Hir oes, HBO!



Dwi eisoes wedi canu clodydd BBC Four. Nawr, mae gen i ffefryn Americannaidd - Home Box Office, neu HBO - sianel deledu am dâl a sefydlwyd ym 1972, sydd a thros 38 miliwn o danysgrifwyr bellach yn yr UDA. Lwcus i ni yng ngwledydd Prydain, mae gan Channel 4 draddodiad hir o brynu’r goreuon gan HBO i’w gynnig. Tra bod dramâu teledu Prydain fel petaen nhw’n llifo o ffatri fflatpacs ditectifs-a-sebon-doctors-a-nyrsys, mae HBO yn dal i gynhyrchu cyfresi ffres a gwreiddiol i’r byd a’r betws. Diolch amdani! Bedair blynedd ers inni ffarwelio â’r hyfryd a’r hanner call a dwl Ruth, Nate, David a Clare Fisher - teulu o drefnwyr angladdau o Los Angeles a’u cyfoedion quirky yn Six Feet Under, mae’r awdur Alan Ball wedi creu True Blood sy’n prysur droi’n llwyddiant byd-eang. Ddylwn i ddim leicio hon, sef cyfres wedi’i seilio ar lyfrau The Southern Vampire Mysteries aka The Sookie Stackhouse Novels gan Charlaine Harris. Doedd gen i ddim math o ddiddordeb yn anturiaethau Buffy ar y teledu na’r myrdd o ffilmiau Twilight sy’n llenwi seddi’r sinemâu. Ond roedd Alan Ball yn glyfar yma, ac wedi creu cyfres sy’n gymysgedd gwych o opera sebon Twin Peaks-aidd llawn pishyns, sydd wedi’u dychryn i’r byw gan lofrudd sy’n taro ar ferched Bon Temps - a phawb yn pwyntio’u bysedd cyhuddgar ac am waed (bwm! bwm!) cymuned o fampirod lleol yn ardal Bon Temps, Louisiana. Diawch, mae hyd yn oed caffi-bar ‘Merlottes’ ganolog i’r stori fel ’Double R Diner’ Twin Peaks



Yn ogystal â stori garu ‘bachu neu beidio?’ rhwng Sookie Stackouse (yr hyfryd Anna Paquin o Ganada), gweinyddes ifanc ddiniwed a thelepathig, a Bill Compton (Stephen Moyer o Essex) fampir golygus 173 oed, mae’n dadlennu disgwyliadau pobl i’r dim, problemau lleiafrifoedd sy’n ceisio cael eu derbyn, yn ogystal â’r hen, hen, ragfarnau yn erbyn pwy bynnag sy’n ‘od’ yn llygad y gymdeithas. Mae eu perthynas fregus mewn trwbl o’r cychwyn cyntaf, gyda chymeriadau lliwgar fel pishyn y pentref Jason Stackouse (Ryan Kwanten, gynt o Home & Away) yn poeni’i enaid am ei chwaer Sookie, ei ffrind gorau a chegog Tara yn ysu i syrthio mewn cariad, a’i bós Sam Merlotte sy’n hiraethu am Sookie o bell. Ac yng nghanol hyn oll, mae ’na lot fawr iawn o chwysu a charu gwyllt, hiwmor ddu bitsh a chryn amheuaeth ynglŷn â phwy sy’n ddynol a phwy sy’n fampir - heb sôn am ddirgelwch y llofrudd. I'r dim, a ninnau ar drothwy noson Calan Gaeaf.

Gyda llaw, mae’r credits agoriadol, "Bad Things" gan
Jace Everett yn haeddu mensh arbennig hefyd!




Un arall o gynhyrchion HBO sydd wedi ffeindio’i ffordd i’r peiriant Sky+ acw ydy Hung, drama gomedi am Ray Drecker (Thomas Jane) athro ymarfer corff hoples o Detroit sydd ar ben ei dennyn. Mae pwysau’r byd ar ei sgwyddau ers i’w wraig a’i blant ei adael, ei swydd yn ei ddiflasu, a’i gartref teuluol wedi llosgi i’r llawr. A’i sefyllfa ariannol cyn waethed ag economi Gwlad yr Ia, mae ei ffrind Tanya yn llwyddo i’w ddarbwyllo i elwa ar GLAMP o nodwedd arbennig a phersonol iawn sydd ganddo (winc, winc, nyj, nyj). Dwi’n deud dim.




