Amser maith yn ôl – ok, rhyw dri degawd yn ôl – roedd gynnon
ni don o gyfresi dramâu gwreiddiol ar S4C. Cyfresi triw i’w milltir sgwâr, gyda’r
dirwedd a’r dafodiaith leol gystal cymeriadau â’r rhai o gig a gwaed. Dyna chi Pris
y Farchnad (1992-96) am deulu o arwerthwyr cefnog yn Sir Gâr, A55 (1994-96)
am gwmni cludiant ar wibffordd y Gogledd, Tair Chwaer (1997-99) a
gyflwynodd bathos, chwerthin a chaneuon y Gwendraeth i’n sgriniaua Talcen
Caled (1999-2005) am deulu o Eifionydd yn baglu byw wedi methdaliad. Heb
sôn am llond wardrob Fictoraidd o gyfresi cyfnod wedi’u seilio ar nofelau
Daniel Owen, Kate Roberts ac Elena Puw Morgan (Y Wisg Sidan, 1994).
Ers hynny, dramâu trosedd cefn-wrth-gefn ydi ffocws a
forte’r Sianel. Thriller seicoleg chwe rhan Y Golau yw’r diweddaraf, am ohebydd
(Alexandra Roach) sy’n dychwelyd i’w chynefin am y tro cyntaf ers diflaniad ei
ffrind ysgol Ela, wrth i’r sawl a gyhuddwyd o’i lladd, Joe Pritchard, gael ei
ryddhau wedi deunaw mlynedd dan glo. A gan na chanfuwyd corff Ela erioed, mae’r
fam (Joanna Scanlan, un o ddysgwyr Iaith ar Daith y llynedd) yn dal i
obeithio y daw hi adra’ ac yn gadael golau ar y landin byth ers y noson
dyngedfennol honno.
Bydd y cymar Saesneg, The Light in the Hall (cynhyrchiad
Triongl/Duchess Street) yn ymddangos ar Channel 4 yn ddiweddarach eleni cyn
teithio i Ogledd America, Awstralia a Seland Newydd. Os felly, pam cynnwys
cymaint o’r iaith fain yn fersiwn S4C? Roedd deg munud cynta’r bennod agoriadol
bron yn gyfan gwbl Saesneg, rhwng cyfweliad y bwrdd parôl ar un llaw a chriw o
hacs yn trafod y stori dros win ar y llaw arall. Realiti’r Gymru bei-ling, medd
rhai, ond leiciwn i wylio drama Gymraeg ar unig sianel Gymraeg yr hen fyd hurt
ma. Llywodraeth Cymru, trwy fenter ‘Cymru Greadigol’, sy’n ariannu’r
cynhyrchiad. Mewn byd delfrydol, byddan nhw wedi canolbwyntio ar greu fersiwn
Gymraeg yn unig, sy’n gwbl realistig o gofio’r ffaith taw Dyffryn Tywi yw’r
lleoliad, a gwerthu honno’n rhyngwladol. Draw ar Netflix ar hyn o bryd, mae
miliynau ledled y byd yn troi i wylio’r ddrama wleidyddol Borgen, yn yr
iaith Ddaneg gydag isdeitlau ar y sgrîn.
Mae Y Golau yn ticio bocsys Croeso Cymru heb os,
gydag awyrluniau o ddyffrynnoedd hydrefol, ambell gastell a thref fach ddel
Llanemlyn (Llandeilo a Llanymddyfri i chi a fi), ac mae’r arwyddgân yn atgoffa rhywun o’r Gwyll
a Craith. Mae’n braf gweld Iwan Rheon yn actio yn ei famiaith eto,
ac mae’n sicr yn ennyn chwilfrydedd fel y Joe unsillafog sy’n nerfus ffeindio’i
ffordd drwy’r byd mawr unwaith eto. A does dim dwywaith fod Scanlan, brodor o
West Kirby a fagwyd yn yr Wyddgrug ac sy’n ymddangos fel Gog yn y ddrama hon,
yn portreadu poen y fam i’r dim wrth geisio’i gorau glas i feithrin perthynas
â’i merch arall (Annes Elwy) rhwng cynnal cyfarfodydd grŵp dioddefwyr yn ei
chartref. Mae yna ddigon o ddirgelwch i’m denu’n ôl, yn enwedig wedi’r chwip o
dro annisgwyl ar ddiwedd yr ail bennod.
