Showing posts with label O'r Diwedd. Show all posts
Showing posts with label O'r Diwedd. Show all posts

Gwylio dros y Gwyliau


 

“A dyna hynna drosodd am flwyddyn arall”.

Anghofiwch am lith y Cwîn. Mantra mam am tua pum munud wedi tri bnawn Dolig. Ac roedd yr wythnos od honno rhwng y Diwrnod Mawr a’r Calan yn teimlo fel cyfnod clo, gyda phawb ofn mynd i gymysgu yn nhai ein gilydd, y tywydd yn ddiawledig a’r arlwy deledu yn ofnadwy. Diolch i’r drefn am rodd o lyfrau da gan deulu clên.

Ond ai fi sy’n heneiddio ac yn cofio Nadoligau gwyn dedwydd, pedair sianel y gorffennol, ta oedd y teli bocs yn sobor o wael eleni? Wel, roedd sawl perthynas yn meddwl hynny yn ogystal â Tudur Owen ar ei raglen radio ola’r flwyddyn. Myrdd o gwisiau teledu, oriau o sebon, The Sound of Music, penodau coll o Morecambe & Wise wedi’u hadfer a’u lliwio ar gyfer y Great Brexit Public heddiw.


 

Diolch i’r drefn am S4C. Dyna’r sianel ddiofyn oedd mlaen yn tŷ ni dros yr ŵyl, nid o ran dyletswydd, ond oherwydd llond sled o raglenni gwerth chweil. Iawn ocê, doedd ’na ddim ffilm na drama gwerth sôn amdani fel Dolig ddoe – ac mi gawson ni’n sbwylio ers talwm do (Tân ar y Comin 1995; Y Mynydd Grug 1997; Martha Jac a Sianco, 2009)  – ond roedd digon i’n cadw’n ddiddig ar noson lawog arall. Falla' mai rhifynnau arbennig o gyfresi cyfredol a gafwyd, ond diawcs, roedden nhw’n dda. Canu gyda fy Arwr emosiynol gyda Robat Arwyn, Côr Meibion Cwm-bach ac yna Caryl yn rhifyn y flwyddyn newydd, ac Am Dro difyr gyda’r sl’ebs yn cyd-dynnu a glana chwerthin o Radur i Laneurgain. Pwy feddylia fod Alex Tywydd yn giamstar ar ganu clychau eglwysi? A Gareth Ffarmwr yn hoff o frolio amdano'i hun? Ac fel arfer, sylwadau sardonig Aled Sam oedd yr eisin ar y gacen. 

Daeth Trystan ac Emma i daflu conffeti a hudlath yr ŵyl mewn Priodas Pum Mil o Dregaron, lle gafodd pâr o weithwyr iechyd ddiwrnod i’w gofio diolch i haelioni ffrindiau a theulu, rheolwyr Plas Nanteos, y gantores Bronwen Lewis a hen ambiwlans o’r 1950au.

Dylai fod yn gawslyd, ond...

 

Cawsom gyfweliadau dadlennol iawn gyda dau o’n halltudion mwyaf ni, y naill yn Llundain a’r llall yn Efrog Newydd. Siaradodd prif ddarlledwr newyddion a llais Digwyddiadau Mawr Prydeinig y Bîb o’r galon yn Huw Edwards yn 60, o’i berthynas danllyd â’i dad enwog, y pyliau o iselder, chwithigrwydd ei blant di-Gymraeg, a’i apêl arnom i weithredu ar argyfwng tai haf – a’r cipolwg ar ei fam hyfryd o ddiflewyn ar dafod. Fe gafodd Elin Fflur wibdaith a hanner i ddinas yr Afal Mawr er mwyn holi’r actor Matthew Rhys yn Sgwrs dan y Lloer – seren cynnar House of America Ed Thomas a Marc Evans (1997) sydd bellach wedi ennill ei blwyf fel enillydd gwobr Emmy am ei ran yng nghyfres ysbïwyr yr 1980au The Americans (2013-18) a phrif seren ailwampiad Perry Mason a arweiniodd at enwebiad Golden Globe y llynedd. O! am weld y gŵr hynaws hwn o’r Eglwysnewydd, sy’n siarad Cymraeg a’i fab Sam yn NYC, yn troedio llwyfannau neu set ddrama Gymraeg yn fuan iawn. Siawns fyddai cynhyrchwyr Tinopolis wedi gallu ffeindio mwy o gysgod a chynhesrwydd iddyn nhw ymhlith nendyrau’r ddinas sy byth yn cysgu na stopio chwythu.

