Showing posts with label Denmarc. Show all posts
Showing posts with label Denmarc. Show all posts

Buon compleanno Walter*


 
Eithr gwared ni rhag Mike y mecanig

Mae olwyn y pandemig yn dal i droi a ninnau’n dal i fynd i nunlla. Ambell ddiwrnod da, sawl un gwael. Yr amynedd yn pallu a’r diffyg cwsg yn cynyddu. Flin efo’r byd, a flin efo’r wasg a’r cyfryngau Prydeinig am roi blaenoriaeth i saga Harry a Meghan yn lle dwyn llywodraeth lwgr i gyfrif. Dyfarnu contracts PPE hael i ffrindia’ Matt Hancock a chyfradd farwolaethau covid waethaf Ewrop? Tewch, wir. Mae’n well gan hacs Rupert Murdoch a’r English Broadcating Corps ganolbwyntio ar The Crown go iawn, a gwethygu wnaiff pethau gwaeth pan fydd gwasanaeth newyddion 24/7 yr asgell dde eithafol ar yr awyr. Mwynhewch, Great Brexit Public!

Ac alla i ’mond gwylio ein cyfresi sebon Cymraeg ag eiddigedd pur. Dim ond cadw 2 fetr oddi wrth ei gilydd maen nhw’n Glanrafon, ac yn cael piciad i'r pictiwrs hyd yn oed. Mae trigolion Cwmderi yn denu lojars fel chwain ar gi strae ac yn jetsetio i Awstralia a Disneyland neu am ddiwrnod sba yn ’Soswallt. Ond dihangfa ydyn nhw wrth gwrs, a diolch i dduw neu allah amdanynt. Hyd yn oed os ydi cymeriadau fel Aled, Non ag Angharad yn mynd drwy 'mhen i.

Diolch i’r drefn am Walter Presents hefyd. Mae gwasanaeth ar alw, rhad ac am ddim, Channel 4 newydd ddathlu ei bumed pen-blwydd, ac wedi bod yn achubiaeth i mi pan oedd arlwy’r sianeli traddodiadol mor brin â silffoedd Aldi ganol Mawrth 2020. Gwledydd Llychlyn sy'n apelio fwyaf wrth gwrs, ond dw i hefyd wedi cael blas ar berlau cudd o’r weriniaeth Tsiec a Croatia ar hyd y blynyddoedd, ac ambell drioleg o Ffrainc. A dw i’n dal i ddweud y dylai perthynas newydd S4C â’r gwasanaeth weithio ddwy ffordd. Rydyn ni eisoes yn dra-gyfarwydd ag Iris a Willem Y Godinebwr o Amsterdam efo isdeitla’ Cymraeg yn hwyr nos Fercher, ond meddyliwch pa mor wych fyddai gweld bocsets y gorau o Gymru – Alys, Con Passionate, Parch, Pris y Farchnad, Tair Chwaer, Teulu – yn serennu ar All4, gan ychwanegu at goffrau sobor S4C. Os na fydd ambell un wedi dyddio’n drybeilig erbyn hynny wrth gwrs. *Pen-blwydd hapus, Walter.

Ond yn ôl at heddiw, ac ie, y Sgandis sy’n dal i blesio. Mae ail gyfres Rebecka Martinsson: Arctic Murders ymlaen ar hyn o bryd, wedi’i seilio ar nofelau trosedd Åsa Larsson a’i gosod yn Kiruna, dinas fwyaf gogleddol Lapdir Sweden – lle mae’r gaeafau -20C yn hirfaith, a’r haul prin yn machlud ganol haf. Digon i droi unrhyw un yn honco efo gwn neu gyllell, a chadw’r cyn-dwrna o Stockholm yn brysur ym mro ei mebyd pan nad ydi hi’n bachu cariadon gwragedd eraill y dre.

