Showing posts with label Cyswllt mewn Covid. Show all posts
Showing posts with label Cyswllt mewn Covid. Show all posts

Gwylio dan gyfyngiadau

 



Beth arall sydd i ddeud am ’leni? Fe gafodd un gair arbennig ei orddefnyddio. Na, nid hwnnw sy’n cychwyn efo ‘Ec’, ond ‘Dî’. Digynsail. Rhowch gorau iddi plîs, newyddiadurwyr prin y Gymraeg, a thriwch rywbeth arall fel 'blwyddyn heb ei thebyg', 'dyddiau di-ail'. Unrhyw beth 'blaw digynsail. Thenciw fowr.

Bu’n flwyddyn heb ei hail i wylio teledu beth bynnag, â phawb yn sownd adra wrth i'n byd cymdeithasol ddod i stop. Os na aiff ffigurau S4C drwy’r to yn Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol y flwyddyn nesa, wedi un go symol y llynedd, mae wir yn A-men ar y Sianel. Ond dowch inni drïo croniclo’r flwyddyn swreal hon o wylio. 

Swatio dan y lloer

Ailddarganfod natur efo Morgan Jones a'i westeion 

Uchafbwynt y gwanwyn boncyrs o gynnes i mi oedd treulio awran bob nos Sul yn gwylio 5 pâr o Loegr yn bacpacio 25,000km dros ddeufis yn erbyn y cloc o Ddinas Mecsico i Ushuaia, yr Ariannin, yn Race across the World. Gydag antur adra yn golygu twrio am bapur lle chewch neu dun o domatos yn Co-op Llanrwst, roedd rhywbeth uffernol o braf mewn weld pobl yn brasgamu hyd strydoedd dan ei sang, yn cysgu boch wrth foch ar fysiau 12 awr, yn rhannu hosteli ceiniog a dimau a chlecian peints mewn bariau byrlymus wrth geisio osgoi sawl terfysg yn erbyn llywodraethau ledled De America. Wrth gwrs, tydi cyllideb S4C ddim yn caniatáu’r fath sbloets (er meddyliwch pa mor dda fuasai hel cystadleuwyr ar draws Patagonia, serch ffrae’r twitteratis am wladychiad neu goncwest y Cymry cynnar) ond fe ganiatawyd i Elin Fflur dorri’r rheol bum milltir er mwyn cael llymaid hamddenol yng ngerddi rhai o s’lebs y Gogledd yn Sgwrs dan y Lloer (Tinopolis). O Nic Parri i Lisa Jên, Mici Plwm i Angharad Tomos, Tudur Owen i Robat Arwyn, roedd rhai’n llawer difyrrach na’r lleill – ond pwy bynnag oedd y gwestai, roedd agosatrwydd a gwên fawr gynnes y ferch o Fôn yn cynnal y cyfan. Grêt bod yna gyfres arall ar y gweill. Ond fe wnes i osgoi’r ddogfen unigol Galar yn y Cwm fel y pla, sgiwsiwch y mwysair di-chwaeth. Gyda’r bwletinau dyddiol yn pwyso’n drwm arnom, nifer y marwolaethau yn cynyddu ar lefel ddychrynllyd a gwleidyddion di-glem wrth y llyw, y peth ola’ o’n i eisiau ei wylio min nos oedd dogfen am deulu o drefnwyr angladdau yng Nghwm Tawe. 

Roedd rhaglen bry ar y wal arall a gomisiynwyd yn arbennig yn ystod y cyfnod clo, yn berl. Llywio cyfres realiti newydd am wibdaith bws i Ewrop oedd bwriad y cyn-brifathro o Eifionydd, Ken Hughes, cyn i 2020 roi stop arno. Yn lle hynny, fe’i gwelsom yn defnyddio’r cyfrwng zoom hollbresennol i wneud cacen, sgwrsio â ffrindiau pell ac agos, cynnal cwis ar-lein, a chadw’n heini yn yr ardd gerflunaidd. Ken Hughes yn cadw ni fynd (Darlun TV) oedd un o uchafbwyntiau hapusa’r flwyddyn, a phob clod hefyd i Elis am reoli’r camerâu niferus o stiwdio’r garej. 