Sythu dan y lloer

 

Am unwaith, wnaeth arlwy gerddorol eraill y Sianel ddim plesio gymaint. Aled Jones a Sêr y Nadolig er enghraifft, oedd yn od o fflat a digyswllt braidd – dim diolch i’r pandemig parhaus sy’n atal pobl rhag ymgynnull rownd y tân neu’r piano. Does gan y cyn-foi soprano o Fôn fawr o lais mwyach, a Classic FM nid Cymru ydi'i betha fo erbyn hyn, ac eto mae’n dal yn dipyn o ffefryn gan S4C. Un arall wnaeth ddioddef o ddiffyg sŵn a bwrlwm cynulleidfaol y gorffennol ydi Noson Lawen – Dathlu’r 40 serch gwenau llachar Ifan Jones Evans ac Elin Fflur, ac ymdrechion glew band y tŷ i glapio am y gora. Mae angen binio Ffarmwr Ffowc am byth, roedd cyflwyniad rhen Idwal yn rhy hir a phoenus o annigrif (‘sa ffasiwn air?), bu gormod o ganu gwlad, a tydi’r arfer o jazz-eiddio hen ffefrynnau byth yn tycio. 

Yn wir, ripît funud ola o’r llynedd i gymryd lle Sgorio blesiodd fwyaf acw. Roedd Plygain go wahanol yn gwbl hudolus, wrth i Angharad ‘Calan’ Jenkins gyflwyno’r hen, hen draddodiad dan gyfyngiadau covid flwyddyn ddiwethaf. Gresyn na fyddai’r Sianel wedi comisiynu un arall eleni, wrth i ofn yr Omicron gadw drysau plwyfi Maldwyn a'r cyffiniau ar gau eto. Byddwn i’n bendant wedi croesawu rhaglen o garolau byrfyfyr, digyfeiliant, dan olau cannwyll mewn eglwysi godidog fel Mallwyd, yn hytrach na chantorion gorfrwdfrydig o’r West End yn y Galeri eto.

 

Calan

 

Mae dychan ar S4C cyn brinned ag empathi gan Priti Patel y dyddiau hyn, ond diolch am adolygiad blynyddol Sian Harries a Tudur Owen yn O’r Diwedd 2022. Roedd elfennau ardderchog ynddi, fel y ffarmwr pro-Brexit gwrth-Gaerdydd o Fôn (ac mae gormod ohonyn nhw ar y Tir Mawr hefyd), ‘Mark Drakeford – y Ffilm’ yn brwydro dros enaid Cymru rhag Alun Carneddau a’i deips, gêm deledu ‘Siopio neu Stopio’ am silffoedd gwag-ond-peidiwch-meiddio-â beio-Brexit. Ar y llaw arall, braidd yn flinderus oedd darnau eraill fel ‘jôc’ parhaus y sgaffaldiau ac Eisteddfod Tŷ. Beiwch fforti wincs a wisgis nos Galan wrth wylio’n fyw. Rhaid dal i fyny eto ar wasanaeth Clic. Go brin wnai drafferthu efo Gareth! am yr eildro. Roedd yr eisteddiad cyntaf yn ddigon poenus. Enghraifft glasurol o'r gwesteion a'r criw cynhyrchu yn cael mwy o hwyl na ninna adra. 

Unig uchafbwynt y sianeli eraill i mi oedd addasiad blynyddol Mark Gatiss o stori ysbryd MR James (1862-1936), The Mezzotint ar BBC Two. Cwta hanner awr oedd hi, ond mi wasgodd beth gythgam i mewn o ran awyrgylch, arswyd, cerddoriaeth a champ a rhemp oes Fictoria. Hanes Edward Williams, bonheddwr a golffiwr hamdden sy’n byw’r bywyd tawel fel curadur rhan-amser mewn amgueddfa prifysgol, sy’n taro ar draws paentiad o blasty yn Essex dan leuad oruwchnaturiol. Ac ai’r llygaid sy’n twyllo, neu oes ’na ryw greadur sinistr yn llercian y tu ôl i’r gwrych neu’n nghornel ffenestr y plasty yn yr engrafiad? I’r dim ar gyfer noson swatio ar y soffa efo canhwyllau bach a chlamp o win coch (ar wahân i chi nytars Ionawr Sych).

