Accéder au contenu principal

Articles

Affichage des articles du juin, 2016

Allez les Cyfryngis!

Prin wythnos sydd i fynd tan y gic gynta. Er gwaetha pawb a phopeth - o siopau cadwyn Seisnig i drefniadau rhech ein prifddinas - dy'n ni ar fin cystadlu mewn twrnamaint mawr rhyngwladol am y tro cyntaf ers bron i drigian mlynedd. Eisoes, gwelsom hys-bys ffilm  sentimental John Lewis-aidd BBC Wales gydag actorion fel Llinor ap Gwynedd a Mark Lewis Jones fel nain a taid(!) yn portreadu sawl cenhedlaeth o deulu ystrydebol o'r cymoedd yn gwylio trwy ddagrau ddoe cyn edrych ymlaen yn awchus at Ffrainc '16.

Sbloets rhwydwaith y BBC wedyn, gyda'r cyflwynwyr megis aelodau o lys Louis XIV - gan gynnwys Robbie Savage, Jason Mohammad a Gabby Logan mewn colur, ffrils a wigiau camp - a'r ddraig goch yng nganol llumanau'r cenhedloedd eraill. Mae 'na gip ar Bale yn hysbyseb gyffelyb ITV dan arweiniad oh! ah! Cantona hefyd. Ac mae cryn flas Ffrengig ar S4C yr haf hwn hefyd (rhwng cweir "uchafbwyntiau" taith y bois rygbi i Seland Newydd) rhwng Owain Tudur Jones y…