Gwarchod y Ddraig



Dyma bwt a 'sgwennais ar gyfer tudalen flaen Yr Odyn, Hydref 2018 - papur bro Nant Conwy, y pentrefi Cymraeg gwledig sy'n cwmpasu 'Dre' (Llanrwst). 



Ydych chi’n gwylio cyfres gomedi newydd BBC Wales, Tourist Trap? Wedi’i hysgrifennu gan Sian Harries, Gareth Gwynn a Tudur Owen sydd hefyd yn serennu ochr yn ochr ag Elis James ac eraill, mae’n tynnu blewyn o drwyn y cwango twristiaeth Wow! Wales dan arweiniad Saesnes a chriw PR digon di-glem. Nid mod i’n awgrymu unrhyw debygrwydd â ‘Croeso Cymru’ am eiliad - tîm fu’n gyfrifol am ymgyrch farchnata £5 miliwn y llynedd a arweiniodd at ddim ond 0.5% yn fwy o ymwelwyr tramor i Gymru. Cymharwch hyn â chynnydd o 17% o dwristiaid rhyngwladol i’r Alban. Dyma un o straeon diweddar Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri, a gododd gwestiynau poenus am strategaeth fethiannus Visit Wales (waeth inni ddefnyddio’r teitl Saesneg ddim, fel diwydiant a bydolwg Seisnig ar y naw).

Cwyn perchennog gwesty o Aberystwyth oedd bod llai o arweiniad a chydweithio i godi safonau ers diddymu’r Bwrdd Croeso 12 mlynedd yn ôl. Ac yn ôl Sean Taylor, dyn busnes o’r Dyffryn a pherchennog atyniadau hynod lwyddiannus Zip World, dim ond tua 2% o’i gwsmeriaid sy’n hanu o’r tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol. Ei ateb? Llawer mwy o gyllideb marchnata a chysylltiadau trafnidiaeth ganmil gwell na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Hen gŵyn i ni sy’n gyrru’n rheolaidd ar ffordd drol genedlaethol yr A470 wrth gwrs. Ond ateb radical Sean oedd cael ein maes awyr ein hunain yn y Gogledd, gyda chysylltiadau hwylus â dinasoedd Ewrop - yn lle disgwyl iddyn nhw hedfan i Fanceinion cyn wynebu dwy awr arall ar hyd yr A55 i gyrraedd pen y daith. Wedi’r cwbl, mae gan yr Alban pum maes awyr. Dim ond Caerdydd ’sgynnon ni. Meddyliwch mewn difrif calon pa mor chwyldroadol fuasai Mona International. Dychmygwch petaem ni wedi defnyddio arian Ewrop a buddsoddi i’r eithaf ym maes awyr Caernarfon, Penarlâg neu hyd yn oed leoliad newydd canolog ar wastadeddau Abergele.

O wel. Rhy hwyr codi pais r’ôl piso Brexit...

Tawedog iawn oedd ymateb Llywodraeth Cymru a’r sioni bob lliw o Weinidog Twristiaeth, Dafydd Êl, i’r rhaglen gyda llaw. Pwy sy’n atebol?!

Pwnc cysylltiol arall ydi Cymru fel brand. Gydol fy nheithiau tramor mynych ar hyd y blynyddoedd, o Barcelona i Oslo, sylwais fod mwy a mwy yn gwybod amdanom Ni. Diolch yn bennaf i fyd y campau, ac anturiaethau anhygoel y Cochion yn Ewros 2016 a llwyddiant Geraint Thomas a lapiodd eu hunain yn y Ddraig Goch gerbron cynulleidfaoedd teledu o filiynau ledled Ewrop a thu hwnt. Oes, mae gennym ni faner cwbl unigryw. Rhaid ei chwifio i’r eithaf a pheidio byth â gadael i Alun Cairns na llywodraeth San Steffan wneud hynny. Pwy sy’n cofio neuadd fwyd Sioe Llanelwedd eleni wedi’i phlastro â Jac yr Undeb dan ymgyrch slafaidd “Food is Great (Britain)”?

