Showing posts with label Netflix. Show all posts
Showing posts with label Netflix. Show all posts

O'r Gwendraeth i Eryri - via Heddlu Dyfed Powys

 


“Llew, Barbarian, Llanelli, twenty three caps. Cymro. Cymro i’r carn”.

 

Cymro go iawn hefyd, nid Cymro diwrnod gêm ryngwladol yn unig nac un sydd ond yn arddel yr iaith pan mae meic Radio Cymru dan ei drwyn neu gamerâu S4C arno. Sôn ydw i wrth gwrs am Ray Gravelle, Ray o’r Mynydd, Grav (Regan Development/ Tarian) ffilm S4C a ddarlledwyd i gyd-fynd â’i ben-blwydd yn 70 oed petai’n dal hefo ni. Addasiad caboledig Branwen Cennard a’r Prifardd Jim Parc Nest o sgript lwyfan wreiddiol Owen Thomas, ar gyfer Gareth Bale. Na nid hwnnw, ond yr actor penigamp o Gwm Tawe. Cau’ch llygaid, a Grav fyddech chi’n ei glywed yn ddi-os. Diawcs, roedd ei farf bron cystal â’r dyn ei hun hefyd.

 

Am stori a siwrne arbennig, “... o Gae’r Post i whare i’r Gorllewin. Llanelli. Tri chap ar hucen i Gymru. Llewod. Barbariaid”. Llinellau a ategwyd yn gyson dros yr awr a deng munud wrth i’r stori symud yn gelfydd o wely presennol y ward ’sbyty i lofft plentyndod ar aelwyd Brynhyfryd a gwely’r gwesty ym Mharis cyn gêm fowr Les Parc des Princes ym mis Ionawr 1975. Llinellau cyson o sicrwydd i un a oedd byth a hefyd yn amau a oedd yn ddigon da i chwarae ar y lefel uchaf. Ac yn y canol, cameos gan ddylanwadwyr mor amrywiol â’r actor Peter O’Toole i gewri’r Strade Carwyn James a Delme Thomas a hyd yn oed “Brenin y Sbynj” Bert Peel, heb anghofio ei annwyl fam a chwaraewyd yn dawel emosiynol gan Rhian Jones. Do, fe chwarddais a theimlais ambell beth i’r byw. Gobeithio bod gan Gareth Bale ddigon o le ar y silff gartref ar gyfer tlysau cwbl haeddiannol BAFTA, RTS a’r Geltaidd flwyddyn nesaf.

 

Wrth i’r hydref gau amdanom, mae drama noir S4C yn dychwelyd am y tro olaf. It’s grim up North meddai’r Sais, a hawdd deud yr peth am gymeriadau ac amgylchiadau Craith (Severn Screen) hefyd. Ffarmwr priod yn gelain mewn nant, bwlis a chyffurgwn yn plagio’r stryd, ficer amheus o’r Sowth, tai cyngor a fferm yn diferu o dlodi. Os mai yn y North ydan ni hefyd. Er mai’r Wyddfa a’i chriw a heddlu’r Gogledd sy’n ganolog i’r cyfan, buasai llu Dyfed Powys yn nes ati hefo’r holl acenion deheuol sy’n britho’r drydedd gyfres eto fyth.  William Thomas, Rhodri Evan, Elen Rhys, Simon Watts, Sion Ifan, Gwawr Loader - actorion tebol heb os, ond actorion y 'nawr' nid 'rwan' ydyn nhw. Naill ai bod criw castio (di-Gymraeg) yn cymryd y piss braidd neu bod actorion Gwynedd a Môn i gyd wedi dal covid ar y pryd, ac yn gorfod hunanynysu.

 

Nid bod cynulleidfa BBC Wales a BBC Four yn hidio dim am hynny, wrth gwrs, pan fydd Hidden yn ymddangos y flwyddyn nesaf gydag acenion stoc saff y Valleys i weddill Prydain. Ac wrth i’r credits clo lifo, dyma sylwi ar “Addasiad Cymraeg – Siôn Pritchard” sydd bob amser yn gwneud i mi anesmwytho. Addasiad Cymraeg o ddrama ar gyfer S4C? Er mai Caryl Lewis oedd awdur y bennod gyntaf? Na, dw i’n methu’n lân â deall y peth.

