"Pryd daw hyn i ben?"



Mewn byd arferol, buasai haul cynnes y Sulgwyn yn gwenu ar Ddinbych. Miloedd yn heidio i gaeau fferm Kilford, a Llŷr Tywydd a Thraffig yn adrodd – sori LLEFARU - am dagfeydd o bedwar ban wrth i rieni straenllyd geisio cyrraedd y pri-lims mewn pryd ar ôl gorfod stopio’n sydyn i Lleucu fach chwydu’i brecwast yn y clawdd. Y cythraul cystadlu drosodd, stondinau dan eu sang, y ffair yn prysur wagio pocedi teidiau a neiniau, a miloedd o blant gorfywiog ar Tango Ice Blast. Ac yna daeth yr C-19. Arhosodd pawb (heblaw ein cymdogion Seisnig) adra,gan orfodi mudiad yr Urdd i ailwampio pethau a chreu Eisteddfod T ar y cyd ag S4C a Radio Cymru - gan addo oriau o “gyffro” a "bwrlwm" (hoff ansoddair ein cyfryngis) o stiwdio fawr lachar yng nghragen y Mileniwm. Roedd y sinig ynof yn amau. Wedi’r cwbl, roeddwn i eisoes wedi ’laru ar ddeg wythnos o gyfweliadau skype o geginau a chonsyrfytris atseiniol Prydain heb sôn am wylio’r sgrin yn rhewi wrth i Ifan o Langwm gerdd dantio dan 8 oed neu Kayleigh-Marie o Gaergybi ddawnsio creadigol ar y patio.


Mae’n steddfod heb ei thebyg. Heblaw am rai 1941-45 a ohiriwyd am resymau amlwg, ac un Caerdydd a'r Fro 2001 oherwydd clwy'r traed a'r genau. Steddfod yr Urdd electronig oedd honno hefyd, gyda thridiau o gystadlu ar y we, radio a theledu o lwyfannau stiwdios teledu Agenda Llanelli a Barcud G'narfon.


Ond wrth wylio uchafbwyntiau nosweithiol S4C eleni gyda’m nith a’i nain, dw i wedi meddalu. Iawn, mae yna domen o ‘gystadlaethau’ hwyliog amgen i’r teulu cyfan fel ‘Lip Sync’, ‘Teulu talent’ a ‘Gwneud dim dweud’. Am wn i mai dyma’r tro cyntaf erioed i Gareth yr Orangutang a Connie Orff feirniadu yn y Genedlaethol, a dw i’n edrych mlaen at weld y pyped a’r artist drag yn pwyso a mesur yn y pafiliwn go iawn flwyddyn nesaf. A dw i mor falch fod y prif seremonïau yn dal ’mlaen, heb y feirniadaeth hirwyntog na’r trwmpedwyr na’r daith hir o’r sedd i’r llwyfan. Mae’r tri chystadleuydd ddaeth i’r brig yn ymddangos ar eu sgriniau unigol, a’r beirniad yn y llall yn dal i greu ymdeimlad o densiwn a chyffro (aaaaaargh! yr hen air na eto) byw trwy skype. A pha mor hyfryd ydi tlws cain Ann Catrin, y dylunydd o Gaernarfon fu hefyd yn gyfrifol am goron prifwyl Eryri 2005.


A chawn ymateb hyfryd aelodau eraill yr aelwyd wedyn, wrth i frodyr a chwiorydd neidio'n fuddugoliaethus ar y soffa, neu dad a mam yn gweiddi'n falch o'r gegin gefn. Sôn am godi’n calonnau wedi contrwydd Cummings.

A dw i’n falch fod S4C a’r Urdd wedi ymateb i gwynion pobl am y defnydd o bolau piniwn twitter a oedd yn gofyn i’r gwylwyr ddewis eu hoff berfformiad yn sgil neges wreiddiol @mereridmair 

Oes wir angen y 'polls' yma? Anheg ar y plant. Mae'r Eisteddfod T yn wych! Mae o'n hwyl. Tydy 'poll' fel hyn ddim yn hwyl. Gall wneud niwed i hunan-werth plant.

Rhai’n poeni am ladd hyder y plant, eraill yn beirniadu’r elfen negyddol i ysbryd yr ŵyl. Roedd un yn cwestiynu’r angen am osod pawb yn 1af, 2il a 3ydd beth bynnag, a chreu naws gyngerdd agored i bawb am unwaith.. Erbyn dydd Mawrth, roedd y polau wedi diflannu, a bydd y cythraul cystadlu a’r rhai gafodd gam yn ôl y flwyddyn nesa heb os! Os oedd yr Urdd yn chwilio am elfen ryngweithiol, beth am ddangos negeseuon testun gan deuluoedd, ffrindiau, cyd-ddisgyblion y cystadleuwyr yn sgrolio ar waelod y sgrin? Neu hwyrach y buasai hynny’n creu hunllefau i Trystan o gofio arbrawf tebyg ar Cân i Gymru yn y gorffennol.

Ond sdim angen disgyn i faw isa’r doman X Factor bob tro. Gadewch inni fod yn glên i’n gilydd. Diolch Eisteddfod T ac i Heledd a Trystan über-broffesiynol am godi hwyl yn ystod y Clo Mawr.



