Accéder au contenu principal

Articles

Affichage des articles du décembre, 2012

Ysbyty Plant

Llond dwrn o bethau sy’n fy ngwneud i’n anniddig y dyddiau hyn. Hysbysebion soffas Dolig, cymeriadau drama sy’n siarad mewn rhegfeydd, Aled Jôs yn gofyn i ni bleidleisio dros bersonoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru (“deiliwch y rhifa canlynol…”) ac unrhyw awgrym o greulondeb yn erbyn plant. Mae ’na ias oer yn mynd drwyddaf bob tro rwy’n gweld y plentyn bach dagreuol yn ei glwt mewn stafell oeraidd fudr yn hysbysebion NSPCC, ond mae’n amlwg eu bod yn effeithiol gan ’mod i bellach yn cyfrannu’n fisol at yr elusen honno. Mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf – o ddiflaniad torcalonnus April Jones i’r honiadau o dreisio a cham-drin yn erbyn “sêr” adloniant mwyaf Lloegr y 1970au a’r 1980au, a hyd yn oed stori bedoffeil Pobol y Cwm – yn anodd i’w stumogi.
Dwi’n teimlo’n anesmwyth iawn iawn o weld plant yn dioddef anhwylder neu’n gorwedd yn ddiymadferth dan fynydd o diwbiau mewn uned gofal dwys. Mae cydweithwyr byth a hefyd yn trafod rhyw raglenni fel One Born Every Minute Channel 4 neu H…

Y Dref

 Dwi wedi cael gorddos o ddramâu ar y teledu’n ddiweddar - yn hen ffefrynnau, ambell un newydd, a rhai tipyn gwell na’i gilydd. Mi fydd yna alaru mawr nos Sadwrn nesaf wrth i ni ffarwelio am y tro olaf un â’r darpar nain Sarah Lund a’i siwmperi enwog, ei hunigrwydd a’i harferiad gwirion o erlid llofruddion gefn liw nos niwlog mewn rhyw warysau mawr gwag neu goridorau grym tywyll København. Rhois gynnig ar Falcon, addasiad Sky Atlantic o nofelau Robert Wilson, gyda chast o Kiwis a Saeson yn cogio bod yn Sbaenwyr. Er bod y deialog yn giami ar brydiau, a gwastraff castio gydag actoresau clodwiw fel Kerry Fox ac Emilia Fox (dim perthynas) ond yn ymddangos mewn dwy dair golygfa ym mhob pennod, prif gymeriad ac apêl y gyfres i mi oedd dinas hyfryd Sevilla - cyrchfan bosib arall yn 2013 os bydd y cyfri banc yn caniatáu. Dinas yr Angylion ydi prif gymeriad Southland hefyd, chwip o ddrama sy’n debycach i bortread pry ar y wal o heddweision LA. Ond sioc a syndod ydi canfod bod yna ddrama gwert…

Bys ar bỳls y genedl

Rydyn ni i gyd wedi cwyno am law mawr eleni. Rhoddodd y tywydd ddampar ar ein haf, difetha ambell ddiwrnod yn Steddfod yr Urdd a chanslo sawl sioe amaethyddol leol. Ond beth ydi ychydig o fwd ar ein sgidiau a dillad gwlyb ar y lein o gymharu â gorfod diberfeddu’ch cartref yn sgil llifogydd? Rydyn ni i gyd wedi gwylio’r lluniau newyddion torcalonnus o bobl yn cael eu cludo mewn cychod, a stafelloedd byw yn drwch o laid a llaca, gan fwmial “diolch i’r drefn nad ni ydi’r rheiny” yn dawel bach i ni’n hunain. Ond gydag un o bob chwech cartref yng Nghymru mewn perygl, mae llai a llai ohonom yn saff rhag grym dinistriol natur… Dechreuodd adroddiad Gwyn Loader ar gyfer Y Byd ar Bedwar yr wythnos diwethaf wrth droed yr Wyddfa gan siarad â rhai o drigolion diymadferth Llanberis. Yn eironig, cafodd y rhaglen ei darlledu'r union noson pan drawyd Llanelwy yn ddifrifol. Prif fyrdwn y rhaglen oedd ailymweld ag ardal gogledd Ceredigion chwe mis ar ôl i Ifan y glaw adael ei farc yn fan’no, a holi r…

