Showing posts with label Canada. Show all posts
Showing posts with label Canada. Show all posts

Canada am byth!



Waeth i mi gyfaddef ddim. Dw i fyny ag i lawr wythnos yma. Fel y boi un diwrnod, blinder affwysol diwrnod wedyn. Es i ’ngwely am hann’di naw neithiwr. Swn i’n gallu cysgu am ddiwrnod cyfa heddiw. Dyna ni. Dim ond deud. Dw i ddim isio degau o ‘hoffis’ na chwtsis rhithiol gan y cyfryngis cymdeithasol. Felly mae hi. Nid fi ydi’r cyntaf na’r olaf i gwyno.

Efallai 'mod i angen mwy o hwyl a hiwmor yn fy mywyd. Ond y gwir amdani yw hyn - mae’n well gen i nofelau a chyfresi teledu tywyll. Dw i ddim yn helpu’n hun nacdw? 

Y diweddaraf ydi cyfres dditectif o bellafoedd oer gogledd Ontario bob nos Fercher ar BBC Two, ond sy’n teimlo fwy fel nos Sadwrn BBC Four. ’Sdim rhyfedd fod amserlen pawb ar chwâl y dyddiau hyn. Croeso anferthol nôl i Cardinal felly, am y pedwerydd tro a’r olaf un yn ôl y son. Hen dro, achos mae hon gystal os nad gwell nag unrhyw beth o'r parthau Llychlynaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Ac ydi, mae’r hen John Cardinal (fersiwn Canada o’n DCI Tom Mathias ni, os leiciwch chi) lawn mor brudd a blinedig ag erioed, a bellach yn weddw ar ôl i’w wraig gael ei lladd yn y gyfres ddiwethaf. Does ryfedd fod Toronto 240 milltir i’r de yn apelio gymaint i’w fyfyrwraig o ferch, ac i’w bartner ffyddlon Lise Delorme (yr actores québécoise, Karine Vanasse) sydd ar fin trosglwyddo i heddlu’r ddinas. Ac mae Algonquin Bay ganol gaeaf noethlwm (North Bay go iawn, poblogaeth 52,000, cyn ganolfan filwrol a rhan o warchodfa brodorion y Nipissing First Nation sy’n siarad iaith Algonquin neu Anicinàbemowin), gyda’i stryd fawr slwtslyd yn arwain at wastadeddau gwynion a choedwigoedd maith wedi’u chwipio gan wynt -40 gradd, yn lleoliad perffaith ar gyfer y genre.


Ac mae perthynas y ddau brif gopyn, Lise a Cardinal, wedi newid ac esblygu’n sylweddol ers y gyfres gyntaf pan gafodd hithau ei phlannu yn swyddfa Algonquin Bay PD er mwyn ymchwilio’n gudd i arferion plismona John Cardinal. Yn ara’ deg, daeth y naill i nabod ac ymddiried yn y llall yn well, a dod yn ffrindiau triw tra’n cadw pellter cymdeithasol o rwystredig i’r rhai ohonom sy’n ysu am weld mwy yn datblygu rhyngddynt. Ie, cliché rhif 256 y ddeuawd-ditectifs. Ond tydi hynny byth yn lladd y pleser o wylio’r perfformiadau cynnil mewn cyfres sy’n mynd dow-dow (rhy araf i rai) heb ofni gadael i seibiau ddweud llawer mwy na’r deialog. A diawcs, dw i wir yn malio am y ddau yn eu hunigrwydd.

Sail y gyfres deledu

Yn y gyfres olaf un (sob!), mae dyn yn cipio pobl gyda gwn tazer cyn eu clymu a’u gadael i rewi i farwolaeth mewn llecyn anghysbell, ac anfon neges fideo olaf i’w hanwyliaid – Aelod Seneddol a pherchennog canolfan arddio, a arferai fod yn gyd-ddisgyblion ysgol flynyddoedd maith yn ôl. Mae’n ras yn erbyn y cloc, gyda byd natur yn gymaint o fygythiad â’r herwgipiwr.

Rhwng awyrgylch tawel a'r myrdd o gymeriadau digyswllt, ofni be-ddaw-nesa, yr awyrluniau maith a cherddoriaeth atmosfferig “Familiar” gan Agnes Obel o Ddenmarc (siŵr iawn), dw i ar ben fy nigon.

Croeso’n ôl Cardinal.



Nederlands a North Bay





Efallai bod eu timau pêl-droed yn eithaf cyfarwydd i ni yn yr ynysoedd hyn (sori Ajax) ac un o ffefrynnau'r camp a rhemp Ewropeaidd eleni, ond nid felly dramâu teledu’r Iseldirwyr. Do, fe gawsom ni olygfeydd helaeth o erwau tiwlips, y camlesi a’r strydoedd coblog a Rwmaniaid amheus efo lli' gadwyn yn Baptiste ar BBC One, ac mae son am atgyfodi un o dditectifs (Saesneg) enwoca’r wlad yn Van Der Valk (1972-1992) gyda Marc Warren yn camu i sgidiau Barry Foster. Dim ond brith gof o fersiwn y 90au sydd gen i ar ITV, ond mae arwyddgan cofiadwy Jan Stoeckart wedi gadael argraff arna i erioed ac yn perthyn i gyfnod pan oedd cyfresi teledu yn cyflogi cyfansoddwyr i greu chwip o gredits y gallech hymian yn hawdd iddyn nhw. Gyda'n gilydd nawr... dy dy dy dyyy dy dy dy....


A rwan, diolch i’r anhepgor @WalterPresents, gallwch fwynhau thriller seicolegol The Adulterer neu Overspel (2011-2015) am ffotograffwraig briod sy’n disgyn dros ei phen a’i chlustiau mewn chwant gyda thwrna sy’n destun ymchwiliad oherwydd arferion amheus ei gleient o deulu maffia lleol y Couwenbergs. Gydag achos llys, llofruddiaethau, blacmel, bytheirio a boncio à la Teulu neu Dr Foster, mi ymgollais i’n llwyr ynddi adeg gwyliau diweddar i Bortiwgal. 

Croeso ’nôl hefyd i Cardinal, y ditectif dolefus o Ganada sydd ’mlaen am drydedd gyfres ar nosweithiau Sadwrn BBC Four. Dolefus achos mae’r cradur mewn galar wedi i’w wraig neidio i’w thranc poitshlyd o faes parcio aml-lawr ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf – er bod y dyn ei hun (Billy Campbell) yn bur amheus wrth gael ei blagio gan gyfres o gardiau dienw. Ac ar ben pob dim, mae ei seidcic uchelgeisiol Lise Delorme (yr actores Québécois Karine Vanasse) yn ei lusgo ar drywydd llofrudd cwpl cefnog mewn hongliad o dŷ moethus yng nghanol y goedwig. Ac mae’r awyrluniau Scandi-aidd o goedwigoedd lliwgar Ontario adeg y Fall yn wledd i’r llygaid, ac yn wrthgyferbyniad braf i’r blociau ‘landromat’ a’r motels moel, fel y pocedi o ynysoedd a’r llynnoedd o amgylch North Bay ag islais sinistr fel pob drama noir-aidd gwerth ei halen. Ac ydy, mae’r stamp Nordic yn parhau gyda’r arwyddgan atmosfferig “Familiar” gan Agnes Obel o Ddenmarc. Roedd cryn gwyno ar twitter am safon y sain, a’r ffaith fod gormod o sibrwd-siarad, ond fel defnyddiwr isdeitlau cyson beth bynnag, dyw’n amharu dim arna i.

Da 'di’r cyfresi tywyll adeg ein nosweithiau gola ni.