Posts

Showing posts from March, 2011

Spiral III

Image
Meddyliwch am dditectif Ffrengig, a phwy sy’n dod i’r cof? L’Inspecteur Gadget? Clouseau? Calliwch. A ga’i gyflwyno Capitaine de Police Laure Berthaud i chi, un o brif gymeriadau cyfres dditectif ragorol Spiral (Engrenages), sy’n dychwelyd am drydedd gyfres ar BBC Four nos Sadwrn nesaf. Yn debyg i fersiwn Ffrengig o Sarah Lund, dyma ddynes galed, ddi-lol, sy’n defnyddio dulliau anghonfensiynol braidd wrth daclo dihirod is-fyd Paris, ac sy’n benderfynol o lwyddo yn ei bywyd proffesiynol ar draul ei bywyd carwriaethol. A chyda hi wedyn, mae Now a Ned – Is-gapten Gilles “Gillou” Escoffier sy’n dipyn o rebel fel ei fos, a’r Is-gapten Frédéric "Tintin" Fromentin sy’n gwneud ei orau glas i gadw’r ddau arall ar y llwybr cul… heb fawr o lwc.

A draw yn y Palais De Justice, mae’r Dirprwy-erlynydd Pierre Clément yn mynd benben â’i fos, un o wleidyddion llwgr y ddinas; a’r gyfreithwraig uchelgeisiol a’r über-ast bengoch Joséphine Karlsson yn llwyddo i bechu pawb trwy amddiffyn y drwgwei…

Pobol y Toon

Image
Tra bo’r Saeson yn ymweld â Chwmderi (neu “Pobble er Cum”, chwadal Dan Walker), bydd rhai o drigolion Cwmderi yn mynd i Wlad y Saeson yr wythnos hon. Na, nid Sir Fynwy ond Tyne & Wear. Ar ôl clywed bod ewythr y Monks – sy’n dad i Garry mewn gwirionedd – ar ei wely angau, mae Britt yn penderfynu llusgo’r teulu i Newcastle a Whitley Bay, sy’n llawn Cymry Cymraeg am ryw reswm anesboniadwy i bawb ond sgwennwrs sebon. Wel, dyma fro’r Gododdin yn yr Hen Ogledd wedi’r cwbl. Ond pam o! pam fod y cynhyrchwyr yn mynnu troi’r Monks yn ailbobiad Cymraeg o’r Mitchells Eastenders? Dyna ddaeth i’r meddwl wythnos diwethaf, wrth i Garry yngan rhywbeth tebyg i “Monks y’n ni. Ni’n sbeshal”.

Dwi’n hanner disgwyl i Britt sgrechian “Gerrourra maaaaaaah chippyyyyyyyyy!” cyn hir.

Lis a Chymru

Image
Ydy, mae eicon arall o Oes Aur Hollywood wedi’n gadael ni, a’r cyfryngau wedi bod yn canu mawl iddi drwy’r wythnos. Ac fel arfer, fe drodd gohebwyr Newyddion, Wales Today a Wales Tonight eu golygon tua phentref Pont-rhyd-y-fen ger Port Talbot, er mwyn cael ymateb ei chyn-deulu-yng-nghyfraith. Ac er gwaetha’i dymuniad personol gwreiddiol mai ym mro ei chyn-wr yr hoffai gael ei chladdu - er mai ar lan Llyn Genefa y mae ei fedd yntau - mae hi bellach dan bridd Forest Lawn Memorial Park, LA, nepell o’i chyfaill Michael Jackson.

Mae’n amlwg fod bro Burton wedi gadael cryn dipyn o argraff iddi. Clywais unwaith ei bod wedi’i swyno hefo cân serch ‘Ar lan y môr’. Ym 1972, daeth i Abergwaun i actio mewn fersiwn ffilm arbennig o Under Milk Wood gyda Richard Burton a Peter O’ Toole - a llu o actorion Cymraeg fel Ryan Davies, Siân Phillips, Dillwyn Owen (Jacob Ellis Pobol y Cwm), Rachel Thomas ac Olwen Rees. Mae’n siŵr fod tafarnau Bro Gwaun yn sych grimp. A dim ond y llynedd y cyflwynodd penddelw …

Merched yn bennaf

Image
Mae’n syndod beth ydi blaenoriaeth golygyddion newyddion teledu'r dyddiau hyn. Nos Sadwrn roeddwn i’n pendilio rhwng un sianel a’r llall er mwyn cael y diweddaraf o’r Dwyrain Canol cythryblus. Ar un llaw, roedd penawdau ‘newydd dorri’ Sky News yn sgrechian fod Arlywydd Sarkozy wedi penderfynu chwarae sowldiwrs hefo Gaddafi ochr yn ochr â’r newydd “egsliwsif” am John Terry yn ailennill capteiniaeth tîm pêl-droed y Saeson. Draw ar Wales Today, roedd Tomos Dafydd yn defnyddio’i ’stumiau gorddramatig gorau wrth gyhoeddi nad oedd Shaun Edwards, hyfforddwr amddiffyn Cymru, wedi ymuno â gweddill y garfan ym Mharis. Ar sail y ffasiwn Stâd du France, y fo oedd gallaf. Ac ar brif newyddion BBC Prydain wedyn, cefais deja-vu o’r wythdegau o weld Julia Somerville wrth y llyw unwaith eto. Y Gorfforaeth yn ceisio gwneud iawn am golli achos o wahaniaethu ar sail oed gan Miriam O’Reilly, cyn-gyflwynydd Countryfile, efallai? Does dim gwirionedd yn y si fod Selina Scott am ddisodli Alex Ni ar soffa

