Showing posts with label Berlin Station. Show all posts
Showing posts with label Berlin Station. Show all posts

Daw hyfryd fis...




Mae fy ngorchwylion darllen/gwylio yn gorgyffwrdd â’i gilydd dyddiau hyn. Amrywiaeth piau hi, er bod perig i mi chwalu ’mhen gyda’r gwahanol genre yr un pryd. Dim diolch i fis Mehefin sy’n prysur droi’n dampar go iawn, a’r nosweithiau oerddu yn g’neud i rywun oleuo canhwyllau a nythu ar y soffa. Anodd credu mai’r adeg yma llynedd roedd caeau silwair, gerddi, a pharciau’r wlad yn prysur felynu, a Mehefin 2018 gyda’r cynhesaf erioed yn achos Cymru a Gogledd Iwerddon. Adeg addas iawn felly i ymgolli’n llwyr yn nofel ddiweddaraf y Pommie-yn-Awstralia Jane Harper, The Lost Man, wedi’i gosod yn niffeithdir diderfyn yr outback, lle mai fferm 200 milltir i ffwrdd yw’ch cymydog agosaf. Hynny ar ôl gorffen darllen Blaidd wrth y Drws Meleri Wyn James - gorfodi’n hun erbyn y diwedd rhaid cyfaddef, gan fod y plot yn llai ‘arswydus’ na’r oeddwn wedi’i obeithio - am effaith galar annisgrifiadwy, sterics y wasg a chymdeithas glos ar deulu bach.

O ran y bocs bach, dyma sy’n hawlio fy nosweithiau soeglyd ar hyn o bryd…



BLOODLINE (Neflix) Meddyliwch am Teulu â chyllideb reit sylweddol yn Florida Keys, a dyna syniad i chi o hyd a lled y ddrama hon. Hanes teulu Rayburn sy’n berchen ar bentra gwylia glan môr, ac sy’n canolbwyntio ar ymdrechion tri brawd a chwaer – ditectif, twrna, perchennog iard gychod, dafad ddu - i gyd-dynnu er gwaethaf hen gynnen a chlamp o sgerbwd yn y cwpwrdd. Ychwanegwch nosweithiau clós chwantus, gormod o chasers a dryll anghyfreithlon at y pair, ac mae’n ddrama ffrwydrol – er ei bod hi braidd yn anodd cynhesu at ’run cymeriad. Cafodd y gyfres gyntaf groeso brwd, cyn i bethau fflagio braidd erbyn cyfres 2 a 3.



DEAD TO ME (Netflix) Comedi am chênj. Chwilio oeddwn i am rywbeth hanner awr, ysgafnach, i’w fwynhau cyn noswylio, a dyma hi. Cyfres am wraig benboeth o Galiffornia sydd newydd golli’i gŵr mewn damwain car, ac sy’n benderfynol o ddal y diawl neu’r ast a’i darodd, law yn llaw â chanfod ffrind newydd mewn grŵp therapi profedigaeth yn Palm Springs. Gyda lot o effio ond hefyd enydau emosiynol o hiraethu am gymar bore oes. Y ffrind yn y gyfres hon, gyda llaw, ydi'r chwaer yn y gyfres uchod, sy'n profi nad S4C yn unig sy'n ailgylchu'r un hen wynebau.



SUMMER OF ROCKETS (BBC iPlayer) Rydyn ni’n dychwelyd i oes aur orgasmig y Brexitiaid fan hyn, i Loegr y 1950au yn drymlwythog o acenion Oxbridge, ceir Morris ac Austins, te gyda’r Frenhines Elizabeth ifanc, cwrw cynnes o flaen teledu du a gwyn - law yn llaw â hiliaeth rhemp a pharanoia’r Rhyfel Oer. Gyda setiau a gwisgoedd triw i’r cyfnod, ymdeimlad cryf o ddirgelwch a chast clodwiw fel Keeley Hawes (sydd prin yn cymryd ’run cam gwag dyddiau hyn), Toby Stephens, Mark Bonnar, Timothy Spall a mab Ken Barlow, dyma ddrama Poliakoff sy’n haws i’w stumogi na rhai’r gorffennol.





THE FROZEN DEAD (Netflix) Oce, dyw hi ddim dros ben llestri o oer yma â’r Pyrénées Ffrainc, cyrchfan nesa’r ddrama nesaf (Glacé yn yr iaith wreiddiol). Dw i’n cael blas mawr ar hon, hanes Commodore Martin Servaz o Toulouse sy’n cael ei alw’n anfoddog yn ôl i fro ei febyd fynyddig yn Saint-Martin-de-Comminges adeg y Nadolig – ac ar yr olwg gyntaf, mae’n ystrydeb o dditectif drama gyda bywyd personol cymhleth (wedi beichiogi gwraig cydweithiwr), iechyd amheus (smociwr trwm sy’n cuddio sgotsh yn ei fflasg goffi) a char hen ffash (Volvo 200 lliw gwin rouge). Yno, mae’n cael ei baru â’r Capitaine Irène Ziegler iau a mwy pragmataidd.