True Blood, 10pm nos Fercher, Channel 4
Hung, 10pm nos Iau, More 4

Ynys y llon a'r lleddf


Pobl Môn oedd piau hi ar S4C dros y Sul. O fan’no y daeth y bytholwyrdd Noson Lawen nos Sadwrn, cyfres sydd wedi’i hailwampio’n amlach na chanol dinas Caerdydd ar hyd y blynyddoedd. Dim mwy o eistedd ar fêls gwellt mewn hen sgubor oer, na chyflwynwyr trigain oed yn rhaffu ‘jôcs’ o’r llwyfan llychlyd. Bellach, genod ifanc del fel Mari Løvgreen a Nia Parry sy’n cyflwyno’r sioe West End-aidd o stiwdios sgleiniog a modern, er budd rheolau iechyd a diogelwch a delwedd ‘cŵl’ y Sianel. Cafwyd rhaglen amrywiol o’r fam ynys, gyda pherfformiadau caboledig gan gantorion pop, perfformiwr seiloffon(!), Côr Aelwyd yr Ynys… a Ffarmwr Ffowc. Ydy, mae’r hen foi’n dal wrthi er gwaethaf ymdrechion Eilir Jones druan i roi’r cap stabl yn y to. Roedd y diweddglo’n ddarn o gomedi pur, gydag Elin Fflur a Daniel ‘Heb Mr Pinc’ Lloyd yn ymddangos mor hapus â Joe Calzaghe mewn trowsus secwin yn Strictly Come Dancing, wrth ganu lleisiau cefndir i ryw brimadonna deng mlwydd oed.

Nos Sul, cawsom chwip o stori am longddrylliad y Royal Charter a ddigwyddodd 150 o flynyddoedd union yn ôl i’r mis hwn. Roedd yn hanes gwbl ddieithr i mi, ond yn un tra chyfarwydd a phersonol iawn i’r cyflwynydd Bedwyr Rees, gyda’i hen hen daid, William Jones, yn dyst 12 oed i’r drychineb. Hon oedd Titanic Cymru, l
long ysblennydd a moethus a oedd yn arwydd o hyder a dyfeisgarwch Oes Fictoria, ond a chwalodd yn erbyn creigiau Moelfre mewn storm enbyd, gan ladd 450 o’r teithwyr. Mae’n stori llawn paradocsau creulon. Un o’r morwyr oedd Isaac Lewis, hogyn lleol a welodd ei dad ar y lan cyfagos, cyn diflannu o dan y don am byth. Dyma fo, wedi hwylio’n ddiogel am 45 diwrnod o bellafoedd Melbourne (record y cyfnod) cyn marw ar ei stepen drws ei hun. Roedd hanes Yn fuan wedi’r storm farwol, cafodd enw da’r trigolion lleol, dewr, eu pardduo gan bapurau Llundain, a’u cyhuddodd o ysbeilio cyrff y meirwon a wnaeth eu ffortiwn ym meysydd aur Awstralia. Ond cawsant eu canmol i’r carn gan y nofelydd Charles Dickens, a ddaeth yn unswydd i Foelfre i gofnodi dewrder pobl y plwyf a achubodd y rhai oedd ar ôl.



Chwip o stori gan gyflwynydd cadarn ei Gymraeg. Dylai ambell gyflwynydd ifanc – a ddim mor ifanc - S4C a Radio Cymru ddilyn esiampl Bedwyr Rees.

Pam ni, duw?


Enillodd ei blwyf fel ‘arbenigwr’ cyfresi Big Brother ac aelod o dîm swnllyd Chris Moyles bob amser brecwast ar Radio 1. Yn nes adref, mae Aled Haydn Jones yn enwog fel cyn-feirniaid Waw Ffactor a llais Llundain ar raglenni C2 Radio Cymru i bwy bynnag sy’n malio. Mae hefyd yn gyflwynydd rhaglen radio The Sunday Surgery, seiat drafod problemau rhyw a pherthynas, arswyd arholiadau a bwlio i’r to iau. Ac mae hynny’n boenus o addas, fel un â chanddo brofiad personol iawn o’r ochr hyll hwn o fywyd ysgol.

