Posts

Showing posts from March, 2010

Bws i Nunlla

Image
Wedi pinacl fawr Gŵyl Ddewi ar S4C, a phleidlais gyhoeddus a buddugol gan bobl Llanrwst, sori CYMRU, fydd Cân i Gymru ddim yn mynd ymlaen i Eurovision y Celtiaid wedi’r cwbl. Yn ôl y sôn, tydi’r cyfansoddwr, y Bonwr Tan Lan ddim yn gallu fforddio’r daith i An Daingean (Dingle) wedi’r cwbl er gwaetha’r wobr hael o £10,000. Tydio heb glywed am docynnau rhesymol SailRail, a’i bodio hi wedyn am Swydd Kerry fel pob roc a rolar gwerth ei halen. A chaiff Tomos Siop Jips ddim canu ‘Bws i’r Lleuad’ heb fand Tan Lan… er nad ydw i’n cofio gweld ei fand ar lwyfan Venue Llandudno ar noson y gystadleuaeth chwaith. Ta waeth, mae pobl Llanddoged wrthi’n gwerthu tocynnau raffl fel slecs rownd yr ardal i sicrhau bod Tomos Wyn yn gallu cynrychioli Cymru yn Werddon, trwy ganu cân wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan enillydd y llynedd, Elfed Morgan Morris (a oedd, gyda llaw, wedi dewis 'Deffra' Gai Toms fel ei hoff ddewis). Hei lwc iddyn nhw, ond alla i ddim peidio â theimlo fod y gwylwyr a ffoniodd…

Radio Rwtsh

Image
Dyma fwrw golwg achlysurol ar berlau ieithyddol Radio Cymru. Mewn eitem ar oleuadau traffig diddiwedd – sori, ffordd osgoi’r Bontnewydd-ar-wy, Powys - ar y Post Cyntaf y bore ’ma, dywedodd ein Dirprwy Brif Weinidog hoff fod ei lywodraeth yn ymrwymo "i ddelifro’r sgîm hwn". Wel dýn, Ieu.

Cwlwm (newyddion) Celtaidd

Image
“Noswaith dda. Dyma newyddion Cymru o stiwdios Bangor, Gogledd Iwerddon…”

Swnio’n wirion bost? Ddim felly, yn sgil cyhoeddiad yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan heddiw mai partneriaeth rhwng darlledwr newyddion annibynnol Ulster a chwmni North Wales Newspapers Media sydd wedi ennill y tendr i gymryd lle newyddion ITV Wales ym mis Hydref eleni. Mae’n debyg fod tim Wales Liveyn bwriadu agor stiwdio yn yr Wyddgrug a manteisio ar safle Chroes Cwrlwys o bosibl. Mae gan y cwmni record llwyddiannus iawn yn y Dalaith mae’n debyg, gan ddenu 34% o gyfran gwylwyr Gogledd Iwerddon o gymharu â 26% sy’n troi i wylio BBC Newsline. Yn ol y broliant, maen nhw’n gaddo pecyn newyddion eang dan fanter Wales Live, yn newyddion teledu, radio, papur newydd ac ar-lein, dros gyfnod peilot o ddwy flynedd. Tipyn mwy cyffrous ac uchelgeisiol na gwefan dila ITV Wales Tonight ar hyn o bryd, felly. Ac mae’r ffaith fod cwmni o’r Gogledd yn rhan o’r bartneriaeth newydd yn siwr o blesio’r nort…

Ddy Ff**** Countdown!

Image
Roedd 'na wynebau cochion ar raglen gwis fytholwyrdd Channel 4 wythnos hon pan ymddangosodd y llythrennau canlynol ar y bwrdd. Unrhyw awgrymiadau?

