Showing posts with label Secret City. Show all posts
Showing posts with label Secret City. Show all posts
Dramâu parchus
Siŵr braidd fod yna gyfryngis wedi ymddangos ar lwyfan yr Urdd. P’un a aethon nhw ymhellach na’r steddfod gylch sy’n fater arall. Ond mae gormod ohonyn nhw wedi bod drwy’r ysgol lefaru / adrodd dros ben llestri. Pa reswm arall sydd dros orliwio’r gair “Bregzit” bob gafael mewn adroddiadau newyddion? Ac mae sylwebydd gwleidyddol uchel ei barch (ro'n i'n meddwl) y Bîb yn dal i sgwennu am “Fregsutwyr” yn ei flog diweddaraf. Plîs peidiwch. Rhowch gorau iddi. 'Da chi’n Cymreigio a diwyllio hen air g’neud hyll - cyfuniad o “British” ac “Exit” - nad oedd yn bodoli tan ryw dair blynedd yn ôl. Â’r newyddion dyddiol yn ddigon i roi’r felan ar unrhyw un, dw i’n dianc yn amlach nag erioed i fyd ddrama. Ar ôl osgoi’r peth gyhyd, ac anwybyddu broliant fy nghymdeithion dinesig, dw i wedi ildio i sianel danysgrifio Netflix.
Na, nid ‘netfflugs’, ohebwyr BBC Cymru...
Dros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi sawru thriller gwleidyddol o Canberra (Secret City 2), wedi sglaffio ail gyfres o ddrama ddirgel o dalaith Efrog Newydd (The Sinner) a thraflyncu stori am ddigwyddiad ysgytwol mewn ysgol uwchradd yn Stockholm (Quicksand). Oll ar gael fel bocsets i’w gwylio ar unwaith. Sy’n berig bywyd. Achos wrth i bennod afaelgar lifo’n rhwydd i’r llall, mae bron yn un y bore, a minnau’n flin fel Mark Francois yn y swyddfa drannoeth.
Mae ôl rifynnau Hinterland yno i rai sy’n dal i hiraethu am bach o Gardi Noir, yn ogystal â’r nesaf yn y ciw i mi - ffilm arswyd oes Fictoria, Apostle (2018) wedi’i chyfarwyddo gan Gareth Evans o Hirwaun a’i hactio gan wynebau cyfarwydd S4C. Wedi’i gosod ar ynys bellennig oddi ar arfordir Cymru, mae’n olrhain hanes gŵr ifanc sy’n teithio i’r ynys er mwyn achub ei chwaer o grafangau cwlt dan law pregethwr penwan (Michael Sheen). Mae’r dystysgrif deunaw oed a’r adolygiadau lu (“...exhilarating Netflix horror is a wild, gory surprise” o’r Guardian) yn awgrymu’n gryf nad adloniant i’r teulu cyfan yw hwn.
Fwy nag ydi Merched Parchus (Cynyrchiadau ie ie), cyfres gomedirama am ferch 30 oed o’r brifddinas a gadd ei gwrthod, sy’n dianc i fyd podlediadau am seicopathiaid Americanaidd. Ac mae dychymyg y cyw awdur Carys (Hanna Jarman) yn drên wrth iddi feddwl am wneud pethau anghynnes i gyn-gariadon, cyfryngis a’r parau insta-perffaith hynny sy’n fflachio’u gwên g'neud a’u modrwyau dyweddïo ar y we.
Ydy, mae S4C wedi cofleidio’r busnes bocsets trwy roi’r gyfres wyth pennod, chwarter awr yr un, ar wefan Clic yn gyntaf cyn y darllediad traddodiadol/hen ffash bob nos Wener ar y Sianel. Rhaid cyfaddef ’mod i’n ofni cyfres rad a chas pan weles i’r geiriau “chwarter awr” a’r “we” yn gyntaf. Ond mae’r gwirionedd yn wychach na hynny, gyda deialogi ffraeth, actio naturiol braf a chyfarwyddo celfydd, mewn cyfres sy’n dod ag elfennau Parch a Fleabag i’r cof. Fydd hi ddim at ddant pawb – mae yna dalpiau helaeth o Saesneg a ffantasïau du bitsh – ond mae’n cynnwys stamp unigryw Gymraeg (Mistar Urdd! Catrin Beard! Clwb Ifor!) ac yn greadigol wahanol i unrhyw beth a welais ar S4C ers sbel, os o gwbl.
Ac mae’n garreg filltir bwysig i’r Sianel, a ddywedodd yn ei hadroddiad blynyddol y llynedd, fod “...cyfleuster bocs set ar lein wedi cynyddu gwylio i rai cyfresi cymaint â 25%” a rhai fel Hansh yn denu “4.9 miliwn o sesiynau gwylio ar-lein - gyda mwyafrif y gwylio gan y gynulleidfa 16-34 oed”.
Cyfres arall plîs S4C. Mae’r cliffhanger yn crefu am hynny.
A rhywbeth cyffelyb wedi’i gosod yn y Gymru Gymraeg wledig tro nesa’.
Subscribe to:
Posts (Atom)