Y Gymraeg hithau. Dyna chi drysor ac arf anhepgor arall i’w ddefnyddio mewn ymgyrchoedd marchnata o bob math. Mae gennym ni fantais aruthrol i’r Alban yn hyn o beth. Iaith fyw gyda’r cryfaf o’r gwledydd Celtaidd, arwyddion dwyieithog (gyda pholisi cenedlaethol Cymraeg yn gyntaf yn ddelfrydol), sianel deledu gynhenid sy’n allforio actorion a dramâu i bedwar ban. Roedd Americanwyr y cwrddais i â nhw yn Copenhagen wedi mopio ar gyfres Y Gwyll ar Netflix UDA a Chanada, a miloedd mwy wedi dotio ar acen Gymreig Matthew Rhys wrth dderbyn tlws actor gorau yng ngwobrau’r Emmys yn ddiweddar.

Hysbysebion gwyliau, labeli cig oen, iogwrts a jin, ditectifs teledu. Mae’r angen i hyrwyddo a heipio ein hunain yn bwysicach nag erioed, yn y dyddiau ansicr Prydeinllyd sydd ohoni.







Fydd y chwyldro gwleidyddol ddim ar y teledu gyfaill




Bues i ar fy nhrafals yn ddiweddar. Stockholm y tro hwn. Dinas wâr, lân, gyda strydoedd coblog ag adeiladau siwgr eisin, amgueddfeydd a chaffis yn ymestyn dros 14 o fân ynysoedd. Parch i feicwyr a theuluoedd a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. A rhyw obsesiwn anghynnes â“chomedïau” Americanaidd a Call the Midwife. Doedd dim modd dianc rhag uffern Brexit (Breg-zit i ambell ohebydd Cymraeg) chwaith, gyda newyddion SVT yn rhoi blaenoriaeth i ymweliad aflwyddiannus diweddar Mrs May â’r UE.

Dychwelyd adre wedyn i weld bod ein Sianel Genedlaethol yn rhoi llwyfan i ddynas amhoblogaidd arall, un sy’n ennill bywoliaeth trwy ladd ar leiafrifoedd. Katie Hopkins a saciwyd gan orsaf radio LBC (“Leading Britain’s Conversation”). Katie Hopkins a ymddangosodd yng nghynhadledd gwrth-Fwslimaidd For Britain ochr yn ochr â gwadwr yr Holocost. Katie Hopkins fu’n llygru strydoedd Caerdydd yn ddiweddar wrth sgowtio am “stori” yn erbyn addysg Gymraeg. A Katie Hopkins gafodd rwydd hynt i ymddangos ar S4C gyda’i “friend” Guto Harri.

Yn y diwedd, wedi “twrw byddarol” ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd cyfweliad KH ei ailawampio’n drafodaeth ar sut mae ymateb i ffigurau mor ddadleuol â hon. Ond damia, mae Guto’n gyflwynydd graenus a dw i’n mwynhau Y Byd yn ei Le o stabl newyddiadurol ITV Cymru, ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth barn i dra-arglwyddiaeth y Gorfforaeth Brydeinig. Cyfres sy’n barod i ofyn cwestiynau pigog am bethau fel ein hawl i elwa ar werthu ein cyfoeth o ddŵr i Loegr awchus a methiant llwyr Visit Wales i ddenu rhagor o ymwelwyr tramor (0.5% o gynnydd yn 2017 o gymharu ag 17% i’r Alban). A pha mor haerllug oedd ein sioni bob lliw o Weinidog Twristiaeth, yn gwrthod ymddangos ar y rhaglen? Diffyg atebolrwydd, hwnna ydi o.

Mae ’na ddeunydd *comedi’n fan’na.

O ffêc news i fyd drama, a chroeso hirhoedlog i gyfres newydd yn slot boblogaidd nos Sul ers i Craith orffen yn y gwanwyn. Bu’n ormod o fwlch. Doeddwn i ddim yn ffan anferthol o Byw Celwydd ar y gorau, ac eithrio dawn deud y diweddar Meic Povey a pherfformiad Richard Elfyn fel y gwladweinydd bron yn gartwnaidd o dan dîn. Roedd y gerddoriaeth honci-tonc a'r holl gecru ailadroddus yn blino rhywun, a braidd neb o’r cymeriadau’n ennyn cydymdeimlad. Beiwch Borgen o Ddenmarc am osod y safon. Ond fe newidiodd cywair y gyfres ddiwethaf, wrth i glymblaid fenywaidd ac arweinydd newydd (Ffion Dafis) ddod i’r fei. Sy’n eironig, â’r Dynion wrth y llyw y Bae ar hyn o bryd.



