Pererin wyf


 

Mae cryn dipyn ohonom wedi gwneud y daith i bendraw’r byd, a ffeirio Cymru fach am Awstralia enfawr. Dyna chi gyndeidiau Kylie a Danni o Faesteg, Rolf Harris o Ferthyr, Naomi Watts o Fôn a Russell Crowe o Wrecsam. Heb anghofio Julia o’r Barri wrth gwrs, sy’n ddim llai na Phrif Weinidog ei gwlad fabwysiedig heddiw. Y Cymro diweddaraf i bacio’i sbectols haul, ei het Panama a bwcedaid o eli ffactor 50 - yn ogystal â chagŵl melyn poenus o lachar - oedd Aled Sam, fel rhan o gyfres ffeithiol newydd epig Yr Anialwch. Mae’n un o chwe wyneb cyfarwydd lwcus sy’n cael teithio i anialdiroedd Jiwdea a’r Gobi, Namib a’r Atacama, lle mae natur a dyn wedi addasu dan rai o’r amgylchiadau mwyaf heriol wyneb daear.
Nid bod y cyflwynydd yn mwynhau’r profiad pum seren wedi’i aerdymheru i’r eithaf rhag gwres tanbaid hanner can gradd yr outback chwaith. Wel, nid o flaen camera beth bynnag. Yn hytrach, treuliodd noson mewn sach gysgu dan sêr diderfyn y diffeithwch, toileda tu ôl i’r prysgwydd, a rhannu pryd o gynrhon larfa (“blas cnau a wyau”) a darn o fadfall (“blas cyw iâr”) gyda thair menyw borigine. Mae’n siŵr bod dyddiau hawddfyd 04 Wal: Gwestai’r Byd yn ymddangos fel breuddwyd i’r Bonwr Sam bellach. Oedd, roedd hon yn ddelwedd go wahanol i swbwrbia dosbarth canol Neighbours a syrffwyr eurfrown Home and Away. Cafodd Aled beint neu dri yng nghwmni slochwyr y William Creek Hotel - tafarn ddiarffordd 200km o’r dref agosaf, a deg awr i’r gogledd o ddinas Adeilade - a deffrodd yn blygeiniol i weld criw o “Ringers” neu ffermwyr ifanc yn corlannu miloedd o wartheg a lloi yng nghanol y llwch, gyda chymorth awyren a motobeics yn lle’r hen Shep. Cafodd gêm o golff gefn liw nos gyda rhai o drigolion prifddinas opal y wlad, Coober Pedy, gan gynnwys Phil Lewys o Abertyleri a lwyddodd i naddu cartref o’r graig oerach.
Cyflwynwyd llu o ffeithiau anhygoel am y lle, fel fferm Anna Creek Station sydd â mwy o erwau na Chymru gyfan, a Llyn Eyre sy’n ddigon mawr i lyncu Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen yn un. Ond gogoniant cyfresi o’r fath yw’r gwaith camera, a bydd yr olygfa o’r dwsinau o raeadrau yn llifo i lawr craig Uluru wedi storm yn aros yn y cof am sbel hir.

Mi fuaswn i wedi hoffi clywed mwy am ŵyl a gwaith y brodorion yn ogystal â’r ffermwyr a’r mwyngloddwyr gwyn, a chlywed sut siâp sydd ar eu hiaith a’u traddodiadau heddiw. Ond fel yr awgrymodd Aled Sam, mae’n debyg ein bod yn ffodus o gael cip ar y gymuned aboriginaidd o gwbl, felly dylem fod yn ddiolchgar am friwsion.