Gwifren Gwylwyr



Mae peiriant Sky+ acw yn gwegian dan bwysau cyfres ddrama go sbesial y dyddiau hyn. Na, nid Pobol y Cwm. Mae omnibws y Sul yn diwallu hynny, pan alla’ i ddioddef swnian di-baid Anita. Cyfeirio ydw i at gyfres Americanaidd saith mlwydd oed a ddisgrifiwyd fel y rhaglen deledu orau erioed. Tipyn o ddweud. Ond ar ôl gwylio’r gyfres gyntaf ar BBC Two, a’r ail bron a darfod, does dim dwywaith amdani. Dwi wedi llyncu’r abwyd. Dwi’n gaeth i The Wire.

Fel llawer o gyfresi ‘cwlt’ yr US of A - 24, West Wing a Prison Break, roeddwn i’n lled-ymwybodol ohoni ond heb dalu fawr o sylw. Wedi’r cwbl, mae angen cryn amser ac amynedd i’w dilyn yn selog a nhwthau’n para 12-15 phennod yr un o gymharu â chyfresi dramâu chwe phennod Prydain. Diolch byth felly am Sky+, yn enwedig gan fod y BBC yn ei doethineb arferol yn mynnu'i dangos ymhell ar ôl i Huwcyn Cwsg fy nal. Ar yr olwg gyntaf, mae The Wire (pum cyfres 60 pennod, 2002-2008) yn swnio fel unrhyw gyfres dditectif arall. Ond yn wahanol i’r rhelyw ohonynt, nid dinasoedd sgleiniog a soffistigedig Los Angeles neu Efrog Newydd yw’r lleoliad, ond dinas Baltimore yn nhalaith Maryland. Dinas ddieithr i’r rhan fwyaf ohonom, ond sy’n dangos yr ochr arall, anffasiynol, i’r America fodern. Mae’n bortread epig, aml haenog, o ddinas sy’n dioddef yn sgil dirywiad yr hen ddociau diwydiannol, dinas sy’n cael ei rheoli gan gyffurgwn a gwleidyddion llwgr, dinas sy’n gartref i amrywiaeth cyfoethog o bobl dduon a gwynion o dras Wyddelig, Pwylaidd a Groegaidd. Dyw’r heddlu lleol ddim yn gwbl ddi-fai chwaith - fel y Ditectif Jimmy McNulty (Dominic West, brodor o Sheffield, a chwareodd ran Oliver Cromwell yng nghyfres ddrama wych The Devil's Whore ar Channel 4 yn gynharach eleni), cymeriad sy’n pontio pob cyfres. Er gwaethaf ei ffaeleddau personol - tor-priodas, goryfed - mae ei galon yn y lle iawn, ac mae’n benderfynol o sicrhau cyfiawnder i’w gyd-ddinasyddion. A chyda cyn-ohebydd cyfraith a threfn The Baltimore Sun a ditectif llofruddiaethau Heddlu Baltimore gynt yn gyfrifol am greu’r gyfres ar y cyd, does ryfedd fod hwn yn ddarlun cignoeth a gonest o’r America ‘arall’. Nid ei bod hi’n llethol o ddigalon fel Eastenders chwaith. Mae yma ddigon o hiwmor a gwir gyfeillgarwch sy’n codi uwchlaw problemau beunyddiol bywyd.
Dwi wrth fy modd. Ac mae tair cyfres arall i ddod eto…

Yo! Owain




Gyda chyfresi gorwych Mad Men a Damages wedi mynd i’w gwelyau am y tro, rhaid chwilio’n rhywle arall am fy ffics wythnosol o Americana. Dwi wedi gorfod rhoi’r ffidil yn y to gyda Brothers & Sisters (sori, Matthew Rhys!) gan fod manion fel wyneb plastig Rob Lowe, corff styllen Calista Flockhart a gormod o gwtsho siwgwrllyd yn mynd dan fy nghroen ac yn difetha'r mwynhad o'r rhaglen.

Felly, dyma’r Mentalist yn dod i’r adwy – cyfres dditectif (arall?! meddech chi) hefo tro bach ei chynffon. Cyfres am dditectif o’r enw Patrick Jane (Simon Baker o Awstralia) sy’n arwain criw California Bureau of Investigation, ac sydd fel arfer yn gwneud y gorau o’i lleoliadau heulog braf a’i chymeriadau delach na del. Yr hyn sy’n unigryw am Jane yw ei sgiliau seicig, a’i allu arbennig i ddatrys llofruddiaethau trwy synhwyro a threiddio i feddyliau’r drwgweithredwyr. Ychwanegwch y seidcic sgeptig, Grace Van Pelt, a dau dditectif sy’n dipyn o glown, ac fe gewch chi awran digon difyr. Mae'n llwyddiant mawr yn America, ac yn denu 14 miliwn o wylwyr wrth iddi dynnu tua'i therfyn yno - mwy na chynulleidfaoedd dramau mawrion fel 24 a CSI: New York. Ac i goroni’r cyfan, mae ’na actor o Gas-gwent yn aelod blaenllaw o’r cast – Owain Yeoman, cwlffyn o foi gyda gên fwy sgwâr nag un Jamie Roberts, Gleision Caerdydd hyd yn oed. A chwarae teg, mae’n amlwg ei fod wedi llwyddo i ddysgu’r Iancs am ei gynefin go iawn yn lle’r “England” felltith…


