Gwell Cymraeg slac?



 ’Sdim byd fel sylw ieithyddol i danio rhyfel niwclear ar y cyfryngau cymdeithasol. Fis diwethaf, dyma uwch ohebydd y Carmarthen Journal a’r Western Mail yn meiddio â sgwennu neges twitter am yr holl Saesneg a ddefnyddiai un o sylwebwyr Sgorio. “Howld on Now John Hartson!” gwaeddodd y dorf ar-lein yn llu, gan gyfeirio at y ffaith taw llanc tŷ cyngor o Drallwn Abertawe ydi hwn aeth yn chwaraewr YTS i glwb Luton yn 16 oed cyn cymryd cam anferthol i Arsenal yn 19 oed a mwynhau gyrfa lewyrchus yn yr Alban sydd bellach yn gartref iddo. Ac mewn rhifyn o sioe siarad S4C yn union wedi gêm Estonia, roedd cariad a brwdfrydedd John Mowr at ei iaith a’i wlad yn pefrio cymaint â llygaid Elin Fflur gyda’r canhwyllau a’r wisgi bach yn Sgwrs dan y Lloer. Wedi’r cwbl, dyma ddyn a ddywedodd wrth bapur newydd yr Irish Examiner adeg Ewros 2016

“I played 51 times for Wales... I’m a proud Welsh speaker, very patriotic about where I come from, my heritage. My father, my grandfather, my children — we all speak the language”.

Cawsom hefyd straeon sobreiddiol am broblem gamblo fu bron ag achosi iddo golli’i wraig a’i blant, a’r hanes dirdynnol pan oedd o fewn dim i farw o ganser y ceilliau. Ar ôl hynna i gyd, go brin fod Hartson yn hidio rhyw lawer am Blisman Iaith, tafod yn y boch ai peidio. Daeth y gyfres ardderchog hon, comisiwn funud ola’r bali pandemig, i ben yng nghwmni’r unigryw Gillian Elisa a oedd yn haeddu awr gron gyfan iddi’i hun. Am gymeriad cynnes â llond col o straeon, aeth drwy’r felin gyda sawl profedigaeth adeg ffilmio cyfres gyntaf Craith.

 

Go brin fod taten o ots gan Bois y Rhondda (Rondo) chwaith. Cyfres am griw o Ysgol Gyfun Cymer sydd bellach wedi mentro i fyd prentisiaeth neu'r chweched dosbarth ac yn delio â’u henwogrwydd lleol byth ers rhaglen gyntaf Drych adeg y pandemig (“cofio Elin Fflur yn dweud all them things about me bois!”). A rhwng yr holl “whare dwli” a’r tynnu coes dros beint yn y Lion Treorci neu gêm o golff-droed, roedd enydau difrifol wrth iddyn nhw drafod gorbryder y cyfnod clo, salwch teuluol neu ddiffyg perthynas tad a mab, a phob un yn wirioneddol werthfawrogi cyfeillgarwch y criw (“mae’n rili sound cael ffrind fel’na oherwydd sdim lot ohonyn nhw o gwmpas”). Er, efallai bod y darnau hynny lle’r oedden nhw’n trafod “iechyd meddwl” dwtsh yn stiff ac yn syth o sgript yn hytrach na siarad o’r galon. Un cymeriad amlwg iawn ydi Rhys, rôl fodel perffaith fel rhywun sy’n gynorthwyydd dosbarth yn ystod y dydd ac eto’n gallu cael sbort gyda’r bois yn ei amser hamdden. Roedd ei wylio’n annog plant Ysgol Llwyncelyn dan amgylchiadau heriol yn wirioneddol hyfryd. Poster boy posib ar gyfer ymgyrch recriwtio athrawon cenedlaethol.

Cyfres llawn hwyl a gobaith oedd yn chwalu ystrydebau am bwdrod ifanc y cymoedd. Gobeithio wir y cawn ni aduniad arall efo Cole, Josh, Steff, Taz, Wil, Derek a Cian â’u chwerthin heintus, ym mhennod nesaf o’u bywydau. Sbeshal Dolig falle?

