Daw'r dydd y bydd mawr y rhai Cochion


Lecsiwn arall, clymblaid arall. Y tro hwn, pobl Awstralia sy’n gorfod aros i weld pwy fydd yn eu rheoli o Capital Hill, Canberra – a gwraig bengoch o’r Barri sy’n gorfod penderfynu â phwy i rannu’r gwely gwleidyddol. Ydy, mae Julia Gillard, arweinydd y Blaid Lafur yn brif weinidog dros dro eto. Er gwaetha’r ffaith ei bod yn Ozzie i’r carn, ac wedi gadael yr henwlad ers 44 mlynedd am resymau iechyd, mae hi falch o’i thras Gymreig o hyd – gan ddweud mai Nye Bevan yw ei harwr gwleidyddol. Sgwn i os ydi hi'n edmygu Gwynfor Evans, o gofio ei bod o blaid Awstralia Rydd heb Carlo…




Dyma glip difyr arall o gomediwr a chyflwynydd radio a theledu nid anenwog o Gaerfyrddin yn son am ei brofiadau anffodus ym maes awyr Awstralia!


Lawr yn LA

Mewn wythnos pan gyhoeddwyd dyddiad darlledu’r bennod olaf un o gyfres hirhoedlog y glas ar ITV, The Bill, wedi 26 mlynedd - daeth un o’m hoff gyfresi heddlu yn ôl. Un nad yw’r rhan fwyaf ohonoch wedi clywed son amdani, decini. Ond fel un sy’n hoffi dramâu Americanaidd sydd wedi’u claddu’n slot hwyr More4, mae Southland wedi bachu’r sylw.
Nid ei bod mor syfrdanol o newydd na gwreiddiol â hynny chwaith - rhyw fersiwn LA o Hill Street Blues neu The Wire. Ond mae’n cynnwys llu o gymeriadau sy’n datblygu dow-dow, fel y bartneriaeth rhwng y plisman dan hyfforddiant Ben Sherman (Benjamin McKenzie, gynt o’r OC meddan nhw wrtha i) cefnog o Beverly Hills a’r hen stejar sinigaidd a macho John Cooper (Michael Cudlitz, Band of Brothers) sy'n dawel hoyw, Ditectif Sammy Bryant sy’n ceisio cadw cydbwysedd rhwng dyletswyddau gwaith a’i wraig anystywallt, a Lydia Adams ddi-lol (Regina King) sy’n hynod uchelgeisiol ond unig adref… hyn oll ar gamera llaw sy’n rhoi ymdeimlad pry-ar-y-wal i’r cyfan wrth inni ddilyn y criw - ar ras wyllt weithiau - o balasau moethus Rodeo Drive i downtown dlawd, yn bair difyr ac amrywiol o gyw-actorion golygus i gangiau Latinos a’r digartref, dan haul crasboeth California.






A dwi 'di mopio efo'r arwyddgan hefyd, yn seiliedig ar Canção Do Mar (Cân y Môr), can werin hyfryd o Bortiwgal ...







SOUTHLAND, More4, Nos Iau 10-11pm

Tocyn Unffordd


Mae’n cyflwynwyr ni’n codi pac i bobman dyddiau hyn. Dyna chi Shân a Iolo, sy’n dal i grwydro Cymru fel cathod i gythrel yn y gyfres Bro, gan gynnwys ynys hudolus Enlli a oedd yn haeddu rhaglen gyfan iddi’i hun wythnos diwethaf. Mae criw Ffermio yn mentro ymhellach na’r sied silwair yr haf hwn hefyd, wrth gwrdd â ffarmwrs Cymraeg yn Llydaw ac Iwerddon. Y gwledydd Celtaidd oedd cyrchfan Aled Sam ac Alex Sam yng nghyfres gyntaf Tocyn yn gynharach eleni. Y tro hwn, dinasoedd gwledydd Prydain ac Ewrop yw testun Tocyn Penwythnos (bob nos Fawrth am 9pm).

'Nôl ym mis Ionawr, dywedodd rhyw adolygydd teledu blin fod “Aled ac Alex yn mwynhau’u hunain gymaint nes anghofio amdanom ni’r gwylwyr gartref”. Does dim perig am hynny y tro hwn, gan fod sawl elfen newydd a difyr yn perthyn i’r ail gyfres. Yn gyntaf, mae pobl eraill yn rhannu’r daith – teulu McKee o Lanbedr, Rhuthun yn yr achos hwn – ac yn ail, mae tair amlen Aur, Arian ac Efydd yn cynnig tri llety gwahanol at bob poced. Trip i’n prifddinas ni a gafwyd yn gyntaf, a pham lai, yn nyddiau’r ‘gwylia adra’ neu’r staycation bondibethma?