Pobl y Pandemig



Mae’n hen fyd rhemp. Y pandemig yn parhau, y gwledydd Celtaidd wedi cau tra bod Brymis yn heidio i draethau’r Bermo, Aelod Seneddol o Swydd Gaerwrangon yn cael dianc i’w dy haf ym Môn, a sbinddoctor Boris Johnson yn cael rhwydd hynt i yrru 250 o filltiroedd o Lundain i Durham (ddwywaith os nad mwy) serch symptomau Covid arno fo a’i wraig. Ydi, mae’n ffycin rhemp.

Ond ym myd paralel operâu sebon, mae’r pawb yn dal i garu a checru y tu ôl i ddrysau caeedig, cofleidio a chymdeithasu yn y dafarn neu’r caff. A nos Iau diwethaf gwelais olygfa od ar y naw ar Pobol y Cwm - Kath Jones yn bwyta wyau Pasg ar y slei yn siop y pentref, bron i chwe wythnos ar ôl pawb arall. A dyma glicio – siŵr iawn! Gyda’r gyfres wedi’i thocio i ddwywaith yr wythnos, a ffilmio wedi dod i stop ers canol Mawrth, mae popeth ‘perthnasol’ a ‘chyfredol’ wedi mynd i’r gwellt. Gyda'r gwaith recordio’n cael ei wneud rhyw dri mis ymlaen llaw, doedd neb wedi dychmygu y buasai’n wanwyn dan glo arnom o Lanrwst i LA.


Ond mae arwyddion bod y cyfresi hyn yn dechrau deffro i’r normalrwydd newydd, gyda rhai’n raddol ddychwelyd i ffilmio. Yr Aussies sydd wedi arwain y blaen, trwy ailafael ynddi ddiwedd Ebrill yn stiwdios Neighbours ym Melbourne - gyda’r cast a’r tîm cynhyrchu wedi’u rhannu’n griwiau bach sy’n cadw metr a hanner i ffwrdd, a gwaith camera crefftus yn gwneud i’r cymeriadau ymddangos yn agosach at ei gilydd nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Dim lapswchan, ond lot fawr o lygadu ei gilydd o bell yn ôl pob tebyg. Sy’n uffarn o gamp, gan fod ciwpid yn rhan annatod o’r sioe 35 mlwydd oed. Mae’r cyfan yn swnio’n dipyn o gur pen logisteg i bawb, fel yr esbonia Stefan ‘Paul Robinson’ Dennis, unig aelod gwreiddiol o’r cast ers 1985:

You're not even allowed into the building without being temperature-checked by the nurse and given the all-clear. The alleyways and hallways are divided in half and you have to get well to the wall so you have that distance. We do see other cast members and other people, and when you're in a studio it's inevitable. You have to, we're still working. But there's no touching and a certain amount of actors on set at one time.
Siop goffi enwog Harold's
 

Draw ym Mhrydain, mae’r pommies hefyd yn arbrofi gydag aelodau o gast Emmerdale (‘Dallas with dung’, chwadal yr enwog ddiweddar Les Dawson) yn dod ynghyd i ffilmio chwe phennod arbennig y Clo Mawr. Meddai llefarydd y gyfres:

We'll see resentments and past feuds resurface, old wounds further exposed, relationships scrutinised, with doubts and insecurities laid bare. Some seize the opportunity lockdown presents to heal divisions, while others get some sizzle back into their lives. With the backdrop of the pandemic, the characters also reflect the nation's immense gratitude and thanks for the NHS with the weekly clap for carers and the people working on the frontline keeping our country safe.
'Da chi'n gwbod y ffordd i'r Dales?
 

Mater arall a ydi’r ffans am weld syrffed bob dydd ar y sgrin fach neu’n ysu am ddihangfa’r Woolpack dan ei sang. Mae sebon radio hirhoedlog Radio 4 hefyd yn addasu i’r pandemig, wrth i actorion The Archers recordio sgriptiau o’u cartrefi yn hytrach na stiwdios Birmingham, ac adlewyrchu bywyd yn Borsetshire dan gwmwl Covid-19.

Wyneb cyfarwydd y Cwm, Mali Harries, sydd hefyd yn llais cyfarwydd yr Archers fel Natasha Archer, entrepreneur sudd ffrwythau

Ond beth am ein cyfresi Cymraeg hollbwysig ni? Rwy’n deall fod yna ddigon o benodau o Pobol i bara tan ganol Mehefin, ond wedyn, pwy a ŵyr? Dywed gwefan S4C bod pen bandits y sianel wedi cynnal fforwm ar-lein â chynhyrchwyr Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Un Bore Mercher, Craith a 35 Diwrnod i drafod a rhannu syniadau am ffyrdd newydd o weithio gyda'r “heriau sy'n wynebu'r sector ddrama yng Nghymru yn sgil effaith coronafeirws a'r ansicrwydd mae'r diwydiant teledu yn ei wynebu ar hyn o bryd”. Ac wrth gyhoeddi ton o gomisiynau newydd ganol Ebrill mewn ymateb i’r amserlen newydd ffwr-bwt, fel cyfres skype glodwiw ond braidd yn dipresing Cyswllt (mewn Covid), dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

Yn ychwanegol mae cynlluniau ar waith gyda chymeriadau Pobol y Cwm... er mwyn sicrhau bod nhw'n parhau i ymddangos ar y sianel.

