Posts

Showing posts from July, 2008

Sulwyn a'r Sioe

Image
Mae’r ysgolion a’r colegau wedi cau, a’r carafanwyr yn dechrau’i nadreddu hi ar ffordd drol yr A470. Wedi wythnosau o fochel dan yr ymbarél, daeth yr haul i wenu’n ddel ar Lanelwedd wythnos diwethaf. A-men, meddwn ni. Unwaith eto, roedd y criwiau teledu a radio yno i gofnodi pob beirniadaeth a bwrlwm y maes - a sôn am griw! Roedd Sioe ’08 megis ‘pwy ’di pwy’ y byd cyflwyno Cymraeg. Y dihafal, drwsiadus, Dai Jones yn llywio’r cyfan (dyna chi’n saff o filoedd o wylwyr yn barod) fel meistr y Prif Gylch, a’i lu o weithwyr ffyddlon ar hyd a lled y maes. Ac roedd digon i blesio pawb. Dyna chi Elen Pencwm yng nghanol y stocmyn, gan gynnwys cymeriad (arall) o Lanilar a oedd yn bedyddio pob gafr ar ôl enwau anfarwolion(!) Eurovision neu Miss World y gorffennol. Morgan Sgorio Jones wedyn yn denu’r ledis wrth bicied o stondin i stondin. A Nia Parry. Mae hon yn drysor cenedlaethol. A wnaiff rhywun botelu gwên lachar Ms Parry, a’i gadw’n saff at ddiwrnodau’r felan? Roedd rhyw fflyrtian chwareus wr…

Hud yr Hen Ogledd

Image
Nid yn aml iawn mae Dai Llanilar yn fud gan syndod. Fel arfer, mae Cocni enwocaf Cymru yn holi’r hwn a’r llall yn dwll, boed ar gae gwair neu gae rasys ceffylau. Ond y tro hwn, roedd wedi’i swyno’n llwyr gan fynyddoedd mawreddog a grug Gororau’r Alban. Ar raglen Cefn Gwlad (ITV Cymru) wythnos diwethaf, roedd Dai a’i ffon fugail yn cwrdd ag un o fechgyn Sir Drefaldwyn sy’n rheolwr fferm ar stâd Dug Buccleuch, un o berchnogion tir mwyaf Ewrop. Ac nid rhyw fferm fynydd ddi-nod mohoni chwaith. Eglurodd Siôn Williams o’r Foel, Llangadfan, ei fod yn gyfrifol am naw gweithiwr ar fferm 38,000 erw – cyfran fach iawn o’r 270,000 o erwau sydd yn nwylo’r Dug i gyd. A dyna ddechrau’r ebychiadau niferus o “mowredd” a “iesgob” o enau Dai. Dro ar ôl tro, roedd ffeithiau a ffigurau Siôn yn pwysleisio maint ei orchwyl. Roedd y siediau wyna polytwnnel yn dal 12,000 o ddefaid; wyau o 32,000 o ieir buarth yn ffynhonnell incwm gwerthfawr; a 48,000 o ffesantod yn cael eu bridio ar gyfer y tymor saethu hollb…

Y gantores ga'dd ei gwrthod

Image
Y Cnapan, Sesiwn Fawr, ’Steddfod a Gŵyl y Gwyniaid. Dyna drefn yr haf i mi. Gorffen helpu lapio gwlân neu’r byrnau mawr, a rhannu llond car neu fws TrawsCrwban i fanteisio ar hwyl a haul yr haf. Ac onid oedd gwyliau’r gorffennol bob amser yn llethol o braf? Wel, i’r cof hiraethus beth bynnag. A nawr, mae’n ymddangos fel pe bai gigwyr heddiw’n yfed cwrw mewn cagŵl. Neu efallai mai fi sy’n mynd yn hen. Wedi’r cwbl, ’toedd un o wyliau cerddorol poblogaidd heddiw ddim yn bodoli bryd hynny!

