Dolig iasol



Waeth i mi fod yn onest ddim. Colofn adolygu llyfrau ddylai hon fod. Rhwng nofelau Cefin Roberts, Caryl Lewis a Sian Owen, roedd yna ddigon i ’nghadw’n ddiddan heb y teli bocs dros yr ŵyl. Oherwydd diffyg amser ac amynedd, a mwy o flas ar gwmni teulu a ffrindiau, ychydig iawn o wylio fuodd dros y Nadolig a’r Calan. Mae Doctor Who yn dal yng nghrombil y peiriant recordio. A hyd yn oed ar ôl eistedd o flaen tân, roedd gan y Bod Mawr syniadau eraill. Fe daflodd dŵr oer rhewllyd ar obeithion criw Sgorio o ddarlledu’r gêm gwpan fawr rhwng Caerdydd a Bryste. A diolch i’r eira mawr, ni welais ddiweddglo tyngedfennol un o uchafbwyntiau’r gwyliau i mi. Mae’n draddodiad gan y BBC bellach i gyflwyno stori ysbryd hen ffasiwn dros y Nadolig, ac eleni, cawsom addasiad o A Turn of the Screw gan Henry James - hanes merch ifanc sy’n gwarchod brawd a chwaer amddifad mewn hongliad o hen blasty gothig yn y wlad, wedi’r Rhyfel Mawr. Gyda dirgelwch ynghylch marwolaethau cyn-athrawes y plant a gwas ifanc sinistr y stad, a chyfrinachau a seiniau amheus ym mhob twll a chornel tywyll o’r tŷ, dyma’r cynhwysion perffaith ar gyfer awr a hanner iasol. Ond rhyw bum munud cyn y diwedd, dyma’r trydan a’r teli yn diffodd mwya’r sydyn, a’m gadael yn crynu fel deilen yn y lolfa bol buwch. Diolch i’r drefn am wasanaeth iplayer er mwyn gwylio’r olygfa gloi ychydig ddyddiau wedyn. Gefn golau dydd wrth gwrs.

Doedd dim angen defnyddio gwasanaeth cyfatebol S4/Clic, gan fod cymaint o raglenni’r sianel i’w gweld dro ar ôl tro ar ôl tro. Wedi dweud hynny, cefais gip hwyr ar sioe arbennig PC Leslie Wynne gerbron cynulleidfa Cricieth, a chael fy siomi braidd. Efallai mai’r dewis o westeion oedd ar fai (neu’r ffaith na chawsant fawr o gyfle i siarad!), neu’r defnydd diangen o “deulu’r” cyflwynydd megis Madge, seidcic Dame Edna ers talwm. Yn wir, fe chwerthais fwy am ben y sgetshis byrion o boptu’r hysbysebion. Efallai ei bod hi’n bryd iddo roi’r gorau iddi, fel ‘Dic’ Brunstrom ei arwr hoff. Clywais ganmol garw am ffilm gomedi Ar y Tracs, gyda llawer yn dweud y byddai’n well fel adloniant i’r teulu cyfan ar noson Nadolig yn hytrach na Ryan a Ronnie a oedd yn apelio fwy at yr hen do hiraethus. (Ac fel arfer, roedd hi’n dymor ewyllys drwg ym myd yr operâu sebon, rhwng llofruddiaeth ar Eastenders, stori canser y fron ar Coronation Street, a Hywel a Ffion Llywelyn yn boddi’r Bala wrth grïo a ffarwelio â’r ferch fach nad oedd yn ferch iddynt wedi’r cwbl yn Pobol y Cwm.

Dwi’n meddwl yr af i’n ôl at y nofelau.

A’r uchafbwyntiau prin eraill? Rhaid rhoi mensh i Gavin and Stacey wrth gwrs, rhwng ymweliad â thraeth Ynys y Barri rhyfeddol o braf ym mhennod noson Nadolig ac yna’r Briodas Fawr ar nos Galan, gydag ymddangosiadau arbennig gan Noel Hear’say (dêt Doris) a John Prescott(!!) fel cyn-gariadon niferus Nessa, y reid anfarwol ar gefn trelar i’r eglwys, a’r
gerddoriaeth gefndir yn dwyn i gof priodas Scott a Charlene flynyddoedd maith yn ôl! Roedd ffrwyth llafur arall Ruth Jones, A Child’s Christmases in Wales yn ddigon difyr er nad yn ffantastig, ond yn cynnwys ambell berl o orffennol pell ’86(!) gyda gornest Hungry Hippos a’r diflastod diddiwedd o ddisgwyl i gemau cyfrifiaduron Sbectrum lwytho. Ond y pleser annisgwyl oedd dod ar draws Knowing Me Knowing Yule ar BBC2 rhyw noson, gyda Steve Coogan ar ei orau gyda’i greadigaeth gomig erchyll Alan Partridge, cyflwynydd sioe siarad anwleidyddol gywir a DJ Radio Norwich.

A-ha!