Prin yw’r manylion hyd yma, ond rwy’n amau mai rhywbeth tebyg i saga Swydd Efrog welwn ni - casgliad o benodau arbennig gyda rhai o hoelion wyth Cwmderi naill ai mewn monolog neu sgwrs fideo â ffrindiau a pherthnasau o bell. Am sgôp! Am gyfle euraidd i groesawu rhai o wynebau’r gorffennol yn ôl, megis Diane yn ffonio ei merch Emma Francis née Rossiter yn Awstralia bell neu Dai yn dal i fyny â’i frawd, y chwedlonol Dic Deryn yn Iwerddon. Beth am aduniad yr hen stejars, Megan a Nerys a Sabrina a hyd yn oed Doreen Bevan, Nansi Furlong? Beth am bryderon Britt am ei phlant colledig Chester ym Mhortiwgal a Catrin yn Llundain? Eileen yn ailgysylltu â Cadno neu Meira (Sara McGaughey) ei chyfnither yng nghyfraith?

Mae gen i frith gof o Gwmderi cyfan yn dod i stop o'r blaen, wrth i salwch rhyfedd daro'r pentrefwyr a'u gadael i gysgodi mewn ofn yn eu cartrefi. Roedd yn stori ryfedd ar y naw o be' gofia i, gyda braidd dim shots Stryd Fawr a phopeth yn digwydd o fewn pedair wal gardbord. Diolch i dduw am erthygl Dail y Post o fis Ionawr 2012 am brofi nad breuddwydio'r cyfan wnes i. 

Could it be the cheap meat Andy served in the Deri, or Penrhewl’s Christmas turkeys? The panic spreads when taxi driver Gwilym is found dead at the Deri Deithio office. Siôn turns to God to answer his prayers, while Cadno and Eifion flee from Cwmderi to keep the baby safe.
Na, dwi'm cofio 'Gwilym' druan chwaith. Penllanw'r stori swreal hon oedd marwolaeth Denzil druan, Mr Lori Gaca, ffarmwr a pherchennog siop, wrth i Gwyn Elfyn roi'i got oel i gadw wedi 28 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i'r Gofforaeth. Erbyn deall, roedd y stori 'dan glo' yn hanfodol wrth i'r cast a'r criw ymfudo o stiwdios gyfyng BBC Llandaf i rai mwy sylweddol ac amlbwrpas ym Mhorth y Rhath, Bae Caerdydd, drws nesaf i Dr Who a Casualty. 

Hen set BBC Llanfaf - cyn dyddiau siop elusen Megan a'r garej yn y gornel bellaf

Sôn am fyd o bosibiliadau. Cawn weld beth ddaw, ac a oes cynlluniau tebyg i griw tref harbwr Glanrafon. Meddyliwch am sesiynau skype hwyrol Aled a Carys (Daniel Lloyd a Ceri Lloyd, dim perthnasau) wrth lafoerio am ei gilydd o bell, reit dan drwyn Barry.


Mae tymor yr ailddarllediadau ar ein gwarthaf, a myn duw, rydan ni angen mwy o amrywiaeth nag erioed.



Mwy na phapur newydd



Siŵr braidd bod mwy fyth o lyfrbryfed o gwmpas y dyddiau segur hyn. Dw i eisoes wedi troi ar fy nghindl hoff i sglaffio stori serch awdur a chyn-ymgeisydd seneddol tuag at aelwyd, natur a chymdogaeth arbennig ym Mro Ddyfi; nofel ddirgel am newyddiadurwraig mewn cymuned Twin Peaksaidd adeg hirddydd haf gogledd Sweden; a’r gyntaf mewn cyfres dditectif o’r Ynys Las yng nghanol tensiynau rhwng y brodorion a’r Daniaid. Dychwelais hefyd at ddwy nofel Gymraeg na lwyddais i’w cwblhau cyn y Covid oherwydd diffyg ymdrech neu ddiddordeb, y naill gan Gwen Parrott a’r llall gan Rhiannon Ifans. O ran cylchgronau, dw i’n derbyn Barn a’r Cymro drwy’r post ers i’r Cloi Mawr gau ein siopau Cymraeg lleol ni. Roeddwn am danysgrifio i e-fersiwn o Golwg, ond mae adolygiadau gwael y siop apiau yn fy ngwneud i’n betrusgar braidd. *DIWEDDARIAD* Ers hynny, cefais fy nghywiro a'm goleuo gan wybodaeth am wasanaeth newydd sbon golwg+, cylchgrawn digidol sy'n addo'r canlynol gan y golygydd newydd Garmon Ceiro:

Gyda chymaint yn cysylltu i ddweud nad yden nhw’n gallu cael gafael ar gopi o Golwg o’r mannau arferol yn ystod y cyfnod hwn, fe aethon ni ati i ddod o hyd i ddatrysiad. Ydi wir, mae cynnwys cylchgrawn Golwg bellach ar gael ar y We am y tro cyntaf... Be gewch chi ar golwg+ felly? Wel, holl gynnwys Golwg. Ac, yn y dyfodol, ambell eitem fonws hefyd, mae’n siŵr, gan nad oes prinder lle ar y We. 

Be amdanoch chi? Ydych chi’n darllen mwy, a mwy o Gymraeg yn arbennig, y dyddiau hyn? Bydd y gogs o’n plith wedi’n siomi’n uffernol gan stori ddiweddar Bethan Gwanas yn yr Herald Cymraeg, atodyn y Liverpool & North Wales Daily Post, na fydd y colofnwyr llawrydd rheolaidd - hithau, Angharad Tomos, Bethan Wyn Jones a Rhys Mwyn - yn cael ’run dime goch gan berchnogion y papur yn ystod y Covid.

