Capten Birdseye








Bob  hyn a hyn, mae 'na gymeriad ym Myd Sebon sy’n gwneud i rywun ochneidio mewn diflastod a diffodd y set deledu. Yn peri i rywun amau pa mor rhad oedden nhw i ddechrau yng nghyfeirlyfr Actors R Us cyn cael contract 6 mis gan y cynhyrchwyr. Yn achos Pobol y Cwm, dw i’n dal i ryfeddu bod Megan yno o hyd. Achubwraig fawr Bethania, entrepreneur siop elusen, pigyn parhaus yng nghlust Siôn White, Piwritan mewn pentre llawn llofruddion, nyrsus sy’n ffugio salwch angheuol i godi arian at sbri Americanaidd, godinebwrs, hogyn arddegol sy’n chwara efo gynnau, a Dol. Bechod na roith Anita lwyaid o strycni yn y te sinsir ma' Megan mor hoff ohono.


Un arall, mwy diweddar ydi Sam, tad Colin. Yn nhraddodiad gorau’r operâu sebon, daeth hwn ddi-sôn-amdano o nunlle i’r Cwm mwya’r sydyn, yn ôl i fywyd perthynas sydd yno eisoes. Gweler hefyd Tyler a Dani. Sam yr hen longwr, oedd unwaith yn atgas i Colin druan, ond bellach yn mynd am beint a thripia' sgota efo’i fab hoffus. Sam sy’n byw efo cyn-wraig ei fab (peidiwch â holi) ac sy’n dipyn o stalwyn aeddfed i rai o ledis Cwmderi. Anita ydi’r diweddara. Druan â Nia Caron. Un o actoresau gorau’r gyfres, yn gorfod mopio efo boi mor brennaidd â ’nesg gwaith i.


Mae pob sioe sebon gwerth i halen angen ei chymeriadau hŷn difyr wrth i’r cyfartaledd oedran ostwng i genhedlaeth blew llygaid ffals, lliw haul potel ac 'apps' bachu hoywon. Ond mae cyfres a arferai fod yn ffrwythlon o ran chwip o actorion a chymeriadau Brynawelon ers talwm – Tush, Parch TL, Bella, Maggie Post – bellach yn llwm uffernol o safbwynt y saithdegol.

Wallander oddi cartra



Mi oeddwn i’n reit ffond o’r hen Wallander ers stalwm. Y fersiynau gwreiddiol gyda Rolf Lassgård (1994-2006) ar gyfer sinemâu a ffefryn y ffans Krister Henriksson (2005-2013) ar deledu TV4 Sweden a BBC Four, hynny yw. Roedd ei bortread arbennig yntau o’r Kurt meudwyaidd, hoff o’i botel a’i ddeiet a menywod anaddas, a’r berthynas danllyd rhyngddo a’i dîm Stefan Lindman (Ola Rapace) a’i ferch Linda Wallander (isod) yn y gyfres gyntaf yn arbennig. Dw i’n dal yn tristau o gofio i’r actores Johanna Sällström wneud amdani’i hun wedi pwl o iselder a goroesi trychineb tswnami Gwlad Thai 2004. Cafodd y cast a’r criw eu hysgwyd i’r byw. Cymaint oedd galar ac euogrwydd yr awdur Henning Mankell, nes iddo roi’r gorau i’r syniad o sgrifennu dilyniant i drioleg arfaethedig Linda Wallander. 





Yn y canol, daeth Syr Kenneth Branagh i ddrysu pethau’n rhacs trwy serennu a chyfarwyddo’i gyfresi ei hun ar gyfer BBC1 bob yn dipyn, rhwng 2008 ac eleni. Wedi darllen rhywfaint o’r nofelau gwreiddiol gan y diweddar Mankell, a gwylio’r cyfresi ditectif o Sweden, mae rhywun yn dueddol o gymharu (gormod), pwyso a mesur, a ffafrio un yn fwy na’r llall.

