Iaith ar daith


 

Ymhen y mis, mi fydda i ar dir mawr Ewrop unwaith eto gyda lwc. Tair awr a hanner ar fws Caerdydd i London Victoria, a’r un faint o amser ar Eurostar Sain Pancras i Rotterdam. Sy’n golygu pacio sawl nofel (gan gynnwys Dal y Mellt gan Iwcs, fydd i’w gweld ar S4C yr hydref hwn) a lawrlwytho cryn dipyn o raglenni radio i’r ffôn lôn. Yr hyn sy’n rhwystredig yw mai dim ond am 30 diwrnod wedi’r darllediad gwreiddiol mae’r rhan fwyaf o arlwy Radio Cymru ar gael. Rhai fel Dwyieithrwydd dros y dŵr, cyfres llawer rhy fer am Ifor ap Glyn yn dysgu mwy am ddwyieithrwydd ar waith ar ein cyfandir. Brwsel a Bilbao oedd cyrchfannau’r prifardd, ac efallai taw profiad y Basgiaid sydd fwyaf perthnasol i ni. Gyda phoblogaeth go debyg o ryw 3 miliwn, a thua 600,000 yn medru’r Gymraeg o gymharu â 700,000 yn siarad Euskara, roedd yma ddigon i gymharu a chnoi cil drostyn nhw. O! am efelychu eu menter a’u hyder yn llwyddo i werthu 13,000 copi o bapur newydd Berria (sefydlwyd 2003) bob dydd a denu mwy fyth ar-lein – gan anfon gohebwyr i bedwar ban, o Gemau Olympaidd Tokyo i faes y gad Wcráin. Doedd hanner awr ddim yn ddigon, a minnau’n ysu i glywed mwy am sefyllfa’r Fasgeg o ran nofelau, radio a theledu heb sôn am fewnlifiad posib dros y ffin o Sbaen a Ffrainc. Trefnwch drip arall toc!

 


Mae cyfresi eraill yn para’n hwy ar wefan BBC Sounds. Diolch byth am archif helaeth Beti a’i Phobl, gan gynnwys sgwrs lled-ddiweddar gyda Carren Lewis o Benrhyndeudraeth yn wreiddiol, a’i thaith hynod emosiynol yn mabwysiadu baban o gartre plant yn ne-ddwyrain Twrci wedi sawl torcalon IVF. Rhaglen a brofodd taw nad s’lebs sydd ddifyrra bob tro.

Mae ambell podlediad wedi taro tant hefyd. Dyna chi Dwy iaith un ymennydd, lle mae’r digrifwr Elis James yn “archwilio’r ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd, ac i bersonoliaethau gwahanol”. Ac yntau’n magu dau o blant yn ne Llundain, mae’n ddifyr ei glywed yn cymharu nodiadau â gwesteion amrywiol â safbwyntiau gwahanol am ddwyieithrwydd. Neu pedaireithrwydd, yn achos y gantores Gwenno Saunders sy’n rhugl yn y Gernyweg, Cymraeg, Gwyddeleg a’r iaith fain, a cham beiddgar ei rhieni’n gwrthod chwarae caneuon poblogaidd Eingl-Americanaidd ar yr aelwyd yng Nglanrafon Caerdydd. Podlediad arall fu’n gwmni i mi yn ystod sawl dro bach hir ydi Dewr gyda Tara Bethan “yn siarad efo rhai o wynebau Cymru am ups a downs bywyd”, yr heriol a’r hapus, gyda chryn bwyslais ar iechyd meddwl a lles dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Er bod ambell un yn rhy lyfïaidd ei naws i mi, yn enwedig pan oedd ffrindiau’n mwynhau proseco yn y twba twym, mae sawl pennod arall wedi aros yn y cof. Roedd sgwrs Yws Gwynedd yn arbennig, wrth drafod garddio fel therapi wedi i’r cerddor fynd drwy cymaint o brofedigaethau teuluol. Bechod fod y bennod wedi diflannu o BBC Sounds, ond mae uchafbwyntiau eraill fel Ffion Dafis a Seren Jones yno o hyd. Da chi, bachwch ar y cyfle i fwynhau sioe sgwrsio dwymgalon, doniol, hynod emosiynol ar adegau, a enillodd gategori podlediad Cymraeg flwyddyn y British Podcast Awards 2021.

Rŵan, lle mae ’mhasbort i?