Fel rhan o gomisiynau eiliad ola’r Sianel i lenwi’r gwagle chwaraeon byw, fe gawson ni ddrama tair rhan Cyswllt (mewn Covid) (Vox Pictures) gyda’r actorion yn serennu ar eu ffôngamerâu neu liniaduron eu hunain – fel nyrsys lluddedig, nain a wyres, tad colledig, a phâr priod sy’n gorfod hunanynysu ar wahân gan fod un yn taclo cancr. Llwyddodd y cyfan i gyfleu blinder, ofnau, tyndra a gwerthfawrogiad y cyfnod od hwn, ac ennill y blaen ar ddrama covidaidd arall gan ITV. Drama hôm mêd arall wnaeth apelio oedd Staged, gyda Michael Sheen o Bort Talbot a David Tennant a’u gwragedd go iawn, fel dau actor llwyfan sy’n bytheirio drwy ymarferion ar-lein dan law cyfarwyddwr anobeithiol o'r West End, yn poeni am gymdogion oedrannus, a chael ram-dam gan y Fonesig Judi Dench. Mae’r ail gyfres ar ei ffordd, a gwych o beth am hynny. 

Michael Sheen a David Tennant - "Staged"

 

Y pâr priod Dewi (Aneurin Hughes) a Sian (Cath Ayres) yn gorfod cysgodi rhag covid â'i gilydd




 

O’r holl gyfres noir eleni – a doedd dim llawer ohonyn nhw - un iaith Saesneg o Ganada sy’n aros fwyaf yn y cof, a finnau fel arfer am sgut am isdeitlau a porn cynllunio tai Nordic. Ond o leiaf cantores o Ddenmarc sy’n gyfrifol am arwyddgan iasol Cardinal, ac roedd digonedd o eira mawr i blesio’r scandiphile mwyaf. Y bedwaredd gyfres, Until the Night, oedd yr olaf meddan nhw, a bydd hiraeth mawr ar ôl gwep fythol drist y Ditectif John Cardinal (Billy Campbell) a’i gydymchwilydd ffyddlon o Quebéc, Lise Delorme (Karine Vanasse) sy’n ei flysu o bell, heb anghofio ardal y llynnoedd a fforestydd gwyn maith gogledd Ontario, a straeon am wir frodorion y rhan enfawr honno o'r byd.

 

"Cardinal" - y gorau o Ganada

 

Erbyn yr hydref, daeth hen ffefrynnau yn ôl ar ein sgriniau, a phawb – o’r cogydd Hywel Griffith a’i Sioe Fwyd i Nia Parry a thrigolion Adre – yn cadw pellter go barchus. Felly hefyd Morgan Jones a’i westeion wnaeth borthi ein diddordeb o’r newydd ym mywyd gwyllt y filltir sgwâr yn Natur a Ni (Rondo) o stad Garreglwyd. Dychwelodd cymeriadau Rownd a Rownd a Pobol y Cwm i fyd annaturiol, gyda’r naill yn anwybyddu’r pandemig yn llwyr a’r llall yn dangos masgiau a sebon diheintio a’r enfys hollbresennol ’na. Tipyn o gamp ar ran yr actorion a’r criw cynhyrchu a’r awduron wnaeth orfod daflu sgriptiau parod i’r bin, a sgwennu rhai newydd heb na chwtsio na charu, dal dwylo na phaffio. Er hynny, dw i’n dal i fethu mwynhau i’r un graddau ag o’r blaen.

Prosiect Pum Mil a Dau Fetr

 