 





Ydy, mae’r sinematograffi’n hudo rhywun (nid bod angen denu rhagor i Eryri) a’r perfformiadau’n ardderchog, fel y seren o’r Wyddgrug, Justin Melluish sy’n chwarae rhan Glyn Thomas. Mi wnâi barhau i wylio a’i derbyn fel cyfres dditectif generig arall. Y gwir amdani yw na wnes i erioed gymryd at hon yn yr un modd â’r Gwyll (2013-16) a fu’n llwyddiant ysgubol Netflix wedi hynny. Cyfres wnaeth elwa ar €1 miliwn o grantiau Ewrop Greadigol, yn union fel fy hoff gyfres binjio ddiweddaraf – The Defeated – am dditectif o Americanwr yn cydweithio â’r Polizei yng nghanol llanast Berlin wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

 

Dw i’n siŵr y bydd cronfa drwgenwog ‘Levelling Up’ llywodraeth y DU lawn mor hael i ddramâu teledu Cymraeg...

 


 

Copenhagen calling

 


Mae ciwed I’m a Celebrity yn heidio hyd yr A55, gan dorri rheola teithio Lloegr, a hacs Llundain yn prysur hogi eu jôcs defaid wrth i Ant a Dec fireinio eu hacen Gavin & Stacey. Ond dw i’n denig i Ddenmarc. Yn fy mhen, hynny yw, cyn i’r heddlu daro’r drws. Unrhyw esgus i ymgolli mewn nofel neu gyfres wedi’i gosod yn fy hoff ran o’r byd, a dw i yno. Wedi wythnosau o’r Montalbano arwynebol ond gwledd Siciliaidd i’r llygaid, dychwelodd BBC Four at ei gwreiddiau Llychlynnaidd ar nosweithiau Sadwrn gyda DNA. Gyda diolch i Fiona ’Pesda am yr argymhelliad, achos welais i’r un hys-bys ymlaen llaw.

Ymchwiliad i blentyn bach a gipiwyd o’r kindergarten yn swbwrbia København sy’n sbarduno popeth, a’r Politi lleol yn mynnu taw’r tad sy’n geisiwr lloches, ydi’r drwg yn y caws. Ond mae Rolf Larsen (Anders W. Berthelsen), tad a ditectif uchel ei barch, yn amau fel arall ac yn dal fferi i wlad Pwyl wrth i gliwiau newydd ddod i’r fei – gyda chanlyniadau trychinebus iddo fo a’i wraig. Ro’n i’n gwybod nad syniad da oedd mynd â’r fechan...

O hynny mlaen, ’da ni’n neidio o Ddenmarc i Wlad Pwyl a Ffrainc ac yn ôl, mewn drama sy’n plethu merch ifanc feichiog a lleianod anghynnes, masnachwyr pobl, clinig ffrwythloni a ditectif soffistigedig o Baris (Charlotte Rampling, gynt o Broadchurch). Os ydi’r ddwy bennod gyntaf yn ymddangos ar wasgar braidd, gyda lot o is-blotiau digyswllt, daliwch ati achos Torleif Hoppe, crëwr Forbrydelsen (The Killing), sydd wrth y llyw. Does na’m eira eto, ond cewch ddigonedd o awyr lwyd, isdeitlau, sgarffiau syml o chwaethus ac arwyddgan atmosfferig i’ch cadw’n ddiddig.