THE MENTALIST, CHANNEL FIVE, NOS IAU 9PM




Holi Hannah



Tri pheth sydd wedi hawlio’r penawdau’n ddiweddar. Lladron pen-ffordd San Steffan, ffars y ffliw moch, a Britain’s Got Talent. Ydy, mae sioe’r miliwnydd smýg Simon Cowell yn destun siarad rhyfeddol, a’r tabloids wedi dotio gyda chanwr ‘amatur’ nerfus o Ystradmynach nad yw mor amatur wedi’r cwbl ar ôl ymddangos yn y West End flynyddoedd yn ôl. Dwi ddim balchach. Ond dyna ni, efallai ’mod i’n cofio gormod o ragbrofion hunllefus yr Urdd ers talwm.

Nos Fawrth diwethaf, fodd bynnag, dois ar draws talent go iawn. Hannah Jones, colofnydd 36 oed y Western Mail. Roedd ei rhaglen, Fix my fat head (Prospect Cymru Wales), yn gyfuniad o ddogfen a dyddiadur fideo chwe mis i ganfod pam ei bod mor anobeithiol am golli pwysau. Hyn er gwaethaf blynyddoedd o ddeiet chwit-chwat, o Atkins for Life i lyfrau Slimming World a chrynoddisgiau’r hypnotydd Paul McKenna. Cyfaddefodd fod ganddi flys am basteiod siop fecws Greggs (“heaven and hell in four walls”) a phwdinau Efrog maint byngalo gyda chinio Sul ei mam. Toedd y ffaith fod Jonathan, ei lojar, yn coginio seigiau blasus i swper bob nos ddim help chwaith. Er iddi grïo sawl gwaith dros ei diffyg hyder a’i hewyllys anobeithiol, roedd ganddi’r ddawn a’r dewrder i chwerthin am ben ei sefyllfa. Yn dalp o gymeriad 20 stôn, fe ymchwiliodd i sawl triniaeth seicolegol ar gyfer gordewdra. Roedd rhai fel cyrsiau ‘Lighter Life’ yn annog pobl i fyw ar ryw ysgytlaeth arbennig yn lle pryd o fwyd call; eraill fel hypnotherapydd o Lundain (lle arall?) yn codi £375 yr awr i geisio datrys y broblem. G’lana chwerthin wnaeth Hannah wedi sesiwn ar y soffa. Dim ond sesiwn siarad gyda’r seicotherapydd Julia Buckroyd, a gredai fod gordewdra yn gyflwr seicolegol tebyg i anorecsia a bwlimia, oedd yn lled-lwyddiannus. Wn i ddim pa mor llwyddiannus, chwaith, wrth inni weld Hannah yn llenwi’i bol yng Ngŵyl Fwyd y Fenni tua’r diwedd.

Cafodd hynt a helynt Hannah Jones gryn dipyn o glod fel ‘rhaglen y dydd’ y Guardian a’r Radio Times ymhlith eraill. Dyna i chi dderyn prin - rhaglen o Gymru yn cael lle haeddiannol ar BBC Prydain gyfan. Efallai mai dyma ddechrau’r daith anobeithiol o gael mwy o ddoniau Cymreig ar y rhwydwaith, o’r 0.8% pitw presennol i 5% erbyn 2016. Eisoes, cyhoeddodd y BBC ei bwriad i symud mwy o gynyrchiadau poblogaidd y tu hwnt i goridor yr M25 – gyda Belffast yn gyfrifol am Panorama, Glasgow yn gorfod dioddef Anne Robinson a’r Weakest Link, a Chaerdydd yn creu Crimewatch a Casualty. Mewn geiriau eraill, cyfresi o Gymru nad oes wnelo ddiawl o ddim i’w wneud na’i ddweud am Gymru. Mwy o Hannah Jones y byd os gwelwch yn dda, nid sioe sebon wedi’i gosod mewn ’sbyty ym Mryste!

Wedi dweud hynny, dwi’n methu’n glir â deall pam fod BBC Cymru angen Casualty o gwbl o gofio bod y gorfforaeth eisoes wedi comisiynu cyfres ddrama newydd sbon o’r enw Crash! am bedwar meddyg ifanc ar ddechrau’u gyrfa mewn ysbyty dychmygol yng Nghaerdydd - wedi’i hysgrifennu gan Tony Jordan (Eastenders) a Rob Gittins (Pobol y Cwm, The Bill) a chriw o awduron ‘Cymreig’ (i gyfiawnhau galw’r gyfres yn Gymreig maen siŵr) - a gaiff ei darlledu ddiwedd 2009.

