Showing posts with label Rebecka Martinsson. Show all posts
Showing posts with label Rebecka Martinsson. Show all posts

Buon compleanno Walter*


 
Eithr gwared ni rhag Mike y mecanig

Mae olwyn y pandemig yn dal i droi a ninnau’n dal i fynd i nunlla. Ambell ddiwrnod da, sawl un gwael. Yr amynedd yn pallu a’r diffyg cwsg yn cynyddu. Flin efo’r byd, a flin efo’r wasg a’r cyfryngau Prydeinig am roi blaenoriaeth i saga Harry a Meghan yn lle dwyn llywodraeth lwgr i gyfrif. Dyfarnu contracts PPE hael i ffrindia’ Matt Hancock a chyfradd farwolaethau covid waethaf Ewrop? Tewch, wir. Mae’n well gan hacs Rupert Murdoch a’r English Broadcating Corps ganolbwyntio ar The Crown go iawn, a gwethygu wnaiff pethau gwaeth pan fydd gwasanaeth newyddion 24/7 yr asgell dde eithafol ar yr awyr. Mwynhewch, Great Brexit Public!

Ac alla i ’mond gwylio ein cyfresi sebon Cymraeg ag eiddigedd pur. Dim ond cadw 2 fetr oddi wrth ei gilydd maen nhw’n Glanrafon, ac yn cael piciad i'r pictiwrs hyd yn oed. Mae trigolion Cwmderi yn denu lojars fel chwain ar gi strae ac yn jetsetio i Awstralia a Disneyland neu am ddiwrnod sba yn ’Soswallt. Ond dihangfa ydyn nhw wrth gwrs, a diolch i dduw neu allah amdanynt. Hyd yn oed os ydi cymeriadau fel Aled, Non ag Angharad yn mynd drwy 'mhen i.

Diolch i’r drefn am Walter Presents hefyd. Mae gwasanaeth ar alw, rhad ac am ddim, Channel 4 newydd ddathlu ei bumed pen-blwydd, ac wedi bod yn achubiaeth i mi pan oedd arlwy’r sianeli traddodiadol mor brin â silffoedd Aldi ganol Mawrth 2020. Gwledydd Llychlyn sy'n apelio fwyaf wrth gwrs, ond dw i hefyd wedi cael blas ar berlau cudd o’r weriniaeth Tsiec a Croatia ar hyd y blynyddoedd, ac ambell drioleg o Ffrainc. A dw i’n dal i ddweud y dylai perthynas newydd S4C â’r gwasanaeth weithio ddwy ffordd. Rydyn ni eisoes yn dra-gyfarwydd ag Iris a Willem Y Godinebwr o Amsterdam efo isdeitla’ Cymraeg yn hwyr nos Fercher, ond meddyliwch pa mor wych fyddai gweld bocsets y gorau o Gymru – Alys, Con Passionate, Parch, Pris y Farchnad, Tair Chwaer, Teulu – yn serennu ar All4, gan ychwanegu at goffrau sobor S4C. Os na fydd ambell un wedi dyddio’n drybeilig erbyn hynny wrth gwrs. *Pen-blwydd hapus, Walter.

Ond yn ôl at heddiw, ac ie, y Sgandis sy’n dal i blesio. Mae ail gyfres Rebecka Martinsson: Arctic Murders ymlaen ar hyn o bryd, wedi’i seilio ar nofelau trosedd Åsa Larsson a’i gosod yn Kiruna, dinas fwyaf gogleddol Lapdir Sweden – lle mae’r gaeafau -20C yn hirfaith, a’r haul prin yn machlud ganol haf. Digon i droi unrhyw un yn honco efo gwn neu gyllell, a chadw’r cyn-dwrna o Stockholm yn brysur ym mro ei mebyd pan nad ydi hi’n bachu cariadon gwragedd eraill y dre.

Anhrefn yr yr arctig

 

Yr ail gyfres glodwiw ydi Deliver Us o Ddenmarc (Fred til lands). Hanes criw mewn tref fach ddi-nod, sydd eisiau talu’r pwyth yn ôl i fwli lleol 18 mis ar ôl i fab y doctor gael ei ladd gan bicyp wrth feicio adref o ddathliadau graddio. Ac mae Morten Hee Andersen ar dân fel Mike y mecanig, basdad o foi sy’n tynnu pobl i’w ben bob gafael. O’r dafarn i’r ffatri cywion ieir, mae ei bresenoldeb annifyr yn staenio ardal gyfan. Gyda’r heddwas lleol hyd yn oed yn cachu brics, daw criw o rieni at ei gilydd i gael gwared ar Mike unwaith ac am byth – gyda’r holl boen meddwl moesol ynghlwm wrth hynny. Does 'na fawr o glamour Borgen yn fama, na chartrefi chwaethus wedi’u dodrefnu gan Illums Bolighus – yn hytrach, aelwydydd dosbarth gweithiol llawn straen, galar, cariad coll neu briodasau di-serch. Os ’da chi isio laffs arwynebol yng nghanol y pla, gwyliwch Saturday Night Takeaway efo'r ddau na o Gastell Gwrych. Ond os am bwerdy actio a gwaith camera crefftus, tensiwn bob gafael a phortread o ragfarnau cudd pob cymuned glos, ewch amdani.

