BBC1 ym 1990, i’r cyfartaledd dyddiol o filiwn ar Channel 5. Ond mae’n dal i ddenu’r ffyddloniaid:

Neighbours continues to be a strong property for Channel 5, achieving its best performance ever for 16-54s in July 2019 with a 19 per cent share of audience – whilst on My5, streams are up +17 per cent year on year.

Ac yn y dyddiau cythryblus sydd ohoni, gallwch ddibynnu ar y Robinsons, y Kennedys, y Rebeccis a'r Cannings am hanner awr o felodrama dyddiol.

Hir oes, mate!

Ewropa



Arvingere - Lleifior Denmarc


Aeth 31 Ionawr heibio gan adael cawl potsh o emosiynau yn ei sgil. I mi, teimlad o dristwch, dicter, dryswch, ac ie, yr ystrydeb Gymreig honno o hiraeth. Hiraeth am rywbeth saff a sicr a gymerais mor ganiataol gydol fy oes. Diolch byth, felly, i BBC Four, Netflix a Walter Presents (hefyd ar S4C Clic gydag isdeitlau Cymraeg) am fy mhasbort parhaol i ddramâu tan gamp o dir mawr Ewrop. Dw i'n pasa trefnu gwyliau gwanwynol â naws ditectifs drama. Gyda thocyn awyren rhad (sori, Greta) a llond llaw o kronor, gobeithiaf ddianc rhag jingoistiaeth anochel gŵyl banc Mai yr 8fed yn Great Brexitshire, a mynd i’m hoff ranbarth a enwyd gyda'r hapusaf yn y byd - Sgandinafia. Os na fydd COVID19 yn rhoi’r farwol i bethau. Y tro hwn, de Sweden sy’n galw, a dinas glan môr Malmö sydd mewn lleoliad tsiampion ar gyfer gwibdeithiau 30km i'r gogledd i Copenhagen a 60km i'r de i Ystad.



Ystad, swydd Skåne, a ddaeth yn enwog diolch i un ar ddeg o nofelau Henning Mankell am y ditectif pruddglwyfus Wallander. Cefais fy hudo’n lân gan yr addasiad teledu Swedeg rhwng 2005 a 2013 (a’r fersiwn Saesneg ddiweddarach gyda Syr Ken Branagh) ymhell cyn i’r guardianistas ddarganfod ‘nordic noir’. Mae'r golygfeydd o’r caeau hadau rêp melyn llachar, yr adeiladau fferm fframwaith coch a’r traethau unig lle’r âi Kurt a Jussi ffyddlon am dro hir dan awyr lwyd ddiderfyn, wedi’u serio yn fy nghof. Roll on fis Mai! Mae gan y Swediaid sawl ‘hit’ isdeitlog yn eu meddiant, yn enwedig Bron / Broen (2011-2018) ysgubol a gynhyrchwyd ar y cyd â'u cymydog-weithiau-gelyn o Ddenmarc. A bydda i’n dilyn ôl troed Saga Norén - neu ei Porsche 911S olewydden yn hytrach - dros yr enwog Øresund sy'n pontio’r ddwy wlad, â’r gân iasol honno yn troi a throsi yn fy mhen. Ond y llwyddiant digamsyniol diweddar oedd The Truth Will Out (Det som göms i snö) ar Walter Presents), drama ddirgel seicolegol yn seiliedig ar stori wir (coeliwch neu beidio!) am griw sy’n agor hen achosion gwaedlyd yn sgil honiad newydd ysgytwol wrth i’r llofrudd cyfresol adael carchar. Gyda'r ditectif trwblus Peter Wendel (Robert Gustafsson) yn arwain criw bach anghymarus, mae’n ras yn erbyn y cloc wrth i’r drwgweithredwr beryglu un o weinidogion llywodraeth Stockholm. Ac oes, mae yna olygfeydd llawn eira.

Cafodd y Daniaid hwythau glod a bri byd-eang byd diolch i dditectif benywaidd galed mewn siwmper Ffaroeaidd (Forbrydelsen 2007-2012) a llywodraeth glymblaid â lampau secsi (Borgen 2010-2013). Ffefryn personol arall oedd saga fodern am frodyr a chwiorydd cecrus yn dychwelyd i blasty blêr y teulu wedi marwolaeth eu mam, arlunydd o fri cenedlaethol. Roedd Arvingerne (The Legacy, 2014-2017), a welwyd ar Sky Arts prin ei sylw, yn llwyddo i ’nghyfareddu a’m llethu bob yn ail diolch i ambell gymeriad a phlot ffuantus. Hynny, a’r credits agoriadol crefftus i gyfeiliant swynol Nina ‘The Cardigans’ Persson.




Dyma flas ar uchafbwyntiau dramatig eraill yr UE:

Belgique O wlad Tintin y daw La Trêve (The Break, 2016-2018) am y ditectif o Frwsel Yoann Peeters sy’n dychwelyd (yn annoeth) i'w wreiddiau yn ardal wledig yr Ardennes - lle mae ymchwiliad i farwolaeth pêl-droediwr ifanc addawol o Affrica yn arwain at bartïon S+M ar fferm leol, llond coedwig o gyfrinachau a phenaethiaid heddlu llwgr.





