Mwrdro'r Moelwyn


"Awydd mynd i Bounce Below wedyn?"

*Addasiad o golofn deledu fisol 'Y Cymro'


Mae’n ddu-bitsh ac yn pistyllio. Tu mewn a’r tu allan. Ac mewn tŷ cyngor ym mro’r llechi, mae dau heddwas yn ymateb i alwad dienw. Gyda dŵr yn diferu o’r llawr cyntaf, mae’r blismones yn camu’n llechwraidd i fyny’r grisiau. Drwodd i’r stafell molchi, mae’n oedi wrth i’r gerddoriaeth godi ias. Hwyrach ei bod yn cael hunllefau tawel am Psycho, wrth chwipio llenni’r gawod ar agor...

Croeso’n ôl i Craith, y gyfres dditectif joli i’n tywys at y ’Dolig ar nosweithiau Sul S4C – gwrthbwynt perffaith i dinsels di-chwaeth yr ŵyl. Ailymunwn â Cadi John (Siân Reese-Williams a welwyd diwethaf yn Pili Pala) ac Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) naw mis wedi’r gyfres gyntaf, o lannau’r Fenai i droed y Moelwyn. Ac ar y cyrion, criw o gymeriadau mud â’u hwynebau’n bictiwr o euogrwydd, yn poeri rhegfeydd rhwng dracht o fodca a llond pen o sbliffs. 

Fydd hon ddim at ddant cynulleidfa draddodiadol nos Sul. 


O. Gwbl. 

Ac fel y gyfres gyntaf, mae’r penderfyniadau castio’n uffernol o rwystredig. Ai Blaenau Ffestiniog ’ta Blaina Gwent ydan ni fod? Am bob Manon Prysor a Bryn Fôn, mae gynnon ni Lisa Victoria, Steffan Cenydd, Owain Gwynn. Actorion da, heb os, ond actorion sy’n wir ddifetha hygrededd y lle dan sylw.

’Sgwn i beth fydd ymateb pobl Tan'grisia?

Go brin fydd hynny’n poeni ambell wyliwr adra ’na thramor chwaith. Dros yr haf, bu cyfri twitter prif sianel y Ffindir, YLE TV1, yn hyrwyddo A new thrilling series in the Welsh landscape!” gydaMagical landscapes and the Cymric language”. Ac ydy, mae’r gwaith camera’n gwneud cyfiawnder ag Eryri waeth beth fo’r tywydd (digalon yn bennaf) a’r gyfres yn crefu am sgrîn UHD hanner can modfedd i fwynhau’r golygfeydd. Mae yna berthynas hyfryd rhwng y ddau dditectif hefyd, gyda’r naill yn malio heb fod eisiau neidio i wely’r llall, fel sy’n dueddol o ddifetha sawl cyfres debyg. Ond prin yw'r mynadd a'r diddordab yn is-blot chwiorydd Cadi (gan gynnwys yr actores Nia Roberts) sy'n dal i hiraethu am eu tad fu farw adra o gancr ers y gyfres ddiwethaf. 


O Gymru i'r Iseldiroedd


A dw i ddim yn edrych ymlaen gymaint at wylio hon fel roeddwn i'n awchu am bob cyfres newydd o'r Gwyll.  Dim mo'r un cyffro nosweithiau Sul cyn Dolig 2013 o flaen tanllwyth o dân, goleuadau pŵl a gwydraid o goch o flaen y bocs, cyn trafod y plot yn y swyddfa drannoeth. Tydi #craith heb danio'r cyfryngau cymdeithasol hyd yma, ac mae'r di-gymraeg fel un o gyd-actorion Sian RW o ddyddiau Emmerdale i'w gweld yn fwy brwd na'r brodorion. 

Achos fe ddoth y Cardi Noir i ben yn rhy gynnar o lawer fy marn bach dibwys i (diffyg cyllid?), a ninnau'n dechrau dod i nabod criw Heddlu Cambria yn well erbyn y drydedd gyfres a'r olaf yn 2016. Meddyliwch am y potensial i adrodd rhagor o straeon yn seiliedig ar stiwdants a strydoedd Aber, yn lle trigolion gwyllt yr Elenydd byth a hefyd. Mae Hinterland yn rhan o arlwy netflix byd-eang os ydych chi'n dal i hiraethu am DCI Tom Mathias a'r Volvo XC40 yn nadreddu drwy ucheldiroedd epig y Canolbarth. A'r bennod olaf un wedi cau pen y mwdwl ar ddigwyddiadau erchyll hen gartref plant Pontarfynach a'r cysylltiadau â phen bandits yr heddlu (plot hirhoedlog, effeithiol, ers cyfres 1), a Mathias wedi cael rhyw fath o heddwch o'i orffennol trist yn Llundain, mae yna wir sgôp i symud ymlaen a chanolbwyntio fwyfwy ar straeon personol DI Mared Rhys a'i parka coch eiconig, y flonden, a'r boi sbectols pot jam, ymhlith eraill.








