Croeso’n ôl i’r gyfres ddogfen ragorol O’r Galon, gyda’i straeon difyr, dadlennol ac amrywiol tu hwnt - o ymweliad teulu o Abertawe i wersyll-garchar aflan y Natsïaid lle lladdwyd eu mam-gu, i hanes Maer Cymraeg o Ddyfnaint sy'n byw bywyd i’r eithaf. 'Bywyd y Bugail' oedd testun rhaglen nos Fawrth diwethaf, gyda phortread hyfryd o Erwyd Howells, Capel Madog, yn nhopiau Pumlumon. Dyma un o fugeiliaid traddodiadol olaf Cymru, meddai’r llefarydd, sy’n dal i grwydro’r tiroedd anghysbell gyda’i gŵn defaid ffyddlon yn hytrach nag ar feic cwad. Roedd hi’n stori drist iawn ar yr olwg gyntaf - colli’i wraig yn greulon o ifanc yn 28 oed, a’i adael gyda mab a merch tair a phedair oed. Ond gyda chymorth teulu a chymdogion i fwydo a gwisgo’r ddau fach, a phrysurdeb y tymor wyna yn fuan wedi’r brofedigaeth lem, fe ddaeth drwyddi. Hynny, gyda “diolch tragwyddol” i bobl y fro. A heddiw, mae yntau’n ad-dalu’r diolch hwnnw trwy gyfrannu’n llawn at fywyd crefyddol a chymdeithasol gogledd Ceredigion. Roedd yn mwynhau’r gorau o ddau fyd. Ar un llaw, roedd wrth ei fodd yng nghanol tawelwch ac unigeddau’r mynyddoedd mawr, ac ar y llaw arall, yn gwerthfawrogi cwmni a chwerthin pobl adeg cneifio yng Nghwm Elan, wrth gyflwyno sgwrs a sleids i’r henoed neu arwain noson werin mewn neuadd bentref. Ac yng nghanol sŵn a phrysurdeb gwyllt ein bywyd uwch-dechnoleg ni, gallaf weld pam. Roedd yma waith camera trawiadol iawn, gyda’r defaid fel morgrug gwynion yn nadreddu drwy’r bryniau o bell. Ac roedd troslais tyner Daniel Evans, yr actor amryddawn o Gwm Rhondda, i’r dim wrth adrodd hanes y bugail hynaws.
Fe wnaiff les i wleidyddion hen a newydd fel Rod Richards a Chris Bryant wylio’r rhaglen hon yn lle lladd ar S4C bob gafael. Pan dorrodd y stori am fethiant rhaglen Sgorio i ddenu’r un gwyliwr o gwbl am 11.30pm nos Lun, 14 Rhagfyr, roedd y ddau dwpsyn yn barod i borthi syniadau Daily Mail-aidd yn erbyn y sianel Gymraeg. ‘Rhowch stop ar S4C!’ oedd eu cri, ‘a dychwelwch i’r hen drefn o blannu ambell raglen Gymraeg yng nghanol y rhai Saesneg, fel Pobol y Cwm am 7.30pm ar BBC2’. Ond, roedd y ddau dwpsyn yn dawedog iawn fis yn ddiweddarach pan lwyddodd Sgorio i ddenu bron i hanner miliwn o ffans Caerdydd a Bryste i wylio gêm cwpan Lloegr. Ac mae’r ffigurau gwylio yn saff o saethu drwy’r to wythnos i’r Sadwrn, wrth i S4C ddarlledu gêm fyw Caerdydd a Chelsea ym mhumed rownd y gystadleuaeth. Dwi’n siŵr fod peiriant cyhoeddusrwydd y Sianel yn codi stêm yn barod.