Showing posts with label Mad Men. Show all posts
Showing posts with label Mad Men. Show all posts

Byw Cecru















A dyna ni. Bythefnos-dair ar ôl pawb arall, dyma benderfynu gwylio pennod ola Byw Celwydd neithiwr. Borgen y Bae, bach o secs a sglein ar nos Sul, llwyddiant lle methodd James Bond, a gobaith mawr y ganrif (wel, ddechrau 2016 o leiaf) i’r ddrama deledu Gymraeg yn wyneb och a gwae am ansicrwydd ariannol y sianel. 


Roedd ’na gryn edrych mlaen at hon, noson lansio swanc yn y Senedd, cyffro mawr ymhlith y twitteratis – llawer yn ddi-Gymraeg – a sylw gan bapurau’r Independent, y Guardian a’r Daily Mail. Nid bod hynny’n dda i gyd wrth gwrs. Ond roedd yr hysbysebion yn addawol, pobl ddel mewn swyddfeydd gwydr (“tryloyw” ydi jargon yr ACau) a chartrefi o dudalennau Home and Garden, a'r haul wastad yn tywynnu’n syth o Teulu. Sy’n addas iawn, gan mai Meic Povey a Branwen Cennard ydi tad a mam opera sebon y Cynulliad hefyd.


Roedd 'na gystadleuaeth ffyrnig yr un pryd, gydag addasiad Andrew Davies a BBC Wales o’r epig Rwsiaidd War & Peace mlaen ar BBC1, y ditectif tebol Vera ar ITV, a Channel 4 yn darlledu'r anturiaethau ias a chyffro o boptu wal Berlin yn Deutschland 83. Ond be ‘di’r ots am hynny mewn gwirionedd, yn oes y dal i fyny ar bob dyfais sy’n bod? Wrth i nosweithiau Sul stormus y gaeaf fynd yn eu blaenau, Leo Tolstoy gydag acenion Oxbridge gafodd y flaenoriaeth ‘fyw’ yn Chez Dyl. Dyma chi pam.


Y lliw di’r cliw Penderfynodd y cynhyrchwyr y byddai holl gymeriadau newydd y bennod gyntaf yn drysu’r gwylwyr yn rhacs, felly dyma ddefnyddio cod lliwiau i ddangos pwy di pwy, ac i ba blaid maen nhw’n perthyn. Ac wele swyddfeydd gyda chadeiriau, geriach Ikea, ffeiliau, potiau beiros gwyrdd/oren/glas, a hyd yn oed ambell ddilledyn pleidiol. Nawddoglyd? Welsh Assembly for Dummies? Barnwch chi.

Ar garlam Fel un sydd wedi hen arfer a dramâu dow-dow, Mad Men y byd â’u golygfeydd hirion, llawn seibiau, a fawr ddim yn digwydd nac yn cael ei ddweud ar yr olwg gynta - ond yn gyfoethog o ddarllen rhwng y llinellau - roeddwn i’n gweiddi “newidiwch i gêr is” wrth wylio BC.  Unwaith eto, rhyw ddiffyg parch at y gwyliwr o feddwl y byddai’n prysur golli diddordeb wrth ymhél â gormod o bolitics. Do, fe gawsom ambell i gynllwynio mewn meysydd parcio tanddaearol (ai felly ma pethau go iawn?) a sawl cyfyng-gyngor am driniaeth GIG neu sbytu preifat, a throi darn o fynydd Epynt yn gae chwarae i filwyr Israel, ond bitsio a boncio oedd prif fyrdwn y gyfres.  Sy’n dod â ni’n dwt at...