Nid bod y gyfres honno'n berffaith chwaith, gyda'r sgript yn swnio fel cyfieithiad ar brydiau. Ond yn wahanol i Craith, roedd hi'n haws credu yn y cenhedloedd unedig o acenion oherwydd lleoliad Aber fel croesfan a chanol y genedl.


Dewch o 'na Fiction Factory
Beth am aduniad arbennig ar gyfer ffilm fawr y Dolig S4C yn y dyfodol agos?

Hej! Hej! Gwenwch!


Pwy a ŵyr, efallai fod rhyw adolygydd blin o Sweden yn barnu acenion rhanbarthol Offeren Stockholm hefyd. Dyma gyfres deg pennod am y troseddegydd Fredrika Bergman sy’n dychwelyd i’r gwaith wedi damwain drasig, wedi’i ffilmio yn y golau llwydlas unigryw hwnnw i’r cyfresi Nordig. Gyda’r bocset i gyd ar Clic, mae’n rhan o fenter newydd gyffrous “Walter Presents ar gyfer S4C” gydag isdeitlau Cymraeg neu Saesneg. Diolch i’r nefoedd mai isdeitlo maen nhw hefyd, nid trosleisio fel y gwnaeth HTV gyda’r diweddar Huw Ceredig a Robin Gruffydd fel Shane y cowboi “Cymraeg” ddiwedd y 1970au. Does dim awgrym hyd yma mai perthynas ddwyffordd fydd hi chwaith, gan na fydd cyfresi Cymraeg yn ymuno â’r llu o rai Ewropeaidd sydd ar gael i weddill Prydain trwy Walter Presents ar All4/Channel 4. 

Mae’r galw yno. Wedi’r cwbl, mae ail gyfres gyffrous Bang - am frawd a chwaer o boptu’r gyfraith yn Aberafan – sydd eto i ymddangos ar ein sgriniau, eisoes wedi’i gwerthu i’r Swediaid.

Ac mae hynny’n bwysicach nag erioed wrth i Brydain droi’n fwyfwy ynysig.   



·        

The Aftermath




On a cold dark October eve, armed with a cuppa and feet up, I was ready for a rare creature on the box. A Wales-set drama shown across the UK. No, not the one with Eve Myles and the irritating soundtrack. Rather, an emotionally charged four-parter about a community coming to terms with an industrial accident, and the families cry for justice as per Aber-fan, Zeebrugge, Grenfell. I had already written a mostly positive piece about The Accident to the Welsh-language weekly Golwg and urged my friends and colleagues to tune in. Half an hour later, my tea was still untouched. I felt uneasy. Baffled. This wasn’t the same drama I saw at the London preview. My WhatsApp jingled: “Hmmm. Not feeling it so far, Dyl!!” Others were conspicuous in their silence. I was embarrassed. Had I recommended a turkey?

On second viewing, the quibbles that niggled me at the première became clearer. The google-translated banner at the St David’s Day Fun Run (Dydd Gŵyl Dewi Sant – Rhedeg). The wince-inducing “boyo” spoken by Kai Owen’s character. The rescuers venturing into the ruins with a sparking grinder despite fears of a gas leak. The solemn crowd’s “Abide with Me”, whereas the clichéd Guide Me, O Thou Great Redeemer would’ve rung truer. And the accents. Mowredd, those accents. The twitteratis were tamping.

@TomosWilliams1 
#TheAccident 15 mins in and looks like @Channel4 have done everything they can to combine Skins, Happy Valley & Casualty into one show with the dodgiest South Walian accents

Rewind to the end of September, and to the official launch in Soho (free coffee and croissants obligatory, air kisses not). Most of the cast in situ (Sarah Lancashire! Sidse Babett Knudsen of Borgen fame!) the camera made good use of the Rhondda Fach, Blaengarw and Fochriw locations, the CGI explosion racking up the tension, that shocking domestic violence scene, the crew’s obvious warmth towards the locals. As the Executive Producer George Ormond said:

‘This is our second production based in Wales – our first was Kiri, also by Jack Thorne... Jack is also half Welsh and we knew from the off that The Accident would be set in a small valleys town.’

Jack Thorne, the Bristolian behind the Channel 4 trilogy examining the themes of guilt, blame, responsibility and culpability in modern Britain. I was eagerly awaiting a series in which my country didn’t pretend to be Holby city, planet Gallifrey or something or other with dӕmons. It’s a crying shame that The Accident consists of outsiders pretending to be Welsh plus a plethora of English lawyers from the Alun Cairns school of casting. BAFTA-laden Sarah Lancashire from Happy Valley and Last Tango in Halifax confessed that the accent was testing:

'I did a lot of work on it. A lot. It was really challenging. It was awful. In fact, we started filming this in April and just to give you an indication of how long it took me, I had my Christmas dinner speaking in a Welsh accent as I started last November.'

