Cariad at y Cwm?


“Cyfres ddrama deledu boblogaidd am fywydau beunyddiol a phroblemau grŵp o bobl sy'n byw mewn lle penodol”.

Dyna ddehongliad geiriadur Collins o opera sebon. Genre o America’r 1930au, pan ddechreuodd cwmnïau sebon fel Procter & Gamble noddi dramâu radio i wraig y tŷ. Teledu bia’r cyfrwng bellach, ac yng ngwledydd Prydain, cyfresi sebon oedd yr abwyd i ddenu gwylwyr amser swper. Roedd hyn yn wir am Pobol y Cwm (1974) am flynyddoedd, wrth i S4C ddibynnu ar y miloedd triw i setlo gyda’r sianel am weddill y noson. Ac felly buodd hi am sbel hir. Meddai Gwyddoniadur Cymru (t. 735) “Gyda rhifyn omnibws wythnosol sy’n dwyn isdeitlau Saesneg, dyma’r rhaglen Gymraeg sy’n denu’r nifer uchaf o wylwyr yn gyson – hyd at 89,000 yn 2007”. Ond stori dra gwahanol yw hi bymtheg mlynedd yn ddiweddarach. Cefais gip sobreiddiol ar dudalen ffigurau gwylio ar wefan S4C. Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf oedd ar gael wrth sgwennu’r hyn o lith, wythfed rhaglen boblogaidd yr wythnos oedd Pobol y Cwm ar 28,000, ar ôl gêm bêl-droed rhyngwladol (llwyddiant sicr i’r Sianel), a hen stejars eraill fel canu emynau, garddio, adloniant sgubor a sioe sebon boblogaidd y Gogledd.


 
 

Dyma felly holi ffrindiau a pherthnasau i weld a ydyn nhw’n dal yn sgut am sebon. Mae canlyniadau’r arolwg cwbl anwyddonol yn drawiadol. O’r ugain wnaeth ymateb, doedd y rhan fwyaf heb wylio’r un opera sebon, Cymraeg na Saesneg, ers cryn amser. O’r croestoriad eang o gogs a hwntws 40-70 oed sydd yn gwylio, Rownd a Rownd (1995) oedd y ffefryn clir gyda “naws am le, synnwyr digrifwch, cymeriadau mwy crwn, straeon a chymeriadau mwy credadwy... sgwennu da, mwy naturiol o lawer”. Roedd Pobol y Cwm ar ei cholled am gynnwys “gormod o gangsters” a chymeriadau anghredadwy. Ond roedd un gwyliwr brwd o’r Gwendraeth yn wreiddiol, yn dal i fwynhau “er bod arddull ddigyffwrdd yr actorion yn annaturiol iawn ar brydie.” Teimlai hefyd bod y cynhyrchiad wedi mynd braidd yn denau, oherwydd “nifer llai o actorion mewn shots a golygfeydd”. Melltith arall ein pla epig, sydd wedi gorfodi ambell actor i hunanynysu.

 

Aaron Monk - The only teenager in the village

 

Ac mae’r prinder cymeriadau yn deud arni. Ystyriwch Aaron Monk-Evans (Osian Morgan) er enghraifft. Un funud, roedd o’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng arholiadau ysgol a shifftiau yn siop jips ei fam, a’r funud nesa’n peintio swastika ar wal tŷ Tyler ac Iolo fel un o griw ffasgaidd o Abertawe. Mae Popeth Drwg yn hanu o'r ddinas honno. Iawn, mae hyd yn oed y myfyriwr mwyaf selog yn mynd ar gyfeiliorn weithiau, ond y drwg ydi bod pob math o blotiau’n cael ei daflu ato fel unig glaslanc y pentra. O ddosbarthu cyffuriau dan orfodaeth i gael ei dwyllo gan ddyn ym meithrin perthynas amhriodol ar-lein, mae Aaron wedi bod drwy’r felin. Sy’n wahanol i Rownd a Rownd, gydag o leiaf hanner dwsin o actorion ifanc dawnus i rannu straeon rhyngddynt â dipyn mwy o hygrededd. Mae poenau cariad cyntaf a gwrthdaro â llysfam neu dad newydd yn taro tant yn fwy nag issues mawr y dydd 'sha Cwm Gwendraeth.