Cymdogion chwarter canrif

Image
Gyda sylw mawr i ben-blwydd arbennig sioe sebon y Cocnis, mae ond yn iawn i’r Aussies gael mensh hefyd. Ydy, mae’n chwarter canrif ers i gymdogion clên Ramsay Street o Felbourne braf, gyrraedd ein cartrefi, gyda bêbs mewn bicini, pishyns efo pyrms, setiau sigledig a phlotiau simsan. Roedd cymeriadau cofiadwy fel Madge a Henry, Scott, Mike a Plain Jane Superbrain, Des a Daphne, Helen ein nain ni oll, Mrs Mangle fusneslyd a Bouncer y labrador bach del, yn rhan mor amlwg o f’arddegau â phlorod a chaneuon INXS - heb sôn am ryw hogan gwallt cyrls o ’Stiniog. Cofio dotio o glywed Pam Willis (y Gymraes Sue Jones) yn dweud brawddeg Gymraeg am ryw reswm anesboniadwy. Ac yn nyddiau coleg wedyn, glafoerio dros Annalise a Beth a rhyfeddu pan ddaeth Harold Bishop yn ôl o farw’n fyw pan roedd pawb arall yn tybio ei fod wedi boddi’n ochra Tasmania. Boddwyd y sioe wedyn gan glôns o bobl ifanc a ddewiswyd am eu phwwwwwwoargh ffactor yn hytrach na’u dawn actio, collais innau a’r BBC ddiddordeb, a symud…

Bobol bach!

Image
Peidiwch â chyffroi na chredu’n ormodol mewn beirniaid teledu. 'Ffernols celwyddog ydyn nhw. Achos pan ddatgelodd Derfel, adolygydd teledu Leri a Daf ar Radio Cymru yn ddiweddar, fod wyneb cyfarwydd o’r gorffennol yn dychwelyd i Gwmderi, mi aeth fy nychymyg yn drên. Grêt, meddyliais. Os ydi Neighbours yn gallu denu Paul Robinson yn ôl, ac Eastenders yn llwyddo i aduno Carol Jackson â’i chlan chavllyd, siawns y gallai cynhyrchwyr Pobol y Cwm chwifio siec swmpus o flaen cyn-gymeriad poblogaidd. Tybed ai Mrs Mac fydd yn dod adre ar ôl i’r dirwasgiad roi’r farwol i Bar Jean yn Sbaen? Neu Kath Jones yn dychwelyd i warchod ei mab a’i hwyr hoffus rhag Debbie ddieflig? Dic Deryn (Ifan Huw Dafydd) neu Meira (Sara McGaughey) hyd yn oed? Mae hen hanes rhwng y ddau heb sôn am gysylltiadau teuluol yn Dai Sgaffalde a theulu Penrhewl a Siop y Pentre? Neu Lisa (Beth Robert), y gnawes orau a welodd y Cwm erioed?

Ond na. Roedd y gwirionedd yn gymaint o siom â’r Chwe Gwlad i Gatland eleni. Yr enw maw…

Y ddinas fawr ddwys

Image
Croeso i Gaerdydd 2010. Prifddinas fodern, gyffrous, 24/7, sy’n hudo Cymry Cymraeg ifanc o’r bröydd traddodiadol i fwynhau’r bywyd bras ar lan afon Taf, ymuno â chlîque CFCanna a thafarn y Fuwch Ddu, llosgi'r cerdyn credyd yn John Lewsyn a slochian siampên a sushi yn y bur hoff Fae? Wel, nid i gymeriadau’r ddrama gyfres Caerdydd beth bynnag, a ddychwelodd i’n sgriniau am y tro olaf nos Sul. “Mae’r diwedd yn dechrau” meddai cyflwynydd clogyrnaidd y sianel yn ei Wenglish gorau – pan fyddai “dechrau’r diwedd” yn swnio ganmil gwell a naturiol.

Ta waeth, mae bywyd y brifddinas wedi hen golli sglein i’r criw gwyllt a arferai fwynhau partis cocên a chwarae doctors a nyrsys yn nhoiledau’r Cynulliad. Mae Sara’r athrawes mewn gwewyr meddwl ynglŷn â’i charwriaeth ryfedd â Jamie sy’n pendilio rhwng y ddau ryw; Lea ddagreuol yn poeni fod rhywun wedi cipio a lladd ei bachiad diweddaraf; Emyr yn mynnu mai lojar ei ffrind gorau a ymosododd yn giaidd arno yn ei gartref; a Kate yn chwarae hefo tân w…

Doctor! Doctor!

Image
Mi fydd Pasg eleni'n golygu lot, lot, mwy na chroesholi ac atgyfodi, wyau siocled a byns y Grog (hot cross buns yn ôl Cysill!!). Bydd tad! Achos nos Sadwrn, 3 Ebrill 2010, bydd Matt Smith (27 oed ac yn debyg i ryw ddarpar athro daearyddiaeth) yn camu allan o’r tardis fel y Doctor ’fenga erioed gyda’i gydymaith gwallt coch Amy Pond (Karen Gillan 22 oed). Ac er y bydd yna dardis, logo a chyfarwyddwr gweithredol a phrif awdur newydd yn Steven Moffat, mi fydd yr hen ffefrynnau fel y Daleks a’r Cyberddynion – heb anghofio’r golygfeydd o Gaerdydd a’r cyffiniau – yn dychwelyd i’n dychryn a’n difyrru. Amser a ddengys os byddwn ni'n hiraethu am fersiwn manic David Tennant o'r Doc... ond am y tro, mae'r antur a'r cyffro arallfydol ar fin cychwyn!
Diawl o barcio sal! Y Tardis tu allan i Cineworld, Caerdydd, adeg premiere byd o'r bumed gyfres gan BBC Cymru Wales

Bywyd a chyfresi newydd

Image
Mae ’na si bod gwanwyn yn y tir o’r diwedd. Un cliw oedd rhaglen nosweithiol hyfryd Lambing Live ar BBC2, lle’r oedd y cyflwynydd brwd Kate Humble a llond sied o gamerâu yn dangos teulu’r Beavan yn ei chanol hi ar eu fferm yn Llandeilo Gresynni ger y Fenni. Rhyfedd na feddyliodd S4C am syniad tebyg cyn hyn, gyda Dai neu Daloni wrth y llyw. Ar y llaw arall, berig na fyddai’r cynulleidfa wledig, graidd, yn gwylio a hwythau dros eu pen a’u clustiau mewn brych a llaeth colostrwm – a ddim yn ffansio gweld yr un peth ar y bocs bach wrth gael paned a phum munud bach cyn y shifft nesaf.

Dechreuodd llu o gyfresi newydd i gyd-fynd â’r tymor newydd. Pethe yw’r rhaglen gelfyddydol ddiweddaraf (nos Fawrth am 8.25pm), gyda’r hen bennau eisteddfodol Rhun ap Iorwerth a Nia Roberts yn cyflwyno eitemau mor amrywiol o arddangosfa Kyffin i’r grefft o greu hen gwiltiau a sgwrs gyda’r Archdderwydd newydd. Digon difyr, heb os, ond llawer mwy ‘saff’ a chanol y ffordd nag arlwy arferol Sioe Gelf gynt. Mae ’na …

O Blasturton i Iet y Bompren

Image
Haleliwia! mae’r ddrama Gymraeg wedi dychwelyd i slot arferol nos Sul. Ac mae’n amlwg fod rhywbeth go arbennig ar y gweill, wrth i S4C ein pryfocio trwy fflachio’r teitl Cwcw adeg egwyl rhaglenni. Deall wedyn mai fersiwn dwy ran o ffilm 165 munud gan Delyth Jones ydi hi mewn gwirionedd, a enillodd deitl y ‘Ffilm Ryngwladol Orau’ yng Ngŵyl Ffilmiau De Affrica. Addawol iawn, felly. Ond petruso a phoeni rhywfaint wedyn o gofio fod BAFTA wedi mopio’n lân â babi arall Delyth Jones, Fondue Rhyw a Deinosors, yn y ddegawd ddiwethaf. Roedd honno, am dri chwpl yn chwilio am y bywyd gwledig nefolaidd a drodd yn uffern ar y ddaear, yn rhy honco bost i mi. Ond dyma benderfynu rhoi cynnig ar hon, a diolch bod ffilm Gymraeg newydd i’w chael o gwbl mewn cyfnod anodd drybeilig o golli cyllideb a gwylwyr.

Stori Jane Jones sydd yma (Eiry Thomas), sgriptwraig cyfres sebon symol o’r enw ‘Dr Gareth’ (olynydd ciami i Dr Elen a Glan Hafren, tybed?!) ac sy’n briod i brif seren y gyfres, Sam Llewelyn (Rhys Rich…

Lle hoffwn fod

Dydd Llun arall...

Cawl a Chân i Gymru

Image
Mae sbloets gerddorol ein diwrnod cenedlaethol drosodd am flwyddyn arall, ac wedi hollti’r gwylwyr Cymraeg (wel, rhyw ddwsin ohonom ni) fel arfer. Ie, diwrnod cawl a chân i Gymru. Mae’r fformat mor gyfarwydd ag erioed. Wyth ymgeisydd, panel X- Ffactoraidd dibwys o gantorion ddoe a heddiw, cynulleidfa’n clapio fel y cythrel dros fab Dilys siop jips o Lanbedinodyn neu ferch Eirlys y Post o Gwm-sgwt, cantorion cefndir camp, a dau gyflwynydd del ond braidd yn ddigymeriad. Ac er gwaetha’r holl ymdrechion i symud gyda’r oes trwy gynnwys band o ddarpar Gruff Rhysiaid ar y rhestr fer, doedd ganddyn nhw – a fydd ganddyn nhw – ddim gobaith mul o ennill. Cân i Gymru ganol y ffordd sy’n mynd â hi bob amser.

Iawn, mae’r cyfan yn edrych yn slic o broffesiynol fel arfer, ac roedd y teitlau agoriadol o logo CiG yn hofran dros olygfeydd eiconig o’r henwlad yn drawiadol dros ben - ond rhaid gofyn y cwestiwn – i be’n union? Ar ôl ennill cystadleuaeth ddrudfawr mewn stiwdio sgleiniog gerbron cynulleidfa d…

Cymru a Hollywood am byth!

Image
Matthew Ni a'i chwaer (Rachel Griffiths) a'i fam (Sally Field) yn Brothers and Sisters.

Onid yw teitlau rhaglenni’n gamarweiniol ar y naw? Daeth pecyn o dapiau cyfresi newydd S4C drwy'r post yn ddiweddar, a phan welais i’r teitl Mr Hollywood a Matthew Rhys ar glawr un ohonynt, mi suddodd fy nghalon. "Hei ho, dyma ni" meddyliais, "Rhaglen arwynebol Hello-aidd yn portreadu bywyd braf yr actor ifanc o Gaerdydd ar sét Brothers and Sisters yn heulwen Califfornia’ (More4, bob nos Iau am 10yh), meddyliais. Diolch byth, roeddwn i’n rong. Beth gawson ni mewn gwirionedd oedd rhaglen ddogfen eithriadol o ddifyr gyda stori gystal ag unrhyw ddrama dros ben llestri Americanaidd - ond bod hon yn wir bob gair. Stori ryfeddol am fab fferm Cymraeg a ymfudodd dros yr Iwerydd, dod yn filiwnydd ac yn dirfeddiannwr ardal lle saif arwydd eiconig ‘Hollywood’ heddiw.
Heddiw, mae gan Matthew Rhys ddiddordeb obsesiynol bron yn hanes Griffith Jenkin Griffith (1850-1919) o Ben-y-bont ar O…

