Accéder au contenu principal

Articles

Affichage des articles du mars, 2018

Tewach na dwr II

Maen nhw’n ôl. Y ddau frawd a chwaer anghymarus o ynysoedd Åland, rhwng Sweden a’r Ffindir, a orfodwyd i gallio a chymodi yn y gyfres gyntaf wrth i’w mam farw a gadael gwesty’r teulu yn eu meddiant. Gyda chyfrinach dywyll yn eu clymu i’r hen le am byth (fe laddodd Oskar, y brawd hynaf, eu tad treisgar yn ddamweiniol pan oedd yn fachgen, a chuddio’i gorff dan bwll nofio segur y gwesty) mae’n ymddangos nad oes dianc i fod - felly gwneud y gorau o’r sefyllfa a thrïo creu busnes llwyddiannus. Nid tasg hawdd i Jonna’r chwaer (weddol) gall, yr actores ddiwaith, pan fo Lasse y brawd arall yn ymhél â chyffurgwn Stockholm ac wedi cysgu gyda gwraig ei frawd. Wedi cyfres gyntaf yng nghanol hirddydd haf, mae hon wedi’i gosod tua chyfnod hudolus y Jul (Nadolig) a’r tri’n benderfynol o gael gwyliau llwyddiannus serch yr eira a’r dyledion mawr. Ond mae yna gorff arall yn bygwth golchi i’r lan…
Bues i’n binjwylio hon rhyw bnawn Sul diog wrth iddi bluo’n drwm yn y ddinas, a chael fy nghyfareddu'n l…

Nid Poirot mohoni

Mae ’na Ewrodditectif newydd yn y dre. Un arall o stabl ardderchog Walter Presents yn slot dramâu tramor More4 bob nos Wener am 9 - sianel sy’n well nag arlwy nos Sadwrn BBC Four ar hyn o bryd. Dyna chi ddeud mawr! Un o Fflandrys y tro hwn (Gwlad Belg i chwi’r Brits), Rough Justice, wedi’i gosod yn ninas-borthladd Antwerpen ar arfordir Môr y Gogledd. Ac fel pob cyfres Politie fodern gwerth ei halen, merch sy’n llywio pethau - merch sydd bron yn ystrydeb o gymeriadau benywaidd eraill y cyfresi noir diweddar, gyda rhyw stamp Sefyll Allan yn perthyn iddi. A dyw’r Comisiynydd Liese Meerhout (Hilde De Baerdemaeker) ddim gwahanol. Nid Ford Focus, tyaid o blant na phriodas dow-dow i hon. Dim ffiars o beryg. Mae’n gyrru o gwmpas mewn hen Ferc lliw mwstard, yn mwynhau refio mewn clybiau lesbiaidd lleol a chwarae’r drymiau yn ei hamser sbâr i gael gwared ar densiynau’r dydd. Heb son am bechu Sofie, unig aelod benywaidd arall o’r tîm, ac ennyn edmygedd Fabien y patholegydd ifanc eiddgar. Yn seil…

Fydd Gobaith Cariad

Sut i wella Cân i Gymru...

...cael gwared â’r gystadleuaeth am byth! mi glywaf y sinigiaid mwyaf yn gweiddi.
Yn gam neu’n gymwys, mae Eurovision Cymru yn rhan annatod o ddathliadau Gŵyl Ddewi S4C, law yn llaw â thwrnamaint lluchio cennin(!) Pobol y Cwm, lluniau o blant mewn gwisgoedd Cymreig yn plastro’r papurau lleol a twitter a phaced o Welsh Cêcs o’r Co-op. Dw i’n cofio oes aur S4C diferu-o-bres, a ffilm fawr yn cael ei darlledu ar ddydd ein nawddsant gan un o’n hawduron amlycaf ni - o Nel Meic Povey i Sigaret? Saunders Lewis.
Ac eleni, efallai fod nifer gwylwyr Cân i Gymru fymryn yn uwch na’r arfer oherwydd eiramagedon. Fe wyliais tan hanner ffordd drwodd, meddwl "ma hyn yn shit" nid yn annhebyg i’r nain yma, cyn lapio amdanaf a mynd am dro i’r lluwchfeydd yn yr Eglwys Newydd. Wedi’r cwbl, mae eira mawr yng Nghaerdydd yn ddigwyddiad mewn oes. Mi fydd Cân i Gymru nôl flwyddyn nesaf doed a ddêl, i ddathlu’r hanner canrif.
Os felly, mae eisiau ailwampiad difrifol fel a ganlyn: Rhyddhau’r gynulleidfa. Er …