Newid yn chênj

Image
Mwy o rygbi. Rhaglenni plant o amser brecwast tan swper, a ta-ta Wedi 3. Ailddarlledu Pobol yCwm am 10 yr hwyr ar ôl y dangosiad cyntaf arferol am 8. A phwyslais ar ddysgwyr, crefydd a diwylliant ar y Sul. Dyna rai o brif bwyntiau’r strategaeth ar ddyfodol S4C a gafodd gymaint o groeso gan gynhyrchwyr teledu annibynnol â Chyrnol Gaddafi rownd bwrdd y Cenhedloedd Unedig. “Colli cyfle” oedd cri’r cyfryngis. “Pa gyfle?” meddwn i.

Does yna ddim byd syfrdanol o gyffrous na dramatig yn strategaeth y Sianel, hyd y gwela’ i. Mae’n hysbys eisoes mai rygbi, rygbi a rygbi yw mantra Parc Tŷ Glas. Ac er cystal a phoblogaidd yw gwasanaeth Cyw (a Stwnsh am wn i), mae gwir angen canolbwyntio ar yr arddegau a chreu cyfres ddrama i ategu Rownd a Rownd. Gyda chastiau criw Cwmderi ar frig siart gwylwyr S4C, gan hawlio’r pump uchaf yn rheolaidd, does ryfedd fel y penaethiaid yn awyddus i’w hailddarlledu gydag isdeitlau am ben omnibws y Sul. Ond ddwywaith yr un noson? “Yffach gols”, chwadal Mrs Mac ers talw…

Cân i Israel

Image
Llongyfarchiadau i Tesni, hanner Brigyn ac Iesu Grist Abertawe ar eu buddugoliaeth ddiweddar mewn sied ym Mhontrhydfendigaid. Neis iawn, lyfli, a dau o’r panel dethol, Cleif Harpwood a Siên Jêms yn canmol y gân anthemig. Ond am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, wnes i ddim trafferthu. Wn i ddim pam chwaith. Roeddwn i’n barod amdani hefyd, ac fe barish i am y deg munud cyntaf. Roedd Elin “Wedi Dyweddïo” Fflur yn edrych yn wych ac yn cael hwyl dda iawn ar gyflwyno ar ei phen ei hun, tra’r oedd Daf Du yn edrych fel mochyn daear yn syllu i fyw baril gwn ffarmwr o Grymych. Ond ar ôl i’r gân gyntaf gychwyn, roeddwn i wedi diflasu. Familiary breeds… efallai, chwadal y Sais. Neu “gynefindra a fag ddirmyg”, chwadal Briws. Dim ond drannoeth yn y swyddfa, deallais ’mod i wedi colli perfformiad comedi’r noson wrth i Rhydian fwrdro 'Yma o Hyd' adeg hanner amser. Ta waeth, pob lwc i Tesni yn y ’steddfod dafarn, sori, Gŵyl Ban Geltaidd Corca Dhuibhne/Penrhyn Dingle rhwng 26 Ebrill ac 1 Mai.

Lla…

.cach

Image
Roedd pethau’n edrych mor, mor addawol hydref diwethaf. Ar Noson Gwylwyr S4C, cafwyd addewid gan Gaynor Davies, Golygydd Adloniant Ysgafn, am fwy o gomedi a chwerthin yn y Gymraeg. Popeth yn dda felly. Roedd comisiynwyr Parc Tŷ Glas o’r diwedd yn gwrando ar ddymuniadau’r gwylwyr. Ac roedd y gwylwyr yn barod i brotestio tros Sianel Gymraeg annibynnol. Gwrthododd ambell gyfryngi dalu trwydded y Gorfforaeth Ddarlledu, a dychwelodd tri hen stejars Cymdeithas yr Iaith i frig mast teledu. Roedd yna deimlad cyffredinol bod S4C yn haeddu ein cri a’n cefnogaeth. Ac yna fe gawson ni .cym noson Gŵyl Ddewi.

“Gêm banel newydd sbon sy’n sicr o godi gwên wrth i ni dynnu coes a dychanu pethau sy'n ddigon od am Gymru a'r Cymry” oedd broliant S4C. Ac wedi awr a hanner o ddosbarthu taflenni Ie dros Gymru i drigolion amheugar Merthyr, roeddwn i’n barod am rywfaint o ysgafnder. Traed i fyny a joch o Benderyn felly (sori, Dewi Ddyfrwr!). Deg munud yn diweddarach, roeddwn i’n gwingo ac yn clecian y w…