Aled Sam gafodd yr amlen ’Aur’ gyda fflat hunangynhaliol 04 Wal-aidd ar Heol y Gadeirlan 90210, tra’r oedd Alex druan wedi pwdu braidd wrth gael ei hel gyda’i handbag ffasiynol i hostel ar lan afon Taf. Cafodd ei siomi ar yr ochr orau ar ôl camu i mewn i
hostel pum seren gyda balconi’n wynebu meca rygbi Cymru. Roedd wynebau’r brodyr ifanc o Ddyffryn Clwyd yn bictiwr wrth gydadrodd “www!” a “waw!” yn Stadiwm y Mileniwm ac ar gwch cyflym yn y Bae. Ar ddiwedd y penwythnos, daeth y criw at ei gilydd i gymharu nodiadau a rhoi marciau (ffafriol iawn) allan o ddeg. Dwi’n siŵr fod Bwrdd Croeso Caerdydd wedi mopio. Trueni am y golygfeydd ‘gwneud’ chwerthinllyd hefyd, wrth i Alex gyflwyno tai potas Wombanby St. i’w chydymaith. Dewch ’laen - ydyn ni wir i fod i gredu nad oedd Mr Sam wedi tywyllu Clwb Ifor cyn hyn?

Cryfder y gyfres newydd yw’r gwesteion, ac mae’n werth i chi weld Billy ac Olive o Fethesda yn bwrw’r sul yn Lerpwl wythnos nesaf. Ac o’r diwedd, mae
gwefan y gyfres yn cynnwys rhagor o fanylion am westai a gweithgareddau’r dinasoedd dan sylw.

Mae Aled Sam ac Alex yn dda efo’i gilydd, gyda’r naill yn tynnu ar y llall. Trueni, felly, fod y berthynas (broffesiynol!) yn dod i ben wrth i’r gyflwynwraig siriol o Rydaman adael am borfeydd brasach White Lane i gyflwyno
fersiwn BBC1 o Wedi 7. Pob lwc iddi. Yn ogystal â holl bwysau’r rhaglen fyw gerbron 4 miliwn o wylwyr nosweithiol a phla’r paparazzi, bydd ei ffans gartref yn gobeithio clywed ambell air o Gymraeg ganddi ar rwydwaith Prydain. Roedd ei premiere nos Lun yn swreal ar y naw - yn wir, mae The One Show yn raglen od ar y naw - rhyw fersiwn newydd o Nationwide ers talwm, neu'n waeth fyth, Heno! Dyna lle'r oedden nhw'n trafod manion dibwys y Brydain fodern fel cowbois clampio ceir a thranc rhyw afancod yn yr Alban, hefo neb llai na'r gwestai arbennig ar y soffa - Whoopi Goldberg. Ie, Whoopi blydi Goldberg o bawb!? O Hollywood i hell. Graduras.

Dirgelwch y Gwylwyr Cymraeg

Mae adran ddrama BBC Wales ar ben ei digon eto, yn sgil yr ymateb tra-ffafriol i Sherlock sydd, fel rhan fwyaf o gyfresi Saesneg o Landaf y dyddiau hyn, mor Gymreig â’n cestyll ni. Go brin y buasai Arthur Conan Doyle yn nabod ei greadigaeth enwog heddiw chwaith. Yn fersiwn Steven Moffat, mae’r ditectif über-fodern yn anfon nodyn-bodyn ac yn gwisgo patshys nicotin yn lle craffu drwy’r chwyddwyr a smygu cetyn. Ac yn niffyg cyfres dditectif Cymraeg (aeth Gari Tryfan i’r gwellt ar ôl ffilm fethiannus ddwy flynedd yn ôl), beth am ofyn i’r hen Holmes a Watson ddatrys y dirgelwch mwyaf oll - dirgelwch y gwylwyr Cymraeg. Ydy, mae’n hysbys fod S4C yn colli tir, cwmnïau cynhyrchu fel Calon a stiwdios Barcud wedi mynd i’r wal, a llu o straeon gwrth-Gymraeg yn y Guardian a’r Western Mail am lwfansau landrofyr Dai Jones a rhaglenni’n Sgorio dim, heb sôn am ddiflaniad disymwth Iona Jones.