Ond. Ac mae’n glamp o ‘Ond’. Mae unrhyw gynhyrchiad
gwreiddiol ar S4C sy’n cynnwys y teitl swydd “Addasiad Cymraeg ac Ymgynghorydd
Iaith” yn y credits clo yn peri cryn ddiflastod i mi.
Ymhen y mis, mi fydda i ar dir mawr Ewrop unwaith eto gyda
lwc. Tair awr a hanner ar fws Caerdydd i London Victoria, a’r un faint o amser
ar Eurostar Sain Pancras i Rotterdam. Sy’n golygu pacio sawl nofel (gan gynnwys
Dal y Mellt gan Iwcs, fydd i’w gweld ar S4C yr hydref hwn) a lawrlwytho
cryn dipyn o raglenni radio i’r ffôn lôn. Yr hyn sy’n rhwystredig yw mai dim
ond am 30 diwrnod wedi’r darllediad gwreiddiol mae’r rhan fwyaf o arlwy Radio
Cymru ar gael. Rhai fel Dwyieithrwydd dros y dŵr,cyfres llawer
rhy fer am Ifor ap Glyn yn dysgu mwy am ddwyieithrwydd ar waith ar ein cyfandir.
Brwsel a Bilbao oedd cyrchfannau’r prifardd, ac efallai taw profiad y Basgiaid
sydd fwyaf perthnasol i ni. Gyda phoblogaeth go debyg o ryw 3 miliwn, a thua
600,000 yn medru’r Gymraeg o gymharu â 700,000 yn siarad Euskara, roedd yma
ddigon i gymharu a chnoi cil drostyn nhw. O! am efelychu eu menter a’u hyder yn
llwyddo i werthu 13,000 copi o bapur newydd Berria (sefydlwyd 2003) bob
dydd a denu mwy fyth ar-lein – gan anfon gohebwyr i bedwar ban, o Gemau
Olympaidd Tokyo i faes y gad Wcráin. Doedd hanner awr ddim yn ddigon, a
minnau’n ysu i glywed mwy am sefyllfa’r Fasgeg o ran nofelau, radio a theledu
heb sôn am fewnlifiad posib dros y ffin o Sbaen a Ffrainc. Trefnwch drip arall
toc!
Mae cyfresi eraill yn para’n hwy ar wefan BBC Sounds. Diolch
byth am archif helaeth Beti a’i Phobl, gan gynnwys sgwrs lled-ddiweddar
gyda Carren Lewis o Benrhyndeudraeth yn wreiddiol, a’i thaith hynod emosiynol yn
mabwysiadu baban o gartre plant yn ne-ddwyrain Twrci wedi sawl torcalon IVF.
Rhaglen a brofodd taw nad s’lebs sydd ddifyrra bob tro.
Mae ambell podlediad wedi taro tant hefyd. Dyna chi Dwy
iaith un ymennydd, lle mae’r digrifwr Elis James yn “archwilio’r
ffordd mae iaith yn allwedd i ddiwylliant, i ffordd arall o weld y byd, ac i
bersonoliaethau gwahanol”. Ac yntau’n magu dau o blant yn ne Llundain, mae’n
ddifyr ei glywed yn cymharu nodiadau â gwesteion amrywiol â safbwyntiau
gwahanol am ddwyieithrwydd. Neu pedaireithrwydd, yn achos y gantores Gwenno
Saunders sy’n rhugl yn y Gernyweg, Cymraeg, Gwyddeleg a’r iaith fain, a cham
beiddgar ei rhieni’n gwrthod chwarae caneuon poblogaidd Eingl-Americanaidd ar
yr aelwyd yng Nglanrafon Caerdydd. Podlediad arall fu’n gwmni i mi yn ystod
sawl dro bach hir ydi Dewr gyda Tara Bethan “yn siarad efo rhai o
wynebau Cymru am ups a downs bywyd”, yr heriol a’r hapus, gyda chryn bwyslais
ar iechyd meddwl a lles dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Er bod ambell un yn rhy
lyfïaidd ei naws i mi, yn enwedig pan oedd ffrindiau’n mwynhau proseco yn y
twba twym, mae sawl pennod arall wedi aros yn y cof. Roedd sgwrs Yws Gwynedd yn
arbennig, wrth drafod garddio fel therapi wedi i’r cerddor fynd drwy cymaint o
brofedigaethau teuluol. Bechod fod y bennod wedi diflannu o BBC Sounds, ond mae
uchafbwyntiau eraill fel Ffion Dafis a Seren Jones yno o hyd. Da chi, bachwch
ar y cyfle i fwynhau sioe sgwrsio dwymgalon, doniol, hynod emosiynol ar adegau,
a enillodd gategori podlediad Cymraeg flwyddyn y British Podcast Awards 2021.