 

Dani yma o hyd


Does gen i fawr i ddweud am straeon diweddar fel Dani Monk y gangster moll, y saethu na’r ymosodiad asid gan gyffurgwn. Rhaid atal eich hun rhag rholio’ch llygaid wrth wylio ambell dro hefyd, fel penodau’r Nadolig. Dros yr ŵyl, gwelsom Dylan yn cael pas mas o'r carchar gan y caplan, gan bicied i dy Megan Harries (sut mae honno’n dal yn y gyfres?) a’i gwawdio am Gareth Wyn ei mab colledig; cyn sleifio i fflat y Deri am bach o how-di-dw gyda Dani Monk a chwarae mig â DI Wilkinson yn strydoedd cefn Cwmderi. Mae angen cryn dipyn o ddramatic licence i wylio hwnnw’n mynd trwy’i betha hefyd, yn cropian o amgylch y Deri (heb larwm?) gefn liw nos pan nad ydio’n rhythu ar gamera CCTV personol o lolfa’r Monks wrth wneud ymarferion Ironman yn ei rŵm ffrynt. Ar y llaw arall, mae Owain Gwynn yn gaffaeliad newydd da i’r gyfres, fel y gwron cryf, tawel, â chryn elfen o ddirgelwch yn perthyn iddo. Ai cynnal ymchwiliad cudd i ddal Dylan unwaith ac am byth mae o, ac felly’n defnyddio Dani fel abwyd cyn cwympo mewn cariad go iawn, neu oes rhywbeth mwy sinistr yn yr arfaeth?

O safbwynt y set, mae gwir angen adfer caffi’r stryd fawr, os nad lle pizza parhaol i Jinx a’i weithiwrs bach. Weles i erioed siop lyfrau Gymraeg mor wag a dienaid yn fy myw. Tydi’r ffaith fod Eileen yn gneud cacs cartref a phrydau organig (di-figan glei!) yng nghegin gyfyng Penrhewl tra bod DJ yn piciad am damaid (bihafiwch) ar ôl bod yn carthu ddim yn taro deuddeg chwaith. Mi fyddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael haint. Faint yn union o lofftydd sydd yn fflat Ffion? Beth ddigwyddodd i hen fflat Sheryl? Ydi'r busnes pampro cwn/trin gwallt/tatwio yn dal i fynd? Aeth y bwytai tapas ac Indiaidd i'r gwellt yn sgil y pandemig? Oes 'na glwb rygbi yn y Cwm o hyd?


Dirgelwch y DI (Owain Gwynn)

 

Ond mae’r hen greadur hiraethlon ynof yn dal i fwynhau gweld Cassie a Lisa yn y Cwm. Mae'n braf gweld mwy o'r hen gynghorydd slei Ieuan Griffiths, a dw i'n dal i ddisgwyl am gartref parhaol iddo heb sôn am ymddangosiad ei blant a hyd yn oed ei gyn-wraig Hazel. Dw i'n ysu i weld Dai a Diane yn dychwelyd o Oz. Mae cymaint wedi gadael y gyfres dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chwith mawr ar ôl Debbie a’i thylw’th – hen bryd i Brynmor brynu tŷ drws nesaf er mwyn cael y Jonesiaid estynedig nôl gyda’i gilydd. Mae Sara wedi’i heglu hi am gyfnod (mamolaeth?) estynedig, Lisa Morgan wedi diflannu’n ddisymwth, a dim ond dwy o’r Parri’s sydd ar ôl erbyn hyn. Lle aflwydd mae'r tonig Brenda (Sharon Morgan) a'i sgwter symudedd yn byw a bod? A beth yw hanes Gwyneth, sydd wedi’i charcharu ar gam ers dwnimpryd? Does ryfedd fod Gwern druan yn gofyn i bob copa walltog ei fabwysiadu.

