Gwlad Yncl Sam Hughes




Mae’n destun rhyfeddod cyson i mi. Y ffaith fod Cymru mor, mor anhysbys i’r mwyafrif o Americanwyr er gwaetha’r ffaith fod gwaed Cymreig wedi llifo trwy wythiennau rhai o drigolion y Tŷ Gwyn dros y degawdau, o Thomas Jefferson (arlywydd 1801-1809) i Hillary Clinton. A heddiw, mae Ann gwraig Mitt Romney, un o geffylau blaen y Gweriniaethwyr yn ras Arlywyddol 2012, yn canu clodydd ei thaid o Faesteg ac yn gweini cacennau cri i aelodau’r wasg a’r cyfryngau. Mae Americanwyr amlwg fel y canwr Donny Osmond a’r actores Susan Sarandon wedi ymddangos ar gyfres hel achau BBC Wales, Coming Home. A bob hyn a hyn, mae S4C yn llwyddo i atgyfodi rhyw Gymro dieithr arall a adawodd ei farc yn America Fawr. Llynedd, bu Mr Hollywood a Matthew Rhys yn olrhain hanes hynod ddiddorol Griffith Jenkins Griffiths o Ben-y-bont ar Ogwr a adawodd ei ffortiwn i ddinas Los Angeles. Eleni, John Pierce Jones sy’n mynd ar drywydd Cymro Cymraeg o Lanfyrnach a hudwyd gan y freuddwyd Americanaidd o dlodi Sir Benfro ym 1837. Roedd darllenwyr colofn ffraeth ‘Y Pridd a’r Concrid’ yn y misolyn Barn eisoes yn gwybod bod ’na gyfres ar y gweill. Byddai rhywun wedi disgwyl i frodor o wlad y Wes Wes gyflwyno’r hanes, ond mae gan y Monwysyn domen o frwdfrydedd drosto. Heb anghofio’r fantais o gael teulu-yng-nghyfraith draw yn America i arbed costau llety i’r cwmni cynhyrchu.

Man cychwyn cyfres Sam Hughes: Cowboi Penfro (Rondo Media) a thestun chwilfrydedd JPJ oedd gweld enw Sam Hughes ar strydoedd, caffis, gwestai ac ysgolion dinas Tucson yn niffeithdir Arizona. Rhaid gwylio’r ail raglen wythnos nesaf i weld pam yn union, ond am y tro, dilynwyd taith gychwynnol Sam Hughes o fferm laeth yn nhalaith Pennsylvania i geginau rhodlong New Orleans a chyda phorthmyn y wagon-trains i feysydd aur Califfornia. Hyn oll er gwaethaf sawl trallod personol yn sgil colli’i fam, a’i dad anabl yn gorfod magu wyth o blant. Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd gweld y Gymraeg ar arwyddion Philadelphia a’r cylch, o Llanberis Road i Berwyn Nails a Bala-Cynwyd School. Yn wir, esboniodd y cyflwynydd fod cymaint o fri ar enwau’r henwlad nes bod rhai newydd a gwirion braidd yn cael eu bathu, gan bwyntio at arwydd Aberwyck Apartments. Uchafbwynt arall oedd hiwmor Picton-aidd y cyflwynydd, gyda phytiau diflewyn ar dafod yng nghanol ffeithiau hanesyddol Dr Bill Jones o Brifysgol Caerdydd ac ymateb Richard ‘Dic’ Hughes i anturiaethau ei hen daid. Os nad oedd y “sothach” o fwyd at ei ddant, roedd ei draed yn llawn swigod fel balŵns efo’r holl drampio. “Gobeithio bo’ chi’n gwerthfawrogi hyn!” harthiodd. Dyna chi fyd o wahaniaeth i arddull dawel barchus Ffion Hague yng nghyfres gaboledig Mamwlad.

Cyd-ddigwyddiad hapus yw’r ffaith mai actor o dras Gymreig yw seren un o uchafbwyntiau teledyddol 2012 yn ôl y Gwybodusion. Yn Homeland, mae Damian Watcyn Lewis yn chwarae rhan milwr Americanaidd sy’n dychwelyd adre’n arwr ar ôl wyth mlynedd o gaethiwed yn Irác, tra bod aelod o’r CIA yn amau ei fod wedi’i drawsnewid yn derfysgwr al-Qaeda. Mae’n ysgytwol, yn amlhaenog o gyffrous ac yn chwarae ar baranoia America ôl-9/11. Ac os ydi’r gyfres yn ddigon da i Obama, mi wnaiff yn tsiampion i mi hefyd.