“Cyfres ddrama deledu boblogaidd am fywydau
beunyddiol a phroblemau grŵp o bobl sy'n byw mewn lle penodol”.
Dyna ddehongliad geiriadur Collins o opera sebon. Genre
o America’r 1930au, pan ddechreuodd cwmnïau sebon fel Procter & Gamble noddi
dramâu radio i wraig y tŷ. Teledu bia’r cyfrwng bellach, ac yng ngwledydd
Prydain, cyfresi sebon oedd yr abwyd i ddenu gwylwyr amser swper. Roedd hyn yn
wir am Pobol y Cwm (1974) am flynyddoedd, wrth i S4C ddibynnu ar y
miloedd triw i setlo gyda’r sianel am weddill y noson. Ac felly buodd hi am
sbel hir. Meddai Gwyddoniadur Cymru (t. 735) “Gyda rhifyn omnibws wythnosol
sy’n dwyn isdeitlau Saesneg, dyma’r rhaglen Gymraeg sy’n denu’r nifer uchaf o
wylwyr yn gyson – hyd at 89,000 yn 2007”. Ond stori dra gwahanol yw hi bymtheg
mlynedd yn ddiweddarach. Cefais gip sobreiddiol ar dudalen ffigurau gwylio ar
wefan S4C. Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf oedd ar gael wrth sgwennu’r hyn o
lith, wythfed rhaglen boblogaidd yr wythnos oedd Pobol y Cwm ar 28,000, ar ôl
gêm bêl-droed rhyngwladol (llwyddiant sicr i’r Sianel), a hen stejars eraill
fel canu emynau, garddio, adloniant sgubor a sioe sebon boblogaidd y Gogledd.
Dyma felly holi ffrindiau
a pherthnasau i weld a ydyn nhw’n dal yn sgut am sebon. Mae canlyniadau’r
arolwg cwbl anwyddonol yn drawiadol. O’r ugain wnaeth ymateb, doedd y rhan
fwyaf heb wylio’r un opera sebon, Cymraeg na Saesneg, ers cryn amser. O’r croestoriad
eang o gogs a hwntws 40-70 oed sydd yn gwylio, Rownd a Rownd (1995)
oedd y ffefryn clir gyda “naws am le, synnwyr digrifwch, cymeriadau mwy crwn,
straeon a chymeriadau mwy credadwy... sgwennu da, mwy naturiol o lawer”. Roedd
Pobol y Cwm ar ei cholled am gynnwys “gormod o gangsters” a chymeriadau anghredadwy.
Ond roedd un gwyliwr brwd o’r Gwendraeth yn wreiddiol, yn dal i fwynhau “er bod
arddull ddigyffwrdd yr actorion yn annaturiol iawn ar brydie.” Teimlai hefyd
bod y cynhyrchiad wedi mynd braidd yn denau, oherwydd “nifer llai o actorion
mewn shots a golygfeydd”. Melltith arall ein pla epig, sydd wedi gorfodi ambell actor i hunanynysu.
