Showing posts with label Caryl. Show all posts
Showing posts with label Caryl. Show all posts

S4/Comedi


Pwy bynnag ydi Comisiynydd Adloniant Ysgafn S4C ar hyn o bryd, mae’n haeddu medal, gwisg las yr Orsedd, tlws Dewi Sant, codiad cyflog, beth bynnag. Achos mae gan y Sianel bellach ddwy - ie DWY - gyfres gomedi gwerth eu halen (tair os ydych chi’n cynnwys y taeru a’r tynnu coes diddiwedd rhwng John Bŵts a Dilwyn Morgan yn Codi Hwyl).

Y naill yn cynnwys Caryl Parry Jones a’r llall Linda Bara Caws Brown a’i merch Caren. Genod yn bennaf felly. Ys dywed un arall o greadigaethau enwog Caryl, “Beth sy’n digwydd?!”
 

Cyfresi unigryw â’u traed yn solat ar ddaear y Gymru Gymraeg gyfoes, ac eto wedi’u hanelu at farchnadoedd gwahanol. Mae Anita, ffrwyth sgetsh o gyfresi blaenorol Caryl am nyrs cartra’r henoed a’i merch Joolz sy’n codi pac o’r Barri i Foelfre ar ôl i’r dywededig Anita syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad efo ‘Beds’ (Bryn Fôn). Braidd yn amheus oeddwn i i ddechrau, ond bellach mae’r cyfuniad ciwt o Gavin & Stacey, Stella a Hapus Dyrfa (cofio honna?) yn taro tant ar nos Sul deuluol. Iawn, mae yna lond dwy de’n ormod o siwgr yn hon i mi weithiau, ond mae’r camddealltwriaeth a’r clyfrwch geiriol Wenglish (sy’ wedi codi gwrychyn ambell un), yr ensemble o gast gwych (o Rhodri Meilir y brawd llywaeth i’r newydd-ddyfodiad naturiol Elis Owen fel mab Bedwyr) a’r arfordir braf yn denu. A braf gweld Christine Humphreys yn dangos ei doniau comedi yn ei hacen naturiol wedi’r camgastio anffodus yn Cara Fi? Adloniant perffaith i’r teulu cyfan, obvs.

Tydi comedi nos Wener, ar y llaw arall, ddim cweit mor addas i’r to bach er bod y crewyr Dim Byd yn dipyn o ffefryn ymhlith plantos fy chwaer. Sbin-off arall o bennod untro’r llynedd am gwmni teuluol sy’n trefnu lookalikes Cymraeg. Mae rhyw elfen Ab Fab yn hon, gyda’r ferch gall ac aeddfetach (Caren) yn cadw’r busnes i fynd er gwaetha’r fam fyrbwyll (Linda). O drefnu ‘Tommy Cooper’ sydd hefyd yn digwydd bod yn Dudur Owen ar gyfer noson magic circle Rhuthun, i sicrhau Sandra Picton  (Sian Weldon) ar gyfer tywysog Arabaidd sy’n drewi o bres ac wedi mopio ar bocsets C’mon Midffîld, mae’n gythraul o hwyl. Mae’r cyfeiriad at ‘Black David’ yn dal i ’nhiclo i, a’r olygfa skype swreal rhwng mam a merch wrth i Linda gogio bod yn Magaluf yn lle rhyw Drafyloj yn ochra Bangor. Yr ail bennod ydi’r ffefryn hyd yma.
 
 
Llongyfarchion fil i ymchwilwyr Cwmni Da am ddod o hyd i lond dwrn o amaturiaid lled-debyg i’r enwogion, gyda sgiliau comedi naturiol. A llongyfs eto i Gomisiynydd Adloniant Ysgafn Sbrec.

Blwyddyn Parch + Patagonia




O’r diwedd, mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd. Y siopa a’r gorchwyl wedi’i gyflawni. Prynu anrhegion meddech chi? Peidiwch â siarad drwy’ch het cracer Dolig. Sôn am gopi angenrheidiol o’r Radio Times ydw i, gyda phythefnos o raglenni radio a theledu i’w huwcholeuo, a’u mwynhau gyda phentwr o frechdanau twrci oer. Bechod nad ydi S4C yn dal i gyhoeddi ei fersiwn hithau mwyach. Efallai bod pob dim ar y we dyddiau hyn, ond does dim i guro cylchgrawn papur ag ôl bysedd siocled i weld faint o’r gloch mae pennod ’Dolig-ganol-haf Rownd a Rownd, neu pryd mae ailddarllediad Wil Aeron a’r Inca gan fod yr un wreiddiol yn mynd ben-ben â drama Agatha Christie ar y Bîb. A hen rifyn Nadoligaidd o Gavin & Stacey ar sianel Dave. Damia. Heb os, dylai Parc Tŷ Glas atgyfodi Sgrîn ar gyfer achlysuron arbennig i’w blannu yng nghanol ein papurau bro.

