Showing posts with label Pethe. Show all posts
Showing posts with label Pethe. Show all posts

Hen Bethe Anghofiedig




Neges twitter sbardunodd y cyfan.

Iawn, cyn i chi refru “newyddiaduraeth ddiog!”, dw i’n dueddol o gytuno. Dw innau hefyd yn diawlio erthyglau newyddion a straeon ar-lein sy’n deillio o’r cyfryngau cymdeithasol, rhai sy’n dyfynnu’r twitteratis yn lle mynd allan i holi’r bobl gyffredin. Er, dyw hynny ddim yn ddrwg o beth o gofio holl Frecshitiaid stryd fawr y dyddiau hyn.

Ond yn ôl at y neges dan sylw:

gwir angen rhaglen deledu yn trafod y celfyddydau, digon o raglenni am gartrefi a gerddi, digon o chwaraeon ond dim rhaglen am y celfyddydau. Stiwdio a’r Silff Lyfrau ar y radio ond dim byd ar y teledu ers blynyddoedd, be amdani ?

A chyn pen dim, roedd dros ddau gant wedi ‘hoffi’r’ neges ac ambell groch o ‘clywch! clywch!’ gan rai fel Rhys Mwyn, yr actores Sharon Morgan, Nia Roberts o’r dywededig Stiwdio ar Radio Cymru, a’r awdur llwyfan a theledu Alun Saunders. Heb anghofio Iôrs Trwli.

Ateb stoc “diolch am y sylw ... fe fydd yn sicr o gael ei nodi” a gafwyd gan y Sianel. Hmm. Ond mae’n sefyllfa’n druenus ers sawl blwyddyn bellach, ac yn crefu am lot mwy nag ambell adolygiad ffilm a nofel rhwng slot cwcan a Huw Ffash ar Prynhawn Da.

O ran y bocs bach, pwy sy’n cofio dyddiau Croma yng nghwmni Catrin Beard am awr solet bob nos Wener ar S4C Digidol tua 2003?  Neb? Efallai bod Sioe Gelf, a barodd am wyth cyfres rhwng 2002 a 2009, yn canu fwy o gloch. Mae’n amlwg fod S4C wedi plesio ar y pryd, wrth i adroddiad blynyddol 2002 gyfeirio at “...(g)waith graenus a llawn dychymyg o gyflwyno’r celfyddydau – o Gymru, Prydain a’r byd – mewn modd diddorol am 26 wythnos y flwyddyn. Mae’n amlwg fod gan y tîm cynhyrchu wybodaeth drylwyr a brwdfrydedd yn y maes”. Cwmni Da oedd y tîm cynhyrchu gyda llaw.

Daeth Pethe ar y sîn yn 2010, gyda Nia Roberts a’r cyw-wleidydd Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno eitemau wythnosol am “a range of cultural interests in a popular and entertaining way” yn ôl Daily Post ar y pryd. Esgorodd ar chwaer-gyfresi hefyd. Pethe Hwyrach efo Nia Roberts a llond soffas o adolygwyr, a Trafod Pethe gyda Guto Harri yn holi a stilio rhai o gyfranwyr mwyaf ein diwylliant o Eigra Lewis Roberts i’r Dr Mererydd Evans.

Lisa Gwilym fu’n llywio Pethe ar ei newydd wedd yn 2013, cyfres a barodd tan i’r fformat farw gyda chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2016. Yr eironi yw bod y wasg Gymraeg ar dân y dyddiau hyn (perlau cyfoes fel ‘Esgyrn’ Heiddwen Thomas gafodd y flaenoriaeth dros deledu’r Dolig acw) a’r theatr Gymraeg yn denu clod a bri a chynulleidfa sylweddol o gymharu â’r National Theatre Wales simsan Seisnig. Mae angen cyfrwng i amau gwerth cystadleuaeth ryngwladol Artes Mundi, a’r heip y tu ôl i albym neu gig newydd. Ydi’r perfformiad dawns amgen neu opera teithiol werth ein hamser a’n harian? 