Nid bod y pedwarawd yn cael ffortiwn am sgwennu’n ffyddlon yn wythnosol ers amser maith. Gwn o brofiad personol nad ydi sgwennu’n Gymraeg yn help garw i dalu’r biliau. Ond mewn ymateb i’r newydd ar ei flog, meddai @therealrhysmwyn:

Dwi ddim yn gwybod os rwyf wedi gwneud y penderfyniad iawn ond fy nheimlad i oedd fel rhywun hunnan gyflogedig na ddyliwn barhau i gyfrannu yn ddi-dal. Er fod ni yn meddwl am yr Herald Gymraeg, cwmni Reach PLC sydd yn ein cyflogi. Mae gwerth i'r golofn, mae gwerth i ddiwylliant Cymraeg. Does dim syniad gennyf os caf wahoddiad i sgwennu eto yn y dyfodol?

Reach plc, Trinity Mirror gynt, â’i bencadlys yn nociau Llundain. Mae hynny ynddo’i hun yn ddigon i wneud i chi gachu brics am gyflwr gwantan y wasg “Gymreig” a Chymraeg. Chwarae teg i Mr Mwyn am wneud safiad ar un llaw, ond hefyd i Bethan Gwanas am addo parhau i sgwennu i bapur â miloedd lawer o ddarllenwyr Cymraeg yng nghadarnle’r Gogledd. Ond pwy ŵyr beth yw’r dyfodol ôl-Covid, a pha mor barod fydd meistri’r wasg Lundeinig i barhau i dalu briwsion i awduron iaith mor estron iddyn nhw. Gwyddom pa mor ddiarhebol o ddi-hid ydyn nhw a’u hacs atom ni fel cenedl, megis dirprwy (ie, ’mond dirprwy) olygydd gwleidyddol y Daily Mail, Harry Coles, wnaeth ddim hyd yn oed trafferthu gwglo enw ein prif weinidog:

English local authorities and nhs spin teams also up in arms about being ordered to take down Stay Home messaging without clarity. Angry emails flying about insisting message will not be changed without further clarity. Burnham, Sturgeon and the Welsh chap already going public.

Ac eto, dangosodd ymchwil gan Geraint Talfan Davies yn 2005 fod y rhacsyn yn boblogaidd ymhlith “the Welsh” gyda 325,000 o ddarllenwyr dyddiol (3ydd mwyaf poblogaidd wedi’r Sun a’r Daily Mirror) o gymharu â’r cyhoeddiad Cymreig (ond nid cenedlaethol) gorau sef 172,000 i’r South Wales Echo. Ac mae pobl yn dal i synnu fod y Cymry bondibethma wedi taro croes dros Brexit? O! am fersiwn brint o nation.cymru, y gwasanaeth newyddion ardderchog Saesneg sydd ar waith ers 2017.

Daniel Sandford - diawl y wasg Seisnig... 

... a'i hamddiffynnydd


Daeth gwendid difrifol y wasg a’r cyfryngau Prydeinig Seisnig yn amlycach fyth adeg yr argyfwng presennol – gyda phenawdau’r Daily Mirror (“Brits told they can go on day-trips from Wednesday under new rules”) a’r Daily Telegraph (“Stay Alert: PM’s new message to the Nation”) yn ategu’r dryswch rhwng polisïau Lloegr niwlog a’r gwledydd Celtaidd unedig. Er, roedd BBC News at Ten neithiwr yn pwysleisio’r hyn oedd yn berthnasol i England only cyn canolbwyntio ar ohebwyr o Glasgow, Caerdydd a Belfast, ac yn rhoi mwy o sylw i Drakeford na Sturgeon am unwaith. A do, buodd Huw Ni yn amddiffyn y Gorfforaeth i’r carn wrth i eraill ladd arni. Wnaeth adroddiad nawddoglyd Daniel Sandford, y gohebydd Materion Cartref ddim helpu’r achos wrth honni ei bod hi’n “ridiculous” na allai pobl o Loegr deithio i Gymru oherwydd cyfyngiadau teithio, ac nad oedd yn ddim byd mwy na llywodraethau datganoledig yn “flexing their muscles” yn erbyn llywodraeth San Steffan. Mae’n sobor o sefyllfa, fel yr ategodd yr Athro Roger Scully o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, mewn melin drafod ar-lein ddiweddar i Public Affairs Cymru:

It’s been scary in recent weeks to see quite how many senior political journalists would fail devolved politics 101. There’s not only substantial ignorance about devolution both within and outside Wales, there’s also hostility for devolved institutions. 

Mae’n un o’n sylwebwyr gwleidyddol gorau ni, yn y ddwy iaith. Da chi, gwrandewch ar ei gyfweliad ar Beti a’i Phobl. 