Wrth i elfennau o'r gymdeithas (Etonaidd) dorri rheolau C19 yn rhemp, twristiaid yn heidio i baffio a bawa yn Eryri, a Davina McBlydi Call yn cwyno am reola Cymru, llwyddodd fformat ... Pum Mil (Boom) i ddangos bod yna rywfaint o ddaioni yn yr hen fyd honco ’ma o hyd. O’r briodas dan glo ym Môn, i brosiectau cymunedol yn Ysgol Glantaf a Sbyty Ifan, Ponty a Llandysul, bu Emma a Trystan yn bwrw gwên, peintio, cyflenwi coffis a chwerthin heintus hyd a lled y wlad ar ôl ennill gwobrau BAFTA Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni. Un arall gafodd sawl enwebiad eleni oedd drama’r we 2019, Merched Parchus (yn y categorïau ‘Torri Trwodd’ ac ‘Awdur Gorau’) ac sydd wedi’i gwerthu i’r Almaen, Swistir ac Awstria via gwasanaeth ffrydio Ewropeaidd SOONER. Cyn (diffyg) cytundeb Brexit, gobeithio. Mae S4C yn dal i frolio amdani hyd yn oed ar ôl rhoi’r fwyell iddi wedi diweddglo reit benagored. Yn y cyfamser, daeth y felodrama Saesneg Un Bore Mercher i ben ar ôl tair cyfres. Dw i’n gwybod p’un fyddai wedi cael comisiwn arall gen i. Efallai y dylai mwy ohonom ganu clodydd cywaith gwreiddiol, dinesig a deifiol Mari Beard a Hannah Jarman ar y cyfryngau cymdeithasol, fel ffans bocsets Tipyn o Stad (2002-2008) sy’n cael ei hatgyfodi’r flwyddyn nesa. Syniad tsiampion ta diffyg gwreiddioldeb?

Barnwch chi.


 

A dyna ni. Sut siâp fydd ar deli’r ŵyl? Mae BBC One yn cynnig y Cwîn, Blankety Blank a Mrs Brown’s Boys fel tasan ni heb ddiodda’n barod eleni. Yn bersonol, dw i’n edrych mlaen at rywfaint o chwerthin gyda sbeshals comedi Motherland (9 o'r gloch nos Fercher 23 Rhagfyr, BBC Two) a King Gary (10 o’r gloch nos Fercher 23 Rhagfyr, BBC One) a drama Chekov, Uncle Vanya (10 o’r gloch nos Fercher 30 Rhagfyr, BBC Four). Mae dyddiau ffilm fawr y Nadolig ar S4C wedi hen ddiflannu, ysywaeth, ond o leiaf bydd na ffilm fer wedi’i hanimeiddio o’r enw Sol – ffrwyth cydgynhyrchiad rhwng sianeli teledu Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban ac S4C – am fachgen sy’n dysgu o brofiad galarus ar ôl colli ei nain (6.30 o’r gloch nos Lun 21 Rhagfyr). Uchafbwynt hapusach dydd Dolig ei hun fydd Ken Hughes yn cadw Dolig i fynd, ond ar amser chwithig braidd o 7 yr hwyr pan fydd llawer ohonom naill ai’n llowcio brechdana twrci oer, yn ffraeo dros gemau bwrdd neu’n rhochian o flaen tân. Ac wrth gwrs, mi fydd yna benodau cadw-pellter arbennig o’n sioeau sebon ni.

Am y tro, dw i’n gobeithio am gwrw da, siocledi arbennig a llyfrau blasus yn fy hosan i ’nghadw’n ddiddig drwy ba bynnag ffycrwydd sydd o’n blaenau ddechrau 2021.

Dolig dedwydd diogel i bawb. 

'Dolig Epic Chris


 

 

 

Cymru fach beyond Wales


Dw i wedi dychwelyd at Twitter ar fy ngwaetha. Nid mor aml ag oeddwn i, ac yn bendant ddim hwyr y nos na ben bore, rhag difetha cwsg ac effro. Ac wele #bantz rhwng dwy gomedïwraig sydd wedi cael cyflog gan S4C yn y gorffennol, a’r Sianel ei hun yn ymuno â’r hwyl. 

Yn Saesneg.

Atgoffwch fi eto pam ’da ni’n dal i drafferthu efo'r tipyn iaith ma?

Sefyllfa sy’n dwyn i gof noson allan gyda chriw gwaith yn un o fariau’r brifddinas flynydde’n ôl. Gerllaw, roedd tri actor lled-adnabyddus o un o ddramâu poblogaidd ar y pryd, Caerdydd, yn slotian. Tri Chymro iaith gyntaf, dau o Wynedd ac un o’r cymoedd, yn mwynhau sgwrs a pheint. 

Yn Saesneg. 