Ac wrth edrych ymlaen, mae yna gryn dipyn o edrych yn ôl hefyd. Beth blesiodd neu diflasodd yn 2015? Yn Oes y Toriadau Mawr, mae’n braf gweld S4C yn dal i deithio ymhell. Cyflwynodd Lowri Morgan ni i ddigwyddiadau mawr bywyd ym mhedwar ban, o ddiwrnod priodas ym Moroco i enedigaeth yn Tsieina. Ond Gŵyl y Meirw: Mecsico sy’n aros yn y cof, wrth i noson ddua’r flwyddyn droi’n garnifal o liw, penglogau siwgr, tân gwyllt a tequilas ar lan y bedd, a hynny ymhell cyn i Daniel Craig a’r ffilm Bond newydd ddangos y traddodiad i weddill y byd yn ddiweddar. Daeth pendraw’r byd i Gymru gydol y flwyddyn hefyd, wrth i ni gofio canrif a hanner ers i griw glew’r Mimosa hwylio i fyd newydd. Na, doedd dim modd osgoi Patagonia eleni. Ddim hyd yn oed ar Pobol y Cwm, wrth i’r hen Meic Pierce adael i ddweud ei hwrê fawr olaf ar y Paith. Cawsom chwip o gynhyrchiad gefn-wrth-gefn ar S4C a BBC1 gan Huw Edwards o’r Wladfa, a dos o siarad poenus gan Jon Gower a’i westeion yn Y Camsyniad Mawr. Gyda llaw, mae clip o Siân Moran yn canu “Gwynt Teg i’r Mimosa” yn dal ar iplayer Radio Cymru, yn ddigon i doddi’r sinig mwyaf o’ch plith. Cafodd dau lenor amlwg eu hanfarwoli mewn dwy raglen bortread gaboledig, y naill yn arwr a’r llall yn wrthun i wlad y menig gwynion. Roedd T Llew Jones a Caradoc Evans: Ffrae ‘My People’ yn gyfuniad difyr o gyfweliadau, ffilmiau archif, ambell sioc a storïwraig tan gamp yn Beti George. Beth well?
Unwaith eto, tena ar y naw oedd cynnyrch comedi’r sianel. Na, tydi sbloets Cân i Gymru ddim yn cyfri. Diolch byth, felly, am sioe sgetshis Caryl, a ffug-dogfen Neb yn Gwybod Dim Byd am griw anobeithiol Wyrion Llywelyn ac ymgyrch losgi tai haf yr 80au.
Ym myd ffuglen, cawsom ddramatics llys barn, cythrwfl cariadon traws-cambria, mwy o Cardi Noir a diweddglo trist i staff Ysgol Bro Taf. Ond pinacl personol i mi oedd Parch, gyda Caryl Eleri yn serennu fel ficer sy’n benderfynol o fyw bywyd i’r eithaf yn wyneb diagnosis angheuol mewn cyfres a’m hatgoffodd o’r perl Americanaidd Six Feet Under. Efallai nad oedd y golygfeydd breuddwydiol at ddant pawb, a’r bennod olaf wedi drysu sawl un - ai dilyn Eurig (Rhys ap Hywel) i’r ochr draw wnaeth Myf yn y diwedd? Cyfuniad o gast profiadol a newydd, ond mae Oscar comedi’r flwyddyn yn mynd i Phylip Hughes fel Mr Jarman, trysorydd yr eglwys a gafodd fath meddwol yn y ficerdy. Mae ’na si bod Fflur Dafydd wrthi’n sgwennu’r ail gyfres nawr. Gobeithio wir.

A dyna ni. Cyfarchion yr ŵyl i bawb. Rŵan, mae gen i fwy o waith uwcholeuo i’w wneud.