 

Deri joio - Glan, Mrs Mac, Teg, Cassie

Triawd y Siop - Gina, Olwen, Karen - 1989

Ond nid problem Pobol yn unig mo hon. Mae prif sebon BBC One mewn dyfroedd dyfnion hefyd, wrth i’r ffyddloniaid gefnu arni ers oes aur Den ac Angie Watts a ddenodd 30 miliwn o wylwyr ym mhennod Dolig 1986. Fis Hydref diwethaf, 2.69 miliwn drodd i wylio pennod o Eastenders o gymharu â 2.79 miliwn ar gyfer cwis Only Connect yr un pryd ar BBC Two. Awtsh! Er hynny, mae bosys y Bîb yn mynnu taw’r Cocnis drama yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd BBC iPlayer gan ffrydio 226 miliwn o weithiau ers dychwelyd ym mis Medi 2020 ar ôl saib y cyfnodau clo. Falle mai fan’no mae gwylwyr Pobol y Cwm erbyn heddiw hefyd. Yn dal i fyny ar wasanaethau Clic neu iPlayer yn lle’n fyw ar deledu daearol. Wedi’r cwbl, mae’n patrymau gwylio ni wedi newid yn ddramatig “yn rhannol oherwydd teulu a’n prysurdeb bywyd (er waetha Cofid!)” medd un ymatebydd o Flaenycoed.

 

 

Heddiw, mae'r cyfresi sebon yn dibynnu fwyfwy ar stynts dramatig yn lle straeon sinc y gegin i ddenu gwylwyr. Mae Emmerdale wedi hen gefnu ar fuarth y ffarm byth ers i'r awyren blymio o'r awyr ar y pentra adeg Dolig 1993, a bellach yn fagwrfa i lafna ifanc rhywiol o Leeds a llofruddion cyfresol bob hyn a hyn. Mi fuasa'r hen Mr Wilks yn troi yn ei fedd. Mae'r gyfres hefyd yn dathlu'r hanner cant yn yr hydref eleni, felly dyn a wyr pa blotiau ffrwydrol sydd ar y gweill. Mi drodd Coronation Street yn belen dân adeg 50 mlwyddiant y gyfres yn 2010, wedi i ffrwydrad nwy chwalu traphont ac achosi i dram ddisgyn ar ben rhai o'r adeiladau a'r cymeriadau eiconig. Er, doedd mop o wallt coch Rita'r Siop fawr gwaeth. Ac fel rhan o'i "dathliadau" pen-blwydd yn 35 oed yn 2020, cafodd cast Eastenders barti cwch Titanic-aidd ar afon Tafwys. Roedd Neighbours yn dathlu'r un garreg filltir yr un pryd hefyd, gan anfon criw i ynys baradwysaidd a drodd yn uffern wrth i'r dihiryn Finn Kelly dalu'r pwyth yn ôl efo bwa saeth, nadroedd gwenwynig a bom. Dylsan nhw 'di sticio efo te parti yng nghaffi Harold.

 

Jack Sugden yn gwylio'i braidd liw nos, wedi damwain awyren drwgenwog Emmerdale (1993)

 

Stryd rwbel, 2010





 

Beth bynnag ydi cynlluniau cynhyrchwyr Pobol ar gyfer 2024, dim ond gobeithio y cawn ni ddathlu’r hanner cant bryd hynny. Llu o hen wynebau cyfarwydd yn dychwelyd i ryw barti stryd, neu drip rygbi rhyngwladol yr hydref yn arwain at ddamwain bws fawr ar hewl Cwrtmynach? Os bydd rhyw drychineb fawr yn taro'r Cwm, o leia mae doctors a nyrsys Casualty drws nesaf yn stiwdios Porth y Rhath i achub y dydd.

Dyn a wyr beth ddaw. Ac er gwaetha'r trai, oes, mae gen i deimladau cynnes at y Cwm o hyd.


www.stephenbrinkworth.co.uk/