Showing posts with label Kiri. Show all posts
Showing posts with label Kiri. Show all posts

Gwylio neu beidio







Ychydig yn ôl, fe sgwennais i argymhellion am gyfresi dramâu da i’n cario drwy felan mis Ionawr ac anghofio am fanion Brecshitaidd a biliau’r Dolig. Roeddwn i’n edrych ymlaen at yr arlwy felly... ond pylu wnaeth y mynadd a’r diddordeb erbyn 2il bennod sawl un ohonyn nhw. I ddechrau wrth fy nhraed, ac mae Craith yn dal ynddi, serch yr acenion Llanbobman ym Mangor a’r cylch. Iawn, digon teg, dinas prifysgol gosmopolitaidd a ballu. Yna, Cardi blin, masweddus o asiant dai lleol (Gwydion Rhys) sy’n plagio ei gyn-gariad. A ffarmwr(?) o Sir Gâr (Ioan Hefin) yn gymydog amheus sy’n ffeindio Dylan yn cysgu ei fan goch yn y goedwig ddu. Mae. Isio. Gras. Ond, dw i bellach wedi gorfod derbyn yr amryfusedd hwn ar ran y criw castio, a’i mwynhau fel drama llawn awyrgylch, y goleuo a’r camera celfydd, actio grymus (Owen Arwyn et al) a’r berthynas gynnes rhwng y ddau brif gopyn, Cadi John ac Owen. Mi fydd Sian Reese-Williams, gynt o Emmerdale a 35 Diwrnod III i’w gweld mewn cyfres oruwchnaturiol am fabi aeth ar goll flynyddoedd yn ôl ar rwydwaith y Bîb yn fuan hefyd – Requiem - cyfres wedi’i ffilmio’n ardal Casnewydd yn bennaf, ond hefyd llefydd randym eraill fel pentref Nelson ger Caerffili, a Dolgellau! Cast Seisnig ar y naw ar yr olwg gyntaf, Awstraliad a llond llaw o’r natives (Sian, Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington a Dyfan Dwyfor) a chynhyrchiad ar y cyd â Netflix, sy’n sicr o ddenu gwylwyr rhyngwladol. 




Mae’n debyg bod y Geordies-smâl ar Vera yn gwylltio/poeni’r brodorion fyny fan’cw hefyd, ond dw i’n ffan fawr o Brenda ‘Pet’ Blethyn a chriw Northumberland & City Police ers y gyfres gyntaf saith mlynedd yn ôl ac wedi darllen nofelau gwreiddiol Ann Cleeves ymhell cyn hynny. Unwaith eto, mae’r golygfeydd a’r gwaith camera yn cydio - gyda straeon yn mynd â ni o’r South Shields ôl-ddiwydiannol i arfordir gwyllt Bae Whitley ac Ynysoedd Farne, o weundiroedd gwyllt Northymbria i strydoedd slic Newcastle. Dw i’n cymharu prisiau hedfan/trên o Gaerdydd wrth deipio’r hyn o eiriau...




Ac mae dwy awr o’r ditectif rwsut-drwsut hon yn golygu ’mod i wedi dileu McMafia o’r amserlen nos Sul, ar ôl sticio efo hi am dair pennod. Am laddfa. Roedd y pendilio cyson o Lundain-ski i Foscow, ac o Brâg i Haifa a Monaco yn apelio i ddechrau, ond y plot slô bach ac ambell actor stiff (James Norton y darpar Bond wir!) yn llethu rhywun. I’r bin â hi felly, yn union fel Silent Witness. Rhyw berthynas garu-gasau fuodd rhyngof i a’r patholegwyr drama erioed, a tydw i heb ei chymryd o ddifrif ers sgetsh enwog French & Saunders, ‘Witless Silence’ flynyddoedd yn ôl. Mae Emilia Fox yn bwrw iddi’n syth o foutique drytaf Knightbridge i ddatrys cliwiau a sarnu heddlu lleol, yn cael ei hun mewn anturiaethau annhebygol o Fecsico i Dde Affrica, ac yn llwyddo i roi’r farwol i bob ffrind agos neu gariad posib. Digon yw digon, BBC.


Mae Kiri yn dal i ennyn diddordeb bob nos Fercher hefyd. Un fantais yw mai cyfres fer o bedair yw hi, ac mae Sarah Lancashire wastad yn apelio (er dyw brodorion Bryste ddim cweit yn siŵr beth i’w wneud o’i hacen Vicky Pollard-aidd chwaith). Wrth gwrs, mae wedi pechu gweithwyr cymdeithasol yn uffernol yn ei phortread o ddynes sy’n mynd â’i mwngral i’r gwaith ac yn cadw fflasg o wisgi gyda’i llyfr achosion. Ac mae’n hwyl chwarae gêm “mi wela i... Gaerdydd” weithiau, yn enwedig y swyddfa heddlu ganolog ym Mharc Cathays.