Ar un llaw mae fersiwn Scandi-lite y BBC yn rhagori ar y rhai Swedaidd, diolch i’r gwaith camera hynod drylwyr a gofalus. Mae pob siot yn cyfri, a’r camera yn fframio gwastadeddau eang, ffyrdd pantiog, caeau ŷd ac arfordir gwyllt Skåne, de Sweden, yn gelfydd ac yn wledd i’r llygaid. Mae rhyw arlliw arbennig i’r cyfan sy’n ychwanegu at ias y stori lofruddiaeth. Mae’n amlwg iawn o le cafodd cynhyrchwyr Y Gwyll eu hysbrydoliaeth. 

Ond prif wendid fersiwn Syr Ken ydi’r iaith. Yn hon, rydyn ni’n gorfod credu a derbyn cymeriadau Swedaidd efo acenion Oxbridge. Nid mod i’n awgrymu am eiliad y dylen nhw geisio efelychu cogydd enwog y Muppets chwaith. Ond mae disgwyl i ni fuddsoddi cymaint o’n hamser a’n hymdrech ar ddrama dditectif lle mae’r cymeriadau lleol i gyd, o’r Poliskommisarie i’r mördare, yn siarad Saesneg â’i gilydd - yn chwerthinllyd erbyn heddiw. Wedi’r cwbl, yn tydan ni gyd wedi hen arfer â darllen isdeitlau erbyn hyn, diolch i lwyddiannau byd-eang Forbrydelsen a Borgen i enwi dim ond rhai? Efallai mai apelio at y mwyafrif unieithog UKIPaidd ym Mhrydain ac America Trumpaidd ydi’r nod. Wn i ddim. Nid bod hynny wedi rhwystro Branagh a’i griw rhag ennill gwobrau lu, gan BAFTA a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2009, yn bennaf yn y categori crefft a dylunio.



Anfantais sylweddol arall pennod gyntaf nos Sul diwethaf (1 o 3 yn unig) oedd y lleoliad, Cape Town. A olygai bod Wallander yn chwys doman dan haul tanbaid De Affrica, neu ag awgrym o wên (dim ond awgrym, cofiwch) wrth syllu ar y môr sgleiniog o’i falconi 5 seren. A Huyndai Tucson, nid Volvo oedd ei foto. O’r fath siom.

Nid fanno mae ei le o, ychan, ond adre’n Ystad. Adre'n pechu ei fosus â gwep mor llwyd â’r wybren ac wedi lapio rhag gwynt main y Baltig wrth fynd â’i gi du ffyddlon Jussi am dro ar hyd y twyni diderfyn cyn cael galwad ffôn am gorff arall mewn rhyw warws bol buwch tua’r dociau 'cw.

Wnâi barhau i wylio? Siŵr braidd. Wedi'r cwbl, ‘sdim byd arall ’mlaen nos Sul ond syrcas Cowell ac amdanaffycinholden ar ITV a drama ugain oed ar S4C. Am fy mod i’n dal isio fy ffics o bopeth Nordic, ail-law neu beidio. Ac am mai hon fydd y Wallander olaf un gan y Bîb, wedi diwedd y cyfresi a’r nofelau Swedeg. Diwedd cyfnod yn wir.

Farvål, Kurt a’r criw. Bu’n bleser ymdrybaeddu yn dy gwmni.









 
 

Straeon y Ffin





“Ffinie... yn gofyn cael eu gwthio...”

Mae ffiniau ieithyddol bob amser wedi bod yn rhan o fywyd Gareth Potter, DJ, actor a chyn-aelod o’r grŵp Tŷ Gwydr sydd bellach wedi camu i rôl Hel Straeon bron. Sôn am ddatganiad brawychus o barchusrwydd os buodd un erioed. Mewn cyfres hamddenol braf bob nos Wener i rai o ardaloedd mwyaf anhysbys Cymru i’r mwyafrif ohonom - ardaloedd ma rhai Cymry Cymraeg pybyr hyd yn oed yn troi trwynau am lefydd “Seisnig” nad ydynt yn rhan o Gymru go iawn - cawn flas ar hanes a threftadaeth y ffin, pensaernïaeth odidog brics coch a ffermdai gwyn a thrawstiau du Lleifior-aidd, olion hen ddiwydiant, a barn trigolion y Clawdd, y Mers, y Gororau, am fyw a bod ar y ffin (annelwig yn aml) rhwng dwy wlad.