Anhrefn yr yr arctig

 

Yr ail gyfres glodwiw ydi Deliver Us o Ddenmarc (Fred til lands). Hanes criw mewn tref fach ddi-nod, sydd eisiau talu’r pwyth yn ôl i fwli lleol 18 mis ar ôl i fab y doctor gael ei ladd gan bicyp wrth feicio adref o ddathliadau graddio. Ac mae Morten Hee Andersen ar dân fel Mike y mecanig, basdad o foi sy’n tynnu pobl i’w ben bob gafael. O’r dafarn i’r ffatri cywion ieir, mae ei bresenoldeb annifyr yn staenio ardal gyfan. Gyda’r heddwas lleol hyd yn oed yn cachu brics, daw criw o rieni at ei gilydd i gael gwared ar Mike unwaith ac am byth – gyda’r holl boen meddwl moesol ynghlwm wrth hynny. Does 'na fawr o glamour Borgen yn fama, na chartrefi chwaethus wedi’u dodrefnu gan Illums Bolighus – yn hytrach, aelwydydd dosbarth gweithiol llawn straen, galar, cariad coll neu briodasau di-serch. Os ’da chi isio laffs arwynebol yng nghanol y pla, gwyliwch Saturday Night Takeaway efo'r ddau na o Gastell Gwrych. Ond os am bwerdy actio a gwaith camera crefftus, tensiwn bob gafael a phortread o ragfarnau cudd pob cymuned glos, ewch amdani.

 


 



Yn y cyfamser, mae'r aruchel Unforgotten yn ôl am y pedwerydd tro ar ITV, wrth i DCI Cassie Stuart (Nicola Walker) ddiawlio-ddychwelyd o absenoldeb salwch i sicrhau pensiwn llawn a chydweithio eto â DI Sunny Khan (Sanjeev Bhaskar). Y tro hwn, achos iasol o gorff heb ben a ganfuwyd mewn hen oergell yn ne Llundain sy'n hoelio'r sylw. Yn raddol, down i wybod taw corff dyn aeth ar goll ym mis Mawrth 1990 ydi o. A dyma'r ditectifs, fel ni'r gwylwyr, yn gorfod hel y darnau jig-sos at ei gilydd gyda chymeriadau ar wasgar o Ardal y Llynnoedd i Gaergrawnt, Stockwell, Llundain i Rochester, Caint. Do, fe darfwyd ar waith ffilmio'r gaeaf diwethaf oherwydd y pandemig, cyn i'r cast ailafael ynddi pan laciodd pethau rhywfaint yn haf 2020 - sy'n esbonio'r brigau noeth ac yna coed llawn dail yn yr olygfa nesaf. 

Ond sdim ots am hynny. Mi wenais fel giât pan ddychwelodd yr arwyddgan drist am 9 nos Lun. "All we do is hide away..."

 

Mewn angof ni chant fod @ ITV


Yna, trowch at Netflix i chwerthin efo Rita, drama-gomedi Ddaneg am fam sengl o athrawes sy’n smocio fel stemar ac wrthi fel cwningan efo’r prifathro neu ambell riant. Gyda thri o blant ei hun, fawr o groeso i'w chyn-wr na'i mam angof ei hun, lot o godi dau fys ar yr awdurdodau a chwtsh i ddisgyblion dan anfantais, mae'r penodau hanner awr yn siwr o godi calon cyn noswylio. Rydan ni ar ei hol hi braidd, achos mae'r chweched gyfres ar fin ymddangos adra' yn Nenmarc.

 

 


 





Où est Spiral?




Mae’r BBC wedi mynd yn rhy bell rŵan. Yn ein cadw ar binnau, a’n herian efo hysbysebion o’r gyfres ddrama am dditectifs honco Paris - Spiral, neu Engrenages i chwi Francophiliaid. Mae’r Ffrancwyr lwcus wedi gweld y seithfed gyfres ers mis Chwefror - ie CHWEFROR - a ninnau i fod i’w chael rhywbryd cyn Dolig. Nadolig eleni, gobeithio. Achos byth ers i’r gyfres hynod ddu o Ddenmarc orffen wythnos diwethaf, dw i wedi bod yn tyrchu drwy’r Radio Times am gadarnhad. ’Sdim sôn amdani’r wythnos hon na’r nesaf beth bynnag, gyda ffilm Sbaenaidd gan Pedro Almodovar a ffilm hanesyddol o Norwy’r 1940au yn hawlio slot naw o’r gloch nos Sadwrn BBC Four. 

Mynadd! Anturiaethau a charwriaethau rhemp Laure Berthaud a Gilou Escoffier ry’n ni eisiau ei weld, heb son am yr arch-gynllwynwraig bengoch Joséphine Karlsson sydd bellach dan glo am ladd ei threisiwr, a’r barnwr doeth Francois Roban sy’n raddol ddirywio o ran iechyd. Mae’r trelyrs yn awgrymu ei bod hi’n ta-ta Tintin wrth i’r hen dditectif gael ei glwyfo gan ei ysgariad a’i ddadrithio gan ei bartneriaeth hir oes â Gilou a Berthaud. A beth ydi hanes babi Romy erbyn hyn, wedi i’r fam newydd Berthaud sgrialu mewn panig o’r ’sbytu rhag tedi bêr panda anferthol Gilou a chyfrifoldebau teuluol ar ddiwedd cyfres chwech? 