Ysgafnhau'r baich

Adloniant pia hi’r wythnos hon. Dyn a ŵyr, rydyn ni gyd eisiau rhywbeth i godi gwên ddiwedd Ionawr anghynnes, gyda choch y Dolig yn ddyledus, gwasanaeth iechyd Cymru yn destun gêm wleidyddol barhaus a dienyddwyr IS (ISIS, ISAs? Sy’n f’atgoffa i drosglwyddo mwy i’r coffrau hwnnw cyn 1 Ebrill) yn brawychu’r byd. Croeso mawr felly i Caryl a’r Lleill, a hynny ar nos Sadwrn bach yn annisgwyl ddigon. Ydy, mae’r gyfres sgetshis smala yn ôl i dynnu blewyn o drwyn ni Gymry Cymraeg, ond mewn ffordd annwyl yn hytrach nag atgas Clarkson, Robinson, Gill a’u teips. Ac rydan ni’n nabod ein teips ein hunain, o’r seren rygbi a’i lond ceg o ystrydebau Wenglish sy’n hyrwyddo’i bersawr ei hun (“Obviously, pour homme”) i’r snoben mwng a thlysau Dynasty Cwm Tawe/Aman sy’n magu’i phlant yn Saesneg. Mae ffrind coleg o Rydaman yn mynnu bod Caryl a Siw Hughes wedi llwyddo i gyfleu ambell Pam a Veloria lleol i’r dim.  Mae’n siŵr bod sawl un o gyffiniau Langwm yn cochi at eu clustiau bod tro y daw Sioned Grug i’r fei, bellach yn doethinebu’r Pethe ar ddyddiadur fideo, gyda dwy ffrind hirddioddefus Esyllt Rhyd Rhychiog (Sue Roderick yn feistres gomedi wrth ystumio yn unig) a Gwenan Bonc (“tydi hi ddim wedi’i henwi ar ôl y ffarm”) o Landeilo. Mae Ffion “Gross” Carlton-Lewis a’i theulu o’r Fro wastad yn bleser, ond Oswyn ag Alwyn Dre yn fy ngadael i’n fud. Ychwanegwch ’rhen gwpwl egsentrig o’r Rhos ac adar brith sunny Rhyl (mwy ohonyn nhw plîs), ac mae Caryl megis fersiwn S4C o adran dafodieitheg Sain Ffagan. Mae’n gas gen i unrhyw fath o “miwsical nymbyrs” fel arfer, ond roedd sioe canu-a-dawnsio Only Menopause yn ddiweddglo gwych i’r rhifyn gyntaf. Sori, gwuuuuuuuuuch.


Nerfus braidd oedd yr ymateb i’r newydd fod S4C am gyflwyno cwis newydd i’r genedl. Pwy all anghofio ambell drychineb o’r gorffennol, fel Risg! (2004-2005) gyda Siân Lloyd Tywydd yn gaddo hyd at £20,000 o wobr yn y pot rhwng 50 o aelodau’r gynulleidfa. Y drwg oedd bod rhywun wastad yn gwneud smonach o’r gêm nes bod yr hanner cant yn mynd adref efo £1.53 y pen. O leiaf mae gan Nia Roberts fwy o bedigri cwisfeistres o’r Penwythnos Mawr (1993) i Gemau Heb Ffiniau (1991-1994) lle’r oedd cystadleuwyr lleol yn gwneud mabolgiamocs yn erbyn cyfoedion o Slofenia, bPrtiwgal, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Gwlad Groeg a’r Eidal yng nghestyll Bodelwyddan a Chaerdydd. Ac fe’ch clywaf chi gyd yn hymian arwyddgan Jeux Sans Frontières rŵan hyn...

Yn gydweithrediad rhwng sianeli TV3 Iwerddon a STV yr Alban, mae Celwydd Noeth yn cynnig jacpot o £10,000 i bâr lwcus sy’n llwyddo i bigo celwydd o blith ffeithiau ar sgrin fawr. Iawn, mae’r gerddoriaeth yn atgoffa rhywun o’r gyfres Milionêr anenwog honno a’r cyfweliadau gefn llwyfan yn gopi o’r Weakest Link ond roedd y tensiwn bron yn annioddefol wrth i’r naill gystadleuydd amau’r llall a Nia yn gweiddi “cloi’r celwydd” a “hanner munud” i dic docian y cloc. Anwybyddwch y peiriant clapio, mi fydd ’na hen gyffro a gweiddi atebion ar aelwydydd Cymru dros y nosweithiau Iau nesaf. Neu"bwrlwm", chwadal Sioned Gruuuuuuuuuug.