Showing posts with label Torchwood. Show all posts
Showing posts with label Torchwood. Show all posts

Gwynt teg i fis Mehefin





Gwynt teg (oer a glawog) i fis Mehefin. Mis lle’r oeddech chi’n fwy tebygol o eistedd gerbron y bocs bach na mwynhau barbeciw fin nos. Ta-ta i obeithion Andy Murray ar gwrt W19 am flwyddyn arall, ac i obsesiwn dyn camera’r BBC gyda chwaer Kate Middleton. A ffarwél i’r Goets Fawr, ar ôl wythnos o fynd drot-drot ar hyd y lôn bost o Groesoswallt i Gaergybi. Mae’n siŵr fod Heddlu’r Gogledd yn diawlio’r criw cynhyrchu am golli wythnos o ddirwyon gyrru ar yr A5, a gyrwyr loris Iwerddon a beicwyr modur yn ’sgyrnygu’u dannedd y tu ôl i Ifan Jones Evans a’i feirch.

Roedd y goets sgleiniog yn wledd i’r llygaid, a’r awyrluniau o Ddyffryn Dyfrdwy i Nant Ffrancon yn profi nad oes unlle tebyg i adre’ yn llygad yr haul. Ac roedd Shân Cothi mor fyrlymus ag erioed, ac yn haeddu medal am ddarlledu’n fyw yng nghanol piwiad bach Pentrefoelas ar yr ail noson. Un o’r golygfeydd mwyaf swreal oedd honno o Tara Bethan yn trafod ei halbwm newydd gydag Ifan ar ben y goets sigledig. Dyna chi sioe siarad ar ei newydd wedd! Erbyn y drydedd noson yng Nghapel Curig, fodd bynnag, roeddwn i’n dylyfu gên. Gormod o bytiau byrion, torri straeon yn eu blas cyn y degfed hysbyseb, ac ymweliad ARALL ag ysgol leol. A hyd yn oed pan drafferthodd un o’r gwylwyr i gyfrannu at y rhaglen, fel y greaduras ddi-Gymraeg o Dreffynnon a ddaeth yr holl ffordd i bier Bangor gyda llun olew o’i pherthynas a fu’n llywio coets debyg, prin hanner munud gafodd hi i adrodd yr hanes. Anfantais fawr arall, wrth gwrs, oedd diffyg cysylltiad go iawn â’r cyfnod dan sylw - 1808 - yn wahanol i gyfres fwy llwyddiannus y llynedd, lle’r oedd y cof yn dal yn fyw iawn am Y Porthmon.

Ers talwm, roedd amserlen teledu Gorffennaf mor farwaidd â gobeithion Democrat Rhyddfrydol mewn etholiad. Bellach, mae’r cyfresi gorau wedi’u neilltuo i ganol haf, gan gychwyn hefo Cariad@Iaith gyda Gareth Roberts, Nia Parry ac wyth dysgwr ‘enwog’ nos fory. Dim ond gweddïo nad ydy safon amheus trydarwr y gyfres yn arwydd o safon y gwersi: “Datgelwyd y selebs yfory! / Our celebs will be revealed tomorrow!”


Wythnos i heno, bydd Capten Jack a Gwen Cooper yn dychwelyd i gadw reiat arallfydol yn Torchwood, un o allforion mwyaf llwyddiannus adran ddrama BBC Cymru Wales. Er gwaethaf blas Americanaidd amlwg y gyfres hon, mae’r gwreiddiau Cymreig yno o hyd, gan gynnwys golygfeydd o Fro Gŵyr a Chaerdydd a crème de la crème y byd actio Cymraeg, William Thomas a Sharon Morgan, fel rhieni Gwen (Eve Myles). Ymlaen â’r antur!



Cariad @Iaith, 8.25 o’r gloch nos Wener, S4C
Torchwood: Miracle Day, 9.00 o’r gloch nos Iau, 14 Gorffennaf, BBC1



















Torchwood UDA


Newyddion da i “Woodies” y byd. Mae’n swyddogol. Mae Capten Jack a Gwen ar fin dychwelyd am bedwaredd gyfres! Ar ôl ofnau diweddar fod y dirwasgiad ym myd teledu wedi rhoi’r farwol i Torchwood, cadarnhawyd y bydd BBC Cymru yn cydweithio â BBC Worldwide a sianel loeren Americanaidd, Starz Entertainment, (sgiwisiwch y zillafiad naff) ar 10 pennod newydd sbondanlli â mwy o gyllideb na’r cyfresi blaenorol. Yr unig newydd drwg yw nad Caerdydd fydd canolbwynt i’r gyfres mwyach, ond Gogledd America yn bennaf, gan greu drama ag ymdeimlad mwy byd-eang iddi meddan nhw. Ergyd i froliant bosys Llandaf o greu drama fodern yng Nghymru i weddill y byd.