The Mezzotint - arswydus o dda

 

 

Gwylio dros y gwyliau



Sdim byd fel gwylia’ traddodiadol adra’ i wneud i rywun werthfawrogi’r pethau bychain. Yr ‘adra’ gwreiddiol hynny yw, bro eich mebyd, y mae rhywun yn dal i ddychwelyd ato o’u hail gartref. Yr adeg o’r flwyddyn lle mae amser a’r diwrnodau’n ymdoddi’n niwlog i’w gilydd, ymestyn hen gemau bwrdd o gefn y cwpwrdd, deiet ôl-Dolig yn gigach oer a gormod o focsys siocled wrth erchwyn y soffa, mynd am dro ffres cyn dychwelyd at danllwyth o dân, ac S4C yn hawlio’r bocs. Achos does dim wi-fi ar yr hen aelwyd, felly dim gloddesta ar bopeth netfflicsaidd neu bocsets bwygilydd. 



Tymor y gwylio byw felly, yn amrywio o gamprwydd Parti Dolig Magi Noggi (a’i gwesteion Elin Fflur, Ifan JW, Alun Williams a’r Prifardd Gruffudd Owen a chesys Merched y Wawr Llanfair Mathafarn Eithaf) i garolau Dechrau Canu Dechrau Canmol o’r Wyddgrug. Rhifynnau arbennig o gyfresi poblogaidd fel Prosiect Pum Mil emosiynol o G’narfon i Gwesty Aduniad (ddim mor emosiynol). Roedd y bennod ddilynol am ddyn yn chwilio am hanes ei dad go iawn, milwr Lwcsembwrgaidd o'r ail ryfel byd, yn llawer mwy dirdynnol. Awr o Pobol y Cwm gyda’r dos tymhorol o chwalfa briodasol (Tyler ac Iolo, neu TyLo i’r selogion), torcalon straeon dementia a mabwysiadu, a damwain car ar stryd fawr berycla' Sir Gâr. Doedd Cefn Gwlad: Seindorf Arian Crwbin heb daro tant sawl aelod hŷn o’r teulu, gyda lot yn awgrymu ei bod hi’n hen bryd i Dai roi’r ffon fugail yn y to. Diolch byth am lyfrau newydd difyr gan Aneirin Karadog, Simon Reeve, Gwen Parrot a Levison Wood i fwrw’r nosweithiau. A diolch i’r drefn am adolygiadau Siân Harris a Tudur Owen O’r Diwedd 2019, gyda sgetshis smala am ffarmwr Brexitaidd o Fôn, cyfres P’nawn Da, sbŵff yr Alexa Cymraeg (“Alwena”), cic Eve Mylesaidd i Huw Onllwyn a fersiwn ratach Gymraeg o Fflîbag. Ac yn y Saesneg, bu cryn edrych mlaen at aduniad hirymarhous Gavin and Stacey y bu cryn ffỳs a ffwdan amdani wedi’r darllediad - cynnwys y gair “ff” yn neuawd (drwg)enwog y Pogues a Kirsty MacColl a’r cyhuddiad fod y sgript yn chwerthin am ben y Cymry - er mod i’n bersonol ei gweld hi’n chwerthin am ben dwpdra cariad newydd Smithy ar ymweliad-tro-cynta â’r Barri. A gan mai hon oedd llwyddiant ysgubol y Bîb Dolig yma, mae’n anorfod y gwelwn ni fwy o sbeshals neu hyd yn oed gyfres arall yn y dyfodol. Efallai fod James Corden megis Marmite i lawer, a tydw i ddim yn ffan enfawr o’r Brit Rob Brydon chwaith. Ond mae Alison Steadman yn ddigon o abwyd i mi’n bersonol.