Ar ôl llaid a llaca’r llynedd, dychwelodd Wakestock ’08 (Avanti) i fyddaru pobl Abersoch a llenwi amserlen yr haf ar S4C. Ac er gwaetha’r tywydd hydrefol, roedd gwên a gwallt Sarra “awyrgylch parti!” Elgan yn goleuo’r sgrîn wrth iddi gyflwyno uchafbwyntiau’r gigs a’r campau tonfyrddio o un o’r gwyliau mwyaf o’i bath yn Ewrop. Roedd y maes yn fwrlwm o weithgareddau, gyda phafiliwn tebyg i’r Brifwyl yn gefndir i stondinau chwaraeon dŵr, ffair a phwll anferthol lle’r oedd syrffwyr a byrddwyr yn neidio tin-…

Pethau Arallfydol

Image
23 Ionawr, 1974. Y noson y daeth un o ardaloedd anghysbell Meirionnydd i sylw’r byd. Ac un o’r nosweithiau hiraf erioed yn hanes Llandrillo, yn ôl llefarydd Britain’s Closest Encounters (nos Fercher, Channel Five). A minnau wedi mopio ar The X Files ers talwm, ac yn lled-gyfarwydd â’r llên gwerin gyfoes o Gymru, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael mwy o’r hanes o lygad y ffynnon. Ni fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn mentro cyfaddef ein bod wedi gweld dynion bach gwyrdd o’r gofod. Ond nid y rhain. O’r ffarmwr Huw Lloyd i’r postfeistr Idris Roberts, siaradodd pawb yn onest am eu profiadau iasol ym mynyddoedd y Berwyn. Roedd hyd yn oed yr heddwas lleol yn sôn am weld pelen werdd amheus yn y nos ddu. Law yn llaw â’r cyfweliadau, ail-grewyd digwyddiadau’r noson gydag actorion mewn hen landrofers, a dangoswyd clip o John Craven ifanc yn darllen yr hanes ar Newsround! Ond roedd cyfranwyr eraill yn taflu dŵr oer ar y cyfan. Iddyn nhw, rhyw lewyrch daear (earthlight) a welwyd yn yr awyr, yn sgîl dae…

Dros fy sbectol

Image
Wel, mae’n Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (and Welsh Langwij) wedi cyrraedd yr uchelfannau. Yn ogystal â chael ei enw ym mhapurau tabloids Lloegr, cafodd mensh ar raglenni BBC Breakfast News, CNN a sioe Richard and Judy echnos - a ddangosodd yr erchyllglip ohono’n cyhoeddi enw’r enillydd anghywir yn seremoni Llyfr y Flwyddyn. Bellach, mae cyn-weinidog yr Annibyns wedi llwyddo i bechu’r literati Eingl-Gymreig yn ogystal â charedigion y wasg Gymraeg. Mae embaras ac esboniad yr Academi, trefnwyr y noson, yn ddigri, gan ddweud fod “fformat y garden a ddarllenodd y Gweinidog wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ar saith achlysur blaenorol”. Yr esgus, meddai Rhodri Jin, oedd ei fod wedi anghofio’i sbectols. Stori tudalen flaen Dim Lol Steddfod Caerdydd eleni ’sgwn i?

Wele’r fideo unwaith eto. Mae ’nghalon i’n gwaedu dros Tom Bullough druan...

Taro'r nodyn cywir

Image
O! na, medda' fi pan welais yr hys-bys ar y teledu a’r wasg. Dim eto. Rhaglen gerddoriaeth arall wedi’i chyflwyno gan un o gantoresau ifanc amlyca’r wlad. Ar ôl y siom o weld Ms Gwilym wrthi yn Noson Chis a Meinir lle’r oedd artistiaid heddiw yn canu fersiwn newydd (a gwaeth gan amlaf) o’r clasuron pop Cymraeg, roeddwn i’n barod i gael fy niflasu gan Nodyn. Y tro hwn, yr hyfryd Elin Fflur oedd â’r dasg anodd o roi gwaed newydd i’r fformiwla orgyfarwydd o roi llwyfan i gerddoriaeth ganol-y-ffordd. Ond diawch, mi lwyddodd y flonden o Fôn. Ac mae’n braf cael fy siomi ar yr ochr orau am unwaith.

Meddyliwch am Bandit i rai sy’n rhy hen i werthfawrogi seiniau diweddara’r sin stiwdantaidd. (Moi). Ac roedd gwesteion yr ail raglen yn plesio’n fawr. Tri pherfformiwr a thri lleoliad unigryw, gyda Steve Eaves yn canu o Neuadd Powis Prifysgol Bangor, Lisa Jên Brown a 9Bach yng Nghlwb Criced Bethesda, a Siôn Williams o Dafarn Bessie, Cwm Gwaun. Roedd hi’n braf gweld prif leisydd un o grwpiau’r 9…