’Sdim modd dianc rhag dylanwad y cymoedd ar ein diwylliant ni, na’r bydolwg Prydeinig ohonom. Cofio pennawd drwgenwog “They’ll be singing in the Valleys tonight” pan gafodd Arsenal eu trechu 2-1 gan Wrecsam yn nhrydydd rownd cwpan FA Lloegr ym 1992? Mae acenion amrywiol y parthau hynny sy’n gartre’ i 30% o boblogaeth Cymru yn fwyfwy amlwg ar ein cyfryngau Cymraeg bellach. Dyna chi’r diweddar Magi Dodd, a fflyd o gyflwynwyr caboledig fel Siôn Tomos Owen (Cynefin) a Rhydian Bowen Philips (llais gemau Cardiff City) a Shelley ‘Stacey Ni’ Rees (darpar Shirley Valentine Cymraeg) sy’n darlledu bob amser cinio dydd Sadwrn ar Radio Cymru. Mae rhywun yn wir obeithio bod y genhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg y Rhondda yn cael eu denu i wylio a gwrando ar Un Ohonyn Nhw.

 

Y ffaith amdani yw fy mod i'n disgwyl i gyflwynwyr S4C a Radio Cymru, o soffa Heno i raglenni plant a stiwdios newyddion a chwaraeon feddu ar Gymraeg clir a chywir. Wedi'r cwbl, mae rhan helaeth ohonyn nhw'n sgolorion Cymraeg, er bod ambell un heb gwblhau'i gwrs gan elwa ar rwydwaith teuluol yn lle hynny. Felly hefyd cyfranwyr Cymru Fyw, Golwg360 a'n misolion ni. Weithiau, mae rhywun yn clywed neu'n darllen penawdau neu gyfieithiad ciami o'r Saesneg ac yn meddwl "lle ddiawl mae'r golygydd?" Gwallau bach cyffredin fel camddefnydd o'r "national" Saesneg mewn teitlau fel "Yswiriant Cenedlaethol", "Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol", y "Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol" pan mai 'Gwladol' sy'n gywir yn cyd-destun hwnnw. Sdim esgus i weithwyr proffesiynol y wasg a'r cyfryngau Cymraeg. Plis plis dysgwch o'ch camgymeriadau, ewch ar gyrsiau gloywi a defnyddio canllawiau bach hanfodol fel 'Pa Arddodiad?' D Geraint Lewis. 

Dw i am fynd i guddiad rhag sgrechfeydd "plismon iaith" rwan.

Roedd rhifyn o Beti a’i Phobl hefyd yn codi calon, wrth inni glywed sgwrs gyda Grant Peisley, hyrwyddwr ynni cymunedol sydd wedi ffeirio swbwrbia Sydney am Landwrog a meistroli’r Gymraeg. O! am allu potelu brwdfrydedd Grant at ei wlad a’i iaith fabwysiedig, a rhoi joch ohono i sawl Dic Siôn Dafydd sydd wedi’u geni a’u magu yma. Rhaglen, gyda llaw, a oedd yn rhan o wythnos #DathluDysguCymraeg Radio Cymru gyda siaradwyr newydd yn cyfrannu at sioeau dyddiol yr orsaf. Uchafbwynt arall oedd cyfres Cymry Newydd y Cyfnod Clo gyda Beca Brown yn holi’r dysgwyr ysbrydoledig hynny sy’n ymroi i adfywio iaith yr aelwyd neu bellach yn diwtoriaid eu hunain fel Neil Wyn Jones o Gilgwri. Roedd stori Siân Harkin o ardal Pontypridd yn un go emosiynol ac orgyfarwydd i lawer o deuluoedd yr hen gymoedd diwydiannol, gyda rhieni Cymraeg heb drosglwyddo’r iaith i’w plant fel chwiw yr oes. Roedd clywed Siân yn sôn am yr ymdeimlad o “golled” a’i phenderfyniad i anfon ei phlant ei hun i ysgol Gymraeg er mwyn peidio â chyfrannu at ddirywiad yr iaith, wir yn cyffwrdd rhywun. Uchafbwynt arall oedd clywed Dei Tomos yn holi tri siaradwr rhugl o'r Almaen sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru ac yn cyfrannu'n llawn at fywyd diwylliannol ein cenedl. Ac yn meddu ar basport Almaenaidd/yr UE mae'n siwr. Gwyn eu byd.

Diolch fil iddyn nhw a phob Cymro a Chymraes newydd o fa’ma i Hemisffer y De.

Aussie! Aussie! Aussie!