Protest Paradwys Cymru



Fe’u gwelais i nhw gyntaf ar yr A483 ger y Trallwng cyn ’Dolig. Bob yn ail glawdd, postyn ffordd a thalcen tŷ. Nid camerâu codi pres i’r heddlu, ond posteri protest fel “Countryside not Ironside” yn erbyn codi angenfilod dur drwy’r Bowys wledig. Ro’n i wedi gweld straeon newyddion am fwriad National Power i blannu peilonau trydan am 26 milltir o felinau gwynt Sir Drefaldwyn i Loegr, ond wnes i ddim talu llawer o sylw, er cywilydd i mi. ‘Mewnfudwyr yn swnian eto’ meddyliais, y teips sy’n cwyno am arogl tail o’r fferm drws nesaf i’w Rose Cottage. Ac i ryw raddau, daeth hynny drosodd mewn rhaglen ddogfen ddifyr nos Fawrth wrth weld Saesnes “jolly” yn reidio mul(!) a chert ar lonydd tawel Meifod. Saesneg oedd acen a chyfrwng trafod y pwyllgor a welwyd ar y sgrin, a Saesneg oedd iaith llawer o’r placardiau gerbron Senedd Bae Caerdydd. A dyma fi ragfarnllyd yn cymryd yn erbyn y rhaglen yn syth, gan gofio Village SOS y llynedd a bortreadodd bentref Myddfai o safbwynt y mewnfudwyr yn unig.

Dwi’n falch, fodd bynnag, i mi ddal ati gyda Gwynt Ynni Hwyliau (cwmni Ceidiog), cyfres am yr ymgyrchwyr brith sy’n dân ar groen pobl fel yr Arglwydd Elis Thomas AC, cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad. Er i Neville Thomas QC gyfaddef mai’r mewnfudwyr a ddechreuodd godi stŵr, roedd mwy a mwy o’r brodorion wedi dechrau ymuno â’r ymgyrch bellach, meddai. Pobl fel David Oliver o Gefn Coch, ffermwr ac wyneb cyfarwydd Y Ffair Aeaf sy’n poeni am droi tir amaeth yn dir diwydiannol, Bethan Jones o Aberriw, mam ifanc a chynllunydd crysau-t ar gyfer yr ymgyrch “Na”, a Lloyd James sy’n poeni am golli’i fusnes bythynnod gwyliau. Fel y dywedodd yn dra effeithiol: “..gynnon ni ddim clwb, gynnon ni ddim swimming pool…dyma’n swimming pool ni yma…” gan bwyntio dros y giât at y bryniau a’r dolydd eang o’i flaen.

Ond yr uchafbwynt a’r uchaf ei chloch, heb os, oedd Myfanwy Alexander – clamp o gymeriad, arweinydd answyddogol a chyfieithydd y criw sy’n dwyn ei llu ynghyd o’i Suzuki bach coch drwy sibrwd y gair cod “apple cart”. Hawdd gweld ei bod yn perthyn i gadeirydd y Blaid. Honnodd mai ychydig iawn o bobl leol sy’n cefnogi’r cynllun, ond ble’r oedden nhw? Buasai’n braf clywed barn wahanol, fel ambell dirfeddiannwr sydd eisoes wedi elwa ar ffermio tyrbinau. Annheg braidd oedd portreadu Dafydd Êl fel rhyw fwgan cas unig o blaid y datblygiad, ond hwyrach nad oedd neb arall yn ddigon dewr i dynnu’n groes i fyddin Myfanwy ar gamera. Trueni am y darlun unochrog felly, ond llongyfarchiadau i’r criw cynhyrchu am fathu’r teitl mwyaf bachog ar S4C ers tro byd.

