A fo ben...



Y BONT. "Bron" yn Swedeg, "Broen" i'r Daniaid. Cyfres ddrama dditectif newydd gan feistri'r genre. Pan gaiff corff ei ddarganfod hanner ffordd ar bont Øresund rhwng Denmarc a Sweden, daw heddlu'r ddwy wlad ynghyd i ddatrys y dirgelwch - Martin Rohde o Copenhagen a Saga Noren o Malmo CID. Haws dweud na gwneud, oherwydd buan y sylweddolir mai dwy lofruddiaeth sydd yma mewn gwirionedd. Mae hanner ucha'r corff yn perthyn i wleidydd Swedeg a'r hanner isaf yn butain o Ddenmarc...



THE BRIDGE / BBC FOUR / 21.4.12 @ 9pm

Hawdd cynnau tân…


Yr un oedd patrwm nos Sadwrn yn rhif 7 Senghennydd Place yn oes aur golegol y nawdegau. Cyri a chwrw o flaen y bocs cyn mynd ar bererindod arferol y Model Inn, City Arms a Chlwb Ifor. Tra’r oedd Cilla ddanheddog yn chwarae ciwpid rhwng Rupert o Henley-on-Thames a Tracie o Barnsley ar HTV, roedd Alwyn Siôn yn ceisio paru Medwen o ’Sbytu Ifan a Jason o Gwmtawe ar S4C. Bacha Hi O’ Ma oedd yn ennill bob gafael, gan fod siawns go lew o ’nabod un o’r cystadleuwyr dewr/dwl/meddw a oedd yn ymgiprys am swper rhamantus i ddau ym Mhortmeirion. Hynny, a chwerthin yn sadistaidd o greulon am ben y cr’adur a oedd yn dal i droi ar y bachyn am ddeuddeg nos Sadwrn digymar o’r bron. Dwi’n cofio eistedd yng nghanol cynulleidfa hen stiwdios Barcud, Caernarfon, yn gwylio ffrind o Fôn yn chwysu fel mochyn wrth redeg i fyny-ac-i-lawr y grisiau gyda’i fachyn yn rownd ola’r rhaglen. Ac er bod canlyniad y noson yn angof (sori, Arwyn!), heblaw nad hi oedd ei wraig yn y pen draw, dwi’n cofio pwy oedd yr ymchwilydd ifanc oedd â’r dasg ddiddiolch o gadw’r cystadleuwyr yn sobor ym mar Barcud cyn ffilmio. Ers hynny, mae’r ymchwilwraig frwdfrydig honno wedi magu hyder ac enw iddi’i hun, o ysgol brofiad Uned 5 i soffas Heno (Mk1) a Cofio. Heddiw, Heledd Cynwal ydi un o gyflwynwyr cyfres gwis newydd ar nos Sadwrn.

Nid cyfres newydd mohoni, chwaith, ond ailbobiad o gyfres 48 mlwydd oed Sion a Siân yn unol â’r traddodiad S4Caidd o dyrchu drwy’r archifau am syniadau. Mae llu o gysylltiadau â’r gyfres wreiddiol hefyd, gan mai stiwdios Croes Cwrlwys yw’r man ffilmio. Mae’r hen gaban gwrthsain yno o hyd, gyda chôt o baent glas disglair a mwy o secwins na wardrob Jeni Ogwen. Roedd Adam o Gaernarfon a Huw o Landysilio yn haeddu medal, gyda llaw, am wisgo clustffonau a mwgwd Tina Sparkle-aidd, wrth i’r merched ateb cwestiynau fel “pwy sy’n gwario’r mwya o amser yn trin gwallt” cyn noson allan. Gwario?! Beth ddigwyddodd i “dreulio amser”? Cyfieithu ciami neu beidio, diolch byth na chafodd y cyd-gyflwynydd a’r cynhyrchydd creadigol (beth bynnag ydi hynna) Stifyn Parri bwl o Les Mis hanner ffordd drwodd fel Dai Llanilar yn morio rhyw emyn yn y cyfresi gwreiddiol. A chwarae teg, MI lwyddodd y cwpl buddugol i ennill mil o bunnoedd wrth ateb y ‘Cwestiwn Mawr’, yn wahanol i gwis-smalio ‘Iawn Mêt?’ Sioe Tudur Owen.

Wn i ddim a fydd Sion a Siân 2012 yn rhan o draddodiad nos Sadwrn myfyrwyr heddiw, ond roedd aelodau hŷn teulu’r Williams wedi plesio beth bynnag. Cynulleidfa hŷn oedd y mwyafrif yn y stiwdio hefyd, yn ôl yr holl bennau gwynion a welwyd ar gamera. Dwi’n edrych ymlaen at glywed eu hymateb i’r ddau Sion fydd yn cystadlu yn erbyn y ddwy Siân yn fuan iawn…