Ac oes, mae angen mwy o adolygwyr Cymraeg sy’n ddigon dewr i feirniadu’n gytbwys yn hytrach na “chanmol” yn daeogaidd cariad, rhag ofn y gwelan nhw’r artist ar gae ’Steddfod neu wrth giw bar Chapter ar nos Wener. Ac adolygwyr sy'n wirioneddol drafod yr hyn maen nhw'n ei weld neu ei glywed, yn hytrach na malu cachu dragwyddol am Fi Fawr.

Drosodd atoch chi, S4C.

I hudolus wlad Iolo*

Diolch byth am wythnos ’Steddfod. Er ’mod i’n wyliwr brwd o’r cystadlaethau nofio, beicio ac athletau ar y teledu fin nos, mae’r geiriau Team GB, lluniau camera cyson o Wil a Cêt a Cameron mewn perlewyg, ac anthem Mrs Windsor braidd yn flinderus bellach. O leia’ gawn ni ddweud ta-ta wrth y tîm pêl-droed dadleuol (“England” medd Jake Humphrey, sylwebydd chwaraeon y Bîb), a charthu’r holl jacs yr undeb o Stadiwm y Mileniwm. Carfan Cymru a ‘Hen Wlad fy Nhadau’ piau hi ar S4C, a braf cael dianc i ddarllediadau cynhwysfawr o’r Brifwyl o ddeg y bore tan hanner nos.

Bu tîm Pethe yn brysur gyda’u rhaglenni rhagflas o fro’r Eisteddfod eleni, sydd - fel y clywsom hyd syrffed gan gyflwynwyr radio a theledu - yn “ddieithr iawn” i weddill y wlad. Yn ogystal ag ambell gyfryngi ac Aelod Cynulliad, Gwynfor a Gavin & Stacey, dyma gynefin Iolo Morgannwg. Yr Archdderwydd presennol oedd y dewis mwyaf naturiol i gyflwyno rhaglen deyrnged ddifyr am ffugiwr o fri a thad Gorsedd y Beirdd. Roedd Jim Parc Nest yn amlwg wedi cael hwyl wrth ddilyn ôl troed Iolo yn ei het a’i ffon gerdded, yn union fel lluniau’r cyfnod ohono. A chyda gwên ddireidus, awgrymodd y dylai yntau hefyd gymryd dos o’r cyffur opiwm i “drin asthma”. Mae ’na destun ffilm ryfeddol yn fa’ma - y saer maen o Lancarfan a greodd argraff ar Lundain fawr, brolio traddodiad barddol y Cymry yn ôl i oes y Derwyddon, a chodi gwrychyn y Sefydliad trwy gynnal cyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fryn y Briallu ym 1792. Gan yr Athro Geraint H Jenkins y cawsom hanes fwyaf diddorol y rhaglen, sef Iolo’r arloeswr a agorodd siop lyfrau a nwyddau masnach deg yn y Bont-faen ym 1795. Gwrthododd werthu siwgr o’r Caribî oherwydd y defnydd o gaethfasnach yno, protest poenus o agos at ei galon gan i’w dri brawd elwa ar gaethweision ar ôl ymfudo i Jamaica. Ydy, mae’n chwip o stori. Ydy Rhys Ifans ar gael i chwarae’r brif ran? Neu actor o Forgannwg efallai, o gofio pa mor ddrwgdybus oedd Iolo o’r bali Gogs.

Gog ac un o ferched mabwysiedig y Fro, Nia Roberts, gyflwynodd ail raglen Pethe yng nghwmni rhai o drigolion 2012. Difyr clywed Islwyn Jones, bardd y Cywydd Croeso*, yn esbonio mai ‘duw’ yw tarddiad y ‘Dŵ’ yn Llandŵ, a’r brodyr Whelan o Sain Hilari yn creu cerddoriaeth i ddisgyblion lleol, bandiau Cymraeg a ffilmiau Bollywood gerllaw eu tŷ crwn Celtaidd. Mae’n siŵr y bydd llawer ohonom yn dringo i grombil corff awyren sydd wedi nythu ar y Maes. Cawsom rywfaint o gefndir prosiect ‘Adain/Avion’ gan Rhun ap Iorwerth a’r artist a’r capten Marc Rees. Beio’r opiwm fyddai Iolo o weld cylch yr orsedd plastig a chragen Jymbo Jet yng nghysgod y Pafiliwn Pinc eleni.