Fe’m hoeliwyd gan yr olygfa agoriadol o weithwyr ceir cebl yn esgyn mewn storm eira, ac sy’n methu coelio’i llygaid o weld ceffyl wedi’i flingo, heb ben, yn crogi oddi ar beilon cyfagos. Mae profion DNA yn canfod blewyn gwallt sy’n perthyn i foi o’r enw Julian Hirtmann – y drwg (a’r dirgelwch) ydi bod Hirtmann dan glo ers 30 mlynedd mewn carchar seiciatryddol am lofruddio merched ifanc. Elfen arall a’m bachodd oedd y gerddoriaeth gloi. Fe gymrodd sbel fach i mi’i hadnabod hi, ama’r mod i'n clywed y Gymraeg, a bingo! ‘Suo Gân’, wedi’i chanu gan Sofia Session Choir ac sy'n ychwanegu at y naws iasol. Felly cor o Fwlgaria yn canu hwiangerdd Gymraeg mewn cyfres Ffrengig. Dw i'n caru Ewrop.








YEARS AND YEARS (iPlayer) Drama sebonllyd ond ysgytwol un o Jacs Abertawe, Russell T Davies, wedi’i gosod ym Manceinion y dyfodol agos. Dyfodol lle mae ffasgwyr yn rheoli San Steffan, technoleg fodern yn ben (plannu microsglodyn yn eich bysedd i’w ddefnyddio fel ffôn, unrhyw un?),Trymp wedi pwyso’r botwm niwclear yn erbyn Tsieina, yr Wcráin Sofietaidd yn dienyddio hoywon, Prydain yn dioddef 80 diwrnod di-dor o ddilyw, a gwersyll crynhoi yn Eryri. Rydych chi’n wir falio am deulu’r Lyons, a serch y dathliadau pen-blwydd a Nadolig ar aelwyd Nain (yr hyfryd Anne Reid) mae yna wastad rhyw deimlad annifyr ym mhwll eich stumog bod Rhywbeth Drwg ar Ddod. Mi arhosodd golygfa’r ffoaduriaid ar draeth yn ne Lloegr efo fi am gryn amser wedyn, a hoffwn feddwl y byddai wedi bwrw cynulleidfa geidwadol y Bîb i’r byw hefyd. Ond berig nad ydyn nhw’n gwylio beth bynnag.

Doniol, deifiol, ysgytwol.







CARLO + MALIK (Netflix) Un o’r Eidal y tro hwn, Roma yn benodol, am ddeuawd tra gwahanol i’w gilydd – y naill yn gwlffyn chwedegrwbath oed â thatŵ a natur hiliol a’r llall yn Affricanwr ifanc peniog, athletaidd sy’n fflyrtio gyda’i ferch. Dyw hi ddim yn torri tir newydd, ond mae’r golygfeydd hyfryd o’r Ddinas Dragwyddol a bwrlwm byw’r Eidaleg yn chwa o awyr iach, ac mae’n ganmil gwell na’r lol Inspector Montalbano ar BBC Four.





SEX EDUCATION (Netflix) Mae unrhyw beth gyda Gillian Anderson yn werth chweil fel arfer. Dana Scully fydd hi am byth i fi, er bod ei phortread iasoer o’r Ditectif Uwcharolygydd Stella Gibson The Fall sy’n blysio llofrudd cyfresol ym Melffast (as iw dw), yn ail agos iawn. Yn y gyfres ddrama-gomedi hon, mae’n chwarae rhan therapydd rhyw sy’n codi cywilydd ar ei mab sy’n ceisio ffeindio’i draed yn addysgol a gwneud synnwyr o’i laslencyndod. Mae’n edrych yn wahanol ar y naw – Gwaith Cartref wedi’i gosod mewn ysgol uwchradd Americanaidd o’r 80au, ond gyda thechnoleg heddiw. Ac ar ben bob dim, Cymru ydi'r prif gymeriad – o Benarth i hen gampws prifysgol Caerllion a phentref hyfryd â’r enw hyfrytach Llaneddogwy (Llandogo i’r locals heddiw) ger Abaty Tyndyrn, Sir Fynwy - ac mae caneuon pop Kernewek Gwenno i'w clywed yn y cefndir.





BERLIN STATION (All4) Cyfaddefiad. Dw i’n dal heb weld yr ail gyfres am giamocs y CIA wrth galon Ewrop heddiw, ond mae hi yn y ciw, wir yr! Felly hefyd trydedd gyfres THE HANDMAID'S TALE, ond dim ond hyn a hyn o hunllef dystopaidd all rhywun ei oddef mewn wythnos.