Yn y rhaglen Bullying - Why Me? neithiwr ar BBC2 Wales, dychwelodd Aled i’w hen ysgol uwchradd yn Aberystwyth am y tro cyntaf ers 1992. Cyfaddefodd iddo deimlo’r hen ofn a nerfusrwydd wrth i’r camera ddilyn ei gamre at y giatiau. Dyma lle cafodd ei alw’n ‘swot’, ‘teachers pet’ ac yn ‘bwff’ am flynyddoedd, gan droi’n unig ac ar wahân i weddill y dosbarth. Byrdwn taith bersonol, boenus, Aled oedd canfod atebion i’r cwestiwn ‘pam’? Pam mai fe oedd cocyn hitio’r bwlis? Beth ddylai ef a’r athrawon fod wedi’i wneud i daclo’r broblem? Aeth ati i ysgrifennu blog fel rhan o’i waith ymchwil a holi pobl ifanc eraill a ddioddefodd dan law cachgwn yr iard ysgol. Rhai fel Jacques Alvarez, a gafodd ei labelu’n hoyw gan ei gyd-ddisgyblion pan oedd yn 11 oed, ac a ddioddefodd ymosodiad erchyll gan giang o 35 un diwrnod. Does ryfedd i’w addysg ddioddef, ac iddo chwarae triwant am flynyddoedd wedyn. A’i gyngor trist i unrhyw ddisgybl hoyw arall oedd cadw’i rywioldeb yn dawel tan ar ôl gadael ysgol. Ymateb go wahanol Stephen Sellers oedd troi’r fantol, dysgu crefft ymladd, a dangos ei fod yn well na nhw trwy gael ei benodi’n Brif Fachgen yr ysgol. Yn lle cuddio a chael ei drechu, penderfynodd ddangos ei hunanhyder i’r byd a’r bwlis.

Wn i ddim faint elwach oedd Aled Haydn Jones erbyn y diwedd. Do, fe gafodd ambell gyngor jargonllyd gan ryw ‘arbenigwr ar fwlis’ a sicrwydd gan bennaeth ysgol newydd Penweddig fod ‘polisïau’ pendant i fynd i’r afael â’r broblem bellach. Ond ymchwil unochrog ar y naw ydoedd. Buasai cyfweliad rhwng Aled a chyn-fwli wedi bod yn ffordd ddewr ac effeithiol iawn o gael y maen i’r wal, a chlywed safbwynt y drwgweithredwr. Efallai fod y rhaglen braidd yn debyg i fideo addysgol, a bod stori bwlio Huw White Pobol y Cwm ar hyn o bryd yn ffordd gystal os nad gwell o bortreadu’r broblem.

Pererin Wyf

Dw i’n dal i gofio’r daith hyd heddiw. Ymweliad aelodau Capel Carmel i gartref enedigol William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg, rhyw bnawn Sul braf yn nyddiau f’arddegau cynnar. Ac fel fy atgofion hapus i o Dŷ Mawr Wybrnant, rwy’n siŵr y bydd plant ysgolion Sul Bro Dysynni yn cofio’u taith arbennig nhw mewn blynyddoedd i ddod hefyd.
Mewn rhaglen gyntaf o gyfres newydd sbon nos Sul, Y Daith, cawsom hanes Mari Jones, merch 16 oed o Lanfihangel y Pennant a gerddodd yn droednoeth am 25 milltir i brynu beibl o’r Bala. 250 o flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth criw o 28 ynghyd yn eu crysau pêl-droed, eu capiau pêl-fas a’u ffyn bugail i wneud y siwrnai dros ddeuddydd bendigedig o braf. Yn wahanol i Mari Jones, cawsant bas mewn bws mini (er mwyn osgoi tagfeydd yr A470 nid osgoi pothelli’r traed, chwarae teg) ac ar drên bach Llyn Tegid i gyrraedd pen y daith. Ond o leiaf fe ddaeth yr hanes yn fwy byw fel hyn yn hytrach na mewn hen festri lychlyd. Ac roedd y gwaith camera’n hysbyseb perffaith i’r Bwrdd Croeso wrth inni gamu dros gamfeydd a nentydd yn erwau gleision Meirionnydd. Ond rhaid gadael Cymru i gael stori tipyn mwy diddorol nos Sul nesaf, fel hanes teulu ifanc o Gaerdydd sy’n llwyddo i gyfuno’r fydd Gristnogol a Sikhaidd yn ‘O Gapel Salem i’r Deml Aur’. Nid rhywbeth i gynulleidfa draddodiadol Dechrau Canu Dechrau Canmol yn unig mo hon. Mae’n gyfuniad celfydd o raglen deithio ddogfennol sy’n ceisio canfod ystyr crefydd yn ein hoes seciwlar ni.

