Showing posts with label Y Byd yn ei Le. Show all posts
Showing posts with label Y Byd yn ei Le. Show all posts

Fydd y chwyldro gwleidyddol ddim ar y teledu gyfaill




Bues i ar fy nhrafals yn ddiweddar. Stockholm y tro hwn. Dinas wâr, lân, gyda strydoedd coblog ag adeiladau siwgr eisin, amgueddfeydd a chaffis yn ymestyn dros 14 o fân ynysoedd. Parch i feicwyr a theuluoedd a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. A rhyw obsesiwn anghynnes â“chomedïau” Americanaidd a Call the Midwife. Doedd dim modd dianc rhag uffern Brexit (Breg-zit i ambell ohebydd Cymraeg) chwaith, gyda newyddion SVT yn rhoi blaenoriaeth i ymweliad aflwyddiannus diweddar Mrs May â’r UE.

Dychwelyd adre wedyn i weld bod ein Sianel Genedlaethol yn rhoi llwyfan i ddynas amhoblogaidd arall, un sy’n ennill bywoliaeth trwy ladd ar leiafrifoedd. Katie Hopkins a saciwyd gan orsaf radio LBC (“Leading Britain’s Conversation”). Katie Hopkins a ymddangosodd yng nghynhadledd gwrth-Fwslimaidd For Britain ochr yn ochr â gwadwr yr Holocost. Katie Hopkins fu’n llygru strydoedd Caerdydd yn ddiweddar wrth sgowtio am “stori” yn erbyn addysg Gymraeg. A Katie Hopkins gafodd rwydd hynt i ymddangos ar S4C gyda’i “friend” Guto Harri.

Yn y diwedd, wedi “twrw byddarol” ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd cyfweliad KH ei ailawampio’n drafodaeth ar sut mae ymateb i ffigurau mor ddadleuol â hon. Ond damia, mae Guto’n gyflwynydd graenus a dw i’n mwynhau Y Byd yn ei Le o stabl newyddiadurol ITV Cymru, ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth barn i dra-arglwyddiaeth y Gorfforaeth Brydeinig. Cyfres sy’n barod i ofyn cwestiynau pigog am bethau fel ein hawl i elwa ar werthu ein cyfoeth o ddŵr i Loegr awchus a methiant llwyr Visit Wales i ddenu rhagor o ymwelwyr tramor (0.5% o gynnydd yn 2017 o gymharu ag 17% i’r Alban). A pha mor haerllug oedd ein sioni bob lliw o Weinidog Twristiaeth, yn gwrthod ymddangos ar y rhaglen? Diffyg atebolrwydd, hwnna ydi o.

Mae ’na ddeunydd *comedi’n fan’na.

O ffêc news i fyd drama, a chroeso hirhoedlog i gyfres newydd yn slot boblogaidd nos Sul ers i Craith orffen yn y gwanwyn. Bu’n ormod o fwlch. Doeddwn i ddim yn ffan anferthol o Byw Celwydd ar y gorau, ac eithrio dawn deud y diweddar Meic Povey a pherfformiad Richard Elfyn fel y gwladweinydd bron yn gartwnaidd o dan dîn. Roedd y gerddoriaeth honci-tonc a'r holl gecru ailadroddus yn blino rhywun, a braidd neb o’r cymeriadau’n ennyn cydymdeimlad. Beiwch Borgen o Ddenmarc am osod y safon. Ond fe newidiodd cywair y gyfres ddiwethaf, wrth i glymblaid fenywaidd ac arweinydd newydd (Ffion Dafis) ddod i’r fei. Sy’n eironig, â’r Dynion wrth y llyw y Bae ar hyn o bryd.



Diffyg gwreiddiau oedd thema’r bennod gyntaf i bob pwrpas. Rhiannon am werthu Tŷ Cymru, cartre’ swyddogol y Prif, er budd yr Ysbyty Plant; y cyn-brif weinidog Meirion Llywelyn a’i wraig yn ei ryffio hi mewn gwesty pum seren; Dylan (y Cenedlaetholwr) a Catrin (y Democratiaid) ar chwâl; a chwmni modurol o Abertawe yn bygwth codi pac i’r Almaen achos y busnes “B” ’ma. Ac yn y canol, cryn dipyn o sbeit a slochian gwin, cyfweliadau teledu, a’r hacs Tom ac Angharad yn dal i gael mynediad orgyfleus i swyddfeydd y pleidiau. Gobeithio y cawn ni fwy o wleidydda yn y Siambr a chip ar gartrefi’r aelodau ym mhenodau’r dyfodol - mae’r gwibio o un swyddfa cod lliw i’r llall yn ailadroddus ar y naw, ac yn prysur lethu amynedd yr hwn o wyliwr.
*Comedi i gloi, a golwg ddychanol BBC Wales ar y diwydiant croeso. Dim Dafydd Êl, ond digonedd o actorion comedi medrus fel Elis James, Sally Phillips a Mike Bubbins yng nghyfres ffug-ddogfennol Tourist Trap am gwango wedi’i arwain gan Saesnes a chriw PR reit anobeithiol. Efallai nad yw mor ‘ffug’ â hynny wedi’r cwbl. 