Ond ar ôl dychwelyd i’r brifddinas, a’m set deledu clyfar sy’n caniatáu i mi ddal i fyny ar bethau, dyma ymgolli’n llwyr yn arlwy noir ddiweddara BBC Four. Cyfres deg pennod Wisting o lyfrau Jørn Lier Horst am dditectif a gŵr gweddw sy’n ymchwilio ar y cyd â’r FBI i serial killer ganol gaeaf noethlwm Norwy. A ninnau heb weld ’run pluen yng Nghymru eto'r gaeaf hwn, mae hon yn drwch o eira a dirgelwch Nadoligaidd i hoelio’ch sylw dros y nosweithiau Sadwrn atmosfferig nesa.





Llanast!





Hen fasdad ydi mis Ionawr. 

Diffoddwyd goleuadau’r ŵyl gan adael ein strydoedd fel y fagddu a’r ysbryd yn dduach. Mae cloc y corff wedi rhewi ar 26 Rhagfyr, ac mae’r “Bs” yn fygythiad parhaus - biliau a Brecshit.

Does ryfedd mod i’n crefu am rywfaint o hiwmor, a go brin ydi hwnnw ar y teledu. Sdim llawer o chwerthin cyfredol ar S4C, ond mae ôl rifynnau’r Dolig yn dal yno i rai a’u methodd y tro cyntaf – Run Sbit Dolig (2017!), Stand yp Cymru ac O’r Diwedd 2018. Er nad oedd pob sgetsh o'r olaf yn taro tant (sbwff Top Gear am ffyrdd a system drafnidiaeth sobor Walia Wen), roedd dychan Un Bore Mercher yn berffaith ac yn llwyddo i ategu pa mor sili oedd y gyfres mewn gwirionedd gyda Sian Harries yn gwisgo’r got felen dragwyddol wrth i’w gwallt droi’n gorwynt bleriach fesul golygfa.

Diolch i dduw bod bocset Nyth Cacwn wedi diflannu beth bynnag. Wnâi fyth ddeall hiwmor y Tregaroniaid.

Ond y tonic i mi, heb os, ydi Catastrophe (Channel 4). ‘Lle ti di bod Dylan bach, achos ma hon allan ers tair blynedd a dim ond ar y bedwaredd gyfres – a’r olaf – ti’n dechrau arni?!’  Digon gwir, a diolch byth mae’r rhai blaenorol i gyd ar gael ar wasanaeth dal i fyny All4. Cyfres a enwyd o ddyfyniad o ffilm Zorba the Greek: "I'm a man, so I married. Wife, children, house, everything. The full catastrophe. Y cwpl dan sylw ydi Sharon, athrawes o Iwerddon sy’n beichiogi ar ôl bachu Rob, Americanwr sy’n dadebru o alcoholiaeth, mewn bar yn Llundain. Er iddyn nhw wahanu, mae Rob yn dychwelyd i Lundain o Boston gan awgrymu eu bod nhw’n callio a chydfyw er lles y bychan. Erbyn y bedwaredd gyfres, maen nhw wedi setlo yn swbwrbia serch yr holl feddwi a checru, bygwth ysgaru, cymodi a magu mwy o blant. Mae Sharon Horgan (chwaer cyn asgellwr Leinster ac Iwerddon Shane Horgan) yn wych o sardonig a Rob Delaney i’r dim fel yr Ianc lloeaidd, a chast atodol cryf fel y Sgotiaid Ashley Jenner a Mark Bonnar sy’n caru-gasáu ei gilydd.

Hanner awr o’ch amser wythnosol gymrith hi, ond diawcs, mi fyddwch yn chwerthin yn uchel ar ôl ebychu mewn anghrediniaeth (hiwmor tystysgrif ‘18’ ydio wedi’r cwbl) wrth yfed eich ffordd drwy weddill fis Ionawr. Nid yn annhebyg i Rob druan...

Dw i’n methu’n lân a deall pam na allwn ni greu comedi sefyllfa debyg ar S4C, wedi’i seilio ar ddosbarth canol amherffaith Pontcanna, Llandeilo neu'r Felinheli. 

Gyda Tudur Owen a Sian Harries yn y prif rannau wrth gwrs.