Diffyg gwreiddiau oedd thema’r bennod gyntaf i bob pwrpas. Rhiannon am werthu Tŷ Cymru, cartre’ swyddogol y Prif, er budd yr Ysbyty Plant; y cyn-brif weinidog Meirion Llywelyn a’i wraig yn ei ryffio hi mewn gwesty pum seren; Dylan (y Cenedlaetholwr) a Catrin (y Democratiaid) ar chwâl; a chwmni modurol o Abertawe yn bygwth codi pac i’r Almaen achos y busnes “B” ’ma. Ac yn y canol, cryn dipyn o sbeit a slochian gwin, cyfweliadau teledu, a’r hacs Tom ac Angharad yn dal i gael mynediad orgyfleus i swyddfeydd y pleidiau. Gobeithio y cawn ni fwy o wleidydda yn y Siambr a chip ar gartrefi’r aelodau ym mhenodau’r dyfodol - mae’r gwibio o un swyddfa cod lliw i’r llall yn ailadroddus ar y naw, ac yn prysur lethu amynedd yr hwn o wyliwr.
*Comedi i gloi, a golwg ddychanol BBC Wales ar y diwydiant croeso. Dim Dafydd Êl, ond digonedd o actorion comedi medrus fel Elis James, Sally Phillips a Mike Bubbins yng nghyfres ffug-ddogfennol Tourist Trap am gwango wedi’i arwain gan Saesnes a chriw PR reit anobeithiol. Efallai nad yw mor ‘ffug’ â hynny wedi’r cwbl. 

Diolch Sian Harries, Tudur Owen a Gareth Gwynn am adfer fy ffydd mewn comedi Saesneg o Gymru a chladdu hunlle High Hopes am byth.



S'long Sheryl Ann!




Ro’n i wedi amau byth ers neges a llun ar gyfrif trydar un o gyfresi arfaethedig y Sianel, @35AWR1. Ynddi, roedd cast o ddeuddeg aelod o’r rheithgor mewn drama waedlyd wedi’i ’sgwennu gan Fflur Dafydd, yn eu plith, Lisa Victoria sy’n fwy enwog inni fel Sheryl Ann Hughes (née Howarth, née Llywelyn) ers 17 mlynedd. A dyna feddwl yn syth bín mai hi fyddai’n gadael Cwmderi mewn hers, yn stori fawr yr haf Pobol y Cwm.

Sheryl druan â’i hoffter o bopeth pinc a dynion anaddas. Sheryl hirddioddefus a gafodd ei siâr o gariadon anghynnes, yn gelpwyr, godinebwyr, treiswyr a hyd yn oed paedoffeil. A Sheryl fythol fyrlymus a gyrhaeddodd y Cwm yn llawn sgrech a sodlau uchel, ond a adawodd yn gelain ar waelod grisiau fflat y Salon. Gair i gall - peidiwch â gadael bocsys cardbord gwag ar ben landin. Na phechu hanner eich cydbentrefwyr.

Fe gafodd yr actores ddigon o straeon heriol i’w hymestyn i’r eithaf, yn enwedig y trallod o golli’r bychan, Meilyr. A hyd yn oed pan oedd ambell actor, egstra neu stori amaturaidd yn llethu’r amynedd, gallech ddibynnu ar Lisa Victoria i sicrhau safon a sglein ochr yn ochr ag Andrew Teilo, Richard Lynch a Nia Caron. Gwae chi snobs sebon ag actorion cystal â’r rhain wrthi. Nid bod pob elfen o’r stori ddirgelwch yn taro deuddeg chwaith, gyda Sheryl yn ast amhoblogaidd y Cwm mewn mater o bennod, rhestr o amheuwyr amheus (Siôn White, wir?) a phawb yn trin Esther fach yn hŷn na’i hoed.

Pobol y Cwm oedd pencampwr gwylwyr y Sianel ers talwm. 126,000 yn 2007 medd adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. 71,000 oedd ffigur uchaf 2017/18 yn ôl Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol diweddaraf S4C. Gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol sydd ar y brig bellach. ’Feiddiai ychwanegu arlwy rhagorol Seiclo at y rhestr honno eleni, diolch i orchestion y llanc o’r Eglwys Newydd?