Roedd giamocs arallfydol Russell T Davies, y sgriptiwr a’r cynhyrchydd gweithredol, yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, ac mi fydd acen gref merch o Ystradgynlais yn fiwsig os nad yn destun chwilfrydedd i glustiau’r Iancs. Ac os bydd Eve Myles yn hiraethu am adref, gallai wastad brynu ty haf yn Cardiff by the Sea neu Swansea.

Torchwood 4 ar y gweill!

Newyddion da o lawenydd mawr. Mae’n ymddangos fod pen bandits y Bîb wedi dod i’w coed, ac wedi penderfynu cynhyrchu cyfres arall o Torchwood - Ianto Jones neu beidio - yn sgil llwyddiant ysgubol Children of Earth yn ddiweddar. Newydd da o ran swyddi teledu BBC Cymru felly, ac i’r ganolfan ymwelwyr arfaethedig yn y Bae.

Bydd rhaid iddyn nhw ailadeiladu’r tŵr dwr eiconig yn gyntaf!


Atgyfodi Ianto!


Anghofiwch am ymgyrchoedd achub yr iaith, fforestydd glaw Brasil, y morfilod neu yrfa Gordon Brown. Mae 'na reitiach pethau i boeni amdanyn nhw. Yn sgil tranc diweddar un o gymeriadau poblogaidd Torchwood, mae ffans pybyr/honco bost wedi cychwyn ymgyrch i'w gael yn ol o farw fyw trwy wefan www.saveiantojones.com. Chwarae teg, mae yna gyfle i bob llofnodydd gyfrannu at hoff elusen yr actor Gareth David Lloyd - sy'n golygu fod £1,800 yng nghoffrau Plant mewn Angen hyd yn hyn.


Pwy a wyr beth ddigwyddith. Wedi'r cwbl, os lwyddodd Bobby Ewing i atgyfodi yn y gawod yn Dallas 23 mlynedd yn ol...




Ta ta Torchwood?




Dwi’n foi reit draddodiadol ar y Sul. Mae crefydda wedi hen golli’i hapêl, ac yn fwy nag erioed bellach ers iddyn Nhw benderfynu cau capel bach Carmel. Ond mae’n dal yn ddiwrnod o seibiant, a Radio Cymru ymlaen fwy neu lai drwy’r dydd - pan dwi’n saff o osgoi’r Cymraeg bratiog a’r sothach arferol gyda seiniau a selebs Eingl-Americanaidd. Mae rhaglen sgwrsio arbennig Beti a’i Phobl yn hen ffefryn a allai drosglwyddo’n hawdd i deledu, heb son am fod yn rhad i Sianel ddarbodus ei chynhyrchu. Stiwdio fach, bwrdd a dwy gadair gyfforddus, ac ambell glip o’r gorffennol. Fersiwn well, fwy sylweddol, o’r gyfres Cofio efallai. Mae Beti George yn holwraig tan gamp, ac yn barod i fentro gofyn cwestiynau anodd a phersonol iawn ar brydiau, o gymharu â steil fwy arwynebol Heledd Cynwal. Un o’m hoff actorion, Ifan Huw Dafydd, oedd gwestai’r wythnos hon - enillydd gwobr BAFTA eleni am ei bortread o’r ffarmwr styfnig yn Martha Jac a Sianco. Soniodd am ei rannau cofiadwy eraill fel Pete Con Passionate a Dic Deryn, un o gymeriadau chwedlonol Cwmderi yn y dyddiau da hynny o ganmil a mwy o wylwyr rheolaidd. A chyhoeddodd mai fe fydd tad Nessa yng nghyfres nesaf - ac olaf - o Gavin and Stacey. Tidy!

