Cawl a Chân i Gymru


Mae sbloets gerddorol ein diwrnod cenedlaethol drosodd am flwyddyn arall, ac wedi hollti’r gwylwyr Cymraeg (wel, rhyw ddwsin ohonom ni) fel arfer. Ie, diwrnod cawl a chân i Gymru. Mae’r fformat mor gyfarwydd ag erioed. Wyth ymgeisydd, panel X- Ffactoraidd dibwys o gantorion ddoe a heddiw, cynulleidfa’n clapio fel y cythrel dros fab Dilys siop jips o Lanbedinodyn neu ferch Eirlys y Post o Gwm-sgwt, cantorion cefndir camp, a dau gyflwynydd del ond braidd yn ddigymeriad. Ac er gwaetha’r holl ymdrechion i symud gyda’r oes trwy gynnwys band o ddarpar Gruff Rhysiaid ar y rhestr fer, doedd ganddyn nhw – a fydd ganddyn nhw – ddim gobaith mul o ennill. Cân i Gymru ganol y ffordd sy’n mynd â hi bob amser.

Iawn, mae’r cyfan yn edrych yn slic o broffesiynol fel arfer, ac roedd y teitlau agoriadol o logo CiG yn hofran dros olygfeydd eiconig o’r henwlad yn drawiadol dros ben - ond rhaid gofyn y cwestiwn – i be’n union? Ar ôl ennill cystadleuaeth ddrudfawr mewn stiwdio sgleiniog gerbron cynulleidfa deledu o filoedd, mae’r buddugwr yn mynd drwodd i gynrychioli Cymru mewn ’stafell gefn rhyw dŷ potas bach yn Dingle yn erbyn pibyddion o Lydaw, ffidlwyr o’r Alban neu ffal-di-ral-di-ralwyr o Ynys Manaw.

Ond gan ei bod hi yma i aros, ac yn rhan mor annatod o ‘arlwy’ Gŵyl Ddewi S4C, beth am chwynnu ambell beth?

Owen Powell: Nid cyflwynydd naturiol mohono. Mae’n edrych fel cwningen wedi’i dallu gan oleuadau car, ac yn straffaglu i ofyn y cwestiynau iawn dan bwysau’r cloc. Ond croeso iddo fod yn un o’r panel dethol caneuon, ac yntau’n gymaint o bedigri cerddorol. Ac eto, beth ddiawl oedd ymdrech erchyll Tudur Morgan yn da yn yr wyth olaf?! Roedd Martin Beattie yn enillydd haeddiannol gyda 'Cae o Yd' yn y flwyddyn 2000, ond roedd ei berfformiad eleni yn debycach i gae o gachu.

Problem awyrgylch: PA awyrgylch? Mae’n rhaglen fyw, gyffrous i fod. Roedd y cyfweliadau gefn llwyfan bol buwch gyda Rhodri Cohen-Owen mor fflat â Sir Fôn, gyda gormod o hen gwestiynau diog fel “shwt ’chi’n teimlo” a “wnaethoch chi fwynhau?” sy’n bla mewn cyfweliadau teledu o ochr llwyfan eisteddfodau. Beth am ddychwelyd i’r arferiad ychydig flynyddoedd yn ôl, o gysylltu â chamerâu mewn gwahanol rannau o’r wlad - partis neuadd breswyl Gymraeg, tafarn, clwb rygbi, cinio gŵyl Ddewi Merched y Wawr neu Ffermwyr Ifanc, neu hyd yn oed deuluoedd cyffredin sy’n wir ffans o’r rhaglen - unrhyw beth, er mwyn cael barn di-flewyn-ar-dafod y gwylwyr go iawn.

Y Panel: Syniad eithaf newydd ond lled-lwyddiannus yn unig. Mae gormod ohonyn nhw jest yn palu pwyntiau rhy gyffredinol a clichéaidd am ‘alaw hyfryd’ a ‘geiriau da’ heb roi barn bendant mewn gwirionedd. Iawn, efallai ei bod yn bwysig aros yn ddiduedd rhag effeithio ar y bleidlais derfynol, ond beth yw’r pwynt? Roedd yn teimlo braidd fel esgus i lenwi 5 munud wrth baratoi’r llwyfan ar gyfer y perfformiwr nesaf. Ar y llaw arall, roedd Aloma (heb Tony) a Dyl Mei yn ddifyr ac yn siarad sens - gyda’r naill yn cwestiynu a oedd unrhyw un o ganeuon y noson yn werth £10,000 (trafoder) a’r llall yn annog y gwylwyr i bleidleisio dros y gân orau ac nid eu bro. Go brin y gwrandawodd neb, wrth i dri chwarter poblogaeth Dyffryn Conwy a giang Glanaethwy feddiannu’r ffôns…

Llongyfarchiadau i Alun Tan Lan a Tomos Wyn beth bynnag. Gyda llaw, ‘Deffra’ gan Gai Toms oedd fy ffefryn personol i. Ac na, tydi hynny’n ddim i’w wneud â’r ffaith fod fy chwaer yn arfer â chanu lleisiau cefndir i Mim Twm Llai a bellach yn athrawes yn y Moelwyn. Roedd hi’n gân fachog, gofiadwy, anthemig sy’n dal yn fyw yn y cof bythefnos wedyn. Roedd naws Affricanaidd, soniarus ‘Pob Siawns’ Lowri Evans yn gynnig gwahanol braf hefyd. Ond wedi dweud hynny, fe gyfaddefodd fy mós heddiw ei bod hi’n hymian ‘Bws i’r Lleuad’ yn ddiddiwedd yn ei phen, diolch i DJs Radio Cymru. Sori Geinor.

ON: Ar Radio Cymru bnawn Sul diwethaf, fe chwaraeodd Lisa Gwilym un o glasuron cynnar aelod o’r panel eleni, sef ‘ Bys o’r Lloer’ gan Endaf Emlyn. Sbŵci!