Ie, dychmygwch ein siom. Gymaint felly, nes i gydweithwraig o'r Rhondda godi ar ei thraed a holi pam affliw nad oedden nhw’n siarad Cymraeg. Roedd eu hwynebau’n bictiwr o gywilydd. Yn anffodus, mae’n arferiad cyffredin. Cymry sydd wedi pesgi ar y cyfryngau Cymraeg, ac eto’n troi i’r iaith fain ar ôl diffodd y meic neu’r camera. Mae sawl cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn euog o hyn. Dw i'n gegrwth weithiau.

Ond yn ôl at Twitter, a neges benodol gan swyddfa’r wasg S4C. Neges yn cyhoeddi cyfres ddrama newydd sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd a’r Fro ar hyn o bryd, yn barod i’w darlledu fis Chwefror nesa. 

Dyma’r blyrb:

 

Mae'r gwaith ffilmio wedi cychwyn ar Fflam - drama newydd sy'n addo dod ag ychydig o wres i dwymo oerfel mis Chwefror i wylwyr S4C.

Vox Pictures (Un Bore Mercher) sy'n cynhyrchu'r ddrama sy'n serennu Gwyneth Keyworth (Hidden/Craith, Black Mirror, The Crown) a Richard Harrington (Hinterland/Y Gwyll).

Mae Fflam wedi ei addasu o stori wreiddiol gan Gwenno Hughes sy'n rhan o dîm o awduron sydd wedi sgriptio'r ddrama - sy'n cynnwys Pip Broughton a Catrin Evans.

Mae bywyd yn llawn gobaith i Noni a Deniz (Memet Ali Alabora) sy'n atgyweirio eu fferm fechan ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Mae Malan (Mali Ann Rees), ffrind gorau Noni, ac Ekin (Pinar Ogun), chwaer Deniz, hefyd yn obeithiol wrth i'w cynlluniau i gael plentyn ddod yn bosib wrth i Deniz gytuno i fod yn rhoddwr er mwyn bod yn dad i'w plentyn.

Mae bywyd yn fêl i gyd nes bod Noni'n gweld ysbryd o'i gorffennol - Tim, ei gŵr a laddwyd mewn tân dychrynllyd yng Nghaeredin - neu ddyn sydd yn edrych yn debyg iawn iddo.

A fydd Noni yn gallu gwrthsefyll temtasiwn - neu yw hi'n achos o hawdd cynnau tân ar hen aelwyd...?

Bydd pob pennod o Fflam yn 30 munud o hyd yn wahanol i ran fwyaf o ddramâu S4C sy'n draddodiadol yn awr o hyd.


Newyddion gwych ar yr olwg gyntaf. Y ffaith y bydd drama newydd sbon ar ein sgriniau, a bod cwmnïau yn dal i fentro er gwaetha rheolau a rhwystredigaeth, strach a stryffig y pandemig. Ond o graffu’n fanylach, mae’n codi sawl cwestiwn. Lle mae’r amrywiaeth? Y gystadleuaeth a’r chwarae teg i gwmnïau annibynnol eraill Cymru?

Am be dwi’n fwydro? Y ffaith amdani yw mai cwmni Vox Pictures “based in London & Wales” sydd wedi cael tri chomisiwn drama S4C yn olynol ’leni - Cyswllt (mewn Covid), Un Bore Mercher a nawr Fflam. Cwmni profiadol a phroffesiynol, heb os, a gafodd lwyddiant ysgubol gyda’r cynhyrchiad cefn-gefn Keeping Faith ym mhedwar ban byd heb sôn am ddilyniant selog ar BBC Prydain. Trueni mawr felly, nad y fersiwn Gymraeg gydag isdeitlau ar y sgrîn a welodd gwylwyr o Ffrainc i Estonia, Israel i Seland Newydd, gan ategu arwahanrwydd Cymru fel gwlad â’i hiaith ei hun nid dim ond cornel braf o orllewin Prydain efo acen od. 



Mae UBM yn brosiect teuluol hefyd, wedi’i chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan y Saesnes Pip Broughton, gwraig Aneirin Hughes sy’n chwarae rhan Tom Howells (tad yng nghyfraith Faith), a mam Ela Hughes sy’n lleisio caneuon cefndir siwgraidd y gyfres. Sdim byd syfrdanol am hynny, wrth gwrs, gyda Chymru fach yn enwog am ei nepotistiaeth rhonc. Ac roedd Cyswllt mewn Covid, cyfres o dair wnaeth dorri tir newydd fel y ddrama deledu gyntaf yng ngwledydd Prydain i ddefnyddio Covid-19 fel cyd-destun, yn ailgylchu actorion UBM i bob pwrpas - Aneirin eto, Mark Lewis Jones, Hannah Daniel, Catherine Ayers ac Eiry Thomas - ynghyd â brenhines byd actio Cymreig, Christine Pritchard, a phlant dawnus.