Ar ôl cychwyn yn ninas Caer, tref yr is-ddeddf anenwog o’r bymthegfed ganrif a ganiatâi i unrhyw un saethu Cymro neu Gymraes a ganfuwyd o fewn muriau’r ddinas wedi iddi nosi, aeth ymlaen i Saltney, Treffynnon a thorri syched yn nhafarn y Dderwen ym mhentre Hendre. Aeth yr ail gyfres â ni o gastell y Waun ac ar gamlas odidog dros Bontcysyllte cyn gorffen yn nhre’ farchnad fawr “Soswallt” - tref Eryr Pengwern, tref sefydlu papur newydd Y Cymro ym 1932, siop Gymraeg Cwlwm, tref y Seintiau Newydd a thref sy’n fwy Cymreig ar ddiwrnod rygbi rhyngwladol Cymru-Lloegr yn ôl Bethan Ellis, athrawes Gymraeg ifanc o Whittington neu’r Dref Wen i eraill. Sgwn i a fydd yr un peth mor wir yr haf hwn, yn enwedig bnawn Iau 16 Mehefin...?

Rhaglenni fel hyn sy'n gwneud i rywun deimlo pa mor uffernol o ffodus ydi o o gymharu ag eraill - prin 10 munud oedd y siwrnai foreol i'r ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg yn Llanrwst - tra soniodd Bethan am daith o awr a mwy i ysgol uwchradd Llanfyllin a nosweithiau Aelwyd yr Urdd. Diolch i aberth, ymroddiad ac amynedd Job miloedd o rieni tebyg felly am gyfle i genhedlaeth newydd o siaradwyr ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y famiaith fregus.

Mae’r iaith ar drai ond “dan yr wyneb” o hyd medd Ieuan ap Sion o Dreffynnon, ac i’w gweld yn enwau ffermydd, caeau a strydoedd yr ochr ddu/draw i’r ffin. Mae’r ysgolion newydd yn hwb i gadw’r ddraig Seisnig draw, a Chymraeg hyfryd Maeldwyn yn gyffredin ar ddiwrnodau marchnad Croesoswallt. Elfen ddifyrra’r rhaglen oedd clip o’r archif ddechrau’r 70au, pan wyntyllwyd y syniad o gynnal refferendwm lleol i setlo’r mater unwaith ac am byth – ai yng Nghymru neu Lloegr y dylai Oswestry fod.
 
Cyfres ddifyr am ran ddieithr iawn iawn o’r wlad i mi’n bersonol. Mwya’r cywilydd i mi. A chyda’r ddwy Steddfod fawr eleni yn ymweld â’r Fflint a’r Fenni, mae’n esgus perffaith i osgoi’r A470 syrffedus o gyfarwydd am unwaith, troi trwyn y car tua'r dwyrain a phacio’r sgidia cerdded am lwybrau Owain Glyndŵr a Chlawdd Offa.

 
 
 

Eurotrash




Neiniau gwerinol o Rwsia, bwystfilod rheibus o'r Ffindir, dynas efo locsyn o Awstria a phyped twrci o Iwerddon. A Bonnie Tyler. Rhai o'r perfformwyr sydd wedi, ym, serenu ar lwyfan eisteddfod fawr Ewrop (ac Israel) dros chwe degawd. Mae wedi datblygu a newid yn aruthrol (uffernol?) byth ers i'r Grand Prix Eurovision de la Chanson Européenne gyntaf gael ei chynnal yn Lugano, Swistir ym 1956. Gyda chwymp y Llen Haearn, boddwyd y fformat gan fflyd o newydd-ddyfodiaid o'r Dwyrain - a Hemisffer y De - gan ddod ag elfennau newydd kitsh i noson fwya' camp a rhemp y flwyddyn. Disodlwyd un Gwyddel sardonig gan un arall a chollodd Le Royame-Uni ei hapêl. Ond mae rhai pethau'n ddigyfnewid. Drama'r sgorfwrdd epig, lle mae cymdogion yn rhoi douze points i'w gilydd, blerwch y cysylltiadau byw a'r camddealltwriaeth ieithyddol. Hefyd, llwyddiant parhaus y Sgandis sy'n golygu tipyn o faich ariannol i sianeli teledu gwladol y parthau gogleddol hynny. Tua 60 miliwn SEK (€6.3m) ydi'r bil i Sweden hyd yma. Mae cystadleuwyr eraill fel Rwmania wedi cael cic owt oherwydd dyledion hirhoedlog.