Cicio a brathu Fel ei rhagflaenwyr Iechyd Da a Teulu, roedd ’na gryn wrthdaro fama. Iawn, tsiampion. Wedi’r cwbl, “heb wrthdaro nid oes drama” meddai’r Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth. Ond oes rhaid cael cyfres gyfan o bobl mor annifyr â’i gilydd? Angharad v Rapsgaliwn, sori Owain ei gwr; Angharad v Harri (Stephen Kinnock aka Math Gravelle); Angharad v Ei Mam (Eirlys Britton gyda gwep Happy Valley - croeso mawr iddi gyda llaw, mwy plîs!) Angharad v Angharad. Da chi’n gweld be’ sgin i. Heb son am ménage à trois Lowri-Tom-Aled. Rhyw dindroi o ffraeo a chymodi cyn ffraeo eto oedd hi braidd. Ar y llaw arall, roedd y golygfeydd prin hynny gawson ni rhwng y Prif Weinidog a’i wraig (Siân James) yn hyfryd, y ddau’n deall ei gilydd i’r dim er gwaetha’r bwlch a’r oerni ymddangosiadol. Felly hefyd y cwpl Democrataidd. Gyda llaw, onid oedd hi’n od braidd na ŵyr neb am farwolaeth eu mab ar faes y gad Afghanistan? Y Gymru Gymraeg ydi fama wedi’r cwbl, lle mae cyfrinachau cyn brinned ag ewyllys da rhwng Seimon Brookes a Sbrec.

Bai Borgen “You’ve got a lot to answer fo...” crawciodd Cerys Catatonia un tro. Y drwg ydi mod i’n gymaint o ffan o’r gyfres Ddanaidd a ddangosodd i’r byd bod mwy i ddramâu Sgandinafia na ditectifs trwblus yn crwydro warysau tywyll mewn siwmperi gwlanog. Roedd y disgwyliadau’n aruchel felly. Oedd, roedd yna gryn wrthdaro rhwng gohebwraig sianel DR a chyngor arbennig (‘SPAD’) y Statsministre, boed rhannu cyfrinachau’r senedd neu fwriad i ddechrau teulu, ond roedden ni’n malio am Katrine a Kasper. Roeddech chi’n wir gredu yn eu perthynas chwit-chwat, ac yn bwysicach oll, roedd yna sbarc, chemistry arbennig rhwng y ddau actor ifanc. Dim ond atgasedd a drwgdybiaeth lwyr oedd rhwng Harri ag Angharad tua’r diwedd. Fe welson ni’r Statsministre Birgitte Nyborg yn areithio yn senedd-dy Copenhagen hefyd, a bwysleisiodd wendid y chwaer gyfres Gymraeg o fethu â chael caniatâd i ffilmio yn Siambr ein Cynulliad ni. Dewch ’laen, Lywydd Butler...


Ond be wn i. Mae yna ail gyfres ar y gweill, y twitteratis wedi dotio, a’r gwaith ffilmio’n dechrau fis Mai yn ôl Ffion Dafis ar Dewi Llwyd ar Fore Sul. Hwyrach y down i nabod ei chymeriad, Rhiannon Roberts, yn well na’r portread un dimensiwn o arweinydd diflas a Miss Perffaith y Cenedlaetholwyr. Wnes i golli rhywbeth, ’ta hi yw’r unig un heb stori gefndir o gwbl hyd yma? Roeddwn i wedi gobeithio am rywfaint o hanes rhyngddi hi â’r cyn-nashi a’r Annibynnwr Matthew Desmond (Ryland Teifi) a enillodd isetholiad De a Dwyrain Ceredigion, ond na. Siawns y bydd yna ddatblygiad i’r cymeriad yng nghyfres 2, neu waeth i Ffion Dafis ddychwelyd i sefyll tu ôl  cownter Rownd a Rownd ddim. A tybed welwn ni aelod o blaid hiliol Prydain Annibynnol yn ymuno â’r cast, yn unol â’r polau piniwn digalon diweddar? Amser a ddengys.

 


Yn y cyfamser, dyma esgus perffaith i hel atgofion. Hej! Hej!