Mae’r comisiynau hyn i un cwmni penodol yn ategu union bryderon y cyn-gynhyrchydd Norman Williams, Ffilmiau Eryri, fu’n gyfrifol am rai o’n cyfresi mwyaf poblogaidd ni, o Minafon i Tydi Bywyd yn Boen ac A55. 

Hel atgofion am ddyddiau Minafon oedd o efo Nia Roberts ar Stiwdio Radio Cymru, gan ddweud:

 

Prin iawn gewch chi gyfres fel Minafon bellach ... sebon yn bennaf ... pwyslais ar greu cefn wrth gefn... lle mae cyn bwysiced cael actor sy’n gyfarwydd a’r sîn yn Llundain ac sy’n gallu gwneud gwaith effeithiol yn y Gymraeg

Pwysleisiodd hefyd eu bod nhw wedi gwneud penderfyniad pendant i gastio actorion Minafon yn ofalus ar y pryd, gan sicrhau bod digon o waith ar gael i griwiau gwahanol, a bod wynebau ffres yn ymddangos gerbron gwylwyr y Sianel ifanc ganol yr wythdegau. Erbyn heddiw, mae’n tristáu o weld yr un hen rai yn neidio o un gyfres i’r llall, a bod hynny’n ymyrryd â’r byd dychmygol y gallwn wirioneddol ymgolli ynddo. Clywch clywch. Diau mai Cymraeg oedd iaith tu ôl i’r camera hefyd, a hwythau’n ffilmio yng nghadernid Gwynedd. Mae rhywun yn ofni’r gwaethaf gyda Vox Pictures.

A Fflam? Iawn oce, efallai mai cyfuniad o actorion cyfresi Noir diweddar gawn ni. Ond o leia mae’n swnio fel syniad gwreiddiol o’r Gymraeg yn lle trosiad o’r Saesneg fel UBM, ac yn cynnwys tîm sgwennu a chynhyrchu Pobol y Cwm gynt. Mae'r cast yn sicr o dicio bocsys cydraddoldeb ac amrywiaeth y Sianel, ac roedd Mali Ann Rees yn wych fel un o griw Merched Parchus a gafodd gam uffernol heb ail gyfres, serch gwobrau lu gan RTS Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd heb son am enwebiad BAFTA.

Croeso gofalus, felly, i’r comisiwn. Gan edrych mlaen at fwy o waith a chyfleoedd i gwmniau annibynnol Cymraeg eraill yn 2021. 



 

 

Tonic



Mae gan S4C hanes hir o annog siaradwyr newydd yr iaith. Llawer mwy a gwell na BBC Wales ac ITV Wales, er bod rhai'n dweud mai'r sianeli hynny ddylai fod yn darlledu rhaglenni cyfrwng Saesneg i ddysgu Cymraeg.

Mae gen i frith gof o gyfresi cwmni Acen o’r 90au, Now You’re Talking, wedi’u cyflwyno’n ddwyieithog gan Elin Rhys ac a ddefnyddiai rhai fel Richard Elfyn (35 Diwrnod), Siân Rivers, Jenny Ogwen a Gareth Morris oedd yn actio sefyllfaoedd bob dydd fel coginio, cyfarch pobl, siopa neu weiddi ar y plant i fynd i’r gwely. Cafodd y fformat ei addasu fel Speaking our Language gan Scottish Television er mwyn hybu’r iaith Aeleg yn fan’no. Yn y mileniwm newydd, dechreuodd y Sianel borthi obsesiwn anghynnes y plebs â’r s’lebs gyda Cariad@Iaith (2002-15) dan law'r fythol heulog Nia Parry ac weithiau Gareth Roberts, trwy anfon llond bŵtcamp ohonyn nhw ar gwrs dwys yn Nant Gwrtheyrn, gan gynnwys Ruth Madoc, Gareth ‘Alfie’ Thomas, Tanni Grey Thomson, Neville Southall, Lembit Öpik (cofio hwnnw?), Lucy Cohen, Tom Shanklin a Janet Street-Porter a’i galwodd yn “ugly and ludicrous” (y Gymraeg, nid JSP am wn i) mewn colofn bapur newydd yn 2004.