Actor arall sydd bob amser yn plesio ydy Eve Myles, a serennodd fel Gwen Cooper yn Torchwood: Children of Earth yn nosweithiol wythnos diwethaf. Roeddwn i braidd yn nerfus cyn gwylio ffrwyth llafur Russell T Davies. A fyddai’r gwylwyr yn cymryd ati ar brif sianel y Bîb? A oedd perygl iddyn nhw ’laru gormod ar John Barrowman (Captain Jack), a gyhuddwyd o ymddangos ar ormod o raglenni’r BBC yn ddiweddar? A fyddai enw da Adran Ddrama Llandaf yn saff? Doedd dim lle i boeni o gwbl mewn gwirionedd. Roeddwn i, a miliynau eraill, wedi’n gwefreiddio o’r dechrau i’r diwedd, mewn cyfres tipyn mwy aeddfed a difrifol na’r rhai blaenorol a wfftiwyd fel rhaglen i blant gydag iaith anweddus. Roedd hi’n dipyn mwy tywyll na’r disgwyl, ac yn well o’r herwydd, gydag islais cyfoes iawn o ddiffyg ffydd y werin yn y Llywodraeth. Roedd y golygfeydd gofidus o’r milwyr yn cipio plant o’r ysgolion a’r strydoedd yn dwyn i gof erchylltra’r Natsïaid, a’r cyfarwyddwr Euros Lyn yn llwyddo i gynyddu’r tensiwn yn wych gyda marwolaeth ddisymwth un o’r prif gymeriadau, Ianto Jones. Ac mae hynny, a’r ffaith fod pencadlys Torchwood (yng nghrombil Bae Caerdydd) wedi’i chwalu’n chwilfriw gan fom, yn ategu’r sïon mai hon oedd y gyfres olaf. Byddai hynny’n bechod mawr, yn enwedig o gofio fod rhyw 6 miliwn wedi troi i wylio pob pennod - tipyn o gamp am gyfres ffugwyddonol ganol haf.

O leiaf caiff Gwen/Eve Myles seibiant i fagu teulu am y tro.






Pethau Arallfydol


23 Ionawr, 1974. Y noson y daeth un o ardaloedd anghysbell Meirionnydd i sylw’r byd. Ac un o’r nosweithiau hiraf erioed yn hanes Llandrillo, yn ôl llefarydd Britain’s Closest Encounters (nos Fercher, Channel Five). A minnau wedi mopio ar The X Files ers talwm, ac yn lled-gyfarwydd â’r llên gwerin gyfoes o Gymru, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael mwy o’r hanes o lygad y ffynnon. Ni fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn mentro cyfaddef ein bod wedi gweld dynion bach gwyrdd o’r gofod. Ond nid y rhain. O’r ffarmwr Huw Lloyd i’r postfeistr Idris Roberts, siaradodd pawb yn onest am eu profiadau iasol ym mynyddoedd y Berwyn. Roedd hyd yn oed yr heddwas lleol yn sôn am weld pelen werdd amheus yn y nos ddu. Law yn llaw â’r cyfweliadau, ail-grewyd digwyddiadau’r noson gydag actorion mewn hen landrofers, a dangoswyd clip o John Craven ifanc yn darllen yr hanes ar Newsround! Ond roedd cyfranwyr eraill yn taflu dŵr oer ar y cyfan. Iddyn nhw, rhyw lewyrch daear (earthlight) a welwyd yn yr awyr, yn sgîl daeargryn 3.5 ar raddfa Richter. Wfftiwyd yr awgrym lleol mai siwtiau du sinistr o’r Weinyddiaeth Amddiffyn a ddaeth i holi’r trigolion yn fuan wedyn, ac mai seismolegwyr o Gaeredin oeddynt mewn gwirionedd. Ond mae’r cyn-giper Geraint Edwards yn dal i fynnu fel arall. Ac nid ar chwarae bach mae rhywun yn cyfaddef ar deledu Prydain iddo weld UFO dros 30 mlynedd yn ôl… Mae hon yn stori a hanner, ac yn chwip o syniad i adran ddrama S4C. Lle mae’r Mulder a Scully Cymraeg? Er efallai mai calla beidio, ar ol y llanast wnaethon nhw efo SOS Galw Gari Tryfan ar ei newydd wedd Dolig diwethaf...

Nos Sadwrn diwethaf, roedd hi’n bryd dweud ta-ta wrth David Tennant a Doctor Who - tan ’Dolig beth bynnag. Wedi’r holl ddyfalu ynglŷn â phwy fyddai’n diflannu i’r bocs Tardis yn y nen, ni ddigwyddodd hynny yn y diwedd. O leiaf cafodd 9.4 miliwn o wylwyr chwilfrydig eu denu gan yr holl heip. Ac roedd yna ryw deimlad cynnes, braf, o weld holl ffrindiau’r Doc yn uno i achub y Ddaear rhag Davros (a swniai’n iasol o debyg i John Davies Bwlch-llan) a’r Daleks. Ymunodd criw Torchwood â’r antur alaethol hefyd, gyda Gwen (Eve Myles) ac Ianto yn taro’n ôl o berfeddion Canolfan y Mileniwm. Er hynny, rhyw naws drist ar y naw a gafwyd i gloi’r gyfres - gyda Rose ddanheddog (Billie Piper) yn dychwelyd i’r byd cyfochrog, Donna (Catherine Tate) sgrechlyd ’nôl yn swbwrbia, a’r Doc digymar yn ei beiriant amser.