I fod yn deg, mae miloedd mwy ohonom yn gwylio ar declynnau a dyfeisiau symudol heddiw, ac yn dal i fyny ar wasanaethau Clic ac Iplayer. Mae’r niferoedd sy’n gwylio teledu ‘byw’ cyn brinned â datganiadau Alun Cairns heb Jac yr Undeb. Trowch i wefan twitter, ac mae’r hashnod #pobolycwm yn dangos mai’r di-Gymraeg sy’n ymateb fwyaf i’r gyfres – prawf pendant a chadarnhaol o apêl ehangach S4C ac omnibws y Sul.
Am ryw reswm, fe wnaeth mudiad Dyfodol i’r Iaith ladd ar y gyfres am “...y defnydd cynyddol o Saesneg... Mae gan raglenni o’r math rôl bwysig i’w chwarae mewn normaleiddio’r Gymraeg, a rhannu’r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a’i siarad yn sgil sy’n agored i bawb.” Ydi aelodau ‘Dyfodol’ yn gwylio’r un sioe â mi? Iawn, roedd talp helaeth o Saesneg yn y bennod pan biciodd tad Vicky Collins o Lundain i addo’r byd a bywoliaeth iddi yn y Mwg Mawr, ond yn bersonol, fe ges i ’nghythruddo fwy gan safon actio’r tad. Mae yna fwy o Saesneg mewn cyfweliadau ar Newyddion 9 a’r Byd yn ei Le o dro i dro.

Kevin o’n i’n smyg-amau’n wreiddiol, gan ragweld clamp o dro yng nghynffon y stori. Ond mi daflodd y cynhyrchydd Llyr Morus glamp o ddŵr oer ar hynny mewn dangosiad arbennig ym mhabell ‘Sinemaes’ y Steddfod, a dweud mai un o chwech y llun hyrwyddo ydi’r llofrudd.

Gethin ydi’r drwg yn y caws erbyn hyn. A pheidiwch da chi â ’nyfynnu os daw’r gwir allan cyn y rhifyn hwn o’r Cymro.


Merwino'r glust





Aaaargh!

Digwydd troi i wylio penawdau hwyr ITV Wales wnes i pan ddigwyddodd yr anffawd. Ynddi, roedd stori am bla o bryfed oedd yn poeni trigolion tai teras yn “Claneckley”. Anffodus iawn, meddyliais, ond lle gebyst mae’r dref sydd yng nghanol yr hunllef Hitchockaidd hwn? Deall yn raddol wedyn mai tre’r Sosban oedd dan sylw, ac na allai neu na fynnai’r ohebwraig yngan Llanelli dros ei chrogi.

Aaaaargh!!

Tolltais de poeth dros fy mechingalws ar ôl cael fy nghythruddo. Gair i gall - peidiwch â chael paned wrth wylio newyddion Saesneg Cymru. Mae’r mantra North Wales llall a’r South Wales arall yn fy ngwneud i’n gyndyn o’u gwylio hefyd, fel petaen nhw’n mynd ati i greu rhwyg a wal fawr ddychmygol o Aber i’r Amwythig.

Arferwn osgoi Wales Today dim ond achos Jamie Owen, ond rŵan, ’sdim esgus, â’r Bonwr o Benfro wedi codi pac a gadael i fwnglera enwau lleoedd Twrceg ar sianel TRT World. O leiaf mae pethau wedi altro fymryn, gyda’r Bangor Aye Jennifer Jones yn llywio’r brif raglen nosweithiol gan ymuno â chorws “Nos Da” Derek Tywydd. Normaleiddio, hwnna ydi o. A phechu ambell fonoglot yn y broses. Gwych! A gwych o beth oedd eitem ddiweddar am y Fam Ynys Atomig, a’r ymgyrchydd Robat Idris yn cael rhwydd hynt i siarad yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Mwy os gwelwch yn dda!

Tasg digon diddiolch sydd gan gynhyrchwyr a chyflwynwyr rhaglenni gwleidyddol hefyd. Rhaglenni sy’n ceisio gwneud synnwyr o Brecsit a hynny’n ddiduedd. Gobeithio felly y cawn ni ddehongliad clir a teg gan Guto Harri yn ei rôl wleidyddol newydd ar S4C - na, nid SpAD diweddara’r blaid las yn Byw Celwydd - ond cyflwynydd sioe siarad Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri. Cyfres sy’n addo cyflwyno gwleidyddiaeth o’r parciau a’r tafarnau, neu o drac rasio Ffos Las gyda Teresa May. Tybed a oedd rhywfaint o wrthdaro tu ôl i’r llenni, o gofio am swydd flaenorol ei holwr fel swyddog PR ei nemesis Boris Johnson?