 


 



Yn y cyfamser, mae'r aruchel Unforgotten yn ôl am y pedwerydd tro ar ITV, wrth i DCI Cassie Stuart (Nicola Walker) ddiawlio-ddychwelyd o absenoldeb salwch i sicrhau pensiwn llawn a chydweithio eto â DI Sunny Khan (Sanjeev Bhaskar). Y tro hwn, achos iasol o gorff heb ben a ganfuwyd mewn hen oergell yn ne Llundain sy'n hoelio'r sylw. Yn raddol, down i wybod taw corff dyn aeth ar goll ym mis Mawrth 1990 ydi o. A dyma'r ditectifs, fel ni'r gwylwyr, yn gorfod hel y darnau jig-sos at ei gilydd gyda chymeriadau ar wasgar o Ardal y Llynnoedd i Gaergrawnt, Stockwell, Llundain i Rochester, Caint. Do, fe darfwyd ar waith ffilmio'r gaeaf diwethaf oherwydd y pandemig, cyn i'r cast ailafael ynddi pan laciodd pethau rhywfaint yn haf 2020 - sy'n esbonio'r brigau noeth ac yna coed llawn dail yn yr olygfa nesaf. 

Ond sdim ots am hynny. Mi wenais fel giât pan ddychwelodd yr arwyddgan drist am 9 nos Lun. "All we do is hide away..."

 

Mewn angof ni chant fod @ ITV


Yna, trowch at Netflix i chwerthin efo Rita, drama-gomedi Ddaneg am fam sengl o athrawes sy’n smocio fel stemar ac wrthi fel cwningan efo’r prifathro neu ambell riant. Gyda thri o blant ei hun, fawr o groeso i'w chyn-wr na'i mam angof ei hun, lot o godi dau fys ar yr awdurdodau a chwtsh i ddisgyblion dan anfantais, mae'r penodau hanner awr yn siwr o godi calon cyn noswylio. Rydan ni ar ei hol hi braidd, achos mae'r chweched gyfres ar fin ymddangos adra' yn Nenmarc.

 

 


 





Becks ar y bocs


Dafad ddu’r teulu yn dychwelyd i fro ei mebyd, ymhell o’r ddinas fawr. Merch dridegwbath oed â rhyw ddirgelwch ynglŷn â’i chefndir. Natur a’r wlad o’i chwmpas yn ddelfrydol ar yr olwg gyntaf, ond gydag elfennau sinistr yn llechu dan yr wyneb sinematig. Na, nid adolygiad arall o ddrama noir-aidd y Gogledd ar S4C, ond un o bellafoedd gogleddol arall y tro hwn. Sweden.

Croeso i Rebecka Martinsson: Arctic Murders ar More4 bob nos Wener, a blonden nodweddiadol Sgandi (Ida Engvoll â rhyw dwtsh o’r gantores Gwenno Saunders efallai?), twrna treth o Stockholm sy’n dychwelyd adre’ i hen dref fwyngloddio Kurravaara, llawn helwyr a choetmyn, ar gyfer cnebrwn ffrind o ficer a fu farw dan amgylchiadau amheus. Mae hon yn debycach i gyfres dditectif ITV, Vera, na’i chyfnitherod Llychlynnaidd Saga Noren a Sarah Lund, er i’r siwmper wlanog ymddangos yn y bennod hon. Roeddwn i’n poeni i ddechrau ei bod hi braidd yn rhy dow-dow i mi. Hynny a’r ffaith iddi gael ei gosod tua hirddydd haf, a phiwiad bach yn bla yn ardal y llynnoedd. Roedd y golygfeydd braf hynny’n f’atgoffa i o ddrama Swedeg arall, Thicker than Water, un arall o gynhyrchion Walter Presents.

Ond mae ’na gymeriadau difyr ymhlith criw’r Polisen lleol, gan gynnwys Mella feichiog ddi-lol, ac yn y gymuned glos ehangach fel Nalle, bachgen ifanc Downs, sydd hefyd yn rhan o olygfa wirioneddol ysgytwol y bennod tua’r diwedd. Ac fel pob ffuglen gwerth ei halen, mae’r lleygwraig (gweler Jessica Fletcher Murder She Wrote a Nikki Alexander Silent Witness) yn gneud gwaith yr heddlu drostyn nhw.

Dw i heb ddarllen na chlywed am ’run o nofelau gwreiddiol Åsa Larsson, ond mae’r gwybodusion yn dweud bod y fersiwn deledu dipyn mwy dof a llai gwaedlyd na’r gair print. Ond, gyda phennod 90 munud wythnos nesaf wedi’i gosod ganol gaeaf noethlwm, mae hon i’r dim ar gyfer nos Wener aros-i-fewn ddarbodus wedi’r Dolig.