Aaron Monk - The only teenager in the village
Ac mae’r prinder
cymeriadau yn deud arni. Ystyriwch Aaron Monk-Evans (Osian Morgan) er
enghraifft. Un funud, roedd o’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng arholiadau
ysgol a shifftiau yn siop jips ei fam, a’r funud nesa’n peintio swastika ar
wal tŷ Tyler ac Iolo fel un o griw ffasgaidd o Abertawe. Mae Popeth Drwg yn hanu o'r ddinas honno. Iawn, mae hyd yn oed
y myfyriwr mwyaf selog yn mynd ar gyfeiliorn weithiau, ond y drwg ydi bod pob
math o blotiau’n cael ei daflu ato fel unig glaslanc y pentra. O ddosbarthu
cyffuriau dan orfodaeth i gael ei dwyllo gan ddyn ym meithrin perthynas
amhriodol ar-lein, mae Aaron wedi bod drwy’r felin. Sy’n wahanol i Rownd a
Rownd, gydag o leiaf hanner dwsin o actorion ifanc dawnus i rannu straeon
rhyngddynt â dipyn mwy o hygrededd. Mae poenau cariad cyntaf a gwrthdaro â
llysfam neu dad newydd yn taro tant yn fwy nag issues mawr y dydd 'sha Cwm Gwendraeth.
Dani yma o hyd
Does gen i fawr i ddweud am straeon diweddar fel Dani Monk
y gangster moll, y saethu na’r ymosodiad asid gan gyffurgwn. Rhaid atal
eich hun rhag rholio’ch llygaid wrth wylio ambell dro hefyd, fel penodau’r
Nadolig. Dros yr ŵyl, gwelsom Dylan yn cael pas mas o'r carchar gan y caplan, gan
bicied i dy Megan Harries (sut mae honno’n dal yn y gyfres?) a’i gwawdio am Gareth Wyn ei mab colledig; cyn sleifio i fflat y Deri am bach o
how-di-dw gyda Dani Monk a chwarae mig â DI Wilkinson yn strydoedd cefn Cwmderi.
Mae angen cryn dipyn o ddramatic licence i wylio hwnnw’n mynd trwy’i
betha hefyd, yn cropian o amgylch y Deri (heb larwm?) gefn liw nos pan nad ydio’n rhythu ar
gamera CCTV personol o lolfa’r Monks wrth wneud ymarferion Ironman yn ei rŵm
ffrynt. Ar y llaw arall, mae Owain Gwynn yn gaffaeliad newydd da i’r gyfres,
fel y gwron cryf, tawel, â chryn elfen o ddirgelwch yn perthyn iddo. Ai cynnal
ymchwiliad cudd i ddal Dylan unwaith ac am byth mae o, ac felly’n defnyddio Dani
fel abwyd cyn cwympo mewn cariad go iawn, neu oes rhywbeth mwy sinistr yn yr arfaeth?
O safbwynt y set, mae gwir angen
adfer caffi’r stryd fawr, os nad lle pizza parhaol i Jinx a’i weithiwrs bach. Weles
i erioed siop lyfrau Gymraeg mor wag a dienaid yn fy myw. Tydi’r ffaith fod
Eileen yn gneud cacs cartref a phrydau organig (di-figan glei!) yng nghegin
gyfyng Penrhewl tra bod DJ yn piciad am damaid (bihafiwch) ar ôl bod yn carthu ddim yn taro deuddeg chwaith. Mi fyddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael
haint. Faint yn union o lofftydd sydd yn fflat Ffion? Beth ddigwyddodd i hen fflat Sheryl? Ydi'r busnes pampro cwn/trin gwallt/tatwio yn dal i fynd? Aeth y bwytai tapas ac Indiaidd i'r gwellt yn sgil y pandemig? Oes 'na glwb rygbi yn y Cwm o hyd?
Dirgelwch y DI (Owain Gwynn)
Ond mae’r hen greadur hiraethlon ynof yn dal i fwynhau
gweld Cassie a Lisa yn y Cwm. Mae'n braf gweld mwy o'r hen gynghorydd slei Ieuan Griffiths, a dw i'n dal i ddisgwyl am gartref parhaol iddo heb sôn am ymddangosiad ei blant a hyd yn oed ei gyn-wraig Hazel. Dw i'n ysu i
weld Dai a Diane yn dychwelyd o Oz. Mae cymaint wedi gadael y gyfres dros y
flwyddyn ddiwethaf, gyda chwith mawr ar ôl Debbie a’i thylw’th – hen bryd i
Brynmor brynu tŷ drws nesaf er mwyn cael y Jonesiaid estynedig nôl gyda’i gilydd.