Ar eich Cais



Yn yr Wcráin, mae’r gaeaf wedi gadael ei ôl creulon gan ladd dros 200 o bobl mewn tymheredd iasoer o -35 Celsius; ac mae Sarajevo, prifddinas Bosnia dan dair troedfedd o eira. Yn Lloegr, cafodd Sky News a’r BBC sterics och! a gwae wrth i ryw ddwy fodfedd gau’r traffyrdd a maes awyr Heathrow. Ac anghofiwch am yr holl dywallt gwaed yn Syria - onid oes yna eira ar strydoedd LLUNDAIN siŵr iawn?!

Tra bo’r cyfryngau Prydeinig yn hollol boncyrs wrth iddi bluo, mae’r cyfryngau Cymreig wedi mopio ar rywbeth tra gwahanol. Ydy, mae pencampwriaethau’r Chwe Gwlad yn ôl i hawlio tudalennau blaen, canol ac ôl y Western Mail, a’r Bîb yn anfon llond Aer Lingus o ohebwyr a chyflwynwyr lwcus fel Dewi Llwyd i gyflwyno’i raglen fore Sul o Temple Bar. Esgus perffaith felly i BBC Wales dyrchu i’r archifau gyda rhaglenni am Grav a Shane Williams, a rhaglen deyrnged (arall?) i Barry John ar Radio Cymru. Does ryfedd fod cyfrannwr Pawb a’i Farn o Ruthun yn cwyno am yr holl sylw i’r gamp, yn enwedig nos Sadwrn ar S4C. Gyda llaw, mae’n hen bryd gwahardd myfyrwyr chweched dosbarth o seiat drafod y Sianel. Ar ôl gofyn cwestiwn am ddyfodol diwydiant darlledu yn y gogledd ers i Tinopolis gefnu ar Gaernarfon, cyfaddefodd yr holwraig a’i ffrind nad oedden nhw’n gwylio S4C beth bynnag. A hyd yn oed pan ofynnodd y Br.Llwyd pa fathau o raglenni Cymraeg fyddai’n plesio, rhyw fwmblan cyffredinol am “fwy o amrywiaeth” gawson ni. Dylai’r cyflwynydd fod wedi pwyso arnyn nhw ymhellach, a gofyn pa raglenni Saesneg sy’n apelio o gymharu ag S4C dlawd. Croeso i’r “bobl ifanc” lenwi seddi gweigion yng nghefn y stiwdio, ond peidiwch â disgwyl unrhyw farn o werth ganddynt.

Yn ôl i fyd rygbi (sori!), a dyma roi cynnig arall ar gyfres Jonathan bob nos Wener. Cynnig arall, ie, achos dwi heb ddilyn y gyfres yn selog ers i Rowland Phillips ac Eleri Siôn adael y criw. Ydy, mae’r dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yno o hyd, ac yn dal i ddioddef “jôcs” iard ysgol gan y cyflwynydd am ei rywioldeb bum mlynedd ers datgelu’r newydd i’r byd a’r betws. Dwi’n dal heb gynhesu at Sarra Elgan, mae’r gêm ‘Ar y Pyst’ yn ddiflas a diangen bellach, a sgetshis Rhian Madam Rygbi Davies mor ddoniol â bonws y bancwyr. Y gwesteion sy’n cyfri, ac roedd Gwyn Elfyn, gynt o Pobol y Cwm, yn westai ffraeth a difyr iawn yn enwedig wrth sôn am hynt a helynt godro ar ffermydd y Gwendraeth gyda Nigel Owens ers talwm, a dyfarnwr o Sais yn mynnu munud o dawelwch cyn gêm Pontyberem ar ôl clywed bod rhyw “Denzil lan ’hewl” wedi marw.

Rhyw raglen ddiddrwg-didda braidd oedd Mike Phillips 009, gyda theyrngedau Cofio-aidd gan Gareth Edwards, Dafydd Jones a chogyddes Ysgol Bancyfelin i’r mewnwr tanllyd sydd bellach wedi ymsefydlu yng nghlwb Bayonne gyda’r Basgwyr yn ne-orllewin Ffrainc. Chlywsom ni ddim byd syfrdanol o newydd am “Mr Joio” rygbi Cymru – ond fe adawodd i’r chwarae cyffrous ddweud y cyfan yn Nulyn bnawn Sul diwethaf.