Diolch Sian Harries, Tudur Owen a Gareth Gwynn am adfer fy ffydd mewn comedi Saesneg o Gymru a chladdu hunlle High Hopes am byth.



Merwino'r glust





Aaaargh!

Digwydd troi i wylio penawdau hwyr ITV Wales wnes i pan ddigwyddodd yr anffawd. Ynddi, roedd stori am bla o bryfed oedd yn poeni trigolion tai teras yn “Claneckley”. Anffodus iawn, meddyliais, ond lle gebyst mae’r dref sydd yng nghanol yr hunllef Hitchockaidd hwn? Deall yn raddol wedyn mai tre’r Sosban oedd dan sylw, ac na allai neu na fynnai’r ohebwraig yngan Llanelli dros ei chrogi.

Aaaaargh!!

Tolltais de poeth dros fy mechingalws ar ôl cael fy nghythruddo. Gair i gall - peidiwch â chael paned wrth wylio newyddion Saesneg Cymru. Mae’r mantra North Wales llall a’r South Wales arall yn fy ngwneud i’n gyndyn o’u gwylio hefyd, fel petaen nhw’n mynd ati i greu rhwyg a wal fawr ddychmygol o Aber i’r Amwythig.

Arferwn osgoi Wales Today dim ond achos Jamie Owen, ond rŵan, ’sdim esgus, â’r Bonwr o Benfro wedi codi pac a gadael i fwnglera enwau lleoedd Twrceg ar sianel TRT World. O leiaf mae pethau wedi altro fymryn, gyda’r Bangor Aye Jennifer Jones yn llywio’r brif raglen nosweithiol gan ymuno â chorws “Nos Da” Derek Tywydd. Normaleiddio, hwnna ydi o. A phechu ambell fonoglot yn y broses. Gwych! A gwych o beth oedd eitem ddiweddar am y Fam Ynys Atomig, a’r ymgyrchydd Robat Idris yn cael rhwydd hynt i siarad yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Mwy os gwelwch yn dda!

Tasg digon diddiolch sydd gan gynhyrchwyr a chyflwynwyr rhaglenni gwleidyddol hefyd. Rhaglenni sy’n ceisio gwneud synnwyr o Brecsit a hynny’n ddiduedd. Gobeithio felly y cawn ni ddehongliad clir a teg gan Guto Harri yn ei rôl wleidyddol newydd ar S4C - na, nid SpAD diweddara’r blaid las yn Byw Celwydd - ond cyflwynydd sioe siarad Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri. Cyfres sy’n addo cyflwyno gwleidyddiaeth o’r parciau a’r tafarnau, neu o drac rasio Ffos Las gyda Teresa May. Tybed a oedd rhywfaint o wrthdaro tu ôl i’r llenni, o gofio am swydd flaenorol ei holwr fel swyddog PR ei nemesis Boris Johnson?

Sôn am bethau bei-ling, mae Hidden o Eryri a’r Fenai yn dychryn gwylwyr bob nos Sadwrn yn slot poblogaidd dramâu noir BBC Four ar hyn o bryd. Rydyn ni, wylwyr S4C, yn ei hadnabod yn well fel Craith wrth gwrs, a fu’n codi ias arnom dros y gaeaf. Yn anffodus, y fersiwn ddwyieithog sydd wedi’i gwerthu i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn ogystal â Denmarc, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Belg, Seland Newydd a Chanada. Ond mae elfennau sydd ddim cweit yn taro deuddeg, fel y ffaith fod DI Cadi John (Siân Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) - yn wir, pawb o’r heddlu proffesiynol, breintiedig - yn siarad Saesneg â’i gilydd, ac eto’n medru’r Gymraeg yn tsiampion wrth holi teuluoedd tŷ cyngor yr ymadawedig. Mae’n rhoi’r argraff bron yn Fictorianaidd o chwerthinllyd mai Saesneg ydi iaith y dosbarth canol proffesiynol breintiedig, ac mai iaith cyrion cymdeithas yn unig ydi’r Gymraeg.