Neges glir a chadarn papur dyddiol y brifddinas 


Ond yn ôl at sefyllfa cyhoeddiadau Cymraeg. Faint ohonon ni sydd wir yn trafferthu eu prynu a’u darllen wedyn? Bues i’n euog o’u cymryd yn ganiataol yn y gorffennol – gan ddarllen copi’r swyddfa o Golwg (a gaiff ei rannu rhwng dwsin cydweithiwr arall, y mwyafrif yn brysio drwyddo dros ginio yn hytrach na darllen o glawr i glawr) a phiciad i’r llyfrgell ganolog i gael sbec ar Barn ddechrau’r mis. Pan af adref i weld y teulu, mae’r tri phapur bro lleol yn barod amdanaf – Yr Odyn, Y Pentan a’r Gadlas – gyda brecin niws am enedigaethau, priodasau a marwolaethau pob pentref, hynt ysgolion a chapeli prin, ambell golofn natur, dyddiaduron o’r gorffennol, llwyddiannau’r Aelwyd a’r CFfI, a bwrlwm chwaraeon ar y cefn. Oll mewn lliw llawn bellach, ond nid cweit ar-lein eto fel bron i dri deg y dyddiau hyn – llawer yn rhan o gynllun uchelgeisiol bro.360.cymru, isgwmni Golwg i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro. Ac yn oes y darllen ar-lein, mae’n siŵr y bydd hi’n hawsach nag erioed mesur nifer y darllenwyr Cymraeg fesul ‘clic’, o i Dregaron i Drelew, Aberdaron i Auckland. Ond beth am gyfrwng hen-ffash y papur print, sydd lawn mor bwysig?

Un o'n papurau bro mwyaf llwyddiannus ni - 1,200 o brynwyr y mis, neu 1 o bob 5 o oedolion G'narfon

Mae unrhyw wybodaeth gyfoes am werthiant papurau a chylchgronau Cymraeg mor hygyrch â neges ddiweddaraf Boris Johnson am Covid-19. Dywedodd Cymru Fyw yn 2013 fod bron i 3,000 o gopïau o Golwg yn cael eu gwerthu bob wythnos, a Barn yn llwyddo i shifftio rhwng 1,200 a 1,500 y mis. Mae Y Cymro wedi cael ail-wynt fel misolyn ers 2018, wedi 85 mlynedd fel wythnosolyn. Arferai’r cylchrediad hofran oddeutu 3,000 o gopiau yn y 2000au, cwymp aruthrol ers oes aur 28,000 a mwy o ddarllenwyr dan olygygiaeth yr enwog John Roberts Williams rhwng 1942 a 1962. Mae’n her a hanner a dal ati, wrth i’r wasg brint orfod cystadlu â’r we am ddarllenwyr a hysbysebwyr. Fel y dywedodd y golygydd presennol Barrie Jones wrth y Bîb:

Mae lot o ewyllys da tuag at Y Cymro. Mae pobl yn cydnabod bod o wedi bod yn rhan o hunaniaeth Cymru a ddim eisiau ei weld yn dod i ben, ond maen un peth i ddweud bod rhaid iddo gario ymlaen ond yn y byd masnachol mae'n rhaid cael rhyw blatfform ariannol sy'n gwneud y peth yn bosib. All o ddim mynd ymlaen ac ymlaen dim ond ar ewyllys da.

Y Cymro II

Ond weithiau, jesd weithiau, mi fuasai’n braf petaen ni’r Cymry yn dangos mwy o ewyllys da ac yn buddsoddi yn ein cyfryngau cynhenid ni. Yn ffwdanu prynu copi bob wythnos neu fis, sy’n rhatach na’r Times neu’r Guardian gyda’u flat white o Waitrose Borth neu’r Bont-faen. A gwerthfawrogi’r sgwenwyr hynny sy’n ceisio’u gorau glas i greu cynnwys difyr, amrywiol yn eu hiaith gyntaf. Meddyliwch tasa’ breuddwyd papur dyddiol Y Byd (c.2008) wedi dwyn ffrwyth. Dw i’n cofio cyfrannu’n ariannol at y fenter (ac yn dal i ddisgwyl am ad-daliad) ac anfon CV wrth i’r golygydd hysbysebu am staff o 24 ar gyfer swyddfa Machynlleth. Byddai’r rhifyn Llun-Iau wedi costio 70c ac un mwy swmpus y penwythnos ar ddydd Gwener yn £1.20. Ond serch lot o ewyllys da, a chefnogaeth Archesgob Cymru a holl arweinwyr pleidiau’r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd, gwrthod y cais ariannol wnaeth y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas ar y pryd. Ie, aelod Plaid Cymru. Sôn am golli cyfle.

Y gwir yn erbyn "Y Byd" 

Efallai’n wir y byddai’r fenter wedi methu maes o law, a baich ariannol y llymder economaidd, problemau difrifol dosbarthu i bedwar cwr o’r wlad, ac ie, dihidrwydd arferol Cymry Cymraeg yn drech. Ond gallasai fod wedi llwyddo hefyd, fel atodyn am ddim i’r papurau bro cenedlaethol ni i ddechrau ennill tir, a chydfodoli fel fersiwn print a’r we wedyn. Neu beth am gyhoeddiad cyfan gwbl am ddim, fel y Metro bondibethma yr arferwn ei weld ar drenau’r cymoedd gyda phwyslais ar bopeth San Steffan, Selebryti Cym Dansin a ffwtbol Lloegr, neu bapur dyddiol (di-dâl) mwyaf poblogaidd Gwlad yr Ia, Fréttablaðið â chylchrediad o ryw 70,000.


Mae’r gymhariaeth â Gwlad yr Iâ yn ddiddorol. Ynys â rhyw 300,000 o siaradwyr Islandeg (o gymharu â’n 875,000 o siaradwyr Cymraeg ni yn ôl ffigurau gorobeithiol diweddar) sydd eto’n llwyddo i gyhoeddi a chynnal dau bapur newydd dyddiol a phum wythnosolyn.

Fel y dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones, un o gyfarwyddwr Y Byd yn 2009:

Mae gwledydd eraill yn rhoi cyllid sylweddol i hybu newyddiaduraeth safonol. Mae hyn yn gyfraniad pwysig i ddemocratiaeth yn y pen draw.