Sôn am bethau bei-ling, mae Hidden o Eryri a’r Fenai yn dychryn gwylwyr bob nos Sadwrn yn slot poblogaidd dramâu noir BBC Four ar hyn o bryd. Rydyn ni, wylwyr S4C, yn ei hadnabod yn well fel Craith wrth gwrs, a fu’n codi ias arnom dros y gaeaf. Yn anffodus, y fersiwn ddwyieithog sydd wedi’i gwerthu i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn ogystal â Denmarc, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Belg, Seland Newydd a Chanada. Ond mae elfennau sydd ddim cweit yn taro deuddeg, fel y ffaith fod DI Cadi John (Siân Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) - yn wir, pawb o’r heddlu proffesiynol, breintiedig - yn siarad Saesneg â’i gilydd, ac eto’n medru’r Gymraeg yn tsiampion wrth holi teuluoedd tŷ cyngor yr ymadawedig. Mae’n rhoi’r argraff bron yn Fictorianaidd o chwerthinllyd mai Saesneg ydi iaith y dosbarth canol proffesiynol breintiedig, ac mai iaith cyrion cymdeithas yn unig ydi’r Gymraeg.

Ewropa




Dw i’n Ewropead i’r carn. Yn bachu ar bob cyfle i adael yr ynys fach oeraidd hon sy’n hwrjio’i Phrydeindod ar bawb, a chofleidio’r cyfandir mawr amlieithog sy’n estyn croeso i eraill. Oslo sydd ar y gweill fis yma. Dramâu teledu wedyn. Unrhyw beth wedi’i isdeitlo, dw i yno. Rhai Danaidd ar nosweithiau Sadwrn BBC Four sbardunodd popeth, ond bellach, mae pob sianel gwerth ei halen yn cyflwyno ditectif trwblus â dilledyn neu gar unigryw sy’n mentro i goedwigoedd a warysau tywyll heb dortsh. Mae ’na smörgåsbord ohonyn nhw ar netflix meddan nhw, ond dw i’n gyndyn o danysgrifio’n hun i fwy o ddyledion misol, felly gwasanaeth am ddim rhagorol ‘Walter Presents’ Channel Four i mi. 

Dros hirlwm y gaeaf eleni, bues i’n porthi (be’ di “binge” yn Gymraeg ’dwch?) ar gyfresi tramor, gydag uchafbwyntiau fel Tjockare än vatten (Thicker than Water) a Coppers (Rough Justice), y naill o ynysoedd Åland Sweden a’r llall o Fflandrys. Y gyntaf yn saga dau frawd a chwaer â llond wardrob ikea o sgerbydau sy’n gorfod dychwelyd adra’ i redeg hen westy’r teulu, a’r ail am dditectif o Antwerpen â bywyd personol lliwgar a hen Merc lliw mwstard. Mae’r bocsets yno’n barhaol, a’r nesaf yn y ciw ydi Hořící keř (Burning Bush) o’r Weriniaeth Tsiec, am wroldeb gwerin Prâg yn erbyn eu goresgynwyr Sofietiaidd ddiwedd y 1960au. Os gawn ni haf gwlyb, dw i’n gwybod lle i droi. Ond yn ôl at y teli bocs cyffredin, ac mae’r bytholwyrdd Bron/Broen (The Bridge) yn dychwelyd am y tro olaf erioed ac wedi ennill dyrchafiad i BBC Two. Mae arwyddgan atmosfferig Choir of Young Believers yn fy mhen o hyd.

Os nad ydi’r BBC am ddangos cyfresi Cymraeg a Chymreig ar y rhwydwaith – gweler melodrama Eve Myles yn Keeping Faith – yna waeth i S4C werthu’i bocsets i ddarparwyr fel Walter Presents ddim. Parch er enghraifft, un o’r cyfresi mwyaf gwreiddiol yn unrhyw iaith sy’n haeddu llawer iawn mwy o heip a gwylwyr o gymharu â’r rhai noir bei-ling. Soniodd sawl twitterati am “lefen y glaw” a do, arhosodd y bennod olaf hefo fi’n hir iawn wedyn, fel un sydd wedi profi galar brawychus o sydyn. Roedd ymateb tad, cyn-ŵr a chariad bore oes Myf (Carys Eleri) yn ingol, a chân Colorama yn glo perffaith i un o gyfresi gorau’r Sianel ers Con Passionate â’i chyfuniad tebyg o gomedi, pathos a ffantasi. Cyfres â chalon a chymeriadau ro’n i’n wir falio amdanyn nhw. 