Catalunya Tro bach i Barcelona fodern yn Nit i Dia (Night and Day, 2016-presennol), wrth i'r patholegydd fforensig priod Dr Sara Grau sy'n archwilio i gorff arall ddarganfod iddi gysgu gyda’r llofrudd posib. Gyda mwy o droadau na'r A470 rhwng Dolwyddelan a Betws.

Česká republika Cyfres fer Hořící keř (Burning Bush, 2013) dan law’r cyfarwyddwr Pwylaidd o fri Agnieszka Holland (ffilm Mr Jones), wedi’i gosod ym Mhrâg dan oresgyniad y Sofietiaid, reit ar ôl i Jan Palach, myfyriwr 20 oed, ladd ei hun yn wenfflam ar Sgwâr Wenceslas ym mis Ionawr 1969. Darlun dirdynnol ond cwbl hanfodol o’n hanes modern ni, sy'n ein hatgoffa pa mor bell rydyn ni wedi camu ymlaen fel cyfandir.

Deutschland Yn gyfres noir afaelgar o’r 1920au, mae Babylon Berlin (2017-2020) yn cynnwys ditectif sy’n dioddef o PTSD a theipydd sy’n ysu i ymuno â’r heddlu, gan ddatgelu byd o gyfrinachau peryglus ar y lefel uchaf wrth daro ar draws cylch porn tanddaearol. Gwledd i'r llygaid sy’n portreadu tlodi truenus a rhemp sin gabaret Gweriniaeth Weimar.

Éire Llwyddodd cyfres gyffrous, bum rhan, yn yr iaith Wyddeleg, An Bronntanas (The Gift, 2014) gyda sblash o hiwmor tywyll i ddenu fy sylw ar wefan TG4. Hanes criw bad achub tlodaidd o Gonamara sydd mewn picil moesol ar ôl darganfod cyffuriau gwerth €1m gyda dynes sy'n gelain ar fwrdd cwch a drawyd gan storm. Peidiwch â sôn am y rygbi ...

France Keystone Cops Ffrengig, gyda chyfreithwyr a heddweision yn baglu o un penderfyniad gwael i’r llall - yn eu bywydau personol a phroffesiynol - mewn Paris prin ei chyffwrdd gan Insta-dwristiaid. Gyda chyfres olaf un o Engrenages (Spiral, 2005-presennol) ar y gweill, dwi’n edrych ymlaen at weld sut fydd pethau'n gorffen i’r cariadon anghymarus Laure a Gilou, y femme-fatale fflamgoch Joséphine a grand-père mabwysiedig pawb, y Barnwr François Robin.



ĺsland Daw Andri Olafsson, pennaeth heddlu mwyaf blewog Ewrop heb os, i’r adwy yn Ófærð (Trapped, 2015-presennol), ar ôl darganfod corff-heb-ben ar fferi sy’n sownd mewn tref borthladd anghysbell. I waethygu pethau, mae eirlithrad yn bygwth y dref ym mhellafoedd gogleddol Gwlad yr Iâ. Roedd yr ail gyfres yn chwarae politics, gydag eithafwyr asgell dde yn peryglu gwleidyddion a gwerin gwlad fel ei gilydd. Antidot iasol perffaith i'n gaeafau soeglyd ninnau.





Italia Efallai fod BBC Four wedi mopio braidd gyda'r arolygydd smala Montalbano, ond dwi heb fy argyhoeddi. Mae’n well gen i Non uccidere (Thou Shalt Not Kill, 2015-presennol) Walter Present, wrth i’r ditectif Valeria Ferro ddefnyddio ei chweched synnwyr i ddatrys troseddau yn ninas ysblennydd Torino wrth frwydro yn erbyn gwewyr personol pan ddaw ei mam allan o’r clinc. Doedd y firws heb daro yma eto.



Nederland Ar gyfer cyfresi iaith Iseldireg, rhowch gynnig ar Overspel (The Adulterer, 2011-2015) am ffotograffydd proffesiynol Iris van Erkel-Hoegaarde (ceisiwch ddweud hynny ar ôl ambell Witbier) sy'n cwympo dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ffwdanus â’r twrna priod Willem Steenhouwer, y mae ei deulu-yng-nghyfraith yn ymhél â chytundebau busnes amheus a chorff yn y gamlas.

Norge Iawn, efallai dyw Norwy ddim cweit yn aelod-wladwriaeth yr UE ond mae’n llwyr haeddu cydnabyddiaeth yma. Os ydych chi'n dyheu am aeaf go iawn, Wisting (2019) amdani lle mae’r cawr mwyn o dditectif a'i boen-yn-tîn o ferch o newyddiadures yn brwydro trwy luwchfeydd mawr i ddal llofrudd cyfresol. Draw ar Netflix, mae Okkupert (Occupied, 2015-2020) wedi'i gosod yn Norwy’r dyfodol agos sydd dan feddiant y Rwsiaid, yng nghanol argyfwng ynni’r byd.



Lle rois i ’mhasbort gwin coch ’dwch?