Does ryfedd fod y Sianel yn crefu am ein cefnogaeth yn fwy nag erioed o’r blaen. Ond faint ohonon ni sy’n malio mewn gwirionedd? Mae’n anhygoel ac arswydus meddwl fod hanner miliwn yn llai ohonom yn gwylio yn 2009 (549,000), o gymharu â 2004. Mae’n destun rhaglen arbennig o’r gyfres boblogaidd Lle Aeth Pawb? Felly, dyma fynd ati i gynnal f’ymchwil hynod fanwl a thechnegol fy hun - holi rhyw ddwsin o ffrindiau a theulu. Cymysgedd o ffermwyr, athrawon, cyfieithwyr, gweithwyr iechyd a’r byd ariannol, pob un wan jac yn Gymry Cymraeg o’r crud. Dyma gynulleidfa draddodiadol Cefn Gwlad a Noson Lawen a darllediadau byw o’r Sioe a’r Steddfod (sy’n cyfateb i batrwm y Deg Uchaf), a gwasanaeth llwyddiannus Cyw i’r rhai bach. Mae Rownd a Rownd yn denu tipyn mwy o glod na saga nosweithiol Cwmderi, gyda llawer yn dal i hiraethu’n daer am ddyddiau Dic Deryn, Carol, Lisa a Mrs Mac. Trowch i wefan swyddogol Pobol y Cwm, ac mae’r fersiwn Saesneg yn fwy bywiog o lawer gyda llu o sylwadau gan wylwyr o Loegr. Ar un llaw, roedd hiraeth mawr am ddyddiau’r dramâu cyfnod hefyd, o’r Wisg Sidan (1994) i Traed mewn Cyffion (1991), tra bod yna gryn edrych ymlaen at bedwaredd gyfres o Teulu yn yr hydref. O safbwynt adloniant ysgafn, roedd 04 Wal deng mlwydd oed yn boblogaidd iawn, yn wahanol i’r ymateb llugoer i Sioe’r Tŷ. Ac o ran comedi, mae ’na alw mawr am raglenni dychan a sgetshis tebyg i Plu Chwithig ers talwm. O! am raglenni Swigs o Flaenau Gwent eleni…

Ac o! am gael byw yng Ngwlad y Basg, sy’n debyg i Gymru o ran poblogaeth ac iaith leiafrifol. Yn y rhan unigryw hon o ogledd Sbaen, mae Euskal Irrati Telebista yn cynnig dwy sianel deledu Basgeg ar gyfer 25.7% o siaradwyr yr iaith mewn poblogaeth o 3 miliwn – sianel gyffredinol a sianel ieuenctid - ynghyd â sianel ddwyieithog Basgeg a Sbaeneg i wylwyr rhyngwladol. I mi, mae hynny’n awgrymu awch, brwdfrydedd a buddsoddiad yn nheledu Basgeg, ac yn codi cwestiynau mawr a dyrys am berthynas ni’r Cymry chwit-chwat ac S4C.

Diolch yn fawr


Prin bythefnos sydd ers i mi ganmol arlwy wledig S4C ddiwethaf. A byd y ffarmwrs oedd canolbwynt S4C wythnos diwethaf hefyd, gyda darllediadau lu o’r Roial Welsh yn Y Sioe/10. A dwi’n golygu “llu” hefyd. Wyth awr o deledu byw dan arweiniad Nia Roberts (ydi’r graduras am gael gwyliau haf o gwbl eleni, heblaw am Lanerchaeron, Llangollen a Llanelwedd?) a chriw prysur fel Daloni Metcalfe, Ifan Jones Evans ac Edward Tudor Jones. A na, does dim sail i’r si bod rhaid cael enw dwbl cyn ymuno â’r criw darlledu. Hen ddigon o ddeunydd felly ar gyfer y rhaglenni uchafbwyntiau hwyrol, gyda Shân Cothi yn llenwi welintyns Nia.

Anghofiwch y siom aruthrol yn sgil penderfyniad rhyw farnwr dinesig i atal cynllun difa moch daear y Cynulliad - dyma gyfle i ddathlu cefn gwlad ar ei orau. Sdim ots os na allwch chi wahaniaethu rhwng y Torwen a’r Tecsels neu os ydych yn meddwl mai mab rheolwr Man Iw ydi Ffyrgi Bach, roedd gan y rhaglenni hyn rywbeth at ddant pawb. Yn ogystal â rhyfeddu ar sglein y da byw ym mwd y Prif Gylch, cawsom ymweliadau cyson â’r Neuadd Fwyd newydd, y babell flodau a llysiau lliwgar, a gweld cneifiwrs o bedwar ban yn ymgiprys am y Gwellaif Aur. Gair i gall i’r cyflwynwyr – peidiwch byth â cheisio cynnal sgwrs yn mwrlwm swnllyd y sied gneifio eto. Diolch byth am isdeitlau! Ac mae’n debyg fod yr isdeitlau’n fuddiol iawn i gannoedd os nad miloedd o wylwyr dros y ffin a oedd yn chwilio am rywbeth i lenwi’r gwacter yn sgil tranc sioe’r Saeson yn Stoneleigh.