Bilić, Roli a Kylie

Image
Mi fydd hi'n haf a hanner i fabolgampwyr cadair freichiau eleni. Rhwng Ewro 2008, y tenis a’r Gemau Olympaidd mi fydd yr ardd fel jyngl, y car dan fynydd o lwch, y cynhaeaf ar ei hanner a’r barbeciw’n segur. Mae’n bleser gwylio’r cystadlu o dir mawr Ewrop eleni, yn absenoldeb heip a jingoistaidd Jac Sais a llwyddiant cenhedloedd bychain fel Croatia dan arweiniad Slaven Bilić. Ond waeth inni heb ag ymhyfrydu yn absenoldeb Rooney gan nad ydy Ramsey a’r giang yno chwaith. Er hynny, trueni nad oes yna raglen wythnosol arbennig gan griw Sgorio i roi’r ongl Gymraeg ar bethau. Ac er nad wyf am godi hen, hen, grachod, mae’r bêl hirgron yn amlwg iawn ar S4C eto’r haf hwn. Efallai bod cynnal Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn bluen yn het Cymru, ond faint ohonon ni sydd wir eisiau gwylio gêm fyw rhwng Iwerddon a Seland Newydd yn ystod yr oriau brig? Er ’mod i’n barod i wylio uchafbwyntiau’r brif garfan a’u hymdrechion glew yn yr ail brawf yn Ne Affrica, dwi ddim mor barod i wylio rwtsh fel R…

Beth yw'r pwynt (i bwynt)?

Image
Un o fanteision, neu anfanteision, adolygu rhaglenni teledu yw’ch bod yn gorfod agor eich meddwl a chanolbwyntio ar bethau na fyddech yn trafferthu sodro’ch pen-ôl ar y soffa i’w gwylio fel arfer. Pynciau sydd ddim fel at eich dant. Rasys ar Garlam (Boomerang) er enghraifft. Digon teg, dwi ddim yn foi ceffylau. Dwi’n taranu tisian a’m llygaid yn llifo fel Rhaeadr Ewynnol pan fyddaf o fewn canllath i ferlen neu ful. Ac yn ail, rhyw barchedig ofn ar ôl clywed y teulu’n sôn droeon am hen ffermwr a laddwyd gan geffyl gwedd flynyddoedd maith yn ôl. A heblaw’r arlwy flynyddol o Aintree, does gen i ddim myned gwylio rasys ceffylau. I mi, rhaid i chi fod yn y fan a’r lle i brofi holl gyffro a berw’r ras. Felly hefyd rasys pwynt-i-bwynt.

Dyma roi’r hen ragfarnau o’r neilltu am y tro, a dilyn rasys Lydstep ger Dinbych-y-pysgod - pumed cyfarfod pwynt-i-bwynt de a gorllewin Cymru. Ac os nad oeddwn i’n frwdfrydig, o leiaf roedd gan y cyflwynwyr Brychan Llŷr a Shân Cothi hen ddigon ohono fel marchog…

Wynab newydd yn blodeuo

Image
Dwy flynedd yn ôl, bu cryn ffys a ffwdan pan benderfynodd S4C roi’r farwol i un o’i rhaglenni mwyaf poblogaidd. Roedd llinellau ffôn Taro’r Post yn eirias, a’r wasg yn llawn llythyrau blin. Gwelwyd garddwyr yn hogi’u sisyrnau torri rhosod, a fflyd o dractors torri lawnt yn heidio i Barc Tŷ Glas. Efallai ’mod i’n gorliwio braidd, ond heb os, roedd selogion Clwb Garddio wedi gwylltio’n gacwn. Dim mwy o gynghorion garddio wythnosol gan Manon Eames a’r criw, a dim mwy o Gymraeg graenus Gerallt Pennant – un o’n cyflwynwyr mwyaf profiadol sy’n rhy ddieithr o’r hanner o’n sgriniau teledu. Roedd S4C eisiau dechrau efo llechan lân.

Ac wele Byw yn yr Ardd (Cwmni Da), cyfres gylchgrawn sy’n rhoi mwy o bwyslais ar arddio’n ecogyfeillgar a rhyngweithio â’r gwylwyr gartref. Mae Bethan Gwanas wedi penderfynu crwydro gerddi Cymru yn lle’r cyfandiroedd, gan hel syniadau i’w defnyddio adref yn Ffrwd-y-gwyllt. A draw yn Rhosgadfan, mae’r wyneb newydd Russell Owen Jones wrthi’n palu llain lysiau er mwyn b…