Dw i’n gobeithio, yn gweddïo, mai Hydref y deuddegfed fydd y première...

Yn y cyfamser, mae yna ddigon o gyfresi tramor i’ch cadw’n ddiddig, diolch yn bennaf i wasanaeth ffrydio ardderchog Walter Presents.

The Lawyer (Advokaten) - un arall o stable Frans Rosenfeldt, sydd heb cweit lwyddo i gyrraedd uchelfannau The Bridge eto (a gorau po leiaf ddwedwn i am ei gyfres Brydeinig Marcella ar ITV). Cyfres deg pennod am dwrna ifanc o’r Frank a’i chwaer drwblus a’r blismones Anna, sydd mewn dyfroedd dyfnion iawn ar ôl dod wyneb yn wyneb â’r prif droseddwr fu’n gyfrifol am osod bom dan gar eu rhieni flynyddoedd maith yn ôl. Gyda chyffro, cymhlethdodau a digon o olygfeydd o’r Bont eiconig rhwng Malmö a København!


Guardian of the Castle (Čuvar Dvorca) - cyfres o Groatia y tro hwn, y brifddinas Zagreb yn benodol a thriller gwleidyddol o ganol yr 1980au mewn oes pan oedd Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia yn dal ar fap y byd. Hanes Boris Biscan, dyn unig yn ei chwedegau, biwrocrat mawr y blaid sy’n dal i warchod y gorffennol a’r wladwriaeth i’r byw mewn byd modern sy’n prysur geisio’i ddisodli - yn llawn sbïwyr Traws-ewropeaidd, saethwyr cudd, ffasiynau uffernol a chymeriadau-smocio-fel-stemar. Mini-gyfres pedair pennod yn unig, yn ddelfrydol i’w mwynhau mewn dim o dro.

Thou Shall Not Kill (Non uccidere) - yr Eidal sy’n galw’r tro ma, a dinas bictiwresg Torino sy’n gymaint o gymeriad ynddo’i hun, diolch i’r gwaith camera godidog - gydag amgueddfa’r Mole Antonelliana yn tyrru dros y ddinas, a’r Alpau yn y cefndir - heb sôn am bencadlys baróc y polizia lleol sy’n gartre i Valeria Ferro (Miriam Leone). Wrth gwrs, mae ’na lofruddiaethau i’w datrys hefyd heb son am strach a stryffig personol gan gynnwys cysgu efo’r bos. Un o gyfresi mwyaf chwaethus eleni, heb os, wedi’i phecynnau mewn penodau awr a hanner yr un.





Draw ar netflix, mae yna berl o thriller Daneg. Hanes heddwas Asger Holm (Jakob Cedergren) fu’n hogyn drwg ar y ffrynt lein, ac sydd wedi’i neilltuo i uned galwadau brys København øst wrth aros am ei achos llys. Ac yno mae’r ffilm wedi’i leoli am 85 munud gron gyfan. Na, peidiwch â jibio, mae’n wir werth sticio iddi. Mae rhwystredigaeth ei shifft ddiflas o ateb galwadau gan foi off ei ben ar gyffuriau neu feiciwr wedi cael codwm meddwol yn prysur droi’n un llawn tensiwn, a ninnau ar binnau gydag e, wrth i Asger dderbyn galwad gan fam ifanc sy’n dweud iddi gael ei herwgipio o’i chartref a’i phlant bach. Mae’r cloc yn tician, y seibiau'n boenus, ac Asger yn dibynnu ar lygaid a chlustiau eraill wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa ei daro - gan dorri’r rheolau a llusgo eraill i weithredu drosto. Ond dyw pethau ddim cweit fel maen nhw’n ymddangos, ac mae’r diweddglo’n dorcalonnus. Fe welais i hon mewn un eisteddiad ar fws blinderus o Lundain i Gaerdydd, a wir, fe hedfanodd y siwrnai.  The Guilty ydi’i henw gyda llaw, ac mae Hollywood am ei haddasu gyda Jake Gyllenhaal wrth y llyw. 

Fydd honna ddim hanner cystal. Da chi, gwyliwch y gwreiddiol.