Diolch Fflur Dafydd, a chwsg mewn hedd Myf.

Oes modd cael spin-off Oksana ac Elfed yn rhedeg caffi a magu’r fechan yn Estonia?

Chwara' plant





“Sut beth ydi’r Stwnsh Sadwrn newydd ’ma?” holais fy nith dros y Pasg.

“Iawn” atebodd Nanw Swyn mewn llais-ymhell-o-fod-yn-iawn, gan fynd ymlaen i gyhoeddi’n llawn hyder hyfryd naw mlwydd oed nad yw hanner cystal heb Anni, Owain, Tudur na Lois. 

Am ddweud mawr, dair blynedd wedi i S4C yn ei doethineb amheus, roi’r fwyell iddyn nhw a lladd un o frandiau gorau’r Sianel. Torri costau oedd y rheswm yn ogystal â chopïo arferiad CBBC o ddefnyddio logos yn lle cyflwynwyr cig a gwaed yn ddolen gyswllt rhwng rhaglenni. Ond does gan blantos Lloegr ddim byd cyffelyb i Steddfod yr Urdd, lle mae cannoedd os nad miloedd yn mobio’r wynebau cyfarwydd rownd cae ym mis Mai ac yn mynnu crystau-t, posteri a ffrisbis o’u harwyr fythol wenog. Heddiw, mae’r pedwarawd yn barddoni a magu teulu, yn cyflwyno a dyfarnu gemau rygbi, yn diwtor clocsio ac yn cyflwyno sioe radio fasnachol Saesneg i arfordir y Gogledd.

Mae gan bawb eu hatgofion a’u harwyr rhaglenni plant Cymraeg. Roedden nhw’n rhan annatod o’n plentyndod, ac yn llawer mwy perthnasol ac agos-atoch i gynulleidfaoedd o Lanrwst i Landysul na rhyw Peter, Yvette a Diane Blue Peter a’u bathodyn bondibethma. Siŵr braidd bod plant y Saithdegau yn sbïo trwy sbectols rhosliw Blodyn Tatws ac yn hiraethu am ddyddiau seicadelic Miri Mawr. Criw’r Nawdegau wedyn, yn  dal i gofio am Planed Plant a chyfres “Noc Noc” lle’r oedd Iwan John a Mathew Glyn yn meddiannu tŷ rhyw deulu anffodus bob wythnos a Gwenllïan Jones yn llwyddo i regi’n fyw ar yr awyr. Ond yr Wythdegau oedd fy negawd i, gan ddechrau gyda’r Awr Fawr dan law Emyr Wyn a Slim. Yn bersonol, drama Americanaidd wedi’i throsleisio (yn wael, berig) o’r enw Garan o’r Gofod sy’n aros yn y cof ynghyd â chyfres gartŵn Sandor wedi’i gosod mewn galaeth arall. Yna, daeth Gaynor a Graham i lywio Hafoc (1986-1991) yn anhrefnus-wych o stiwdios BBC Llandaf, a hwyl y cymeriadau clai chwedlonol ‘Now a Ned’ (Pat & Mat o Tsiecoslofacia yn wreiddiol) a’r tedi-boi Jeifin Jenkins a’i sgetshis o Gaffi Ffortisimo gyda’i frawd Handel (Huw Ceredig). Ai fi sy’n breuddwydio, neu sét caffi Meic Pierce Pobol y Cwm a ddefnyddiwyd ar gyfer honno hefyd? Mae gen i lofnodion Graham a Gaynor yn llyfr bach coch S4C o hyd, ond dyn a ŵyr beth ydi hanes y camera bach a enillais mewn rhyw gystadleuaeth ffonio i mewn. Postio, nid trydar llun-a-chyfarchion penblwyddi wedyn. Gallaf weld Nanw Swyn yn rholio’i llygaid dros ei kindle.

Oes, mae byd o wahaniaeth rhwng rhaglenni plant Cymraeg dros y degawdau. Mae’n slot hollbwysig o ran denu Cymry 7-13 oed i wylio S4C. Heddiw, mae’r esgid yn gwasgu ac ambell Gymro Llundain yn teithio i ffilmio yng Nghaerdydd. A’r gamp aruthrol bellach ydi denu cenhedlaeth You Tube i wylio a gwrando’n Gymraeg.