Roedd criw Y Byd wedi galw am o leiaf £600,000 gan Lywodraeth Cymru’n Un ym mlwyddyn gyntaf y fenter. Y llynedd, fe wnaeth y Cyngor Llyfrau rannu £380,500 o nawdd rhwng rhain i gyd. Doedd gan ein papur dyddiol ddim gobaith caneri, nag oedd.

 

Barn £80,000

Golwg £77,000

O’r Pedwar Gwynt £34,000

WCW £30,000

Y Cymro £24,000

Barddas £20,000

Lingo Newydd £18,000

Cara £10,000

CIP £20,000

Lysh £20,000

Mellten £14,000

Y Selar £11,000

Y Wawr £8,000

Llafar Gwlad £7,000

Y Traethodydd £4,000

Cristion £2,000

Fferm a Thyddyn £1,500

 

Dw i’n nabod gormod o Gymry ifanc proffesiynol sy’n elwa ar yr iaith, ond prin yn darllen/ gwrando/gwylio’n Gymraeg. Llawer o Gymry Cymraeg cefn gwlad wedyn bron yn brolio’r ffaith nad ydyn nhw wedi darllen Cymraeg ers yr ysgol uwchradd (ond yn driw i’r papurau bro lleol). Camargraff ydi’r bwgan mawr, a’r myth fod cyhoeddiadau Cymraeg yn rhy ‘anodd’ neu’n steddfod genedlaethol o uchel-ael.  Mi heria’ i nhw i chwalu’r myth hwnnw trwy ddarllen safbwyntiau gwleidyddol craff a chroyw Richard Wyn Jones, bydolwg Bethan Kilfoil o Ewrop, sylwebaeth chwaraeon Alun Wyn Bevan, erthyglau bwyd Lowri Cooke a rhai nodwedd Aled Sam, Elin Llwyd Morgan yn Golwg a Barn. Oll mewn Cymraeg rhywiog, agos-atoch, heb orfod fentro’n ormodol i dir tabloid sathredig. Ond pwy fyddai’r adolygydd radio a theledu crafog?

Ydi, mae’n Wyddfa o her.

Y gwir amdani ydi bod difaterwch yn rhan o’n DNA ni cenedl. Diffyg diddordeb sy’n gyfrifol am dranc llawer o’n cyhoeddiadau Cymraeg, o safbwynt darllenwyr parod sy’n fodlon mynd i’w pocedi a pherchnogion anhysbys o bell sy’n poeni fwy am eu cyfranddalwyr na’ rhyw tipyn iaith leiafrifol mewn cilfach gefn.

Mae’n ddydd Mercher, a dw i am wneud fy siwrnai hanfodol i’r dre i wneud neges a phrynu unig gopi’r wythnos o’r Daily Post blinderus o blwyfol er mwyn colofnau’r Herald. Chwarae teg i Gwanas am ddal ati, ond dw i’n cytuno i’r carn â Rhys Mwyn. Ddylai’r un awdur Cymraeg fyth golli tâl am ddarn o waith, dim ond achos ei fod o’n Gymraeg. Iawn gwneud am ddim i’r papurau bro, ac i’r blogbyst niferus dwi’n eu creu er lles, mwyniant a rants personol. Llafur cariad ydi shitclic, ac mae nifer y darllenwyr/cliciau yn amrywio o ugain am flog Ozark i 74 am un Cyswllt (mewn Covid) yn ôl dadansoddiadau blogger.com.

A’r teitlau cenedlaethol? Na. Dw i di blino ar friwsion, wedi laru ar wirfoddoli, ar 'ewyllys da' a derbyn tâl is na’r gyfradd ffrilans arferol. Mae’r oes honno drosodd, bobol, ac mae pawb eisiau byw.

Mae hen hen bryd i ni Gymry Cymraeg ddechrau cefnogi neu golli'r cyfan.





Dydd y farn




Sut mae’r gwylio dan glo yn mynd? Dw i’n dal i sglaffio’n ffordd drwy Ozark, am deulu ‘cyffredin’ o Chicago sy’n llwyddo i bechu’r byd a’i frawd troseddol yn ardal y llynnoedd Missouri, ac wedi cyrraedd pennod 8 yr ail gyfres bellach. Mae dwy, weithiau un bennod y noson yn hen ddigon gyda’r holl dyndra, brad a’r marwolaethau sy’n digwydd fel peltan i’r stumog. Ond mae'r perfformiadau'n gafael, yn enwedig Julia Garner ysgubol o dda fel Ruth Langmore y benfelen siarp ei thafod sy'n ysu i wella'i byd a dianc rhag ei magwraeth baw isa'r doman. Mae'n bortread torcalonnus o rywun sy'n ceisio'i gorau glas i'w chadw ei hun a'i chefndryd ar y trywydd cywir, gyda chanlyniadau rhwystredig. 

Julia Garner


Ar y llaw arall, dw i newydd gychwyn cyfres ddrama ddirgel newydd sy’n ymddangos, yn anghyffredin ddigon, law yn llaw ar wasanaethau Netflix a Walter Presents. Handi felly i rai sydd ddim am dalu £9 y mis a mwy am y gyntaf.

