O Nairobi i Bwllheli


Mae’n destun rhyfeddod cyson i mi. Dyma ni, yn lleiafrif bregus o ryw hanner miliwn yn ein gwlad ein hunain ac eto’n weddol amlwg ar hyd a lled y byd. Mae adran newyddion y BBC bob amser yn llwyddo i ganfod Cymry Cymraeg alltud i ddweud yr hanes o lygad o ffynnon. Cawsom safbwyntiau nifer o Gymry America yn ystod moment fawr Barack Hussein Obama II wythnos ddiwethaf. Ac mae cyfres ddogfen O’r Galon eisoes wedi portreadu nyrsys Cymraeg yng nghanol anialwch Afghanistan, a theulu o Kenya sydd wedi ymgartrefu ym Mhen Llŷn. Mae ymchwilwyr Cwmni Da yn haeddu medal!

Llwyddodd Canfod Hedd i ennyn chwilfrydedd o’r cychwyn cyntaf. Agorwyd gyda golygfa o Gymro Cymraeg canol oed yn tyngu llw o ffyddlondeb i’w Mawrhydi ac yn addo bod “yn deyrngar i’r Deyrnas Unedig a chyflawni dyletswyddau a rhwymedigaethau fel dinesydd Prydeinig”. Dyma ddeall wedyn bod Hedd Vaughan Thomas yn cymryd rhan yn seremoni ddinasyddiaeth Cyngor Gwynedd. Roedd yn dychwelyd i’w gynefin gyda’i deulu, wedi chwarter canrif o wneud gwaith dyngarol yn Affrica. Y prif sbardun oedd ansicrwydd gwleidyddol Kenya ar y pryd, a’r awydd i sicrhau sefydlogrwydd ac addysg dda i’w blant.

Aeth y camerâu â ni am dro i bentref genedigol ei wraig, Jane, yng nghysgod Mynyddoedd Aberdâr, Kenya. Gwelsom y teulu cyfan yn mwynhau bwyta, darllen a chwarae gyda chriw hyfryd o hapus mewn ysgol i blant anystywallt yn Mahali Pa Watoto. Roedd eironi’n drwch drwy’r rhaglen. Esboniodd Hedd fod gweithwyr yn tendio a thacluso cartref a gardd y teulu yn Nairobi - ym Mhwllheli, roedden nhw’n gorfod gwneud popeth drostynt eu hunain, a dysgu defnyddio peiriant golchi dillad am y tro cyntaf erioed! Ond yr eironi fwyaf oedd mai Hedd oedd yn methu â setlo a ffeindio swydd ym mro ei febyd, yn wahanol i’r merched. Cafodd Jane ei wraig swydd yn gofalu am yr henoed, ac aeth y ddwy ferch ati i feistroli’r Gymraeg cyn pen dim. Gwelsom Lydia, 18 oed, yn canu gyda pharti Coleg Meirion Dwyfor yn Eisteddfod yr Urdd; a Rebecca, disgybl 16 oed yn Ysgol Glan y Môr, yn canu clodydd Rownd a Rownd!

Rhyw deimladau cymysg a gafwyd i gloi. Dywedodd Hedd fod y plant wedi profi rhywfaint o hiliaeth, yn union fel y wynebodd yntau ragfarn fel dyn gwyn yn Nairobi. Pan ofynnwyd i Jane a oedd hi’n hapus yn ei chartref newydd, dywedodd ei bod yn iawn ble bynnag yr âi Hedd a’r merched. Ac roedd Lydia yn hiraethu am ei mamwlad o hyd. Toedd Kenya ddim yn berffaith, meddai, ond dyw Cymru ddim chwaith.