Ers hynny, ni chlywyd gair o Gymraeg o enau’r cyfryw ddysgwyr ‘enwog’ ac eithrio Matt Johnson fu’n cyflwyno ambell gyfres ar y cyd â Nia ac Ioan Talfryn o Ddyffryn Clwyd, a slot Dal Ati. Hefyd, Suzanne Packer wnaeth ymddangosiad clodwiw fel Ruth yn nrama hynod gyfoes Cyswllt (Mewn Covid) yr wythnos hon. 

Mae’r fformat dysgu treigladau mewn tîpis wedi hen ddiflannu erbyn hyn, ac eleni, cawsom un newydd ar ffurf Iaith ar Daith, gyda s’lebs di-Gymraeg yn paru ag enwogion Cymraeg eu hiaith i ddysgu a chyflawni mân dasgau. Doedd gen i fawr o fynedd efo ambell un, fel cyn-gyfrannwr Countdown sydd wedi ailddarganfod ei Chymreictod mwya’r sydyn a chael joban Radio Wales ar ôl i’w gwaith ar rwydwaith teledu Lloegr sychu’n grimp heblaw am hysbysebion siwrans ar Channel Five. Ond wythnos diwethaf, gwelsom yr actores gomedi a’r awdures Ruth Jones mewn partneriaeth â Gillian Elisa Thomas, yn teithio o fart Llanymddyfri i orsaf drenau Merthyr a stiwdios Pobol y Cwm gan gofleidio ei Chymraeg i’r byw. Daeth drosodd fel menyw hollol ddidwyll, wrth hel atgofion am ei magwraeth ym Mhorthcawl, cofio dysgu canu “Iesu Tirion” yn yr ysgol gynradd, a’r hwyl a’r cynhesrwydd arbennig o ffilmio Stella (Sky One 2012-17) yn y Rhondda. Roedd yn siwrnai hynod emosiynol hefyd, wrth iddi ddychwelyd i’w hoff draeth ‘Rest Bay’ i gofio am ei diweddar dad. Ychydig nosweithiau wedyn, bu’n siarad yn fyw ar Heno trwy gyswllt skype o! mor gyfarwydd inni gyd bellach, gyda brwdfrydedd a rhuglder. Gawn ni gyfres reolaidd ganddi hi a Gillian Elisa, plîs S4C?

Cyfres codi calonnau, heb os. Alla i ddim disgwyl am daith Adrian Sgorio Chiles a’i fentor Steffan Powell nesa.






S4/Covid




Mae’n nos Wener, dwi’n y parlwr gyda laptop a photel o’r Brawd Houdini tra mae mam/Nain a’i hwyrion drws nesa’n gwylio Côr Digidol Rhys Meirion yn y lolfa (da ni’n un teulu mawr cyn i chi sgrechweiddi HUNANYNYSU!!). Dw i’m balchach. Dw i chwaith heb ymuno ag unrhyw Gôrona ar gweplyfr, pobi torth fanana na cheisio rhyw gwis tafarn zoom neu beth bynnag arall mae rhywun "i fod" i’w wneud dros y cyfnod govidus hwn. 

Galwch fi’n Victor Meldrew.

Does gennai fawr o awch nag awydd gwylio unrhyw beth sy’n ein hatgoffa o’n bywydau dan glo ar hyn o bryd chwaith. Ond dyna’n union mae S4C am ei wneud dros yr wythnosau nesaf, gyda thon o gomisiynau newydd i lenwi gwagle’r haf ers i bopeth byw – o’r Sioe i’r Steddfod, Ewro 2020 a phenllanw’r Pro14 – gael ei ganslo. Comisiynau gwerth £6 miliwn, cofiwch, gan sicrhau buddsoddiad a hwb aruthrol i’n cwmnïau annibynnol ni yn y fath ddyddiau digyffelyb. Pob clod i’r Sianel felly, fel y nodais mewn colofn i nation.cymru yn ddiweddar yn fy Saesneg clapiog.