Perl nos Sadwrn bach


Help! Wn i ddim beth ar y ddaear i’w wneud ar nosweithiau Mercher o hyn ymlaen. Achos dros y ddeufis diwethaf, dwi wedi treulio’r oriau difyr yng nghwmni Don a Betty Draper, Pete, Paul a Ken, Peggy a’r hyfryd rywiol Joan mewn niwl sigaréts a sawl wisgi mawr. Dw i wedi chwerthin a chrïo yn eu cwmni, wedi dotio o weld ambell un yn blodeuo, diawlio ambell un am gymryd cam gwag, a rhannu’u pryderon priodasol ac economaidd mewn byd sy’n prysur newid. Prin yw’r cyfresi dramâu sy’n ennyn cymaint o deyrngarwch a diddordeb. Efallai eich bod prin wedi clywed sôn am Mad Men, ond mae’r gyfres Americanaidd a orffennodd ar BBC Four neithiwr, yn ticio’r bocsys i gyd. Drama gyfnod Americanaidd yw hi, wedi’i gosod yng nghanol bwrlwm y byd hysbysebu ym Manhattan, Efrog Newydd, yn y chwedegau - ble mae byd braf a breintiedig y cymeriadau yn dadfeilio’n araf o flaen eu llygaid, wrth i ddigwyddiadau’r byd mawr eu hysgwyd i’r byw, o orymdeithiau hawliau sifil yn nhaleithiau’r De i egin-ryfel Fietnam. Ac wythnos diwethaf, roedd llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy yn gefnlen effeithiol i’r bennod gyfan wrth i fyd a phriodas Don Draper, y prif gymeriad, chwalu’n deilchion. Mae ambell un sydd wedi rhoi cynnig arni’n cwyno ei bod yn rhy araf, ond dyma un o’i rhinweddau pennaf i mi. Mae’r gwaith camera trawiadol, y manylder arbennig i arferion a chwaeth y chwedegau, a’r golygfeydd hirion heb eiriau, yn rhoi cyfle i’r stori a’r cymeriadau ddatblygu dow dow dros 13 wythnos. Ac mae hynny’n fendith, mewn byd o gyfresi sebon sy’n gwasgu llofruddiaeth, ffrwydrad a ffeit gyhoeddus yn y dafarn mewn cwta hanner awr. Da chi, mynnwch gip ar yr iplayer neu prynwch DVDs o’r gyfres. Chewch chi mo’ch siomi.

Mae’n f’atgoffa i raddau o berl arall o’r gorffennol, Our Friends in the North, a ddarlledwyd ar y BBC ym 1996 - epig fodern am griw o ffrindiau bore oes o Newcastle, o gyffro’r chwedegau i obeithion Llafur newydd yn y nawdegau. Mae Pen Talar, cyfres ddrama arfaethedig S4C a ddarlledir ym mis Medi eleni, yn gado rhywbeth tebyg, wrth olrhain hanes dau ffrind o’r 1960au tan 2010. Mae’n swnio’n debyg i gyfres Gareth Miles, Llafur Cariad, a ddilynodd ddaeargryn wleidyddol Cymru o ddyddiau du Thatcher i’r Refferendwm ar ddatganoli. Adloniant, llond sgrin o actorion amlycaf Cymru, a gwers hanes diweddar y genedl felly. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar yn barod.

Yo! Owain




Gyda chyfresi gorwych Mad Men a Damages wedi mynd i’w gwelyau am y tro, rhaid chwilio’n rhywle arall am fy ffics wythnosol o Americana. Dwi wedi gorfod rhoi’r ffidil yn y to gyda Brothers & Sisters (sori, Matthew Rhys!) gan fod manion fel wyneb plastig Rob Lowe, corff styllen Calista Flockhart a gormod o gwtsho siwgwrllyd yn mynd dan fy nghroen ac yn difetha'r mwynhad o'r rhaglen.

Felly, dyma’r Mentalist yn dod i’r adwy – cyfres dditectif (arall?! meddech chi) hefo tro bach ei chynffon. Cyfres am dditectif o’r enw Patrick Jane (Simon Baker o Awstralia) sy’n arwain criw California Bureau of Investigation, ac sydd fel arfer yn gwneud y gorau o’i lleoliadau heulog braf a’i chymeriadau delach na del. Yr hyn sy’n unigryw am Jane yw ei sgiliau seicig, a’i allu arbennig i ddatrys llofruddiaethau trwy synhwyro a threiddio i feddyliau’r drwgweithredwyr. Ychwanegwch y seidcic sgeptig, Grace Van Pelt, a dau dditectif sy’n dipyn o glown, ac fe gewch chi awran digon difyr. Mae'n llwyddiant mawr yn America, ac yn denu 14 miliwn o wylwyr wrth iddi dynnu tua'i therfyn yno - mwy na chynulleidfaoedd dramau mawrion fel 24 a CSI: New York. Ac i goroni’r cyfan, mae ’na actor o Gas-gwent yn aelod blaenllaw o’r cast – Owain Yeoman, cwlffyn o foi gyda gên fwy sgwâr nag un Jamie Roberts, Gleision Caerdydd hyd yn oed. A chwarae teg, mae’n amlwg ei fod wedi llwyddo i ddysgu’r Iancs am ei gynefin go iawn yn lle’r “England” felltith…