Ysbrydion ac ysbïwyr

Mae noson dywylla’r flwyddyn wedi pasio, gyda gwrachod ac ellyllon bach sy’n hofran ar Haribos yn mynd o ddrws i ddrws i’n llusgo ni oddi wrth y teli bocs. A dw i wir wedi mynd i ysbryd (bwm! bwm!) pethau eleni wrth fwynhau cyfres oruwchnaturiol newydd Sky One â stamp hynod Gymreig arni. 

A Discovery of Witches sy’n seiliedig ar drioleg All Souls Deborah Harkness - ffuglen hanesyddol am wrach yr 21ain ganrif sy’n llwyddo i ddal gafael ar lawysgrifau hudol hynafol o’r Bodleian, Prifysgol Rhydychen, gan bechu llond llyfrgell o gr’aduriaid arallfydol eraill sydd â’i bryd arni ers sawl canrif. Cyn hir, mae ei pherthynas â phishyn lleol sy’n digwydd bod yn fampir Ffrengig 1,500 oed - ydi, mae myfyrwyr Oxbridge yn rhai od ar y naw - yn codi gwrychyn gwrachod, diafoliaid a fampirod eraill sy’n daer yn erbyn unrhyw lapswchan a lol felly rhwng y rhywogaethau. Iawn, enwau mawr y byd actio Saesneg ydi’r rhan fwyaf o’r actorion a dim ond dau Gymro a welais hyd yma - Owen Teale a Trystan Gravelle. Craffwch ar y credits clo, fodd bynnag, ac mae cryn dipyn o enwau Cymraeg yn gweithio tu ôl i’r camera ac yn ennill bywoliaeth yn eu mamwlad.

Wedi pennod agoriadol araf fel malwen, mi ddeffrodd gryn dipyn wrth i’r digwydd neidio o Brydain i Fenis a Ffrainc. Ac eithrio’r ddau leoliad ola, Cymru swyngyfareddol ydi’r prif leoliad ffilmio - gyda phlasty a gerddi Aberglasney yn cogio bod yn gartre’ tylwyth de Clermonts yn Ffrainc, Llyn y Fan Fach yn chwarae rhan ucheldir yr Alban, a Llys Insole, Llandaf fel fflat gothig rhyw ddraciwla neu’i gilydd. Ac mae’r setiau dan do ’sblennydd wedi’u hail-greu yn Wolf Studios Wales, nepell o gartref Eisteddfod Genedlaethol y Bae eleni. Efallai bod yna rhyw dwtsh o CGI yma ac acw, ond mae gennym ni leoliadau a golygfeydd diguro ar gyfer cynyrchiadau ffantasïol fel hyn. 

Ystyriwch boblogrwydd yr ynys werdd fel lleoliad ffilmiau Star Wars a chyfres wirion o boblogaidd Game of Thrones ledled y byd, ac sy’n denu ymwelwyr llygaid-sgwâr sy’n ysu i ddilyn ôl traed eu hoff gymeriadau. Mae’n hwyr glas, felly, i Lywodraeth Cymru a Visit Wales wneud llawer LLAWER mwy i hyrwyddo’n gwlad fel cyrchfan amlwg y sgrin fach. Wedi’r cwbl, fe es i Ddenmarc yn unswydd i ddilyn ôl traed rhai o’m hoff dditectifs a gwleidyddion ffuglennol, o bencadlys y Politi i risiau’r senedd-dy.

Mae’n rhyfedd, fel gwlad y Mabinogi, cromlechi dirgel ac ambell UFO, nad oes gennym ni gyfres ffantasïol Gymraeg heddiw. Diffyg dychymyg? Diwedd y gân? Wn i ddim. Ond mae gen i frith gof o Arachnid tua’r flwyddyn 2000, gyda Myrddin (Dewi Rhys Williams) a Rhiannon (Grug Maria) y ficer megis Mulder a Scully Cwmrâg yn ymchwilio i’r anesboniadwy yn yr hen Ddyfed. A beth ar y ddaear ddigwyddodd i’r ailwampiad ffres a modern o Gari Tryfan a ymddangosodd fel ffilm Dolig ychydig flynyddoedd yn ôl?

Un arall o’n hallforion llwyddiannus ydi Rhys Ifans, bellach yn seren cyfres ysbïo newydd ar sianel More4, ddwy flynedd wedi’r premiere yn America. Yn Berlin Station, mae’n chwarae rhan Hector DeJean, aelod sinigaidd o’r CIA sy’n orhoff o nosweithiau tecno a thactegau amheus i gael y maen i’r wal. Ddim ’mod i’n deall pob dim bob amser, ond mae’r digwyddiadau a’r lleoliadau yn dwyn i gof hen ddyddiau’r Llen Haearn. 

Mein Gott, es ist gut

Mae yna drip arall ar y gweill yn 2019.