Drymlwythog o ddramâu


Blwyddyn newydd, cyfresi newydd. A ’wannwl dad, mae yna gymaint ohonyn nhw dw i wedi gorfod chwynnu’r hen focs Sky+ er mwyn gwneud lle i gyswllt-cyfresi newydd. Mae gen i dri llyfr ar waith fel mae hi – 100 Lle i’w gweld cyn Brexit Aled Sam, Stalin’s Ghost Martin Cruz Smith, Myfi, Iolo Gareth Thomas. A dw i ar dân eisiau prynu Porth y Byddar Manon Eames a gafodd glod a bri gan darllenwrs Y Silff Lyfrau ('blaw Catrin Beard) yn y ciw hefyd.

Dyma’r uchafbwyntiau fesul noson, sy’n help garw i gadw rhywun yn y tŷ gydol fis Ionawr sych a thlawd:

Nos Sadwrn - ydi, mae’r diguro Spiral yn byrlymu mynd ar BBC Four am ddwy awr, ond mae BBC One yn cynnig rhywbeth go flasus hefyd. Hard Sun, drama ias a chyffro â sawl tro diddorol yn ei chynffon, gyda ditectif yn ymchwilio i dditectif arall, hacwyr a sbïwyr M15 a wnaiff unrhyw beth i gadw cyfrinach ofnadwy dan eu belt - sef mai dim ond pum mlynedd sydd gan y ddynoliaeth tan y bydd y ddaear yn llosgi’n golsyn. Mae’n symud ffwl pelt, yn hynod dreisgar ar brydiau a sili ar adegau eraill (blychau ffons BT yn Llundain unrhyw un?) a pherthynas afaelgar rhwng y ddau brif actor, y cyn fodel Agyness Deyn a Jim Sturgess sy’n trio braidd rhy galed i fod yn geezer. O, ac mae gan ein Owain Arthur ni ran fechan ynddi hefyd.

Nos Sul - mae heno’n boncyrs. McMafia ar y Bìb, fersiwn ddramatig o lyfr ffeithiol Misha Glenny, gyda James Norton (Bond posib?) yn chwarae rhan brocer ariannol sy’n ceisio’i orau glas i gadw ar y llwybr cul fel aelod o deulu o Rwsiaid alltud yn y Ddinas - cyn methu’n rhacs wedi ymosodiad ciaidd ar ei ewythr hoff, a chael ei sugno i fyd troseddu rhyngwladol. Mae hon at fy nant i, fel cyfres fyd-eang sy’n gwibio o Lundain i Foscow, Prague a Tel Aviv hyd at Ynysoedd y Cayman, ac yn darlunio bywyd bras y gangstyrs law yn llaw ag uffern y diwydiant masnachu pobl. Draw ar ITV, mae wythfed cyfres o Vera mor draddodiadol â chinio Sul, y golygfeydd o Northumbria yn hyfryd a Brenda ‘Pet’ Blethyn yn gysurus braf yn ei rôl a’i chot law Columbo-aidd o flêr. Dewis saffach, mwy canol y ffordd efallai. A draw ar S4C, mae aelod diweddaraf o’r genre CymruNoir, Craith wedi’i gosod ym Môn ac Arfon. Ditectif yn dychwelyd i’r ardal wed pwl o weithio i ffwrdd? Lot o olygfeydd o’r arfordir gwyllt a thyddynnod anghysbell? So far, so feri Y Gwyll. Ond fe ddwedodd Sioned Williams, adolygydd Barn a Dewi Llwyd ar Fore Sul y byddai hon yn apelio lot mwy na’r gyfres CardiNoir. Adolygiad i ddod...

Nos Lun – mae’r Silent Witness fytholwyrdd yn 21ain oed eleni ac yn ôl am gyfres newydd am batholegwyr honco bost sy’n anwybyddu pawb, yn dweud wrth blismyn beth i’w wneud ac yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd byw-neu-farw bob wythnos. Mae’n wfftio pob hygrededd ac yn llwyddo i ’nghorddi bob tro, ac eto, damia dw i’m cweit yn methu rhoi’r gora i weld beth wnaiff Dr Nikki Alexander (Emilia Fox) a’i chriw nesaf.

Nos Fercher - mae unrhyw beth gyda Sarah Lancashire yn werth son amdano, a byth ers dwy gyfres ysgubol o Happy Valley (gweler hefyd Mr James Norton), hi yw fy hoff actores Saesneg. Heno, ar Channel 4, mae’n serennu fel gweithwraig gymdeithasol o Fryste sydd dan y lach cenedlaethol a’r wasg ddi-ildio wedi i ferch fach groenddu o’r enw Kiri sydd dan ei gofal fynd ar goll. Y cyfarwyddwr o fri, Euros Lyn (Y Llyfrgell, Sherlock, Broadchurch) sydd wrth y llyw, felly mae'n argoeli'n dda iawn iawn.

Gyda llaw, ffilmiwyd rhannau o’r ddrama yn y De-ddwyrain, ac fe gafodd ei chyllido gan Lywodraeth Cymru. Os felly, pam ddim mynnu mai Cymru ac nid Gwlad yr Haf ydi gwir leoliad y gyfres, fel rhan o amod gwariant Llywodraeth y Bae? Tydi Channel 4 ddim yn malio tatan am Gymru fel arall.