35 Diwrnod II


 
Am sgwp. Ar ôl tri-chwarter gobeithio y byddai S4C yn gweld sens ac yn comisiynu cyfres arall o lwyddiant dramatig y Sianel y llynedd wnaeth danio brwdfrydedd gwylwyr a'r twitteratis fel ei gilydd gyda chyfres murder mystery prin yn y Gymraeg, mae'n ôl! Neu, o leiaf mae Siwan Jones a Wil Garn wedi cael sêl bendith i ddechrau sgriptio yn barod ar gyfer ffilmio ym mis Mehefin.
 
Fel y tybiwyd, stori, cymeriadau a marwolaeth newydd fydd sail yr ail, gyda chwmni yswiriant yn y brifddinas yn lle swbwrbia Caerffili.
 
Croesi bysedd, gweddio, gobeithio y cawn nhw hwyl arni. Mae dilyniant i premiere anhygoel o lwyddiannus yn dalcen di-ddiolch o galed. Dw i'n deud dim (Broadchurch).
 
Datganiad yma.

A Casual Vacancy


Snobyddiaeth, secs, sgerbydau yn y cwpwrdd, Daily Mailers, chavs, a'r cythraul cystadlu ar gyngor plwyf yn y Cotswolds. Gyda Keeley Hawes (Line of Duty II), Rory Kinnear, Michael Gambon a Julie MacKenzie. O nofel JK Rowling. Heb r'un dewin.

BBC 1, Nos Sul, 15 Chwefror.