Bu cryn dipyn o ffỳs a ffwdan yn y wasg Seisnig yn sgil ymddangosiad ‘arbennig’ Boris Johnson, Maer Llundain ar Eastenders yr wythnos ddiwethaf. Y beirniad mwyaf oedd Ken Livingstone, a gyhuddodd y BBC o ddangos ei lliwiau gwleidyddol wrth wahodd y Ceidwadwr i’r Queen Vic. Ie, Ken y cyn-Faer a gad ei wrthod gan y gyfres yn y gorffennol yn ôl pob tebyg. Grawnwin surion, tybed? ’Sgwn i a fydd Pobol y Cwm, sy’n 35 oed yr hydref hwn, yn croesawu Aelod Cynulliad i’w plith? Wedi’r cwbl, mae’n draddodiad bellach cael gwestai arbennig ar ben-blwyddi arbennig y gyfres. Beth am weld Rhodri’n picied i’r Deri am beint yn ystod taith ffarwél â’i bobl cyn ymddeol, neu Siôn White yn mynd ben-ben â Dafydd Êl am bolisi iaith ciami’r Cynulliad…?

Myrddin a mwy


Actorion o bob lliw a llun - ond ddim Cymry - yn fersiwn y Bib o chwedl Myrddin



Dros y penwythnos, rhois gynnig ar ddwy gyfres boblogaidd am y tro cyntaf erioed. Wrth ddiogi ar y soffa nos Sadwrn, dyma droi i wylio cyfres ddrama deuluol Merlin ar BBC1. Sut ar y ddaear fethais i hon o stabl BBC Cymru cyn hyn? Er, fuasech chi fawr callach chwaith. Brodor o Ard Mhacha (Armagh) Gogledd Iwerddon sy’n chwarae rhan y Myrddin ifanc, actor o Ddyfnaint yw’r Brenin Arthur, a merch groenddu o Lundain yw Gwenhwyfar (neu Gwen/Guinevere y gyfres). Enghraifft arall o bolisi BBC PC. O leiaf mae rhyw fath o stamp Cymreig i’r ochr gynhyrchu, gyda’r golygfeydd mewnol wedi’u ffilmio mewn stiwdio yng Nghaerdydd a’r rhai allanol yng nghestyll Rhaglan a Chaerffili a Bae Dwnrhefn, Bro Morgannwg ymhlith eraill - ond sdim son am Gaerfyrddin! A Château de Pierrefonds, i’r gogledd o Baris yw Camelot y gyfres. Buasai Sieffre o Fynwy druan wedi troi yn ei fedd…

Ond waeth inni heb a hollti blew. Mae disgwyl i hon fod yn gronicl ffyddlon o’r Chwedl Arthuraidd fel disgwyl i’r gyfres Eingl-Americannaidd The Tudors fod yn bortread triw o Brenin Harri’r Wythfed, neu fod Teulu yn adlewyrchiad teg o drigolion tinboeth Aberaeron. Adloniant pur a dihangfa lwyr ydyn nhw wedi’r cyfan - dros ben llestri ar brydiau - ond dihangfa braf rhag hen fyd cas y dirwasgiad.

Ralïo+ (P.O.P.1) yw’r gyfres arall sydd wedi denu sylw o’r newydd, gydag Emyr Penlan a Lowri Morgan wrth y llyw (bwm! bwm!). Diolch i gyhoeddwr S4C, deallais mai ‘Ralïo a mwy’ yw’r enw cywir arni, nid ‘plws’ neu ‘ychwanegol’ fel y tybiais yn wreiddiol. Mae bathwyr teitlau rhaglenni lot rhy glyfar i mi! Cefais flas ar hon hefyd, yn groes i’r disgwyl. Doedd gen i fawr o amynedd gwylio buddugoliaeth ddiweddaraf Lewis Hamilton o dan lifoleuadau Singapore (hanner dwsin o lapiau, digon teg, ond 61?!), ond mae rhaglen gylchgrawn hanner awr yn fy siwtio i’r dim. Wythnos diwethaf, cafwyd uchafbwyntiau gŵyl ralïo Castle Combe gyda’r hen stejar Gwyndaf Evans o Ddolgellau, Her Rali Rhyng-gyfandirol o Sbaen, ac ymgais Hywel Lloyd o Gorwen yn ras Fformiwla 3 ar drac chwedlonol Brands Hatch. Dim lolian à la Jeremy Clarkson, dim ond digon o gyffro a dau gyflwynydd sy’n ymddangos yn wirioneddol frwd dros y gamp. Yn ogystal a chael ei galw “rhaglen rali orau’r ddaear” gan gylchgrawn Motorsports News, dyma o lwyddiannau mawr S4C dros yr haf, a lwyddodd i ddenu 70% yn fwy o wylwyr na’r llynedd. Tipyn o gamp.