Gobeithio nad ‘gormod o bwdin’ meddygol fydd hi.



Clasuron: Eurovision 74

Ydy, mae’n amser o’r flwyddyn unwaith eto. Na, nid ’Steddfod Genedlaethol yr Urdd ond ’Steddfod Ewrop gyfan yn arena Olympiyski Moscow – camp a rhemp o berfformiadau pantomeim, geiriau giami, pleidleisio gwleidyddol (gyda'r Llychlynwyr, gwledydd y Balcanau a chymdogion yr hen Undeb Sofietaidd yn cefnogi’i gilydd, a phawb yn casau’r UK, ok?) – sy’n fwy camp na’r arfer eleni wrth i Graham Norton gymryd lle Terry Wogan, sydd wedi hen laru a phwdu efo’r cyfan. Norwy yw ffefryn y bwcis, Gwlad Groeg yn ail, a Thwrci drydydd. Sôn am dyrcwns, ’sgin ymgais ddiflas Jade Andrew Lloyd Webber ddim gobaith canerî.

Ta waeth, dyma flas o enillwyr y gystadleuaeth yn Brighton 35 mlynedd yn ôl…




... a fersiwn wych Muriel a Rhonda ym 1994.



Cysgu efo'r Smurfs yn Athen



“Tydi amser yn hedfan?”


Dyna chi frawddeg sy’n arwydd o henaint, wrth i rywun ryfeddu ar dreigl amser. A chefais dipyn o syndod o ddeall fod 04 Wal, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4/C, yn dathlu’r deg eleni. Wedi degawd o fusnesu trwy dwll bach y clo yng nghartrefi Cymru a thu hwnt, mae Aled Sam wedi arallgyfeirio i faes arall gyda chyflwynydd arall. Nid bod 04 Wal: Gwestai’r Byd mor wahanol â hynny i’r gwreiddiol chwaith, gan fod onglau camera celfydd Stephen Kingston a’r gerddoriaeth quirky yma o hyd. Ac mae Aled Sam yn dal i hoffi defnyddio’i hoff air Cymraeg, ‘baddondy’, bob gafael (a'r unig un am wn i!). Mae’r cyd-gyflwynydd newydd, Leah Hughes, yn diferu o steil fel pe bai newydd adael set Cwpwrdd Dillad. Ac mae’r cynllunydd mewnol o Ruthun yma i roi ongl fwy arbenigol a difrifol ar bethau o gymharu ag arddull tafod yn y boch Mr Samuel. Weithiau, dim ond weithiau, byddai'n braf gweld 'rhen Aled Sam sardonig yn rhoi barn ar ryw bapur wal bwygilydd. Does bosib fod popeth yn plesio. Wedi'r cwbl, 'sdim peryg o bechu perchnogion gwestai tramor ar raglen Gymraeg, yn wahanol i berchnogion tai Cymraeg eu hiaith.

Gwestai unigryw Rhydychen, Athen a Dubai oedd dan sylw’r wythnos hon, ac er na soniwyd dim gair am brisiau, go brin y byddai teulu cyffredin o bedwar yn gallu aros yno am fargen. Nid Travelodge a’u teips mo’r rhain. Roedd Malmaison Rhydychen yn drewi o bres, mewn adeilad a arferai ddrewi o bethau tipyn mwy anghynnes yn nyddiau carchar flynyddoedd yn ol. Er gwaetha’r côt o baent drudfawr a’r carpedi moethus, doedd dim modd cuddio’r ffaith bod rhywbeth reit iasol mewn cysgu mewn hen gelloedd. Fel y dywedodd Aled Sam, ceisio dianc oddi yma oedd nod pobl ers stalwm. Bellach, maen nhw’n fodlon talu crocbris i ddod yma am ddihangfa. Pawb at y peth…

Toedd yr ail westy, Baby Grand Hotel Athen, ddim at ddant pawb chwaith. O’r eiliad y cerddodd Aled a Lea i’r dderbynfa Austin Power-aidd â dau hanner Mini fel desgiau, roedd hon yn wrthgyferbyniad seicadelig llwyr i’r Acropolis. Gwelsom lofftydd ‘unigryw’ gyda’u themâu unigryw eu hunain o waith llaw artistiaid Groegaidd, o gelf graffiti i Spiderman. Hoffais sylw smala Aled Sam y byddai cysgu yn y llofft Smurfs fel cysgu mewn ysgol feithrin. Dychmygwch ystafell wely Sali Mali mewn gwesty pum seren yn Llandudno! Ond ffefryn personol y rhaglen oedd XVA Arts Hotel Dubai, cyfuniad o westy traddodiadol ac oriel gelf. Roedd gweld printiau pop Andy Warhol yn gymysg â chwiltiau a chyrtens lliwgar Indiaidd yn wledd i’r llygad. Braf gweld yr ochr draddodiadol, Arabaidd, i ddinas sy’n prysur droi’n Las Vegas yn y Gwlff.