Wyth awr o raglenni byw y dydd ac awr o uchafbwyntiau fin nos, felly. Cymharwch hynny â’r sylw yn y Saesneg. Hanner awr bob nos gyda Sara Edwards ar BBC2, a phytiau deng munud gan Jonathan Hills ac Andrea Benfield ar Wales Tonight draw ar ITV dlawd. Diolch, felly, i S4C am arlwy gynhwysfawr a blasus o fro Buellt, a naw wfft i’r Monwysyn blin ar Radio Cymru a hacs Llais y Sais/Western Mail â’u bryd ar bentyrru penawdau negyddol bob gafal.

Gair o ddiolch hefyd am waith y diweddar Lowri Gwilym. Yn gomisiynydd rhaglenni ffeithiol S4C, daeth â chyfresi dogfen caboledig O’r Galon a Wynebau Newydd i’n sgriniau heb anghofio’i chyfraniad gwerthfawr i O Flaen dy Lygaid o ddyddiau’r BBC. Ond diolch yn bennaf iddi am Beti a’i Phobl, sioe siarad fytholwyrdd Radio Cymru a flagurodd chwarter canrif yn ôl.

Cofio mab hynaf Musus Wilias


Dwi’n cofio’r diwrnod fel ddoe. Wrthi’n claddu cinio Anti Meri cyn dychwelyd i’r cae silwair oeddwn i, pan dorrodd y newydd brawychus ar Radio Cymru. Roedd Gari Williams, un o hogia Llanrwst ac un o ddiddanwyr mwyaf y Gymraeg wedi marw. Ar noson Nadolig ychydig flynyddoedd ynghynt, roeddwn i a’r teulu’n gwylio ’nhad yn gwneud diawl o lanast gydag olwyn crochenydd ar S4C. Roedd Gari Williams a’r gynulleidfa’n g’lana chwerthin o weld y ffarmwr-bysedd-sosejus yn cystadlu yn erbyn un arall o’r gynulleidfa a oedd yn grefftwr o fri mewn gwirionedd. Mae lamp cyfres Rargian Fawr yn dal o gwmpas y tŷ’n rhywle. Ac mae gennyf gof cynharach o weld y dyn ei hun yn un o bantomeimiau Cymraeg enwog ddechrau’r 1980au, yng ngwesty Plas Maenan.

Cofio oedd thema nos Sadwrn diwethaf hefyd. Tra’r oedd ITV yn hel atgofion gyda 30 Years of an Audience With… roedd S4C wedi gwahodd cynulleidfa a crème de la crème y byd adloniant Cymraeg i Noson Cofio Gari yn Llandudno. Noson o nostalgia pur dan arweiniad John Ogwen a Tudur Owen, a ddechreuodd ei yrfa perfformio diolch i gronfa Gari Williams. Neu Emyr Pierce Williams, yn ôl ei dystysgrif eni. Yn ogystal â sgyrsiau gyda chyfoedion fel Glan Davies, Sue Roderick, Dafydd Iwan a Hogia’r Wyddfa, aeth y prifardd Myrddin ap Dafydd â ni am dro i lefydd pwysig ym mywyd Gari – o Dŷ Capel Brynrhydyrarian i Ysgol Watling a Mochdre. Datgelwyd sawl ffaith ddifyr, fel yr hanes amdano’n sgwennu sgetshis i neb llai na Llywydd y Cynulliad, a’i ymddangosiad yn nrama fawr y BBC, The Life and Times of David Lloyd George, ym 1981. Ac roeddwn i wedi anghofio’n llwyr mai fe oedd Dai Tecsas yn Superted, ac un o leisiau cyntaf Sianel Pedwar Cymru o’r herwydd. Roedd atgofion y gwesteion wedi’u clymu’n gelfydd â chlipiau o raglenni’r gorffennol, fel Mari Gwilym yng nghyfresi Galw Gari a Gaynor Morgan Rees yn Pobol y Cwm a Hafod Henri. Dwi’n dal i ddisgwyl yn ofer am ailddarllediad o’r gyfres gomedi honno yn slot Awr Aur, gyda llaw…

Elfen arall o’r rhaglen oedd doniau Dyffryn Conwy a’r glannau - Tara Bethan, Tomos Wyn ac Elgan Llŷr Thomas - yn cyflwyno fersiynau newydd o ganeuon pop, kitsh, Emyr ac Elwyn am gariad a phriodi a rhyddid y sipsi, a lwyddodd i werthu 10,000 o gopïau o record hir 1972. Swm anhygoel yn nhermau gwerthiant heddiw.

Roedd hi’n amhosib gwylio hon heb deimlo lwmp yn y gwddf, a hiraeth am raglenni S4C yn oes aur mân gwmnïau annibynnol y Gogledd. Cwmni’r Castell oedd yn gyfrifol am gyfresi Gari Williams, a fynta oedd un o’r rhai cyntaf i berfformio gerbron cynulleidfa stiwdios Barcud, Caernarfon. Teimlad o golled a chwithdod mewn mwy nag un ffordd, felly.