Ailgyfle i Alys

Mae’r trêlyrs wedi ymddangos ers sbel. Ar S4C, yn naturiol, ac ar ITV Wales hefyd mewn ymgais i ddenu’r di-Gymraeg. Mewn byd delfrydol â phwll diwaelod o bres, byddai hysbyseb ar dudalennau’r Guardian yn ogystal â Golwg, gan fod gohebwyr teledu a darllenwyr y papur newydd Saesneg hwnnw wedi mopio ar ddramâu wedi’u hisdeitlo o Ewrop. Yn y trêlyrs, cawsom olygfeydd montage o bobl yn brygowthan a sgrechian crïo, gyda merch galed fel haearn Dowlais yn eu canol nhw i gyd. Ydy, mae Alys yn ei hôl am ail gyfres. Flwyddyn union yn ôl, ni chreodd babi diweddaraf Siwan Jones fawr o argraff arna i yn sgil campwaith Con Passionate. Roedd rhai o’m cydnabod yn rhannu’r un farn, eraill wrth eu boddau gyda’r straeon amlhaenog, y cymeriadau cymhleth, a’r cipolwg tywyll iawn iawn y tu ôl i ddrysau caeedig y dosbarth canol Cymraeg. Ond gan fod drama deledu Gymraeg yn fwy o dderyn prin yn Oes y Toriadau Mawr, dyma roi cynnig arall arni.

Diolch i’r drefn, mae Alys, ei mab a’r parot wedi cefnu ar y fflatiau…

Magu mysls a moch gwlanog

Dychmygwch godi am bump y bore i dreulio rhyw awran ar felin draed. Bowlenaid o All Bran mewn dŵr – ia dŵr - ac omlet i frecwast cyn troi tua’r swyddfa o wyth tan bedwar. Sgrialu i’r gampfa wedyn am dair awr. Yna, adref am swper blasus o gyw iâr a letys fel swper neithiwr ac echnos, ciando, a gwneud yr un hen beth bore fory. A ta-ta i unrhyw fywyd cymdeithasol. Codi cyfog arnoch? Croeso i fyd codi pwysau Delyth Hughes o Lanfairpwll, byd o hyfforddiant haearnaidd ar gyfer cystadleuaeth corfflunio’r UK Bodybuilding Federation. Ar ôl chwysu chwartia a hanner llwgu am fisoedd, dyma blastro grêfi browning o’i chorun i’w sawdl cyhyrog a pheintio minlliw “fel drag cwîn” er mwyn ystumio am hanner awr ar lwyfan. Yn Warrington. Roeddwn i’n hanner disgwyl i Peter Kay neidio i’r llwyfan fel arweinydd y noson, ond na, nid comedi mohono. Roedd criw Dal y Pwysau (Cwmni Da) yn hollol, hollol o ddifri.
Honnwyd ei bod yn hobi a ffordd o fyw, ond doedd Delyth lesg a llwydaidd ddim i’w gweld yn mwynhau rh…

Cymraeg o'r crud i'r bedd

Yn ystod wythnos pan ddaeth gelynion yr iaith allan o’r domen dail unwaith eto, o gachgwn rhyw wefan anhysbys yn y Gorllewin i golofnwyr unllygeidiog-Seisnig y Western Mail a’r Telegraph, roedd hi’n braf clywed perlau’r iaith fyw mewn cyfres newydd o Ar Lafar. Ydi, mae Ifor ap Glyn a’i hen landrofar ffyddlon yn ôl i nodi’r gwahaniaeth a’r ffin rhwng “fo a fe”,y “nene ene” a’r “hwnco-manco”. Ffin go denau ac annelwig iawn weithiau hefyd, gydag amrywiaethau rhyfeddol o fewn ardal benodol heb sôn am Fôn i Fynwy. Roedd ymweliad y bennod gyntaf â Phenllyn, un o gadarnleoedd naturiol yr iaith, yn codi calon rhywun. Clywsom wahaniaethau amlwg rhwng hogia’r Dre a’r Wlad (roedd y genod yn mitsio mae’n rhaid) ar iard ysgol uwchradd y Bala, gyda chriw’r dre yn dweud “cwtsh dan staer” a’r llancia ffermydd yn dweud “sbensh” am dwll dan grisiau. A draw yn un o ysgolion cynradd y fro, bu Ifor Ap yn holi rhai o’r 22 o ddisgyblion â llond ceg o’r dafodiaith leol – gan gynnwys Charlie o gyffiniau Mance…