Cefn-gefn




Yr Heliwr sbardunodd bopeth. Y busnes cynyrchiadau cefn wrth gefn ’ma. Dw i’n cofio’r ffilm beilot ar S4C Nadolig 1991 fel ddoe, ac ymgolli’n lân yn hynt a helynt DCI Noel Bain (Philip Madoc) a’i ferch Hannah (Ffion Wilkins), wrth i lofrudd stelcian rownd strydoedd Aber. O’r diwedd, roedd ’na dditectif Cymraeg cystal os nad gwell na Taggart’s y byd. Darlledwyd pum cyfres i gyd rhwng 1994 a 2002, ynghyd â fersiwn Saesneg A Mind to Kill ar HTV, Channel 5 a Sky1 maes o law, hyd at Awstralia bell. Ac mae’r arwyddgan pibau Periw yn dal yn fyw yn y cof. Roedd hon yn dywyll braf ymhell cyn i’r Daniaid greu’r fath ffws a ffasiwn o’r genre noir gyda Forbrydelsen (The Killing) yn 2007.

Fis Hydref 2013, ffrwydrodd chwaer gyfres o’r enw Y Gwyll ar ein sgriniau – eto o blith heddlu Ceredigion, eto gyda chyfieithiad Hinterland ar gyfer BBC Wales-amheus-o-bopeth-Cymraeg, BBC Four a Netflix. Roedd y byd a’r betws wedi mopio (Hinterland – the TV noir so good they made it twice, meddai’r Guardian yn 2013) a’r Volvo XC90, parca coch DI Mared Rhys ac anialdir yr Elenydd yn eiconau. Mi barodd am dair blynedd, ac ennill bri a sawl BAFTA. Ond mi bechodd tipyn o’r gynulleidfa gynhenid hefyd, gyda sgript a swniai fel cyfieitheg ar brydiau.

Yr un criw fu’n gyfrifol am Craith fwy neu lai. Cyfres noir arall ond wedi’i gosod ar lannau’r Fenai ac Eryri y tro hwn, a’r gwaith camera godidog  yn sicrhau hys-bys am ddim i’r Bwrdd Croeso pan gaiff y fersiwn “ddwyieithog” Hidden ei hallforio i weddill Prydain a’r byd. Mae’r stori’n gafael, yr actio’n gadarn (Rhodri Meilir, Gwyneth Keyworth, Owen Arwyn), ond ambell idiom Saesneg yn peri diflastod a phenderfyniadau castio amheus yn golygu ein bod ni’n colli’r naws am le arbennig. Sy’n gwneud i rywun amau pwy bia’r flaenoriaeth gan y comisiynwyr - ai cynulleidfa graidd S4C neu aficionados BBC Four?
Ac yn y canol, drama ddirgel Un Bore Mercher wrth i ddiflaniad disymwth ei gŵr hyrddio Faith Howells i fyd o gyfrinachau teuluol, cyffurgwn a thwyll ariannol. Er gwaethaf fy ofnau cychwynnol am gastio Enw Mawr o’r Byd Actio Saesneg i ddenu gwylwyr (sinig? moi?) - fel Philip Madoc ddau ddegawd ynghynt - mi serenodd Eve Myles fel y prif gymeriad ac argyhoeddi’n llwyr fel dysgwraig. Mae Keeping Faith wedi’i gwerthu i America, Canada a Seland Newydd yn ôl pob tebyg. Gwych! Ond meddyliwch canmil gwell fyddai dangos y fersiwn Gymraeg o Washington i Wellington, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.

Pwynt am gyllid i gloi. Fe gafodd Y Gwyll hwb ariannol gan raglen MEDIA yr Undeb Ewropeaidd a chydweithrediad cwmni All3 Media International, fel Craith. Ond yn ddiweddar, mi froliodd Ken Skates fod Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres ddrama Kiri ar Channel 4. O’r diwedd, meddyliais,  drama’r rhwydwaith wedi’i gosod yn y Gymru fodern. Siom uffernol wedyn o sylwi mai Gwlad yr Haf oedd cefndir y stori go iawn, ac mai’r unig stamp Cymreig oedd swyddfa’r heddlu ParcCathays Caerdydd yn smalio bod yn Bryste. 

Mynadd!