Mae Reckoning (10x45’), a ffilmiwyd mewn tre glan môr Awstralaidd-cogio-bod-yn-Califfornia, yn canolbwyntio ar ddau brif gymeriad – cwnselydd ysgol uwchradd â chyfrinach ddieflig a sheriff lleol sy’n cael hunllefau a strach teuluol wrth ymchwilio i lofruddiaeth merch ysgol o’r enw Gretchen McGrath, sy’n iasol o debyg i achos o serial killer bum mlynedd ynghynt. Cyn hir, mae llwybrau’r ddau yn grisgroesi diolch i’w plant o’r un oedran, yr amheuon yn pentyrru ac ofnau’r dre fach gapelgar barchus (ar yr wyneb) yn cynyddu.

Roedd rheol 'dim bagiau' trwm EasyAir yn creu tensiynau mawr

Y nesaf yn y ciw fydd Into the Night, thriller acopalyptaidd rhyngwladol o Wlad Belg wedi’i gosod ar awyren o Frwsel i Moscow sy’n cael ei herwgipio dan derfysgwyr jesd fel mae damwain solar yn lladd popeth byw ’nôl ar wyneb y ddaear. As iw dw. Wnâi fyth gwyno am deithiau Ryanair eto.

Ond nid heno wrth gwrs. Mae trydedd bennod 35 Diwrnod ’mlaen.

Tonic



Mae gan S4C hanes hir o annog siaradwyr newydd yr iaith. Llawer mwy a gwell na BBC Wales ac ITV Wales, er bod rhai'n dweud mai'r sianeli hynny ddylai fod yn darlledu rhaglenni cyfrwng Saesneg i ddysgu Cymraeg.

Mae gen i frith gof o gyfresi cwmni Acen o’r 90au, Now You’re Talking, wedi’u cyflwyno’n ddwyieithog gan Elin Rhys ac a ddefnyddiai rhai fel Richard Elfyn (35 Diwrnod), Siân Rivers, Jenny Ogwen a Gareth Morris oedd yn actio sefyllfaoedd bob dydd fel coginio, cyfarch pobl, siopa neu weiddi ar y plant i fynd i’r gwely. Cafodd y fformat ei addasu fel Speaking our Language gan Scottish Television er mwyn hybu’r iaith Aeleg yn fan’no. Yn y mileniwm newydd, dechreuodd y Sianel borthi obsesiwn anghynnes y plebs â’r s’lebs gyda Cariad@Iaith (2002-15) dan law'r fythol heulog Nia Parry ac weithiau Gareth Roberts, trwy anfon llond bŵtcamp ohonyn nhw ar gwrs dwys yn Nant Gwrtheyrn, gan gynnwys Ruth Madoc, Gareth ‘Alfie’ Thomas, Tanni Grey Thomson, Neville Southall, Lembit Öpik (cofio hwnnw?), Lucy Cohen, Tom Shanklin a Janet Street-Porter a’i galwodd yn “ugly and ludicrous” (y Gymraeg, nid JSP am wn i) mewn colofn bapur newydd yn 2004.



Ers hynny, ni chlywyd gair o Gymraeg o enau’r cyfryw ddysgwyr ‘enwog’ ac eithrio Matt Johnson fu’n cyflwyno ambell gyfres ar y cyd â Nia ac Ioan Talfryn o Ddyffryn Clwyd, a slot Dal Ati. Hefyd, Suzanne Packer wnaeth ymddangosiad clodwiw fel Ruth yn nrama hynod gyfoes Cyswllt (Mewn Covid) yr wythnos hon. 

Mae’r fformat dysgu treigladau mewn tîpis wedi hen ddiflannu erbyn hyn, ac eleni, cawsom un newydd ar ffurf Iaith ar Daith, gyda s’lebs di-Gymraeg yn paru ag enwogion Cymraeg eu hiaith i ddysgu a chyflawni mân dasgau. Doedd gen i fawr o fynedd efo ambell un, fel cyn-gyfrannwr Countdown sydd wedi ailddarganfod ei Chymreictod mwya’r sydyn a chael joban Radio Wales ar ôl i’w gwaith ar rwydwaith teledu Lloegr sychu’n grimp heblaw am hysbysebion siwrans ar Channel Five. Ond wythnos diwethaf, gwelsom yr actores gomedi a’r awdures Ruth Jones mewn partneriaeth â Gillian Elisa Thomas, yn teithio o fart Llanymddyfri i orsaf drenau Merthyr a stiwdios Pobol y Cwm gan gofleidio ei Chymraeg i’r byw. Daeth drosodd fel menyw hollol ddidwyll, wrth hel atgofion am ei magwraeth ym Mhorthcawl, cofio dysgu canu “Iesu Tirion” yn yr ysgol gynradd, a’r hwyl a’r cynhesrwydd arbennig o ffilmio Stella (Sky One 2012-17) yn y Rhondda. Roedd yn siwrnai hynod emosiynol hefyd, wrth iddi ddychwelyd i’w hoff draeth ‘Rest Bay’ i gofio am ei diweddar dad. Ychydig nosweithiau wedyn, bu’n siarad yn fyw ar Heno trwy gyswllt skype o! mor gyfarwydd inni gyd bellach, gyda brwdfrydedd a rhuglder. Gawn ni gyfres reolaidd ganddi hi a Gillian Elisa, plîs S4C?

Cyfres codi calonnau, heb os. Alla i ddim disgwyl am daith Adrian Sgorio Chiles a’i fentor Steffan Powell nesa.