Cyn noswylio, mi ddarllena i bennod neu bump o nofel awdur The Killing (obsesd, moi?). Mae The Chestnut Man Søren Sveistrup eto wedi’i gosod yng Nghopenhagen hydrefol, a llofrudd cyfresol sy’n gadael ei stamp gwaedlyd trwy blannu ffiguryn castan ger cyrff merched ar hyd a lled y ddinas – gan beri penbleth i’r ditectifs anghymarus, y fam sengl Naia Thulin o Major Crimes a Mark Hess sydd wedi cael cic owt o Europol. I ategu’r dirgelwch, mae pob ffiguryn castan yn cynnwys olion bysedd hogan 12 oed a ddiflannodd flwyddyn ynghynt, ac sy’n digwydd bod yn ferch i Weinidog Cyfiawnder Llywodraeth Denmarc. Swnio fel cyfres deledu ddelfrydol, meddech chi, ac yn wir, mae Netflix wrthi’n ffilmio rŵan hyn.

A gyda’r sianel fawr honno ag un DR Danmark yn atgyfodi Borgen ar gyfer 2022, mi fydda i’n dal i danysgrifio am sbel go lew eto.

Politigården - pencadlys cyfarwydd yr heddlu, Copenhagen

 

Dwy bennod sy'n weddill, a dw i eisoes wedi ffeindio'r gyfres dditectif nesa i 'nghadw'n hapus trwy Dachwedd Noir, diolch i Walter Presents. Ysblander Lac d'Annecy yn yr Alpau ydi lleoliad Fear by the Lake, yr olaf o'r trioleg Ffrengig am y gŵr a'r gwraig o dditectif


 

 

Wallander for Dummies



Mynadd. ’Da chi’n disgwyl yn nerfus am ailwampiad newydd o hen ffefryn – ac maen nhw’n llwyddo i wneud cawl potsh ohoni. Y dihiryn ydi Netflix, a’r gyfres dan sylw yw Young Wallander. Roeddwn i wedi hanner disgwyl pethau gwell, o gofio mai cynhyrchwyr y cyfresi Swedeg gwreiddiol o 2005-2013, Yellow Bird, sydd hefyd yn gyfrifol am hon. Ond hold on Now John. Nid Sweden y 70au sydd yma, pan ddylai’r Kurt Wallander gwreiddiol fod yn ennill ei streips fel cyw aelod o’r Polis – ond Sverige heddiw. Ac nid gwlad Swedeg ei hiaith gawn ni chwaith, ond un lle mae pawb – o’r prif gopyn i ddihirod mawr a mân Malmo (neu Vilnius, prifddinas hyfryd Lithwania yn yr achos yma) – yn siarad Saesneg y sgowsar, y geordie a’r gwyddel. Dim ond Adam P
ålsson sy’n gneud unrhyw ymdrech i swnio fel brodor. Does ryfedd fod y cr’adur yn edrych yn gyfan gwbl ar goll drwy’r cyfan, ac allan o’i ddyfnder yn llwyr, sy’n biti o gofio pa mor effeithiol oedd o yn nrama gangstyrs Before We Die Walter Presents.

Mewn oes lle mae dramâu wedi’u hisdeitlo yn gyffredin, dair blynedd ar ddeg wedi i Forbrydelsen o Ddenmarc ennill ei phlwyf yma ym Mhrydain a mwy, mae penderfyniad Yellow Bird a Netflix i eingl-americaneiddio un o allforion mwyaf Sweden yn benderfyniad od a rhwystredig ar y diawl. Da ni 'di bod yma o'r blaen wrth gwrs, gyda fersiwn Syr Ken Branagh o'r ditectif pruddglwyfus o Ystad a wnaed gan y BBC rhwng 2010 a 2016, gyda sinematograffi hynod drawiadol. Alla i ddim credu bod y diweddar awdur Henning Mankell wedi rhoi sêl bendith i nytsrwydd netfflics cyn marw o gancr yn 2015.

Bocset arall i’r bin felly. O wel. O leia’ ga i ganolbwyntio mwy ar ragor o Ynys Fadog y Dr Jerry Hunter.