Y Gorfforaeth ar ei gorau



Wel dyna ni. Dôs o ddiwylliant pur drosodd am flwyddyn arall, a chyfle i fwynhau môr o Gymraeg am wythnos yn Awst – heblaw am siop y maes carafanau, faniau hufen iâ Swydd Efrog a pheiriant twll-yn-wal-y-Maes. Ac os nad oeddech chi’n un o bobl y Pethe, hen dro, oherwydd y Pafiliwn Pinc oedd popeth i’r cyfryngau Cymraeg. Ar adeg pan fo cryn amheuaeth ynghylch S4C dan adain y BBC, dyma’r Gorfforaeth ar ei gorau – o’r hen lawiau profiadol fel Hywel Gwynfryn a Nia Lloyd Jones ar y radio, i Huw Eic a Rhun ap Iorwerth ar y bocs. Er, roedd hi’n ymddangos weithiau fel petai Mr Newyddion o Fôn yn eistedd yng nghadair Pethe, wrth drin a thrafod materion y dydd gyda dau westai nosweithiol yn hytrach – clywais rhai’n beirniadu bod y gwesteion hyn yn cael gormod o lwyfan ar draul y cythrel cystadlu. Bechod na chafodd Gwilym Owen a Huw Jones, pen bandit newydd Awdurdod S4C, rannu soffa ar yr un noson. Dychmygwch y sbarcs wedyn.

I mi’n bersonol, roedd Tocyn Wythnos Radio Cymru yn rhagori ar uchafbwyntiau’r teledu, gyda Beti George yn crynhoi holl ddigwyddiadau’r dydd yng nghwmni beirdd, llenorion, cantorion ac adolygwyr gweithgareddau’r nos. A wnes i ddim sylweddoli tan wedi’r eisteddfod, fod modd gweld yn ogystal â chlywed y rhaglen ar wefan BBC Cymru. Mae gen i frith gof o’i gweld ar S4C2 yn y gorffennol, pan gafodd ei darlledu o flaen cynulleidfa frwd y Babell Lên a greodd fwy o awyrgylch i’r cyfan. Y tro hwn fodd bynnag, roedd Beti a’i phobl wedi’u gwasgu i soffa fechan ym mhabell y Bîb, a’r cyfranwyr yn camu’n llechwraidd dros ddrysfa o wifrau cyn straffaglu efo’u clustffonau a nodiadau. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweld y gyflwynwraig yn ei dyblau wrth i Stifyn Parri refru yn erbyn cerdd dantwyr dros ben llestri. Cipolwg difyr iawn y tu ôl i lenni’r stiwdio radio. Cyfraniad rhyfedda’r wythnos, oedd y beirniad honno a gwynodd fod y clasurol yn cael cam gan S4C. Ydi hi’n gwylio’r un Sianel â mi? Go brin, rhwng cyngherddau Aberglasney, Tri Tenor Cymru, ailddarllediad o gyfres Shân Cothi nos Sadwrn a phumed darllediad o Russell Watson yn Llangollen…

Llongyfarchiadau i’r BBC am roi cyfle i Siân Lloyd - un o genod Wrecsam ac wyneb cyfarwydd Wales Today, nid pengoch y tywydd - gyflwyno straeon o’r Maes yn y Gymraeg. Chwa o awyr iach yng nghanol y myrdd o wynebau orgyfarwydd a aeth ymlaen i gyflwyno Sioe Môn: Digwyddiadau ’11 neithiwr ac echnos.

I gloi, cri o’r galon i S4C. Braf gweld rhaglenni teyrnged er cof am yr actor Stewart Whyte McEwan Jones, ond beth am y perlau diweddar? O! am gael gweld ei berfformiadau cofiadwy yn nramâu Meic Povey, o’r hen daid anhylaw yn Talcen Caled i’r cythral o ffarmwr yn Nel, ffilm gŵyl Ddewi 1990. Clasur coll yn wir.