Not that she had much say in the matter, as Jack Thorne explained ‘... I wrote it with her in mind and once it was finished I sent it to her and held my breath and thankfully she said yes.’

It could have been worse. As in a Monica Dolan kind-of-worse, with her comedy Leanne Wood-cum-Indian accent in W1A or Tom Hardy’s baffling Locke. And lest we forget the Irish American How Green Was My Valley (1941).

But it could and should have been so, so much better. The scenes between Harriet Paulsen (Sidse Babett) and her wooden PR toyboy are pretty excruciating. And it’s not as if we’re a dearth of actors. S4C has just celebrated its 37th year, and many of its alumnus have found worldwide fame. Less ‘praise the lord! we are a musical nation’, more of a nation of fantastic bilingual performers. Think Iwan Rheon (Game of Throne), Erin Richards (Gotham City), Rhys Ifans (Official Secrets) and Matthew Rhys (The Americans and the new Perry Mason for HBO) who surprised his US fans last year after accepting his Emmy award in his native accent.

And yet, here we are in 2019, with London drama commissioners (or soon-to-be-Leeds in Channel 4’s case) ignoring our homegrown talent, apart from the excellent Jade Croot of Merthyr. Eiry Thomas has been criminally underused as the grieving single mam too. Despite all its faults, I’m still watching, along with 2 million others. Mostly mesmerized by the performances of deaf actress Genevieve Barr and Lancashire, and seeing how the court scenes plays out.

On the whole, a disappointing case of nid da lle gellir gwell.


Hap a damwain




Bore Llun braf, ac mae’r ddinas yn drybowndio. Ac mewn cilfach gefn o westy pum seren yn Soho, ger bariau nwdls a mwy o baristas nag sydd raid, mae darn bach o Gymru. Y tu mewn, coffi a choflaid o hacs ac actorion yn ymgynnull mewn sinema glyd. Pawb yma ar gyfer dangosiad o ddrama newydd Channel 4 wed’i gosod yng nghymoedd y De; cyfres bedair rhan The Accident am gymuned wedi’i sigo gan drychineb ar safle prosiect adfywio sy’n addo gwaith a gobaith newydd i ardal angof. A gyda chyfresi o Gymru ar y rhwydwaith mor brin, mae’r daith i’r première yn Llundain yn hanfodol.

Y Ddrama
Mae’n fore gŵyl Ddewi, a phentref Glyngolau yn paratoi at y ras hwyl. Gwelwn ferch fach mewn gwisg Gymreig yn sgipio drwy’r parc, wrth i oedolyn mewn siwt ddraig gael mwgyn. Mae’r stryd fawr lwyd yn llawn cennin pedr gwynt a byntings lliwgar, a thrigolion amrywiol eu ffitrwydd a’u gwisg ffansi yn ymgynnull. Yn y cyfamser, mae criw ifanc yn torri i mewn i safle The Light. Ond yng nghanol chwerthin a chellwair y ras, daw’r byd i stop. Ffrwydrad. Mae’r camera yn tremio’n araf ar hyd wynebau’r rhieni, o anghrediniaeth i arswyd pur, wrth i’r tŵr brics ddymchwel o flaen eu llygaid. ’Sdim angen geiriau na sgrechian gorffwyll. Mae eu mudandod yn dweud cyfrolau wrth i’r llwch ddisgyn yn dawel dawel fel plu eira sinistr. Ac mae’r golygfeydd canlynol yn rhai ffrwydrol, wrth inni neidio o’r ysbytu i ’stafelloedd byw’r teuluoedd a phencadlys sgleiniog y cwmni datblygu. Mae galar yn esgor ar ddicter, a’r holl bwyntio bys yn troi ffrindiau bore oes yn erbyn ei gilydd.

Yr Awdur
A dyna’n union oedd bwriad Jack Thorne wrth roi pin ar bapur. Y frwydr am gyfiawnder a dwyn i gyfrif am ddamwain mor ysgytwol. Aber-fan ddaeth i’r cof yn syth gen i, yn naturiol fel Cymro efallai, wrth i’r gyfres ymddangos 53 mlynedd i’r mis wedi’r drychineb honno. Ond trasiedi tân mewn bloc o fflatiau yn Llundain ddwy flynedd yn ôl oedd ar feddwl yr awdur o Fryste. Yn wir, roedd tri chwmni cynhyrchu wedi cynnig comisiwn penodol am Grenfell i Thorne, cyn iddo wrthod ar y sail ei bod hi’n llawer rhy gynnar. Dyma’r olaf o drioleg Jack Thorne ar gyfer Channel Four sy’n trin a thrafod pynciau anodd amserol y Brydain gyfoes - gyda’r pwyslais ar gyfiawnder y tro hwn, yn dilyn themâu pechod (A National Treasure) a bai (Kiri). Yr olaf, gyda llaw, oedd drama fwyaf poblogaidd erioed Channel 4 hyd yma, gyda phum miliwn o wylwyr y llynedd. Dw i’n rhagweld ffigurau tebyg i The Accident.