Merched yn Bennaf



Dwi wedi dweud hyn droeon o’r blaen - BBC Four ydi un o’m hoff sianeli teledu. Tra bod sianeli Saesneg eraill yn boddi dan operâu sebon, Gareth ‘Alfie’ Thomas yn plymio i isafbwynt Big Brother a chyfresi-g’neud-cacennau-bach neu beth bynnag yw’r chwiw ddiweddaraf ymhlith trendis Hampstead neu’r Bont-faen, mae BBC Four yn hafan o ddogfennau o sylwedd am hylltra apartheid a dramâu Ewropeaidd penigamp. Ac wedi lladd fy mywyd cymdeithasol ers sawl penwythnos bellach. Ar ôl ffarwelio Sarah Lund a’i siwmper wlanog waedlyd yng nghyfres dditectif gaboledig Forbrydelsen II cyn y Nadolig, mae ’na ddynes arall o Ddenmarc yn mynnu’r sylw am ddwy awr gron bob nos Sadwrn. Rhywsut rywfodd, mae sianel DR (Danmarks Radio) wedi creu chwip o gyfres ddrama deg pennod am lywodraeth glymblaid - nid y testun mwyaf cyffrous ar wyneb daear, rhaid cyfaddef - dan arweiniad Birgitte Nyborg, statsminister neu brif weinidog newydd dychmygol Denmarc. Mae Borgen (“castell” neu “caer”) yn gyfuniad cyfareddol o ddrama wleidyddol a theuluol, ac yn neidio o goridorau grym Christiansborg â sbinddoctoriaid a dinosoriaid o bleidiau eraill, bywyd y cartref â gŵr lled-anniddig a dau o blant, a bwrlwm stiwdio newyddion lleol. Mae’r straeon yn llifo mor rhwydd a gafaelgar nes bod yr isdeitlau ar y sgrin bron yn angof. Oedd bywyd llywodraeth Cymru’n Un mor gyffrous â hyn? Gyda llaw, does dim gwirionedd yn y si mai aelod Plaid Cymru dros Harvard, UDA, yw’r Adam Price sy’n ymddangos yn y rhestr gloi fel crëwr ac awdur y gyfres. Ac mae ffuglen yn ffaith erbyn hyn, gan mai merch-yng-nghyfraith Neil Kinnock a Glenys o Gaergybi sy’n arwain y Daniaid heddiw.

Gallaf ddychmygu Mr a Mrs Gweinidog Tramor Prydain yn setlo ar y soffa i wylio’r gyfres ar yr aelwyd yn Richmond, Swydd Efrog hefyd. Wedi’r cwbl, mae Ffion Hague yn dipyn o arbenigwraig ar hanes merched dylanwadol a grymus drwy’r oesau yn Mamwlad. Er bod y rhaglen gyntaf ar Megan Lloyd George yn canolbwyntio gormod ar ddylanwad ei thad, roedd hanes Kate Roberts yn ddifyr a dadlennol dros ben. Penderfynodd Ffion Hague ganolbwyntio ar hanes dieithr Kate y wraig fusnes yn hytrach na brenhines y stori fer Gymraeg. Er gwaethaf ymbil Saunders Lewis iddi ganolbwyntio ar lenydda, ymroi i achub Gwasg Gee Dinbych wnaeth Kate ar ôl tyngu llw i’w gŵr Morris na fyddai’n gwerthu’r busnes. Ond stori drist oedd hi ar y cyfan, gyda’r wasg yn faen melin am ei gwddf ar ôl i’w gŵr ei gadael mewn llanast ariannol. Druan â hi. Pe na bai’r lol o gael ei hailfedyddio’n Lesbiad ein Llên yn ddigon drwg, clywsom gyfranwyr y rhaglen yn cyfeirio ati fel “hen ddynas flin anghynnes” nad oedd yn or-hoff o blant. Am gelpan i “fam” Deian a Loli a Wini Ffini Hadog. Mae’n berl o gyfres sy’n taflu goleuni newydd ar ferched roeddem yn tybio ein bod yn eu hadnabod, ac eto ddim. Tybed a fydd rhaglen ddogfen neu ddrama’r dyfodol yn olrhain bywyd Prif Weinidog benywaidd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol?