Pigion Sky+

Malcolm Ff*cin Tucker a'r criw

Berlin
BBC2, 8pm nos Sadwrn

Fersiwn Matt Frei, gohebydd newyddion y BBC, o hanes cyffrous, cythryblus a chwerw prifddinas ei famwlad – sydd wedi gweld newidiadau mawr o Oes Prwsia yn y ddeunawfed ganrif i flynyddoedd Hitler ac yna’r Rhyfel Oer.


The Thick of It
BBC2, 10.30pm nos Sadwrn

Be haru BBC2, yn neilltuo rhai o gyfresi gorau’r sianel i slot marwaidd nos Sadwrn? Diolch i’r drefn am beiriant recordio. Cipolwg deifiol o ddoniol ar sbinddoctoriaid San Steffan, yn seiliedig ar gymeriadau aflednais (am wn i!) Mandelsson a Campbell. Mae Nicola Murray (Rebecca Front), Gweinidog newydd adran DoSAC (Yr Adran Materion Cymdeithasol a Dinasyddiaeth) yn ceisio’i gorau glas i redeg y sioe er gwaethaf tîm anobeithiol wrth gefn a rhefru a rhuo rheolaidd Malcolm Tucker (Peter Capaldi), Cyfarwyddwr Cyfathrebu’r Blaid, sy’n rhegi dros yr Alban. Yes Minister ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ff*cin gwych.

True Blood
Channel 4, 10pm nos Fercher
Drama gomedi-dywyll mwyaf gwaedlyd a rhywiol y sgrin fach ar hyn o bryd.

Gavin and Stacey
BBC1, 9pm nos Iau

Mae allforyn teledu Saesneg mwyaf Cymru ers, ym, Ivor the Engine, yn ôl! Ar ôl dechrau digon tawel ar BBC Three, dyrchafiad i borfeydd brasach BBC Two ac uchelfannau poblogaidd BBC One, mae’r gyfres am deulu a ffrindiau ecsentrig y cwpl o Ynys y Barri a Billericey, Essex, yn dod i ben am byth… ar wahân i ambell bennod arbennig bob Dolig, decini. Tidy!

Blodau
S4C, 9pm nos Sul
Nid un o ddramâu newydd gorau S4C o bell ffordd, ond mae’n berffaith ar gyfer nos Sul. Hamddenol braf, er yn dueddol o dindroi braidd gyda stori Cat a Paul. Mae Llandudno yn edrych yn fendigedig (hysb-bys gwych i’r Bwrdd Croeso, heb y tagfeydd difrifol arferol na’r byseidiau o bl-rins-brigêd Swydd Gaerhirfryn na chavs Merswy-a-Manceinion yn llygru’r prom), ac yn siŵr o’ch suo i gysgu cyn diwrnod gwaetha’r wythnos waith newydd

I’m a Celebrity get me out of Strictly Fferm Ffactor
BBC/ITV/S4C
Calliwch!

Pobol od ar y naw


Os ydych chi wedi cael hen ddiflasu ar ddilyw di-baid fis Tachwedd, beiwch Dafisiaid Treffynnon! Does ganddyn nhw ddim iot o ddiddordeb mewn achub y blaned, na chyfrannu at darged Llywodraeth y Cynulliad o ailgylchu 70% o holl wastraff y wlad erbyn 2025. Nhw yw unig deulu’r stryd sy’n rhy ddiog i ddidoli, ac yn taflu popeth i’r bin du. Ond bwriad rhaglen realaeth ddiweddaraf BBC Cymru-Wales yw newid eu hagwedd a’u hymddygiad yn Changing Lives: Going Green (bob nos Lun) trwy eu hanfon i bentref ecogyfeillgar yn ardal Llanfyllin - neu “Extreme Green Community”, chwadal y rhaglen. Cyfle felly i ffeirio’u dau gar am feics, yr Xbox am sesiynau ioga, a bwydydd pecyn o bendraw’r byd am gynnyrch organig lleol. A sôn am sioc i’r system, wrth Tim, Gaynor a’u dau o blant gyrraedd eu cartref newydd ac i foethusrwydd yr iwrt, rhyw fath o babell Fongolaidd. Ond toedd hynny’n ddim o gymharu â’r braw o weld y cyfleusterau en-suite arbennig, sef can dŵr dros dwb sinc. Er hynny, roedd y tad wedi cael rhywfath o dröedigaeth erbyn diwedd y rhaglen, ac yn canmol eu ffordd syml o fyw heb orfod poeni am oriau gwaith hir a’r biliau beunyddiol. Cawn weld a fydd yn teimlo’r un fath wedi pythefnos o wagio’r tŷ bach yng ngwaelod yr iwrt.

Mae’n rhaglen debyg iawn i lu o gyfresi ‘gwyrdd’ S4C, yn enwedig Cwm Glo Cwm Gwyrdd - ac roedd y teitlau agoriadol yn gopi uniongyrchol bron o’r cyfresi Cymraeg. Ond lle’r oedd Iolo Williams yn tra-arglwyddiaethu ar honno, mae’r gyfres Saesneg yn gadael i’r teulu adrodd yr hanes. Yn anffodus, mae’r gyfres yn porthi’r ddelwedd ystrydebol o’r gwyrddion fel pobl ddŵad, od ar y naw. Cafwyd cyfweliadau gydag Albanwr o wehyddwr a merch ifanc a ffodd o straen bywyd Llundain. Ac roedd Steve Jones, arweinydd y gymuned ecogyfeillgar, yn llawn rwtsh ystrydebol gyda’i “sustainability” a’i “non-consumerism options”. Un eironi bach difyr oedd bod Steve Jones yn gyrru hen gronc o Range Rover sy’n siŵr o lygru mwynder Maldwyn. Gyda llaw, pob clod i’r cynhyrchwyr am gofio am gynulleidfaoedd y gogledd-ddwyrain, a dewis teulu o’r parthau anghofiedig hynny yn lle dibynnu ar gymeriadau Caerdydd a’r cymoedd bob tro.

Sôn am ailgylchu, mae Hywel Llywelyn yng nghanol affêr diweddaraf Cwmderi eto, er bod yr hen gi’n ddieuog y tro hwn. Er gwaethaf dagrau diddiwedd Ffion, mae’n anodd cydymdeimlo â’r athrawes gwynfanus a Cai Rossiter - cwpl lleiaf hoffus Pobol y Cwm. Maen nhw’n haeddu’i gilydd, ys gwedodd Anti Marian!

Llandudno-sur-Mer


Ooh la la! Mae yna naws gyfandirol i ddrama newydd nos Sul ar sianel TF1. Dechreuodd y cyfan gyda Audrey Tatou mor ciwt ag erioed, yn beicio o amgylch strydoedd tref glan môr ddechrau’r haf, cyn ymuno â llond tram hen ffasiwn o ffrindiau a pherthnasau siriol i briodas ei thad. Ac yn y canol, mae cryn dipyn o tête-à-tête a misdimanars rhywiol rhwng pishyns ifanc a genod chic i gyfeiliant acordion ysgafn. Ond howld on Now John… maen nhw’n siarad Cymraeg. Ac ai Penygogarth, Stryd Mostyn a Phier Llandudno ydi fan’no?! Sacre bleu?! Beth uffar sy’n digwydd?

Iawn, oce. Dyna ddigon o chwarae ar eiriau Ffrengig mewn acen Allo Allo-aidd amheus am y tro. Drama S4C ydi Blodau. Ac nid yr hyfryd Mademoiselle Tatou sy’n reidio beic â basgedaid o lilis gwynion, ond Lili (Rhian Blythe). Roeddwn i wedi drysu’n llwyr efo’r myrdd o gymeriadau a ymddangosodd yn chwarter cynta’r rhaglen gyntaf. Beiwch y cythrel Simon Cowell ’na. Roeddwn i’n gandryll efo fi’n hun am fod yn gandryll efo Cowell a’r criw am anfon Elin Fflur Pen-tyrch adre’n gynnar o syrcas garioci ITV, yn hytrach na’r ddau leprechaun sbigogfelyn didalent. Felly, pan ddaeth drama newydd Cwmni Da ymlaen, roeddwn i wedi drysu’n lân efo’r myrdd o gymeriadau a ymddangosodd yn chwarter cynta’r rhaglen gyntaf, ac yn chwys domen o gwestiynau. Pwy ’di pwy? Pam gythraul fod Carys Gurkha Tipyn o Stad wedi’i phlastro mewn basg-a-sysbendars ar hysbysfyrddau Lerpwl? Ac a fydd Dafydd Dafis yn canu ‘Tŷ Coz’ i gyd-fynd â thema Ffrengig anesboniadwy’r bennod?

Yn anffodus, dwi’n nabod sawl gwyliwr wnaeth roi’r gorau iddi ar sail y cyhoeddusrwydd cychwynnol heb sôn am y bennod gyntaf. Ond yn rhinwedd y golofn hon, trois i wylio’r ail bennod i geisio dallt y dalltings. Diolch am hynny, a diolch byth fod y cymeriadau’n dechrau ennill eu plwyf. Nos Sul diwethaf, roedd cyfeillgarwch bore oes Lili, Cat a Paul dan fygythiad ar ôl i Paul roi gormod o sylw personol i un o’i gleientiaid ffasiwn, yr über-ast Lucinda Barclaise (Gwenno Elis Hodgkins). Roedd digon o gymhlethdodau carwriaethol eraill i ddenu sylw, gyda Wyn, brawd Lili yn ceisio dianc o grafangau’r maffia lleol wedi bachiad un noson; a Dan (Siôn Wyn Fôn, wyneb newydd) y pencampwr rasio beics â’i deimladau’n pendilio rhwng ei gariad Jess (Fflur Medi Owen) a’i brawd o bysgotwr, Rich (Dyfrig Evans). Mae’n braf gweld doniau lleol fel Fflur Medi Owen ar y sgrîn, er bod mwy o stamp Waunfawr na West Shore ar acenion y cymeriadau. Ond y prif gymeriad, heb os, yw tref Llandudno ei hun, sy’n edrych mor ddeniadol â’r cast ifanc.

Un pwynt bach i gloi. Beth ydy’r obsesiwn gyda dinas Lerpwl? O leiaf bydd Dail y Post a D. Ben Reesiaid y byd yn falch o’r holl sylw a’r statws honedig fel prifddinas y gogs.

Byw yn yr Ardd (Fotaneg)

Mae'n debyg fod David Tennant wedi canu clodydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar ôl bod yno'n ffilmio'r gyfres fer olaf o Doctor Who gydag ef wrth y llyw. Mae'n edrych yn arswydus o dda fel arfer, ac mae'n amlwg fod y Bîb wedi bygro'r dirwasgiad a gwario cryn dipyn o bres ar effeithiau arbennig a gwesteion tra-arbennig fel Lindsay Duncan. Ymlaen a'r sioe!



DOCTOR WHO: The Waters of Mars, 7pm nos Sul, 15 Tachwedd.

Ugain mlynedd yn ôl



“Achtung! Sie verlassen jetzt West-Berlin”

Dyna’r geiriau sydd ar fagnet oergell a brynais ym mhrifddinas yr Almaen ddwy flynedd yn ôl. Fe’i cefais mewn siop sothach ar safle’r hen ‘Checkpoint Charlie’ dan ei sang o ymwelwyr, a oedd yn tynnu lluniau o ddynion mud mewn lifrai Americanaidd a Sofietaidd neu’n cael gwibdaith mewn Trabants pinc llachar. Buasai’r fath beth yn amhosibl dros ugain mlynedd yn ôl.

Oes, mae gen i ddiddordeb byw yn hanes y Llen Haearn a’r newid mawr a fu, ac felly roedd yna gryn edrych ymlaen at raglen arbennig Wal Berlin gydag Ifor ap Glyn i gofio am gwymp 1989. Ry’n ni i gyd yn hen gyfarwydd â’r lluniau archif o drigolion dwyrain Berlin yn neidio o ffenestri’u fflatiau i freichiau diogel dynion tân y gorllewin, cyn i’r wal gau amdanynt ym 1961, heb son am y delweddau erchyll o’r rhai a laddwyd gan fwledi’r giards neu a waedodd i farwolaeth ar weiren bigog y ffin. Ond y cyfweliadau personol oedd fwyaf diddorol, yn enwedig â Jina Gwyrfai a Sabine Heinz mewn Cymraeg rhugl. Synnais fod Sabine, fel sawl un arall o’i chydwladwyr, yn dal i gael pwl o Ostalgie - hiraeth am hen ddyddiau’r DDR - gwlad a froliai un o systemau addysg gorau’r byd, a lle’r oedd diweithdra a throseddau yn brin (neu o’r golwg). Roedd eraill yn anfodlon mai gorllewin yr Almaen sydd wedi elwa fwyaf ar ôl uno. Ond buan y mae pobl yn anghofio am ddyddiau’r Stasi, system heddlu cudd a oedd yn rhan anhepgor o baranoia’r dwyrain, system a oedd yn mygu rhyddid barn a meddwl y trigolion. Gweler ffilm wych
Das Leben der Anderen (The Lives of Others), ffilm dramor orau yng ngwobrau Oscar 2007, am effeithiau’r Stasi ar eu gwaethaf, wrth droi ffrindiau a pherthnasau i ysbio ar ei gilydd.


Does dim owns o sentimentaliaeth yn perthyn i’r hanesydd gwleidyddol a cholofnydd y Guardian,
Hywel Williams - Victor Meldrew hanes Cymru fodern. Mewn cyfres chwe rhan, Cymru Hywel Williams (fawr o ddychymyg yn fan'no) mae’n tynnu trigolion y “wlad fach od” hon i’w ben a chyhuddo’r dosbarth canol Cymraeg o ymdoddi a derbyn yn slafaidd ddisgwyliadau Lloegr fawr ohonom. Cyfeiriodd at enghreifftiau o hynny mewn hanes, o’r hen Uchelwyr Cymreig yn llyfu tîn Harri VII wedi’r goncwest fawr, yr élite Cymraeg yn clodfori Carlo adeg Arwisgiad 1969, a Llywydd cenedlaetholgar y Cynulliad yn croesawu’r Cwîn yn gynnes i agoriad swyddogol Senedd y Bae. Mae teitl Saesneg y sefydliad yn dweud cyfrolau - National Assembly for Wales - fel rhodd Llundain i'r taeogion dros Glawdd Offa. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at y drafodaeth banel i gloi’r gyfres ddifyr a ddadleuol hon!



Siarad rwtsh


Cyn cychwyn rhaglen arbennig Stiwdio gyda Kate Crockett wythnos diwethaf, a oedd yn canolbwyntio ar fywyd a gyrfa Dave 'Datblygu' R Edwards, cawsom air o rybudd gan gyflwynydd Radio Cymru: "...mae'r rhaglen hon yn cynnwys delweddau ac iaith gref.."

"Delweddau"? Ar y blydi weiarles? A'n helpo...

Hyn gan orsaf radio a roddodd berlau ieithyddol inni'n ddiweddar, fel "delifro" (gohebydd gwleidyddol), "colli lot o dew" (gohebydd bocsio yn trio cyfieithu "fat" am fraster y corff) a "gweithwyr sgiliedig" (gohebydd y Post Cyntaf).

A toedd Leri a Daf ddim yno ar y pryd!!

Does ryfedd 'mod i'n ffafrio Five Live y dyddie hyn.







Dychwelyd i Dallas

Tyrchwch eich hetiau Stetson a’ch shoulder pads o’r atig, a chwiliwch am yr hen fyg ‘I Shot JR’. Ydy, mae’r Ewings yn ôl. Deunaw mlynedd ers i’r gyfres wreiddiol fynd i’r fynwent operâu sebon yn y nen, mae sianel deledu TNT yn bwriadu canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf, sef John Ross (mab JR a Sue Ellen) a Christopher (hogyn mabwysiedig Bobby a Pam) - gydag ymddangosiadau cameo arbennig gan yr hen stejars Larry Hagman (sydd wedi heneiddio’n drybeilig), Linda Gray (sy’n edrych yn fythol ifanc a ffantastig yn 69 oed) a Patrick Duffy a’i Mercedes SL bach coch-heb-do gobeithio!

Pan roedd stori saethu JR ar ei anterth ym 1980, roedd saga’r teulu o farwniaid olew cyfoethog o Texas yn denu 360 miliwn o wylwyr byd-eang – cyn iddynt golli diddordeb ac amynedd ar ôl i Bobby ddod yn ôl o farw’n fyw yn y gawod ym 1986 ar ôl cael i’w chwaer-yng-nghyfraith yrru drosto a’i ladd flwyddyn ynghynt.

Er bod y syniad yn ddiddorol ac yn denu ton gynnes braf o hiraeth am nosweithiau Mercher ar BBC1 ’sdalwm, does dim sicrwydd y bydd yn llwyddiant. Hyd yma, mae’r ailbobiad diweddar o gyfresi Americanaidd o’r 70au a’r 80au fel Knight Rider, Bionic Woman, a 90210 mor boblogaidd â dramâu llwyfan Meic Povey ar y funud.

Ond bid a fo am hynny, mae’n esgus perffaith i glywed yr arwyddgan a’r teitl agoriadol eiconig unwaith eto… gyda’n gilydd rŵan - Dy-dy-dyyyy-dy-dy-dydydydy…





Gyda llaw, pa mor ciwt ydy Charlene Tilton??

Gorilas a gwleidyddion


Mae’r busnes troi clociau fel petai wedi sbarduno S4C i lansio cyfres newydd bob yn ail noson. Neithiwr, dychwelodd ymryson goginio boblogaidd Mr Newbury ac Emma Walford i chwilio am bencampwr y gegin yn Tigh Dudley, cam a naid fferi i’r Ynys Werdd. Pob parch i Swydd Gorc, ond mae’n dipyn o gwymp ar ôl coginio a chrasu dan haul Sbaen a’r Eidal yn y cyfresi cynt. Does dim gwirionedd yn y si mai o dref Dudley yn y West Midlands y daw’r gyfres nesaf, oherwydd dirwasgiad dwfn a pharhaus Prydain.

Siomedig braidd oedd Gofod, cyfres gylchgrawn newydd i’r ifanc (am wn i) bob nos Lun. Diffyg gwreiddioldeb oedd y broblem gyntaf. Dychmygwch bytiau o Sioe Gelf, Wedi 3 a Nodyn wedi’u cymysgu mewn powlen fawr, a dyna chi syniad o’r lobsgóws a gafwyd. Diffyg dolen gyswllt oedd yr ail broblem. Yr wythnos diwethaf, cafwyd eitem fer am dri aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi a redodd rownd Llundain mewn siwt gorilas, dros gorilas (peidiwch â holi); cip ar adroddiad ysgol Daf Du (peidiwch â holi eto); cyfres o gwestiynau absẃrd i Tudur Owen; Elin Fflur yn bysgio ar blatfform Bangor; ac Arwel ‘Hogia’r Wyddfa’ Jones yn codi cywilydd ar ei fab Daf Du a benderfynodd siarad Cymraeg sathredig mewn ymgais i ymddangos yn ‘cŵl’ ar ôl troi’r deugain oed efallai? Mae’r cyflwynwyr, Elen Gwynne a Gethin Evans - a’r gwylwyr - yn haeddu gwell.

Mi fuasai sawl un yn dadlau fod etholwyr hirddioddefus gwledydd Prydain yn haeddu gwell hefyd. Wedi pantomeim Nick Griffin a’r BNP, tro Jacqui Smith - y cyn-Ysgrifennydd Cartref a ddefnyddiodd ei hail gartref i gamfanteisio ar dreuliau Aelodau Seneddol - oedd bod yn gocyn hitio Question Time o Landudknow. Llandudno i chi a fi. Nid y byddech fawr callach chwaith, o glywed acenion Merswy a Manceinion y gynulleidfa. Ni lwyddodd hyd yn oed Elfyn Llwyd i roi stamp Cymreig ar y drafodaeth, gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yn gywilyddus o absennol o’r cyfan. Dyma golli cyfle aruthrol i addysgu’r garfan gref o Gymry sydd byth yn cael dos o wleidyddiaeth y Bae gan raglenni cynhenid fel Dragons’ Eye, Sharp End na Pawb a’i Farn. O leiaf roedd yr olaf, a ddaeth o Gaerfyrddin ar yr un noson, yn trafod y refferendwm hollbwysig i roi mwy o gig ar esgyrn sychion y ’Sembli. Ac nid sét newydd oedd syrpreis fawr y noson, ond galwad Felix Aubel - Tori egsentrig glân gloyw - am senedd â phwerau deddfu llawn i Gymru.






O'r buarth i'r Bwl


Rydyn ni’n cael ein difetha’n rhacs gan S4C y dyddiau hyn, gyda chyfresi newydd sbon am a welech chi. Roedd yna gryn edrych ymlaen yn nerfus braidd am Fferm Ffactor (Cwmni Da) wedi’r holl hys-bys, ac er gwaetha’r teitl ciami, roedd hon yn amgenach rhaglen na X Ffactor gyda welintyns. Er, roedd ambell steil a syniad wedi’i ddwyn o raglen garioci Simon Cowell hefyd - fel yr olygfa gawslyd braidd o’r beirniaid Dai Llanilar a Wynne Jones yn sefyll yn gadarn â’u breichiau wedi’u plethu yng nghanol niwl dramatig, a’r ‘Cab Cyffesu’ sy’n rhoi cyfle i’r cystadleuwyr ddweud eu dweud wrth y camera.

Mae’r deg sy’n ymgiprys am gerbyd 4x4 i gyd yn dod o ardaloedd y gorllewin - dim ymgeiswyr teilwng o fryniau Clwyd i Went tybed? Ond fe wnes i fwynhau ar y cyfan, a’r tasgau’n dwyn i gof ddiwrnodau cystadlaethau sgiliau fferm mudiad Ffermwyr Ifainc Eryri ers talwm. Ar ôl cwblhau tair tasg gan gynnwys hel mochyn o’r twlc i’r trelar ac ateb cyfres o gwestiynau mewn cadair Mastermind, cafodd pawb gyfle gan Daloni Metcalfe a’r beirniaid i ddychwelyd wythnos nesaf. Dim pleidleisio ffôn drud i’r gwylwyr, felly. Gobeithio y gwelwn ni fwy o gymeriadau a’r cythrel cystadlu wrth i’r gyfres fynd rhagddi. Ac i’r dilynwyr mwyaf pybyr o’ch plith, mae ’na hyd yn oed gwefan a thudalen ‘gweplyfr’ arbennig i gyd-fynd â’r cyfan.

Dychwelodd y mab fferm a’r comedïwr o Fôn i gyflwyno Tudur Owen o’r Doc bob nos Fawrth, gyda Dafydd Iwan a Glyn Wise yn rhannu’r soffa yn y rhaglen gyntaf. Gyda chymysgedd arferol o sgyrsiau ysgafn a thynnu coes y gynulleidfa, mae’n ffordd digon difyr o dreulio hanner can munud. Ac eto i gyd, dwi’n gweld eisiau’r hen PC Leslie Wynne sydd ond yn ymddangos bob Nadolig bellach.

Sôn am Ddolig (sori!), mae’n siŵr y bydd Gwenda (Sue Roderick) yn addurno’r Bwl cyn hir i geisio codi calonnau’r selogion a hybu’r dafarn yng nghanol dirwasgiad. Ydy, mae criw Ista’nbwl yn ôl i hollti’r gwylwyr megis Marmite. Tra ’mod i’n eithaf hoff ohoni, mae eraill yn wfftio’r ymgais ddiweddaraf i godi gwên yn y Gymraeg (gweler sgyrsfan
Maes-e am sylwadau di flewyn ar dafod!). Mae’r cyfeiriadau niferus at ddigwyddiadau’r wythnos, o ffasiwn Cheryl Cole i etholiadau’r Archdderwydd, yn ddifyr er nad bob amser yn llwyddiannus, a’r awduron weithiau’n canolbwyntio gormod ar fod yn ‘gyfoes’ ar draul y doniol.