S4/Covid




Mae’n nos Wener, dwi’n y parlwr gyda laptop a photel o’r Brawd Houdini tra mae mam/Nain a’i hwyrion drws nesa’n gwylio Côr Digidol Rhys Meirion yn y lolfa (da ni’n un teulu mawr cyn i chi sgrechweiddi HUNANYNYSU!!). Dw i’m balchach. Dw i chwaith heb ymuno ag unrhyw Gôrona ar gweplyfr, pobi torth fanana na cheisio rhyw gwis tafarn zoom neu beth bynnag arall mae rhywun "i fod" i’w wneud dros y cyfnod govidus hwn. 

Galwch fi’n Victor Meldrew.

Does gennai fawr o awch nag awydd gwylio unrhyw beth sy’n ein hatgoffa o’n bywydau dan glo ar hyn o bryd chwaith. Ond dyna’n union mae S4C am ei wneud dros yr wythnosau nesaf, gyda thon o gomisiynau newydd i lenwi gwagle’r haf ers i bopeth byw – o’r Sioe i’r Steddfod, Ewro 2020 a phenllanw’r Pro14 – gael ei ganslo. Comisiynau gwerth £6 miliwn, cofiwch, gan sicrhau buddsoddiad a hwb aruthrol i’n cwmnïau annibynnol ni yn y fath ddyddiau digyffelyb. Pob clod i’r Sianel felly, fel y nodais mewn colofn i nation.cymru yn ddiweddar yn fy Saesneg clapiog.

Beth ydy’r cyfresi coronabethma felly?      
  • Syrjeri Amlwch (Darlun) – rhaglen bry ar y wal yn dangos sut mae canolfan feddygol a chymuned ym Môn yn ymdopi â sefyllfa Covid-19. Sgwn i a fydd perchnogion tai haf lleol â phwl o beswch drwg yn bresennol?
  • Priodas Dan Glo (Boom) – Trystan ag Emma a llond skype o s’lebs yn trefnu cymorth a syrpreis i gwpl sy’n ysu i briodi ers tro byd. Buasai rhaglen arall sy'n cwrdd â chyplau'r gyfres dros y blynyddoedd yn ddifyr hefyd, i weld a ydyn nhw'n dal yn hapus neu wedi ysgaru. Meddyliwch am y fath ddrama! 
  • Babis Covid - cofnod o adegau hapus ond heriol/anodd wrth i deuluoedd fethu dod ynghyd i ddathlu’r newyddanedigs o’n plith.
  • Ffermwyr Ifanc yn Cicio’r Corona – cip ar ymdrechion aelodau’r mudiad i ymdopi ar hyn o bryd. Gyda naill ai Ifan neu Meinir, siŵr o fod, os ydyn nhw wedi gorffen wyna.
  • Tŷ Bach Mawr - y syniad odiaf hyd yma, sef “edrych ar greu pob math o adeiladau bach trawiadol yn ein gardd gefn”. Tai bach? Cwt offer garddio? Tŷ coeden i’r plant? Dyn a ŵyr. Prosiect nesaf sardonig Aled Sam efallai.
  • Mae cwmni Boom Cymru hefyd yn chwilio am gystadleuwyr brwd ar gyfer cwis soffa newydd, yn ymwneud â’r byd teledu o be’ ddealla i.



Fel yr atega blyrb Swyddfa’r Wasg:

Yn ychwanegol mae cynlluniau ar waith gyda chymeriadau Pobol y Cwm, Goreuon Priodas Pum Mil, Goreuon Gwesty Aduniad ac Ysgol Ni Maesincla: Diwedd Tymor er mwyn sicrhau bod nhw'n parhau i ymddangos ar y sianel.

Ond y comisiwn mwyaf atyniadol i mi, a welwyd nos Iau yma, oedd cyfres ddrama tair rhan Cyswllt (mewn Covid). Wedi’i chreu o bell gan griw o actorion adref ar eu gliniaduron a’u ffonau clyfar eu hunain, a gwaith ffilmio ar wahân i bontio straeon y cyplau gwahanol, cawsom hanner awr emosiynol o unigrwydd, ofnau a gobeithion y cymeriadau. O ŵr sy’n gorfod gwersylla yn yr ardd er mwyn cadw pellter rhag ei wraig sy’n taclo canser, dwy ffrind sy’n ei chanol hi fel nyrsys rheng flaen, a nain ac wyres annwyl, cawsom sawl agwedd ar fywyd ar hyn o bryd. Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Vox Pictures, a oedd wedi gorfod rhoi’r gorau i ffilmio trydedd gyfres Un Bore Mercher am resymau amlwg, mae’n anorfod fod llawer o’r actorion hynny yn ymddangos yma (minws Eve Myles). Mae’n gynhyrchiad teuluol ar y naw hefyd, gyda’r cyfarwyddwr Pip Broughton yn wraig i Aneurin Hughes (Dewi) sy’n rhieni i Ela Hughes, cyfansoddwraig rhai o ganeuon siwgraidd y ddrama.

Cymru fach.

Ond mae’n gyfres fach werth chweil, a’r gwaith ffilmio cartref agos-atoch, yr eco a’r seibiau heb na cholur na gimics camera arbennig i ‘fireinio’ popeth yn creu naws dim lol sy’n boenus o real ar adegau. Mi alla i wylio monolog cyfan efo Christine Pritchard. Beth amdani, Gomisiynydd Drama? 

Mae S4C wir wedi achub y blaen ar sianeli fel ITV a Netflix sy’n brolio eu dramâu Covid eu hunain. Gair i gall, Guardian a’u teips – tydi’r Saesneg ddim yn torri tir newydd bob tro.