'Stendyrs a'r Samariaid

Image
Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn i’n gyw-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, Llanrwst. Dyma flwyddyn cyhoeddi record gyntaf siwpyrgrwp y dref, Y Cyrff, a phan gynhaliwyd cyngerdd enfawr ‘Dwylo dros y Môr’ ym Mhrifwyl y Rhyl. Blwyddyn fawr clwb pêl-droed Dinas Bangor yn erbyn Atletico Madrid, a thrychineb stadiwm Heysel yng ngwlad Belg. A blwyddyn cychwyn cyfres sebon fwyaf drud ac uchelgeisiol S4C ar y pryd, ac un newydd sbon ar BBC1.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae Dinas wedi hen ddiflannu dan donnau Bae Caerdydd, tra bod Eastenders yn mynd o nerth i nerth. A nos Wener diwethaf, fe ddathlwyd mewn steil gyda phennod fyw i ddatgelu llofrudd diweddaraf Albert Square - sy’n addas o gofio mai marwolaeth hen drempyn agorodd y bennod gyntaf ym 1985.
Ydy, mae cyfres y Cocnis yn gyfystyr â chymeriadau’n dod yn ôl o farw’n fyw, a straeon tywyll a thruenus o ddigalon. Ac roedd y bennod arian yn enghraifft glasurol o hynny, gyda’r trigolion yn bytheirio a chyhuddo’i gilydd o ladd …

Rhwydd gamwr

Image
Croeso’n ôl i’r gyfres ddogfen ragorol O’r Galon, gyda’i straeon difyr, dadlennol ac amrywiol tu hwnt - o ymweliad teulu o Abertawe i wersyll-garchar aflan y Natsïaid lle lladdwyd eu mam-gu, i hanes Maer Cymraeg o Ddyfnaint sy'n byw bywyd i’r eithaf. 'Bywyd y Bugail' oedd testun rhaglen nos Fawrth diwethaf, gyda phortread hyfryd o Erwyd Howells, Capel Madog, yn nhopiau Pumlumon. Dyma un o fugeiliaid traddodiadol olaf Cymru, meddai’r llefarydd, sy’n dal i grwydro’r tiroedd anghysbell gyda’i gŵn defaid ffyddlon yn hytrach nag ar feic cwad. Roedd hi’n stori drist iawn ar yr olwg gyntaf - colli’i wraig yn greulon o ifanc yn 28 oed, a’i adael gyda mab a merch tair a phedair oed. Ond gyda chymorth teulu a chymdogion i fwydo a gwisgo’r ddau fach, a phrysurdeb y tymor wyna yn fuan wedi’r brofedigaeth lem, fe ddaeth drwyddi. Hynny, gyda “diolch tragwyddol” i bobl y fro. A heddiw, mae yntau’n ad-dalu’r diolch hwnnw trwy gyfrannu’n llawn at fywyd crefyddol a chymdeithasol gogledd Cer…

Pobol y Bae

Image
Mae’r datganoli mawr ar waith. Na, nid ym myd llywodraeth Cymru, ysywaeth. Mi fyddaf yn ganol oed ac yn dal i bechu pobl Treorci cyn y bydd palas pren a gwydrog Bae Caerdydd yn llwyr haeddu’r teitl Senedd. Ond mae yna bethau mawr ar y gweill yn nghongol arall o’r Bae. Wythnos diwethaf, clywsom am gyhoeddiad hynod gyffrous y Bîb i agor ‘pentref drama’ ar safle 27 erw yno, mewn cyfnod pan fo cymaint o gwtogi a cholli swyddi. Y nod yw symud actorion a chynhyrchwyr BBC Cymru Wales o stiwdios Llandaf i rai tipyn mwy modern a sylweddol yn y Bae, gan ddod â chriw Pobol y Cwm a theulu Doctor Who dan yr un to. Dychmygwch Rodfa Lloyd George fel Sunset Boulevard Cymru, ac enwogion megis Matt Smith a Gwyn Elfyn yn ciwio’n Cadwalladers. Bydd ffotograffwyr Golwg ac OK yn paffio am y lluniau gorau!

Ydy, mae bosus Broadcasting House yn mentro y tu hwnt i’r M25 - a’r ffaith eu bod dan bwysau i ddyblu cynyrchiadau o Gymru ar BBC Prydain gyfan erbyn 2016. Nid bod hynny’n golygu y clywn ni fwy o acenion C…