Beth ydy’r cyfresi coronabethma felly?      
  • Syrjeri Amlwch (Darlun) – rhaglen bry ar y wal yn dangos sut mae canolfan feddygol a chymuned ym Môn yn ymdopi â sefyllfa Covid-19. Sgwn i a fydd perchnogion tai haf lleol â phwl o beswch drwg yn bresennol?
  • Priodas Dan Glo (Boom) – Trystan ag Emma a llond skype o s’lebs yn trefnu cymorth a syrpreis i gwpl sy’n ysu i briodi ers tro byd. Buasai rhaglen arall sy'n cwrdd â chyplau'r gyfres dros y blynyddoedd yn ddifyr hefyd, i weld a ydyn nhw'n dal yn hapus neu wedi ysgaru. Meddyliwch am y fath ddrama! 
  • Babis Covid - cofnod o adegau hapus ond heriol/anodd wrth i deuluoedd fethu dod ynghyd i ddathlu’r newyddanedigs o’n plith.
  • Ffermwyr Ifanc yn Cicio’r Corona – cip ar ymdrechion aelodau’r mudiad i ymdopi ar hyn o bryd. Gyda naill ai Ifan neu Meinir, siŵr o fod, os ydyn nhw wedi gorffen wyna.
  • Tŷ Bach Mawr - y syniad odiaf hyd yma, sef “edrych ar greu pob math o adeiladau bach trawiadol yn ein gardd gefn”. Tai bach? Cwt offer garddio? Tŷ coeden i’r plant? Dyn a ŵyr. Prosiect nesaf sardonig Aled Sam efallai.
  • Mae cwmni Boom Cymru hefyd yn chwilio am gystadleuwyr brwd ar gyfer cwis soffa newydd, yn ymwneud â’r byd teledu o be’ ddealla i.



Fel yr atega blyrb Swyddfa’r Wasg:

Yn ychwanegol mae cynlluniau ar waith gyda chymeriadau Pobol y Cwm, Goreuon Priodas Pum Mil, Goreuon Gwesty Aduniad ac Ysgol Ni Maesincla: Diwedd Tymor er mwyn sicrhau bod nhw'n parhau i ymddangos ar y sianel.

Ond y comisiwn mwyaf atyniadol i mi, a welwyd nos Iau yma, oedd cyfres ddrama tair rhan Cyswllt (mewn Covid). Wedi’i chreu o bell gan griw o actorion adref ar eu gliniaduron a’u ffonau clyfar eu hunain, a gwaith ffilmio ar wahân i bontio straeon y cyplau gwahanol, cawsom hanner awr emosiynol o unigrwydd, ofnau a gobeithion y cymeriadau. O ŵr sy’n gorfod gwersylla yn yr ardd er mwyn cadw pellter rhag ei wraig sy’n taclo canser, dwy ffrind sy’n ei chanol hi fel nyrsys rheng flaen, a nain ac wyres annwyl, cawsom sawl agwedd ar fywyd ar hyn o bryd. Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Vox Pictures, a oedd wedi gorfod rhoi’r gorau i ffilmio trydedd gyfres Un Bore Mercher am resymau amlwg, mae’n anorfod fod llawer o’r actorion hynny yn ymddangos yma (minws Eve Myles). Mae’n gynhyrchiad teuluol ar y naw hefyd, gyda’r cyfarwyddwr Pip Broughton yn wraig i Aneurin Hughes (Dewi) sy’n rhieni i Ela Hughes, cyfansoddwraig rhai o ganeuon siwgraidd y ddrama.

Cymru fach.

Ond mae’n gyfres fach werth chweil, a’r gwaith ffilmio cartref agos-atoch, yr eco a’r seibiau heb na cholur na gimics camera arbennig i ‘fireinio’ popeth yn creu naws dim lol sy’n boenus o real ar adegau. Mi alla i wylio monolog cyfan efo Christine Pritchard. Beth amdani, Gomisiynydd Drama? 

Mae S4C wir wedi achub y blaen ar sianeli fel ITV a Netflix sy’n brolio eu dramâu Covid eu hunain. Gair i gall, Guardian a’u teips – tydi’r Saesneg ddim yn torri tir newydd bob tro.