Mae Sara wedi’i heglu hi am gyfnod (mamolaeth?) estynedig, Lisa Morgan wedi
diflannu’n ddisymwth, a dim ond dwy o’r Parri’s sydd ar ôl erbyn hyn. Lle aflwydd mae'r tonig Brenda (Sharon Morgan) a'i sgwter symudedd yn byw a bod? A beth yw
hanes Gwyneth, sydd wedi’i charcharu ar gam ers dwnimpryd? Does ryfedd fod Gwern druan yn gofyn i bob copa walltog ei fabwysiadu.
Deri joio - Glan, Mrs Mac, Teg, Cassie
Triawd y Siop - Gina, Olwen, Karen - 1989
Ond nid problem Pobol yn unig mo hon. Mae prif sebon BBC
One mewn dyfroedd dyfnion hefyd, wrth i’r ffyddloniaid gefnu arni ers oes aur
Den ac Angie Watts a ddenodd 30 miliwn o wylwyr ym mhennod Dolig 1986. Fis
Hydref diwethaf, 2.69 miliwn drodd i wylio pennod o Eastenders o gymharu
â 2.79 miliwn ar gyfer cwis Only Connect yr un pryd ar BBC Two. Awtsh!
Er hynny, mae bosys y Bîb yn mynnu taw’r Cocnis drama yw un o gyfresi mwyaf
poblogaidd BBC iPlayer gan ffrydio 226 miliwn o weithiau ers dychwelyd ym mis
Medi 2020 ar ôl saib y cyfnodau clo. Falle mai fan’no mae gwylwyr Pobol y
Cwm erbyn heddiw hefyd. Yn dal i fyny ar wasanaethau Clic neu iPlayer yn
lle’n fyw ar deledu daearol. Wedi’r cwbl, mae’n patrymau gwylio ni wedi newid
yn ddramatig “yn rhannol oherwydd teulu a’n prysurdeb bywyd (er waetha Cofid!)”
medd un ymatebydd o Flaenycoed.
Heddiw, mae'r cyfresi sebon yn dibynnu fwyfwy ar stynts dramatig yn lle straeon sinc y gegin i ddenu gwylwyr. Mae Emmerdale wedi hen gefnu ar fuarth y ffarm byth ers i'r awyren blymio o'r awyr ar y pentra adeg Dolig 1993, a bellach yn fagwrfa i lafna ifanc rhywiol o Leeds a llofruddion cyfresol bob hyn a hyn. Mi fuasa'r hen Mr Wilks yn troi yn ei fedd. Mae'r gyfres hefyd yn dathlu'r hanner cant yn yr hydref eleni, felly dyn a wyr pa blotiau ffrwydrol sydd ar y gweill. Mi drodd Coronation Street yn belen dân adeg 50 mlwyddiant y gyfres yn 2010, wedi i ffrwydrad nwy chwalu traphont ac achosi i dram ddisgyn ar ben rhai o'r adeiladau a'r cymeriadau eiconig. Er, doedd mop o wallt coch Rita'r Siop fawr gwaeth. Ac fel rhan o'i "dathliadau" pen-blwydd yn 35 oed yn 2020, cafodd cast Eastenders barti cwch Titanic-aidd ar afon Tafwys. Roedd Neighbours yn dathlu'r un garreg filltir yr un pryd hefyd, gan anfon criw i ynys baradwysaidd a drodd yn uffern wrth i'r dihiryn Finn Kelly dalu'r pwyth yn ôl efo bwa saeth, nadroedd gwenwynig a bom. Dylsan nhw 'di sticio efo te parti yng nghaffi Harold.
Jack Sugden yn gwylio'i braidd liw nos, wedi damwain awyren drwgenwog Emmerdale (1993)
Stryd rwbel, 2010
Beth bynnag ydi cynlluniau cynhyrchwyr Pobol ar gyfer 2024, dim ond gobeithio y cawn ni ddathlu’r hanner cant bryd hynny. Llu o hen wynebau cyfarwydd yn dychwelyd i ryw barti stryd, neu drip rygbi rhyngwladol yr hydref yn arwain at ddamwain bws fawr ar hewl Cwrtmynach? Os bydd rhyw drychineb fawr yn taro'r Cwm, o leia mae doctors a nyrsys Casualty drws nesaf yn stiwdios Porth y Rhath i achub y dydd.
Dyn a wyr beth ddaw. Ac er gwaetha'r trai, oes, mae gen i deimladau cynnes at y Cwm o hyd.