Vive la BBC4!


BBC Four yw fy hoff sianel ar hyn o bryd (sori S4C!). Mae hi’n werth y drwydded ar ei phen ei hun, bron. Dyma’r lle i droi am ddramâu tan gamp o Ewrop. Yn dynn wrth sodlau Wallander o Sweden, daw ail gyfres o Spiral (Engrenages) bob nos Sul, drama ias a chyffro sy’n dilyn criw o dditectifs a chyfreithwyr naturiol o rywiol (Ffrancwyr ydyn nhw, wedi’r cwbl) sy’n ymchwilio i ddirgelwch corff a losgwyd yn golsyn mewn car ar stad cyngor - a chysylltiad hynny, rhywsut rywfodd, â marwolaeth merch ifanc a gymerodd orddos o heroin yn un o ysgolion bonedd Paris. Mae ’na ryw naws CSI/The Wire yn perthyn iddi, sydd wastad yn ffon fesur wych. Ac er bod cryn dipyn o waith canolbwyntio i ddechrau, fel pwy ’di pwy, a’r ddeialog Ffrangeg gan-milltir-yr-awr sy’n gefndir i’r isdeitlau ar y sgrîn, mae’n werth dal ati.


D
wi’n fythol ddiolchgar i BBC Four am ailddarlledu The Crow Road bob nos Fercher hefyd, gan i mi golli’r darllediad gwreiddiol ym 1996. Wedi’i seilio ar nofel Iain Banks, mae’n adrodd hanes Prentice McHoan, myfyriwr ifanc (Joseph McFadden) sy’n dychwelyd i’w wreiddiau i ddatrys diflaniad sydyn ei ewythr. Rhwng clan cecrus, hiraeth am ffrindiau coll, phartis gwyllt ar lan y loch, dos o hiwmor du a golygfeydd godidog o’r ucheldiroedd, mae’n cydio’n syth bin megis 'Tartan' Twin Peaks. Mae’n rhan o thema This is Scotland y sianel i nodi degawd o ddatganoli, gyda chymysgedd o ffilmiau a dramâu, rhaglenni dogfen a thrafodaeth banel ar yr ‘A’ fawr - Annibyniaeth. Go brin y caiff Gymru gymaint o sylw, rhwng perlau'r presennol fel Crash (Neighbours efo nyrsys) a High Hopes: Best Bits (teitl eironig, dwi'n siwr!)...
Mae yna wledd o’n blaenau dros yr hydref hefyd, gyda phortread Sophie Oknedo o ferch gefn gwlad, ddiniwed, a ddaeth yn ymgyrchydd brwd a dadleuol yn erbyn apartheid, sef Mrs Mandela. Wedi’i ffilmio’n gyfan gwbl yn Soweto, mae’r ddrama’n cynnwys actorion profiadol fel David Harewood a David Morrissey. Un o uchafbwyntiau dogfen y tymor yw Digging Up The Dead a gyflwynir gan Michael Portillo, lle mae beddi torfol hyd at 4,000 o wrthwynebwyr Franco, cyn-unben Sbaen, yn ailagor hen grachod mewn gwlad sy’n ceisio claddu’i gorffennol am byth. Mae’n stori hynod bersonol i’r cyn-wleidydd Torïaidd, gan i’w dad ffoi o Ryfel Cartref ei famwlad i Loegr 70 mlynedd yn ôl.






Ac mae’n berthnasol i ninnau hefyd, o gofio’r 174 o Gymry a ymunodd â’r Frigâd Gydwladol yn erbyn y Ffasgwyr.