Does ryfedd fod Iwerddon wedi anfon Jedward a thwrci i'r gystadleuaeth yn ddiweddar wedi i'r wlad bron â fynd i'r wal r'ol cynnal y sbloets bedair gwaith yn ystod y 90au. Ys dywed un o flogiau'r BBC:

Representatives from Ireland’s state broadcaster, RTE, were said to have expressed concern at having to stage the contest for a third consecutive time in 1995, inspiring the famous Father Ted 'A Song For Europe' episode. Perhaps the biggest irony is that only weeks after ‘My Lovely Horse’ was broadcast, Ireland went on to win with Eimear Quinn’s ‘The Voice’ leaving RTE picking up the tab for staging its fourth contest in five years.

Gwnaeth Gymru ei siâr hefyd, rhwng Mary Hopkin o Bontardawe (1970, 2il safle) a Jessica Garlick o Gydweli (2002, cydradd 3ydd). Eleni, Joe Woolford o Ruthun sydd â'r dasg ddiddiolch o chwifio baner yr Iw-Cê.

Ond nid y Ddraig Goch wrth gwrs. Roedd honno ar restr y baneri 'gwleidyddol' sydd wedi'u gwahardd o'r gystadleuaeth, ynghyd â rhai'r Alban, Gwlad y Basg, Palesteina ac, ym, ISIS. Tydi S4C ddim yn hapus, ond tawedog iawn fu'r BBC hyd yma*.

Ond yr enwocaf o Walia, heb os, ydi Nicky Stevens o Gaerfyrddin. "Pwy yffach?" meddech chi. 'Ol Nicky Stevens siwr iawn, aelod o'r pedwarawd fflêriog Brotherhood of Man a ddaeth i'r brig yn yr Haag, Iseldiroedd, ym 1976 gyda...


Dewch 'laen, da chi gyd yn gwybod y geiria'n iawn.

Fydda i'n gwylio'r noson lawen o Stockholm nos Sadwrn? Go brin. Collwyd pob hygrededd ers i Awstralia ymuno â'r rhengoedd, ac mae'rts Ewropop â'r odlau Saesneg ciami yn ymdoddi'n angof i'w gilydd erbyn hyn. Bu ambell berl yn y gorffennol, mwy cofiadwy a safonol na'r enillwyr weithiau. Rhai fel cân Nashville-aidd hollol hyfryd yr Iseldiroedd y llynedd, deuawd gyda merch soniarus nid annhebyg i Duffy Springfield. Ymlaen â'r gân.


Beth petai'r Gymru ddatganoledig yn ymuno â'r gystadleuaeth ryw ben yn hytrach na steddfod dafarn y Ban Geltaidd, fel breuddwyd wreiddiol Merêd pan sefydlodd Cân i Gymru ym 1969? Mae yna ambell gyn-enillydd sy'n ffitio'n berffaith i'r fformat Ewropeaidd gyfredol. Na, nid 'Mi Glywais I' Rhydian Bowen Phillips. Ond hon o 2011...



* Erbyn hyn, mae Undeb Darlledu Ewrop wedi callio a dweud bod croeso i'r Cymry chwifio'r ddraig yn Stockholm wedi'r cwbl. A dyna ddiwedd ar stori a gyrhaeddodd siambr Ty'r Cyffredin hyd yn oed.