Iawn, boi?

Tydi 2010 ddim yn fis oed eto, ond dw i eisoes wedi gweld un o uchafbwyntiau teledu’r flwyddyn. Bethan Gwanas yn dysgu rhywfaint o Gymraeg i lond dosbarth o blantos Nigeria cyn eu tywys allan i’r awyr agored i gydganu a dawnsio’n wyllt i ‘Ddawns y Glaw’ gan Anweledig. Golygfa gofiadwy arall oedd hwnnw o griw mewn cit pêl-droed (Beth? Dim cit rygbi gan awdures Amdani?) Ysgol y Gader Dolgellau yn chwarae gêm fywiog iawn ar gae garw a llychlyd. Gallai’r gyflwynwraig a’r awdures werthu crysau-t “Iawn, boi?” neu “Asiffeta!” i gyd-fynd â’i dyddiadur newydd a gaiff ei lansio yn yr haf, yn seiliedig ar atgofion a phrofiadau arbennig Gwanas i Gbara. Croeso i’r cwmni anfon cyfraniad bach am yr awgrym…
Mewn cyfres ddwy ran, dychwelodd Bethan i’r pentref bach diarffordd hwnnw yn Niger State a greodd gymaint o argraff arni fel athrawes Saesneg i wasanaeth gwirfoddol dramor y VSO chwarter canrif yn ôl. Doedd rhai pethau heb newid dim, a dim sôn am gyfleustodau’r byd modern o hyd. Tipyn o gamp i griw…