Tywyll heno



W’annwl, dw i ar ben fy nigon. Ar ôl bron ag anobeithio ffeindio drama gwerth chweil i’w gwylio, a dim gobaith mul am gael teithio i Ewrop ’leni, dw i wedi ffeindio jyst y peth. Lladd dau aderyn. Y ddrama ydi Dark, y gyrchfan yw'r Almaen. Ac unwaith eto, dw i ar ei hôl hi, achos mae’r drydedd gyfres (a’r olaf) bellach ar gael ar netflix, wedi iddi ymddangos am y tro cyntaf yn 2017. A waw. Sôn am siwrnai. Ar yr olwg gyntaf, mae’n rhyw gyfuniad o Twin Peaks, Missing a Broadchurch Bafariaidd - wrth i ail blentyn ddiflannu oddi ar wyneb y ddaear yn nhref niwclear Winden, ychydig wythnosau wedi i lanc ifanc fynd ar goll yng nghanol fforestydd maith yr ardal. Yn ara deg a bob yn dipyn, down i ddeall fod hanes yn ailadrodd ei hun, gyda diflaniad tebyg nol yn ’86, yn fuan wedi trychineb Chernobyl - ac amheuon yr hynafiaid yn dychwelyd at ogof go sinistr yng nghanol y goedwig, a’r atomfa ddirgel y tu ôl i gaer weiar bigog. Mae goleuadau’r dref yn crynu, mae’n tywallt y glaw ac yn bwrw adar. Nid yn annhebyg i achos yma yng Nghymru y llynedd. Môn. Wylfa. Iasu. Mae comisiynwyr S4C wedi colli cyfle gwirioneddol fan'na.

Wrth i’r penodau fynd rhagddynt, rydym hefyd yn teithio ymhell i Waden 1953 gyda digwyddiadau’r oes honno’n ein clymu ni’n ôl i heddiw. Rhan o’r hwyl ydi casglu’r cliwiau pwy-sy’n-perthyn-a-be-di’r-cyfrinachau. Mae yma elfennau sebon, angst yr arddegau, arswyd, ffantasi a sawl tro annisgwyl. Cefais fy nghyfareddu. F'anesmwytho. Fy nychryn. Fy nghyffwrdd i'r byw. Fe'm hoeliwyd.

A chofiwch. Nid 'lle' yw'r cwestiwn. Ond 'pryd'.

Ddeuda i ddim mwy rhag difetha pethau. Dim ond deud ei bod hi’n llwyr haeddu sgôr o 95% gan adolygwyr a defnyddwyr gwefan Rotten Tomatoes. Ac fel pob cyfres gwerth ei halen, mae yna chwip o gerddoriaeth agoriadol i greu awyrgylch - yn yr achos hwn, "Goodbye" gan y cerddor electronig-amgylchynol Almaenig, ‘Apparat’.


Mae ’na ryw lygedyn o obaith i ddramâugarwyr Cymraeg hefyd, gydag Un Bore Mercher 3 newydd ailddechrau ffilmio ar gyfer dangosiad yr hydref. Dw i ddim balchach yn bersonol, ar ôl rhoi’r gorau iddi wedi pennod yn unig o’r ail gyfres bac tw bac. Mae Celia Imrie ymhlith y cast y tro hwn, felly dyn a ŵyr beth fydd ei chyfraniad hi at y fersiwn Gwmrâg. Rhyw dindroi braidd mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm hefyd, yn sgil anghydfod cyflog efo BBC Studios, â’r sioeau sebon Saesneg eisoes yn ffilmio dan gyfyngiadau pa bynnag bellter sydd mewn grym yn Lloegar erbyn hyn. Wn i ddim beth fydd hanes Rownd a Rownd chwaith, gyda’r cast fel arfer yn ffilmio dros wyliau haf y plantos a gosod trimins Dolig o amgylch set Cilbedlam (ydych chi rioed wedi sylwi ar y cast yn chwys domen mewn siwmperi Dolig a choed glannau’r Fenai yn drwch o ddail?). Amser a ddengys.

Yn y cyfamser, dw i am gadw Llyfr y Flwyddyn tan yr hydref, er mwyn dianc i fyd dirgel, anturus, agerstalwm ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan fydd hi’n ddu bitsh am bump. Rhag ofn mai tenau ar y naw fydd arlwy dramatig y teli bocs erbyn diwedd y flwyddyn felltigedig hon.