Y Cast
Ochneidio’n ddiflas wnes i ar ôl gweld y rhestr gastio’n gyntaf. Enwau mawr o fyd actio Lloegr eto fyth, gan gofio am achosion blaenorol o droseddu yn erbyn yr acen Gymreig, o Monica Dolan yng nghyfres gomedi W1A i Tom Hardy yn y ffilm Locke. Er tegwch i’r actorion dŵad yma, rhyw dinc o’r cymoedd gawn ni yn hytrach na rhywbeth allasai fod yn Leanne Woodaidd o dros ben llestri. Ac mewn sesiwn holi ac ateb wedi’r dangosiad, cyfaddefodd Sarah Lancashire swil fod yr acen yn dipyn o her ac iddi roi ei hun yn sgidiau Polly Bevan fisoedd cyn dechrau ffilmio ym mis Mai: “I had my Christmas dinner... and did it with a Welsh accent”. Roedd gan ei chydactores Eiry Thomas, sy’n chwarae rhan Greta’r fam sengl, rywfaint o amheuon i ddechrau hefyd.

“O’n i’n poeni. Roedd y cynhyrchiad yn ofalus iawn efo hyn, achos efo drama fel hon mae angen bod yn ‘authentic' a real. Roedd hyfforddwraig llais ac acen wrth law gydol y cyfnod paratoi a saethu. Roedd Sarah wedi bod yn gweithio ar yr acen ers misoedd... ac yn gofyn os oedd angen help arni efo gair neu sŵn gair. Roedd yn ymddiddori yn y Gymraeg, lwyddon ni i ddysgu ambell beth iddi”.

Nid bod gan actores o fri Happy Valley fawr o ddewis chwaith, gan i Jack Thorne sgwennu rhan Polly Bevan yn unswydd ar ei chyfer hi. Ac mae ei gŵr yn y ddrama, Mark Lewis Jones - y Cynghorydd Iwan Bevan â’i fys ym mriwas y prosiect drwgenwog - hefyd yn canmol Sarah Lancashire am lwyddo i adlewyrchu “rhythm a thiwn” yr acen. Mae’r ddau’n drydanol gyda’i gilydd, a bydd un digwyddiad syfrdanol ar yr aelwyd tua diwedd y bennod gyntaf yn siŵr o fynd â’ch gwynt.



Diolch i’r drefn i’n sêr cynhenid felly, a Jade Croot ugain oed o Ferthyr, am ddangos i’r byd a’r betws bod actorion mwy ’na thebol yma’n barod. Os na chewch eich ysgwyd gan ei pherfformiad dirdynnol hi o Leona Bevan, y rebel o ferch ysgol a effeithiwyd gan y ddamwain, does gennych chi ddim calon. Mae yna dinc rhyngwladol i’r cyfan hefyd, gyda Sidse Babett Knudsen (Borgen) o Ddenmarc yn chwarae rhan Harriet Paulsen, prif weithredwr Kallbridge Developments. Anwybyddu cwestiynu diog Emma Cox o’r Radio Times am ei hargraffiadau o “rainy Wales” wnaeth hi, a chanmol ein mynyddoedd a’n golygfeydd yn hytrach.



Y Lleoliadau
Roedd y fath groeso a gawsant wrth ffilmio Kiri yng Nghymru wedi selio penderfyniad y criw ffilmio i ddychwelyd yma. Meddai’r Cynhyrchydd Gweithredol George Ormond gan gyfeirio at yr awdur, “...Jack is also half Welsh and we knew from the off that The Accident would be set in a small valleys town.” Siŵr iawn bod angen sgrin fawr ar gyfer cefnlen epig o fryniau a dolydd gwyrddion, a’r terasau ystrydebol o gyfarwydd. O Neuadd y Brangwyn Abertawe i safle tir llwyd yng Nghaer-went, mynwent y Maerdy i gartre’r Bevans ym Mlaengarw, a stryd fawr Porth y Rhondda, daw’r cyfan at ei gilydd i greu naws am le arbennig.

Ac am unwaith, mae’n braf gweld y wlad go iawn ar y bocs yn hytrach na Chymru-smalio-bod yn Holby neu blaned Gallifrey.

Paratowch am siwrnai emosiynol.