THE MENTALIST, CHANNEL FIVE, NOS IAU 9PM




Goreuon Mericia


Iawn, oce. Dwi’n disgyn ar fy mai. Fe wnes i siarad yn rhy gynnar wrth feirniadu rhaglen gyntaf Teulu am fod yn ailadrodduszzzzzzzzz ar y naw gyda saga Hywel a Dr Manon. Bellach, mae’r berthynas ar ben (am wn i) ac wedi creu rhagor o chwalfa a chenfigen yn ei sgil. Ar y llaw arall, mae perthynas newydd yn blodeuo rhwng Dr John ac Eirlys, gan frifo Eric druan i’r byw a denu gwg (a chenfigen?) Margaret, matriarch y Morgans. Mae’n gyfle gwych i Eiry Thomas ddangos ochr newydd, fwy tyner, o’r derbynwraig fythol ffyslyd ac un o gymeriadau gorau’r gyfres. A dyw wyneb newydd y feddygfa, Dr Steffan Jones (Bradley Freeguard o Bontypridd) ddim yn plesio pawb. Mae yna gymaint yn digwydd mewn pennod awr, ac mae’n ffordd ddelfrydol o ddiogi ar y soffa ar nos Sul. Diolch i’r drefn nad yw’n bywydau ni mor gymhleth â’r criw brith hyn!

Felly hefyd teulu arall draw dros y don yn y gyfres boblogaidd Brothers & Sisters (More 4, 10pm nos Iau) gyda Matthew Rhys fel Kevin Walker y brawd iau. Mae’r teulu hwn o LA mewn gwewyr ar ôl clywed fod eu diweddar dad wedi bod yn anffyddlon i’w mam sawl tro, ac wedi gadael ambell blentyn siawns ar ei ôl! Mae’r cyfan wedi’i hactio’n dda ac yn edrych yn dda, er bod ambell enghraifft o sentimentaliaeth siwgrllyd Americanaidd yn anodd ei stumogi weithiau. ’Sdim owns o sentimentaliaeth yn perthyn i Damages (BBC One Wales, 11.10pm nos Sul) a ddychwelodd am chwip o ail gyfres nos Sul diwethaf. Wedi’i gosod ym myd didostur cwmni twrna
yn Efrog Newydd, mae Patty Hewes (Glenn Close) yn hen gnawes o gyfreithwraig sydd â llond gwlad o elynion a gwaed ar ei dwylo. A chyda throeon syfrdanol yng nghynffon pob pennod, bron, mae’n hoelio’r sylw ac yn ein gadael yn gegrwth ar y diwedd. Does ryfedd ei bod wedi ennill llond cwpwrdd o wobrau Grammys a’r Golden Globes.

Efrog Newydd yw cefndir Mad Men (BBC Four, 10pm nos Fawrth) hefyd, cyfres ddrama wedi’i gosod mewn cwmni hysbysebwyr yn 1960au – lle mae dynion yn deyrn, merched yn gorfod bodloni ar swyddi teipio neu fagu teulu, pobl dduon yn gweithredu’r lifftiau, a phawb yn yfed wisgi yn y swyddfa ac yn smygu fel stemar. Mae’n gipolwg cyfareddol ar fyd sy’n ymddangos mor, mor, bell yn ôl erbyn hyn.

Ac i gloi, croeso mawr yn ôl i’r gyfres gomedi gwyllt a gwallgof 30 Rock (Five US, 9pm nos Wener) am weithwyr cwmni teledu dychmygol, gydag Alec Baldwin a Tiny Fey - sy’n enwocach am ddychanu Sarah Palin, cyn-ymgeisydd y Gweriniaethwyr ar gyfer Is-Arlywyddiaeth America. Rhowch gynnig arni, ac fe fyddwch chi’n glana chwerthin!